Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r Dirprwy Weinidog Lee Waters wedi addo heddiw y bydd pob cartref yng Nghymru yn cael cynnig coeden am ddim i'w phlannu fel rhan o ymrwymiad Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â newid hinsawdd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Rhagfyr 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd y polisi newydd beiddgar yn rhoi cyfle i bobl ddewis coeden eu hunain i’w phlannu neu ddewis cael coeden wedi ei phlannu ar eu rhan.

Gan siarad mewn ymweliad â phrosiect mawr creu coetiroedd Coed Cadw yng Nghastell-nedd yn ystod Wythnos Genedlaethol Coed, cadarnhaodd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd fod Llywodraeth Cymru wedi ffurfio partneriaeth â Coed Cadw i roi’r ymgyrch ar waith.

Bydd y coed cyntaf ar gael i'w casglu o fis Mawrth ymlaen, o un o bum canolfan gymunedol ranbarthol a fydd yn cael eu sefydlu. Nod Llywodraeth Cymru yw sefydlu 20 canolfan arall ledled Cymru erbyn mis Hydref 2022.

Yn gynharach eleni, gwnaeth y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd arwain archwiliad dwfn i goed a phren, a nododd gyfres o gamau yr oedd angen i Lywodraeth Cymru eu cymryd er mwyn osgoi effeithiau trychinebus newid hinsawdd.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog:

Mae coed yn anhygoel - maent yn achub bywydau drwy gadw ein haer yn lân. Maent yn gwella iechyd corfforol a meddyliol pobl. Maent yn hanfodol ar gyfer mynd i'r afael â'n hargyfwng natur, gwella bioamrywiaeth ac, wrth gwrs, ar gyfer mynd i'r afael â newid hinsawdd.

Mae’r archwiliad dwfn wedi dangos yn glir i mi y bydd gan bawb ran i'w chwarae os ydym am lwyddo i fynd i'r afael â newid hinsawdd a gwireddu ein huchelgeisiau i greu Coedwig Genedlaethol Cymru.

Felly, rwy'n falch o gyhoeddi ein bod wedi ffurfio partneriaeth â Coed Cadw i roi ymgyrch ar waith a fydd yn rhoi cyfle i bob cartref yng Nghymru blannu coeden am ddim yng Nghymru.

Bydd hyn yn ei gwneud yn bosib i bobl yng Nghymru i ddeall a phrofi ymhellach y manteision niferus y gall coed eu darparu, nid yn unig i'r amgylchedd ond hefyd i iechyd a lles pobl.

Eglurodd y Dirprwy Weinidog y gallai pawb yng Nghymru elwa ar yr ymgyrch.

Rydym yn deall na fydd pob cartref yn gallu plannu coeden eu hunain, ond y byddant yn dal yn awyddus i gymryd rhan," meddai.

Dyna pam y byddwn yn sicrhau bod opsiwn ar gael i ‘blannu coeden i mi’, a fydd yn caniatáu i bobl ddewis cael coeden am ddim wedi'i phlannu ar eu rhan mewn lleoliadau ledled Cymru drwy'r canolfannau cymunedol a'r gwirfoddolwyr.

Bydd cyfarwyddiadau a chanllawiau, gan gynnwys lleoliad canolfannau cymunedol yn eich ardal a sut i hawlio'ch coeden, ar gael yn fuan drwy dudalennau gwe amrywiol ond hefyd yn lleol ar lawr gwlad drwy rwydwaith o wirfoddolwyr ym mhob ardal.

Dywedodd Natalie Buttriss, Cyfarwyddwr Coed Cadw:

Rydym yn falch iawn o fod yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru yn y ffordd wych hon i roi coed i gymunedau i sicrhau bod miloedd o goed brodorol yn cael eu plannu yn y ddaear.

Er mai dim ond un ffordd o helpu i fynd i'r afael â newid hinsawdd yw plannu coed, mae'n ffordd syml a phleserus i bob unigolyn yng Nghymru gael y cyfle i blannu coeden a'i gwylio'n tyfu.

Bydd y prosiect hwn yn agored i bob math o bobl sy'n byw yng Nghymru a gobeithiwn y bydd yn ysbrydoli llawer o unigolion a grwpiau cymunedol lleol i gymryd rhan. Rydym am gael pobl o bob cefndir yn rhan o broses blannu Coedwig Genedlaethol Cymru.

Gwnaeth y Dirprwy Weinidog ddatgelu hefyd y byddai ymgynghoriad yn cael ei lansio'n gynnar yn 2022 ar gynlluniau i greu Coedwig Genedlaethol Cymru.