Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r tymor arholiadau wedi dechrau a nawr yw'r amser i ddweud "Pob Lwc" wrth bawb sy'n dechrau eu harholiadau a'u hasesiadau.

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Mai 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Gall tymor yr arholiadau fod yn gyfnod llawn straen i ddysgwyr, ac i gefnogi dysgwyr yng Nghymru mae adnoddau defnyddiol i helpu gydag arholiadau ac asesiadau ar gael ar Hwb.

Mae gwefan Lefel Nesa ar Hwb yn cynnwys adnoddau ar gyfer dysgwyr TGAU ac UG/Safon Uwch, gwybodaeth i'r rhai sy'n cymryd cymwysterau galwedigaethol yn ogystal ag awgrymiadau lles i bob dysgwr.

Mae yna hefyd gyngor ac awgrymiadau ar gael i rieni a gwarcheidwaid ar sut orau i gefnogi dysgwyr yn y teulu.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle:

“Pob lwc i bawb sydd ar fin dechrau eu harholiadau ledled Cymru.
“Rwy’n gwybod pa mor bwysig yw’r cyfnod hwn i chi, a bydd llawer ohonoch yn nerfus yn meddwl am sefyll yr arholiadau a’r asesiadau sydd ar y gorwel.

“Dros yr wythnosau nesaf, cofiwch edrych ar ôl eich hun. Mae hynny’n allweddol.

“Rwy’n annog pobl ifanc a theuluoedd i ddarganfod mwy am y cymorth sydd ar gael drwy Power Up.
“Pob lwc bawb.”

Dywedodd y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch, Vikki Howells:

“Pob lwc i bawb sydd yn ei chanol hi yn y tymor arholiadau.

“Fel cyn athro uwchradd ac fel rhiant disgybl Safon Uwch, rwy’n gwybod ei fod yn gyfnod anodd, ond mae’n bwysig cydnabod faint o waith yr ydych eisoes wedi ei wneud ac edrych ar ôl eich hun.

“Mae Power Up yn adnodd ddefnyddiol i’r rheini sy’n sefyll arholiadau ac asesiadau, ac mae’n rhoi cyngor ar adolygu a sut i gefnogi’ch llesiant dros y cyfnod hwn."