Neidio i'r prif gynnwy

Bydd pob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru'n cael cymorth a chyngor cyson gan weithiwr gofal iechyd proffesiynol drwy gydol eu blynyddoedd oedran ysgol

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Mai 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd gan bob ysgol uwchradd a'i hysgolion cynradd clwstwr nyrs ysgol ddynodedig a thîm iechyd cysylltiedig ag amrywiaeth o sgiliau, a fydd ar gael i roi cymorth a chyngor wrth i blant symud trwy eu haddysg yn ystod y tymor a'r tu allan iddo 
Bwriedir i'r Fframwaith newydd Nyrsio mewn Ysgolion sicrhau bod pobl ifanc yn cael cymorth arbenigol cyson gan weithiwr gofal iechyd proffesiynol sy'n gyfarwydd â'u hanghenion o safbwynt iechyd a llesiant. 

Mae'r fframwaith yn rhoi ymrwymiad i wasanaeth di-dor ar gyfer cymorth a chyngor iechyd a ffyrdd o fyw i bob teulu o adeg genedigaeth plentyn, a ddarperir gan wasanaethau bydwreigiaeth, i ymwelwyr iechyd ac wedyn nyrsio mewn ysgolion.

Bydd nyrsys ysgol yn darparu ac yn cydgysylltu rhaglenni ym maes ymyriadau iechyd ac iechyd y cyhoedd ar ystod o faterion, gan gynnwys: 

• Iechyd corfforol (addysg ar ordewdra, smygu, alcohol a niwed sy'n gysylltiedig â chyffuriau)

• Hybu llesiant emosiynol a chefnogi anghenion plant o oedran ysgol o safbwynt iechyd meddwl

• Darparu'r rhaglenni sgrinio, goruchwylio ac imiwneiddio yn yr ysgol

• Diogelu

• Nodi ac asesu anghenion disgyblion yn gynnar

• cymorth ychwanegol a/neu atgyfeirio at wasanaethau lleol neu arbenigol i blant a phobl ifanc sydd wedi'u nodi fel rhai ag anghenion ychwanegol

Ac yntau'n siarad cyn ymweliad ag Ysgol Bae Baglan ym Mhort Talbot i lansio Fframwaith newydd Nyrsio mewn Ysgolion, dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething: 

“Rydyn ni am wneud ein gorau glas i sicrhau iechyd a llesiant pob plentyn yng Nghymru. 

“Mae nyrsys ysgol yn gwneud cyfraniad pwysig at ddatblygiad iach plentyn ac rwy'n falch y bydd gan bob plentyn yng Nghymru nyrs ysgol ddynodedig drwy gydol eu hamser yn yr ysgol i sicrhau bod eu hanghenion iechyd ac emosiynol yn cael eu diwallu.”

“Mae plant hapus ac iach yn llawer tebycach o gyflawni eu potensial llawn a thyfu i fyny'n oedolion iach.  Mae buddsoddi yn ein pobl ifanc yn fuddsoddiad yn ein dyfodol.”

Dywedodd yr Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams:

“Rydyn ni am sicrhau bod disgyblion yn ymwybodol o'r hyn y gall nyrsys ysgol ei wneud drostyn nhw a sut i ddod o hyd iddyn nhw, er mwyn ei gwneud yn haws i blant ddefnyddio'r gwasanaeth nyrsio mewn ysgolion a chael cyngor da am eu hiechyd.

“Mae'n bwysig pwysleisio nad yw nyrsys  ysgol yn gyfrifol am gymorth cyntaf yn unig; maent yn cynllunio ac yn cydgysylltu gofal i ddysgwyr ag anghenion iechyd cronig er mwyn iddynt gymryd rhan yn yr ysgol. Maent hefyd yn hwyluswyr ac yn eiriolwyr i lawer o blant.


“Rhaid ystyried nyrsio mewn ysgolion yn fuddsoddiad pellach mewn myfyrwyr. Mae myfyrwyr iach yn dysgu'n well. Mae nyrsys ysgol yn bartneriaid i sicrhau bod hynny'n digwydd.”