Mae siaradwyr Cymraeg, Cernyweg, Gaeleg yr Alban a’r Iaith Wyddeleg wedi bod yn rhan o raglen gyfnewid arloesol sy'n dathlu'r dreftadaeth ieithyddol y maen nhw'n ei rhannu.
Yn sgil y Rhaglen Gyfnewid Geltaidd, a ddatblygwyd gan y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig, tynnwyd ynghyd weithwyr proffesiynol creadigol ifanc i ddysgu sgiliau newydd ym maes y cyfryngau a chyd-greu deunydd amlieithog, gan archwilio eu gwreiddiau diwylliannol cyffredin ar yr un pryd.
Teithiodd y bobl ifanc drwy'r Hebrides Allanol a chyfarfod â gwneuthurwyr ffilmiau, crewyr deunydd a cherddorion i ddysgu sut mae'r ieithoedd hynafol hyn yn rhan annatod o'u gwaith creadigol modern.
Fe wnaethant ddarganfod mwy am y tebygrwydd rhwng eu hieithoedd a'u diwylliannau, ac adeiladu rhwydwaith newydd a ffres i ddatblygu syniadau a deunydd amlieithog yn y dyfodol.
Mae Ifan Prys yn gweithio yn Rondo, ac roedd yn rhan o'r rhaglen gyfnewid. Dywedodd:
Roedd y daith yn gyfle unigryw i gwrdd â chrewyr cynnwys o wledydd Celtaidd eraill, i rannu syniadau a chryfhau’r rhwydweithiau rhwng ein cymunedau ieithyddol.
Roedd y rhaglen yn llawn gweithgareddau amrywiol a chyfoethog. Cawsom gyfle i rwydweithio gyda staff MG ALBA, BBC Alba a chynhyrchwyr lleol, gan drafod ein cyfleoedd, heriau ac uchelgeisiau.
Roedd y cyfle i ddysgu, rhannu ac ysbrydoli ochr yn ochr â phobl greadigol o gefndiroedd ieithyddol amrywiol yn amhrisiadwy. Mae wedi atgyfnerthu’n wirioneddol y pwysigrwydd o barhau i weithio’n greadigol yn ein hieithoedd ni.
Cafodd y bobl ifanc greadigol brofiad ymarferol drwy gynhyrchu deunydd amlieithog, a ddangoswyd am y tro cyntaf yng Ngŵyl Cyfryngau Celtaidd 2025 yn Newquay, Cernyw.
Roedd Bethan Campbell o Boom Cymru hefyd yn rhan o’r rhaglen gyfnewid. Dywedodd:
Roedd y daith i’r Alban yn brofiad arbennig iawn. Roedd y gweithgareddau cafwyd eu trefnu’n werthfawr ac amrywiol iawn.
Nes i wir fwynhau’r cyfan gan greu atgofion i’w trysori. Yr uchafbwynt oedd treulio amser efo’r criw o bobl ifanc oedd gyda ni, a chreu ffrindiau o bob cornel o Brydain gan rannu straeon, profiadau a’n dymuniadau at y dyfodol! Roedd hi’n ysbrydoledig cael cyd-weithio efo bobol brwdfrydig a chreadigol a’r cyfan yn atgyfnerthu'r angen i greu cynnwys yn ein hieithoedd ein hunain.
Diolch o galon i bawb fuodd yn rhan o drefnu’r cyfan. Dydi profiadau fel hyn ddim yn digwydd yn aml, a dwi’n teimlo mor ffodus.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros y Gymraeg, Mark Drakeford:
Mae'r Rhaglen Gyfnewid Geltaidd yn dathlu ein hieithoedd byw ac yn cefnogi pobl ifanc i adeiladu gyrfaoedd creadigol, gan ddefnyddio eu hieithoedd brodorol, lle bynnag y maent yn dewis byw a gweithio. Rydyn ni'n falch o weithio gyda'n partneriaid ar draws y cenhedloedd i dyfu ein hieithoedd, cryfhau ein cysylltiadau diwylliannol a helpu pobl i ddatblygu cyfleoedd a gyrfaoedd yn eu hieithoedd brodorol.