Neidio i'r prif gynnwy

Ein nod yw i Gymru fod yn wlad lle gall pobl hŷn fyw bywyd hir, iach a hapus. Byddwn yn sicrhau ein bod yn ystyried 'yr hyn sy'n bwysig' i bobl hŷn wrth inni wneud penderfyniadau o ran gwella gofal.

Cyflwyniad 

Gan ganolbwyntio ar bobl hŷn a phobl sy’n byw gydag eiddilwch, bydd y Datganiad Ansawdd Integredig hwn yn gosod y cyfeiriad ar gyfer trawsnewid gwasanaethau ar draws y system, gan alluogi rôl fwy integredig ar gyfer y trydydd sector a mwy o gyfranogiad gan ddinasyddion.

Roedd y gwaith o ddatblygu’r Datganiad Ansawdd Integredig yn canolbwyntio ar ganlyniadau ansawdd bywyd ac mae’n seiliedrig ar egwyddorion rheoli iechyd poblogaethau. Mae'r Datganiad Ansawdd Integredig yn nodi'r priodoleddau ansawdd lefel uchel hynny a ystyrir yn hanfodol i alluogi ‘system iechyd a gofal cymdeithasol integredig ragorol sy'n seiliedig ar le’ i bobl hŷn sy'n byw gydag eiddilwch a bydd yn ategu gwaith sy'n mynd rhagddo o fewn rhaglenni gwaith cenedlaethol.

Bydd y Datganiad Ansawdd Integredig yn sail i ddatblygiad fframwaith comisiynu a manyleb gwasanaeth a fydd yn rhoi amlinelliad manwl o'r elfennau hynny sy'n gysylltiedig â ‘system ofal eithriadol yn seiliedig ar le’ ar gyfer y boblogaeth hon.

Bydd tîm arwain cenedlaethol yn cael ei sefydlu a fydd yn gyfrifol am ddatblygu, dylunio a gweithredu'r fframwaith. Bydd y tîm arwain yn gweithio ochr yn ochr â rhwydwaith o ‘arbenigwyr’ yn y maes hwn sy'n cynnwys clinigwyr, gweithwyr proffesiynol a rheolwyr o'r GIG, awdurdodau lleol (heb fod yn gyfyngedig i ofal cymdeithasol), a'r trydydd sector. Bydd yn datblygu adnoddau cenedlaethol sy’n arwain at ddarparu gofal mwy cyson, o ansawdd uwch, i bobl hŷn a’r rhai sy’n byw gydag eiddilwch.

Bydd datblygiad y fframwaith yn cynnwys cyfres o ddangosyddion canlyniadau a mesurau gwella ar draws pob rhan o'r grŵp poblogaeth hwn a'r system ofal. Bydd gwelliannau yn y canlyniadau i'r boblogaeth hon ac ansawdd y gofal i bobl hŷn a'r rhai sy'n byw gydag eiddilwch yn cael eu monitro drwy'r mecanwaith hwn. Bydd hyn yn sicrhau ein bod yn gwneud y pethau iawn ac yn gwybod a ydym yn gwneud y pethau iawn yn dda.

Y cyd-destun o ran poblogaethau a chyflyrau

Mae pobl hŷn, y bydd llawer ohonynt yn byw gydag eiddilwch, yn defnyddio’r GIG a gwasanaethau gofal cymdeithasol yn fwy nag unrhyw grŵp poblogaeth arall. Rhagwelir y bydd cyfran y bobl 75 oed neu hŷn yng Nghymru yn cynyddu o 9.9% o’r boblogaeth yn 2021 i 13.8% yn 2041, gan gynyddu o tua 307,000 o bobl i tua 455,000 o bobl. Disgwylir y bydd dwy ran o dair o oedolion dros 65 oed yn byw gyda chyflyrau iechyd lluosog erbyn 2035. Mae disgwyliad oes uwch yn golygu bod pobl yn treulio mwy o amser yn byw gyda chyflyrau lluosog, heb fawr o newid mewn disgwyliad oes iach.

Ein nod yw bod Cymru yn wlad lle gall pobl hŷn a’r rhai sy’n byw gydag eiddilwch fyw bywyd hir, iach a hapus. Gallant aros yn weithgar, yn annibynnol ac yn gysylltiedig yn eu cartrefi a'u cymunedau eu hunain, gan barhau i fwynhau'r pethau sy'n bwysig iddynt. Ar ddiwedd eu hoes, maent yn marw yn ôl eu dymuniadau mewn lle o'u dewis. Dyma'r canlyniadau ansawdd bywyd sy'n ffurfio carreg sylfaen y Datganiad Ansawdd Integredig hwn.

Wrth inni heneiddio, rydym eisiau cael rheolaeth ar ein bywyd. Rydym  am i’n  dewisiadau gael parch a gwrandawiad, hyd yn oed os nad yw pawb yn cytuno â nhw. Mae’r cyfle i feithrin cydberthnasau ystyrlon drwy barhad gofal yn bwysig, ac mae gofal cydgysylltiedig yn allweddol i ofal integredig. Mae parhad a chydgysylltiad yn dod yn fwyfwy pwysig wrth i anghenion gofal a chymorth ddod yn fwy cymhleth. Mae'n hollbwysig ein bod yn edrych ar bethau, ar draws y system gyfan, o safbwynt pobl hŷn a'r rhai sy'n byw gydag eiddilwch.

Dros amser, mae ein system iechyd a gofal cymdeithasol wedi brwydro fwyfwy i addasu i amgylchiadau iechyd (corfforol a meddyliol) a chymdeithasol lluosog a rhyngweithredol ein poblogaeth hŷn sy’n tyfu. Fodd bynnag, nid oedran ynddo'i hun sy'n sail i'r her hon, ond yn hytrach yr achosion cynyddol o eiddilwch sy'n gysylltiedig â'r boblogaeth hon.

Mae eiddilwch yn gyflwr hirdymor. Mae'n disgrifio cyflwr iechyd lle mae systemau'r corff yn colli eu gwytnwch biolegol, corfforol a meddyliol yn raddol. Mae’n gysylltiedig yn aml â’r broses heneiddio ac felly’n cael ei brofi’n bennaf gan bobl hŷn, er nad yw pob unigolyn hŷn yn byw gydag eiddilwch. Fodd bynnag, wrth i’r boblogaeth barhau i heneiddio, bydd nifer y bobl sy’n byw gydag eiddilwch neu sydd mewn perygl o ddatblygu eiddilwch yn cynyddu.

Yn syml, mae eiddilwch yn effeithio ar allu’r unigolyn i ymdopi â hyd yn oed mân salwch, haint neu digwyddiadau bywyd llawn straen megis newid mewn amgylchiadau byw, neu brofedigaeth (yn enwedig priod neu bartner). Pan fydd hyn yn digwydd, gallant ymddangos yn wahanol i’r ffordd y byddent fel arfer a gallant fynd yn ddryslyd (neu’n fwy dryslyd nag arfer), yn ansefydlog ar eu traed (ac mewn perygl mawr o gwympo), ac yn methu â gwneud tasgau y gallent eu gwneud yn flaenorol. I unigolyn sy'n byw gydag eiddilwch, yn anffodus gall hyn olygu eu bod yn ‘bownsio'n ôl’ yn arafach ac, i rai, maent yn llai tebygol o ‘fownsio'n ôl’ i'r lefel o annibyniaeth yr oeddent yn ei mwynhau'n flaenorol. Gall ymyrraeth gynnar ac adsefydlu fod yn ddull effeithiol o sicrhau’r adferiad gorau sy’n bosibl mewn seyfllfaoedd o’r fath.

Mae rhai pethau pwysig i’w nodi am eiddilwch, nad ydynt yn cael eu cydnabod yn aml, wrth ystyried ansawdd y gofal iechyd a chymdeithasol sydd ei angen a sicrhau ein bod yn cyflawni’r ‘hyn sy’n bwysig’ i’r boblogaeth pobl hŷn:

  • Nid yw eiddilwch yn ganlyniad anochel heneiddio ac mae’n gyflwr hirdymor.
  • Nid yw eiddilwch yn cael ei gydnabod cystal gan gymdeithas â chyflyrau hirdymor mwy adnabyddus eraill fel diabetes math 2. 
  • Mae amlder a chyffredinrwydd eiddilwch yn cynyddu gydag oedran a gall ffactorau eraill fel amddifadedd cymdeithasol ac amgylchiadau byw effeithio arnynt, e.e. tai, incwm a ffactorau ffisegol megis dirywiad mewn statws maeth. 
  • Mae eiddilwch yn rhywbeth cynyddol ac yn datblygu dros amser, weithiau flynyddoedd lawer. Yn yr un modd â chyflyrau hirdymor eraill fel diabetes, gydag ymwybyddiaeth a rheolaeth optimaidd, gellir atal eiddilwch, gohirio’r cyfnod pan fydd yn cychwyn ac arafu ei ddatblygiad, ac weithiau gellir ei wrthdroi i ryw raddau. 
  • Mae eiddilwch yn well rhagfynegydd iechyd nag oedran yn unig. Rhif yn unig yw oedran ac ychydig iawn y mae'n ei ddweud wrthym am iechyd yr unigolyn a'i allu i gyflawni ‘yr hyn sy'n bwysig’ iddo. Er enghraifft, gall rhywun 85 oed fod yn ffit, yn iach ac yn annibynnol tra gall rhywun 65 oed fod yn hynod eiddil ac angen gofal a chymorth ffurfiol i gyflawni lefel o annibyniaeth.
  • Wrth i lefelau eiddilwch gynyddu, mae anghenion iechyd a gofal hefyd yn cynyddu wrth i'r cyflwr ddatblygu. Mae eiddilwch hefyd wedi’i gysylltu’n gryf â risg dementia a dylid ei ystyried yn darged ar gyfer strategaethau atal dementia. 
  • Mae arferion gorau ar gyfer gofalu am y rhai sy’n byw gydag eiddilwch yn dibynnu ar adnabyddiaeth gynnar o newidiadau mewn anghenion cymdeithasol, seicolegol a chlinigol sydd wedi arwain at newid mewn gallu corfforol neu alluedd meddyliol fel dryswch newydd, cwymp, neu lai o allu i wneud y pethau y gallant eu gwneud fel arfer neu risg uwch o ddiffyg maeth. Pan fydd hyn yn digwydd, gall y gofal rhagweledol cywir a chymorth cynnar atal y sefyllfa rhag gwaethygu’n argyfwng, gyda chefnogaeth defnydd effeithiol o fodelau gofal canolraddol, gan gynnwys ailalluogi.
  • Yn y system iechyd a gofal cymdeithasol bresennol, mae’r pwyslais yn tueddu i fod ar reoli argyfyngau mewn ffordd adweithiol. O ganlyniad, mae'r rhai sy'n byw gydag eiddilwch yn fwy tebygol o gael eu derbyn i'r ysbyty, a hynny’n aml am resymau y gellid eu hosgoi. Gall hyn, ac yn arbennig cyfnodau yn yr ysbyty, achosi i bobl fynd yn fwy eiddil a cholli eu hannibyniaeth o ganlyniad i bethau fel dod i gysylltiad â heintiau yn yr ysbyty, colli hyder, a cholli màs cyhyrau (y cyfeirir ato weithiau fel datgyflyru).
  • Mae llawer o oedolion sy’n byw gydag eiddilwch yn dibynnu ar ofal a chymorth anffurfiol a di-dâl a ddarperir iddynt gan eu teulu, eu cymdogion a’r gymuned ehangach. Gall rheoli anghenion cyfnewidiol y cyflwr fod yn heriol ac yn straen, yn enwedig wrth geisio llywio system iechyd a gofal gymhleth i gael cyngor a chymorth amserol.
  • Er bod ‘eiddilwch’ yn gyflwr iechyd cydnabyddedig a bod hwn yn derm a  ddefnyddir yn aml gan weithwyr iechyd a gofal proffesiynol, mae hefyd yn air sy’n gysylltiedig â diffyg a stigma gan rai, yn enwedig pobl hŷn eu hunain, ac felly wedi’i wrthod. Mae pobl hŷn yn fwy tebygol o ddefnyddio iaith llawer symlach, gan ddisgrifio eu hunain, er enghraifft, fel ‘ddim yn gallu gwneud y pethau roeddwn i'n arfer eu gwneud’ neu ‘ddim mor gryf ag yr arferwn fod’. Mae angen inni fod yn ymwybodol o sut y defnyddir y geiriau ‘eiddil’ neu ‘eiddilwch’. Dylem felly gyfeirio at unigolion fel ‘byw gydag eiddilwch’, yn union fel y byddem yn cyfeirio at unigolyn sy'n byw gyda diabetes math 2.

Mae cyflawni ein nod a chanlyniadau ansawdd bywyd ar gyfer y boblogaeth hon yn gofyn am newid sylfaenol tuag at reoli iechyd y boblogaeth a dull ‘seiliedig ar le’. Bydd hyn yn cynnwys creu a manteisio ar gyfleoedd i alinio â strategaethau heneiddio'n dda a rhaglenni cenedlaethol sy'n bodoli eisoes, a gweithgarwch i symud y cydbwysedd o amgylcheddau ysbytai acíwt a meithrin mwy o gapasiti ar gyfer gofal sy'n canolbwyntio ar y gymuned. Bydd gofal sy'n canolbwyntio ar y gymuned yn cael ei integreiddio a'i gyd-drefnu, gan ddarparu rheolaeth ragweithiol, frys ac mewn argyfwng yn y gymuned 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos. Bydd hyn yn cynnwys nodi a rheoli eiddilwch yn systematig ac yn rhagweithiol fel cyflwr hirdymor i atal, gohirio, gwrthdroi neu arafu ei ddatblygiad. Bydd hefyd yn gofyn am ffocws ar ofal perthynol, cydgysylltiedig a rhagweledol.

Yn bwysig, er mwyn cyflawni ein dyhead, mae angen i gomisiynwyr, darparwyr a gweithwyr proffesiynol ar draws y system gyfan sicrhau bod ‘yr hyn sy'n bwysig’ i bobl hŷn a phobl sy'n byw ag eiddilwch yn ganolog i wneud penderfyniadau. Bydd hefyd yn gofyn am well ymwybyddiaeth gymdeithasol o eiddilwch fel cyflwr hirdymor a sut mae ei reoli’n effeithiol.

Nodweddion ansawdd ar gyfer pobl hŷn a phobl sy’n byw gydag eiddilwch yng Nghymru

Bydd y Tîm Arwain Cenedlaethol, darparwyr, comisiynwyr a sefydliadau yn gwneud y canlynol:

Teg

1.    Ymgysylltu â'r rhai sydd â phrofiad bywyd o eiddilwch (pobl hŷn, gofalwyr a chymunedau) a’u cynnwys fel partneriaid cyfartal a chytuno ar ganlyniad cyffredin i’r boblogaeth sy’n adlewyrchu’r ‘hyn sy’n bwysig’ iddynt ac y bydd disgwyl i’r holl randdeiliaid gyda’i gilydd ei wella.

2.    Darparu cymorth i greu ac ymgorffori metrigau ansawdd yn seiliedig ar brofiad bywyd pobl a’u gofalwyr sy’n byw gydag eiddilwch, dementia ac anghenion synhwyraidd neu gyfathrebu, er mwyn gwella ansawdd a thegwch gwasanaethau.

3.    Gwella gwybodaeth y boblogaeth a gweithwyr proffesiynol am eiddilwch fel cyflwr a grymuso pobl, eu teuluoedd a’u gofalwyr i hunanreoli a llywio eu hanghenion gofal, a galluogi’r gweithiwr iechyd a gofal proffesiynol i atal eiddilwch a hwyluso’r gwaith o’i adnabod a’i reoli’n rhagweithiol.

4.    Cydlunio, gydag ystod eang o randdeiliaid (e.e. Gofal trwy Dechnoleg, tai, hamdden), y system a’r safonau sy’n gysylltiedig â ‘system ofal eithriadol yn seiliedig ar le (integredig)’ a llwybrau gofal cysylltiedig ar gyfer pobl hŷn sydd mewn perygl o ddatblygu eiddilwch neu sy'n byw gydag eiddilwch.

5.    Sicrhau bod y system, yn ei chynllun, yn defnyddio iaith a disgrifyddion sy’n gyson ac yn hawdd eu deall gan y cyhoedd, comisiynwyr, darparwyr a sefydliadau.

6.    Datblygu fframwaith canlyniadau system gyfan ar gyfer dull iechyd y boblogaeth o atal a rheoli eiddilwch a lleihau anghydraddoldebau iechyd a lles ar gyfer y grŵp poblogaeth hwn. Bydd hyn yn cynnwys ffocws ar ddementia, atal cwympiadau, iechyd y geg a diffyg maeth, gyda phartneriaid iechyd y cyhoedd, Gofal trwy Dechnoleg, tai, cymunedol a thrydydd sector i greu cymunedau cynhwysol a thosturiol sy’n ystyriol o oedran a dementia.

7.    Cytuno, datblygu a gwreiddio dangosyddion canlyniadau poblogaeth a mesurau gwella perfformiad lefel system / gwasanaeth.

8.    Gweithio gyda chydweithwyr digidol i ddatblygu a sefydlu ‘dangosfwrdd eiddilwch yn seiliedig ar werth’ i fonitro sut mae’r camau a weithredir gan ddarparwyr, comisiynwyr a sefydliadau yn gwella ansawdd iechyd a gofal cymdeithasol ar gyfer y boblogaeth hon.

9.    Defnyddio data i ddangos i wasanaethau a'u timau sut mae eu gweithredoedd yn gwella ansawdd iechyd a gofal cymdeithasol. Bydd y data hyn yn cael eu defnyddio’n genedlaethol i fonitro atebolrwydd sefydliadol wrth ddarparu gofal, a sicrhau cysondeb yn ansawdd y gofal, i bobl hŷn sydd mewn perygl o fod yn eiddil neu o fyw gydag eiddilwch ledled Cymru.

10.    Ymgysylltu â grwpiau cynrychioliadol o’r boblogaeth i nodi’r heriau y maent yn eu hwynebu wrth gael mynediad at ofal ar hyn o bryd a defnyddio’r wybodaeth hon i addasu a gwella mynediad.

Diogel

11.    Sicrhau ffocws system gyfan (ar draws pob maes gwasanaeth, gan gynnwys tai, hamdden, Gofal trwy Dechnoleg, y trydydd sector ac eraill) ar wella effeithiolrwydd gofal pobl sy'n byw gydag eiddilwch a gwella eu canlyniadau iechyd.

12.    Cynnal gwaith cynllunio’r gweithlu a modelu galw a chapasiti i sicrhau bod niferoedd digonol o weithwyr proffesiynol arbenigol a chyffredinol ar gael o’r ystod lawn o broffesiynau ar draws iechyd a gofal cymdeithasol sydd â’r sgiliau cywir i reoli anghenion gofal pobl hŷn a phobl sy’n byw gydag eiddilwch ym mhob maes lle mae angen gofal.

13.    Datblygu offer cenedlaethol sy'n cefnogi'r gwaith o sgrinio, nodi a rheoli gofal brys pobl hŷn ar draws y system a'r llwybrau gofal.

14.    Gwella addysg am eiddilwch a’i arfer gorau a sicrhau ei fod yn dod yn gydran graidd o’r holl fframweithiau addysg broffesiynol a chlinigol. Bydd hyn yn meithrin y gallu sydd ei angen ar draws pob disgyblaeth a maes gwasanaeth i sicrhau bod gwella ansawdd ac arfer integredig yn greiddiol.

Effeithiol

15.    Sicrhau bod eiddilwch yn cael ei nodi fel mater o drefn mewn ffordd gyson, systematig a safonol. Galluogir segmentu poblogaeth a haenu risg eiddilwch ar draws y boblogaeth oedolion ac mae’n darparu fframwaith i gefnogi comisiynu a chynllunio gwasanaethau a’r gweithlu ar lefel leol.

16.    Gwreiddio’r safonau gofal integredig ar gyfer pobl hŷn a phobl sy’n byw gydag eiddilwch a ddatblygwyd gan y Tîm Arwain Cenedlaethol a ‘rhwydwaith o arbenigwyr’ ar draws llwybrau gofal ataliol, rhagweithiol, brys a hirdymor mewn partneriaeth â’r trydydd sector a’r sector digidol (Gofal trwy Dechnoleg).

17.    Galluogi mwy o ofal sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn ar draws gofal sylfaenol, cymunedol (iechyd a gofal cymdeithasol) a gofal arbenigol trwy weithredu cofnod gofal electronig.

Effeithlon

18.    Galluogi Asesiad Geriatrig Cynhwysfawr a chynllunio gan y tîm amlbroffesiynol sy'n gyfrifol am wella canlyniadau i bobl sy'n byw gydag eiddilwch ar draws gofal sylfaenol, cymunedol (iechyd a gofal cymdeithasol) ac acíwt trwy ddatblygu a gweithredu cofnod gofal amlbroffesiynol.

19.    Darparu fframwaith ar gyfer cyflawni ac atebolrwydd ar lefel gwasanaeth a sefydliadol sy’n cynnwys dangosyddion canlyniadau poblogaeth a mesurau gwella perfformiad ar lefel system / gwasanaeth.

Canolbwyntio ar yr unigolyn

20.    Gweithio gyda phobl sy'n byw gydag eiddilwch a’u teuluoedd a gofalwyr i ddeall y profiad bywyd yn well a datblygu iaith a diwylliant sylfaenol sy'n gwneud ‘eiddilwch’ yn haws i'w ddeall a byw gydag ef.

21.    Sicrhau arweinyddiaeth gref ar draws y system  sy'n hyrwyddo gweledigaeth gyffredin ar gyfer heneiddio'n iach ac atal a rheoli eiddilwch sy'n sicrhau bod asesu a chynllunio gofal yn seiliedig ar ‘yr hyn sy'n bwysig’ i'r unigolyn ac yn diogelu ei lesiant a'i annibyniaeth.

22.    Diffinio a datblygu templed ‘Cynllun Gofal Rhagweledol’ i'w ddefnyddio gan bobl sy'n byw gydag eiddilwch a’u teuluoedd a gofalwyr i'n galluogi i'w cefnogi i gyflawni ‘yr hyn sy'n bwysig’ a bywyd hwyrach a diwedd oes o ansawdd.

23.    Sicrhau bod gweithwyr proffesiynol amlddisgyblaethol yn adolygu ‘Cynlluniau Gofal Rhagweledol’ a ‘Chynlluniau Gofal a Chymorth’ unigolion yn rheolaidd a bod unigolion yn cael eu cefnogi i gyflawni'r canlyniadau sydd o bwys iddynt.

24.    Sicrhau bod ‘Cynlluniau Gofal Rhagweledol’ a ‘Chynlluniau Gofal a Chymorth’ yn cynnwys gwybodaeth sy'n cefnogi pobl i ddeall a rheoli eu cyflwr yn well wrth roi'r modd iddynt uwchgyfeirio pryder am ddirywiad yn eu cyflwr cyn gynted â phosibl.

25.    Sicrhau bod gwybodaeth, cyngor a chymorth ar gael 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos i gefnogi pobl sy’n byw gydag eiddilwch a’u teuluoedd / gofalwyr i helpu i fynd i’r afael ag effaith emosiynol, gymdeithasol a seicolegol byw gydag eiddilwch. Yn unol â pholisi a deddfwriaeth yr iaith Gymraeg, sicrhau bod pob cam rhesymol yn cael ei gymryd i ddarparu gwybodaeth, cyngor a chymorth dwyieithog.

26.    Sicrhau bod cyfleoedd cymorth gan gymheiriaid ar gael yn eu cymunedau eu hunain i ddarparu rhwydwaith cymorth i bobl sy’n byw gydag eiddilwch a’u teuluoedd a’u gofalwyr.

Amserol

27.    Darparu pwynt cyswllt sengl 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos i bobl sy’n byw gydag eiddilwch, a’u teuluoedd a’u gofalwyr, sy’n sicrhau mynediad amserol at wybodaeth, cyngor a chymorth iechyd a gofal cymdeithasol er mwyn diwallu eu hanghenion gofal rhagweithiol (gan gynnwys hunanreoli), brys a hirdymor (gan gynnwys anghenion cymdeithasol a seicolegol yn ogystal ag anghenion corfforol / meddygol).

28.    Darparu pwynt cyswllt sengl 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos a darparu cyfleusterau ar gyfer Ymateb Larwm Gofal trwy Dechnoleg ar gyfer monitro teleofal a theleiechyd ac ymateb cyflym i anghenion sy’n codi.

29.    Datblygu canllawiau Cymru gyfan ar gyfer darparu ymateb cyflym i argyfwng sy’n bodloni safonau'r Sefydliad Cenedlaethol dros Iechyd a Rhagoriaeth Glinigol ac sy’n amlinellu’r lefelau o gymwyseddau sydd eu hangen i ddiwallu anghenion cymdeithasol, seicolegol a meddygol pobl hŷn a phobl sy’n byw gydag eiddilwch.