Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae amcangyfrifon ar gyfer 2020 ymlaen yn cynnwys gyfnod pandemig y Coronafeirws (COVID-19). Mae’n bosibl fod rhai o’r newidiadau a nodwyd yn deillio o amodau a achoswyd gan y pandemig. Er enghraifft dysgu a ohiriwyd neu a fethwyd, newidiadau i arholiadau ac asesiadau a newidiadau yn amgylchiadau’r farchnad lafur yn ystod cyfnod y pandemig.

Mae ansicrwydd ychwanegol ynghylch yr amcangyfrifon hyn, oherwydd problemau gyda rhai o'r ffynonellau data a ddefnyddiwyd. Darperir esboniad yn yr adran am wybodaeth ansawdd allweddol.

Prif bwyntiau

Image
"Mae siart un yn dangos Ar sail yr SFR, roedd 13.6% o bobl ifanc rhwng 16 a 18 oed yn NEET yn 2021 a 16.3% o bobl ifanc rhwng 19 a 24 oed."

Pobl ifanc 16 i 18 oed

  • Roedd gostyniad bach graddol yng nghyfran y rhai 16 i 18 oed a oedd yn NEET rhwng 2011 a 2017. Yn ôl y Datganiad Ystadegol Cyntaf, mae'r gyfran hon wedi cynyddu. Yn ôl yr Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth, mae'r gyfran hefyd yn uwch yn 2021 nag yr oedd yn 2017 ond mae wedi amrywio yn yr amser hwnnw. Mae gwahaniaethau cynyddol rhwng amcangyfrifon NEET y Datganiad Ystadegol Cyntaf a’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth. Gweler yr wybodaeth ansawdd allweddol am ragor o fanylion.
  • Ar sail y SFR, mae'r ffigurau dros dro diweddaraf yn dangos y canlynol ar ddiwedd 2021 roedd 13.6% (14,200) o bobl ifanc 16 i 18 oed yn NEET o gymharu â 11.7% (11,900) ar ddiwedd 2020. Mae'r cynnydd hwn yn ymwneud yn bennaf â chynnydd yn y gyfradd anweithgarwch economaidd (ac eithrio myfyrwyr) ar gyfer pobl ifanc 16 i 18 oed, er bod cynnydd bach mewn diweithdra hefyd.
  • Mae data mwy amserol o'r gyfres yr Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth yn dangos bod cyfraddau NEET wedi gostwng ers hynny. Ar sail yr APB, am y flwyddyn yn gorffen Mehefin 2022, amcangyfrifwyd bod 6.3% o bobl ifanc 16 i 18 oed yn NEET, o gymharu â 10.3% ar ddiwedd y flwyddyn a ddaeth i ben ym Mehefin 2021. Dylid nodi bod y ffigwr ar gyfer y flwyddyn sy'n dod i ben ym Mehefin 2022 yn seiliedig ar rhwng tua 25 a 40 o ymatebion ac mae'n cael ei gategoreiddio fel un o ansawdd cyfyngedig.

Pobl ifanc 19 i 24 oed

  • Ar sail y Datganiad Ystadegol Cyntaf (SFR), mae'r ffigurau dros dro diweddaraf yn dangos roedd 16.3% (37,800) o bobl ifanc 19 i 24 oed yn NEET ar ddiwedd 2021, cynnydd o gymharu ag 15.8% (37,700) yn 2020.
  • Ar ddechrau dirwasgiad 2008 gwelodd cyfran y bobl ifanc 19 i 24 oed a oedd yn NEET gynnydd mawr o 17.4% yn 2008 i tua 22% - 23% o 2009 i 2012, gan ostwng ym mhob blwyddyn ddilynol hyd at 2017. Roedd y gostyngiad hwn yn deillio o gynnydd yng ngweithgarwch y farchnad lafur, gyda chyfranogiad mewn addysg a hyfforddiant yn aros yn gymharol sefydlog.
  • Ar sail yr Arolwg Poblogaeth Blynyddol, am y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2022, amcangyfrifwyd bod 15.1% o bobl ifanc 19 i 24 oed yn NEET, o gymharu ag 15.3% ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2021.

Cyfran y bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant yn ôl nodwedd

Rhywedd

O’r gyfres SFR mae hefyd yn bosibl cynhyrchu rhaniad rhywedd o’r gyfran o bobl ifanc sy’n NEET. Gan fod hyn yn seiliedig ar y gyfres y Datganiad Ystadegol Cyntaf, mae'r adran hon yn cynnwys data hyd at ac yn cynnwys yr amcangyfrifon dros dro ar gyfer blwyddyn galendr 2021. Mae dadansoddiad dilynol yn yr adran hon (oedran, anabledd, ethnigrwydd a rhanbarth) yn seiliedig ar gyfres yr Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth ac mae'n cwmpasu data hyd at ac yn cynnwys y flwyddyn hyd at fis Mehefin 2022.

Pobl ifanc 16 i 18 oed

Mae Siart 2 yn dangos bod cyfran y bechgyn a merched 16 i 18 oed sy’n NEET wedi dilyn tueddiadau tebyg yn fras rhwng 2004 a 2015, gyda merched yn llai tebygol o fod yn NEET na bechgyn yn sgil lefelau uwch o gyfranogiad mewn addysg a hyfforddiant. Ers hynny mae'r bwlch wedi lleihau a hyd yn oed gwrthdroi yn 2020 cyn ailymddangos yn 2021.

Bod 14.7% (7,900) o fechgyn 16 i 18 oed yn NEET, o gymharu ag 10.7% (5,600) yn 2020.

Bod 12.4% (6,300) o ferched 16 i 18 oed yn NEET, o gymharu ag 12.6% (6,300) yn 2020.

Image
Mae Siart 2 yn dangos 12.4% o ferched a 14.7% o fechgyn fel cyfran y bobl ifanc 16 i 18 oed nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant.

Pobl ifanc 19 i 24 oed

Mae cyfran y merched 19 i 24 oed sy’n NEET wedi bod yn gyson uwch na bechgyn dros y gyfres hon tan 2018, lle roedd cyfran ychydig yn fwy o fechgyn yn NEET na merched. Mae hyn wedi mynd i’r cyfeiriad arall yn 2019 ac eto yn 2020.

Mae’r ffigurau dros dro ar gyfer 2021 yn dangos:

  • roedd 16.7% (20,400) o fechgyn 19 i 24 oed yn NEET, gostyngiad o 17.2% (21,500) yn 2020
  • roedd 15.9% (17,400) o ferched 19 i 24 oed yn NEET, cynnydd o 14.3% (16,200) yn y 2020
Image
Mae Siart 3 yn dangos 15.9% o fenywod a 16.7% o ddynion fel cyfran y bobl ifanc 19 i 24 oed nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant.

Oedran

Gellir defnyddio’r Arolwg Poblogaeth Blynyddol hefyd i ddarparu dadansoddiadau o gyfraddau NEET yn ôl nodweddion, nad ydynt ar gael drwy gyfres SFR. Gan fod y samplau’n fach, wrth edrych ar is-grwpiau bu’n rhaid defnyddio amcangyfrifon yn seiliedig ar gyfartaledd y 3 chyfnod ac felly dylid eu defnyddio i gymharu grwpiau neu ranbarthau’n unig.

Image
Mae'r cyfraddau'n amrywio o 4.5% ar gyfer pobl ifanc rhwng 16 a 18.0% ar gyfer y rhai sy'n 22 oed.

(!) Mae'r eitem ddata'n seiliedig ar rhwng tua 25 a 40 ymateb ac wedi'i dosbarthu fel ei bod o ansawdd isel.

Mae cyfran y bobl ifanc sy’n NEET yn cynyddu ag oedran yn gyffredinol rhwng 16 a 22. Yna, mae’n gostwng ag oedran rhwng 22 a 24 oed. Mae’r cyfraddau’n amrywio o 4.5% i bobl ifanc 16 oed i 18.0% i bobl ifanc 22 oed.

Anabledd

Image
Y cyfran y bobl anabl sy'n NEET yn 18.7% yn 16 i 18 oed o gymharu â 6.3% pobl ifanc rhwng 16 a 18 oed nad ydynt yn anabl.
  • Mae pob ifanc anabl yn llawer fwy tebygol o fod yn NEET na phobl ifanc nad ydynt yn anabl.
  • Mae’r gwahaniaeth hwn hyd yn oed yn fwy amlwg ar gyfer pobl ifanc 19 i 24 oed o gymharu â phobl ifanc 16 i 18 oed. Mae cyfran y bobl anabl sy’n NEET yn codi o 18.7% ar gyfer pobl ifanc 16 i 18 oed i 38.6% ar gyfer pobl ifanc 19 i 24 oed.

Ethnigrwydd

Image
Mae Siart 6 yn dangos bod pobl ifanc o gefndir ethnig gwyn (gan gynnwys lleiafrifoedd gwyn) yn fwy tebygol o fod yn NEET na'r rhai o leiafrifoedd ethnig (ac eithrio lleiafrifoedd gwyn).
  • Yn y cyfnod o'r flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2020 i'r flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2022 roedd pobl ifanc o gefndir ethnig Gwyn (gan gynnwys lleiafrifoedd Gwyn) yn fwy tebygol o fod yn NEET na phobl ifanc o leiafrifoedd ethnig (ac eithrio lleiafrifoedd Gwyn).
  • Amcangyfrifwyd bod 13.5% o bobl ifanc o gefndir ethnig Gwyn (gan gynnwys lleiafrifoedd Gwyn) yn NEET o'i gymharu â 8.6% o bobl ifanc o leiafrifoedd ethnig (ac eithrio lleiafrifoedd Gwyn).

Crefydd

Image
Mae gwahaniaethau bychan yng nghyfraddau NEET rhwng rhanbarthau sy'n amrywio o 12.6% ar gyfer De Ddwyrain Cymru i 14.2% yng Nghanolbarth a De Orllewin Cymru.
  • Mae cyfraddau NEET yn gwahaniaethu ychydig rhwng rhanbarthau. Roedd cyfran y bobl ifanc (16 i 24 oed) sy’n NEET yn amrywio o 12.3% yn y De-ddwyrain i 14.9% yn y Canol barth a’r De-orllewin.

Dangosydd cenedlaethol a charreg filltir genedlaethol

Yn y datganiad hwn, mae dangosydd 22: Canran o bobl mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant, a fesurir ar gyfer gwahanol grwpiau oedran yn cyfateb i garreg filltir genedlaethol.

Mae carreg filltir genedlaethol yn gysylltiedig â'r dangosydd 'Bydd o leiaf 90% o bobl ifanc 16 i 24 oed oedd mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant erbyn 2050’. Er bod y datganiad hwn yn ystyried data ar gyfer pobl ifanc 16 i 18 oed a phobl ifanc 19 i 24 oed ar wahân, mae'r garreg filltir genedlaethol yn seiliedig ar yr ystod oedran 16 i 24 llawn. Mae dangosydd cenellaethol a charreg filltir genedlaethol yn ystyried pobl ifanc mewn mewn addysg, cyflogaeth a hyfforddiant hefyd (yn hytrach na rhai nad ydynt (NEET)).

Mae amcangyfrifon dros dro yn dangos bod 84.5% o bobl ifanc 16 i 24 oed mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant yn 2021, i lawr o 85.4% yn 2020.

Diffiniadau

Addysg a hyfforddiant

Ar gyfer amcangyfrifon SFR: mae’n seiliedig ar y rhai sydd wedi ymrestru ar gwrs mewn ysgol, coleg Addysg Bellach, sefydliad Addysg Uwch (yn cynnwys y Brifysgol Agored) neu gyda darparwr seiliedig ar waith yng Nghymru. Yn ogystal, amcangyfrifir nifer y rhai sydd mewn cyflogaeth sy’n dilyn hyfforddiant oddi ar y swydd hefyd.

Ar gyfer yr amcangyfrifon sy’n seiliedig ar yr Arolwg Poblogaeth Pobl: ymatebwyr i’r Arolwg sydd naill ai:

  • yn gwneud prentisiaeth ar hyn o bryd
  • sydd ar gynllun cyflogaeth neu hyfforddiant llywodraeth ar hyn o bryd
  • sy’n gweithio neu’n astudio tuag at unrhyw gymwysterau
  • sydd wedi cwblhau unrhyw addysg neu hyfforddiant cysylltiedig â swydd yn y 4 wythnos ddiwethaf
  • sydd wedi ymrestru ar unrhyw gwrs addysg llawn amser neu ran-amser ar hyn o bryd ac eithrio dosbarthiadau hamdden ac yn dal i’w mynychu neu’n aros i’r tymor (ail)ddechrau

Cyflogaeth

Defnyddir yr Arolwg Poblogaeth Pobl i amcangyfrif y gyfran mewn cyflogaeth ar gyfer amcangyfrifon sy’n seiliedig ar yr SFR a’r Arolwg. Yn ogystal, defnyddir statws cyflogaeth o ddata ymrestru ôl-16 yn yr SFR.

O’r Arolwg Poblogaeth Pobl, bydd ymatebwyr mewn cyflogaeth os ydynt naill ai:

  • yn gyflogedig
  • yn hunangyflogedig
  • ar raglenni cyflogaeth neu hyfforddiant llywodraeth
  • yn weithiwr teulu di-dâl

Anabledd

Mae Llywodraeth Cymru’n derbyn y diffiniad cymdeithasol o anabledd, sy’n cydnabod bod rhwystrau mewn cymdeithas yn gweithredu i analluogi pobl sydd â namau neu gyflyrau iechyd neu sy’n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain.

Mae’r Arolwg Poblogaeth Blynyddol, sef y ffynhonnell ddata ar gyfer y datganiad hwn, yn cipio’r data gan ddefnyddio’r diffiniad meddygol o anabledd a ddefnyddir yn Neddf Cydraddoldeb 2010 (“nam corfforol neu feddyliol sy’n cael effaith sylweddol neu hirdymor ar allu person i gyflawni gweithgareddau arferol bob dydd”). Ni ellir cymharu ffigurau’r datganiad hwn â rhai mewn datganiadau cyn 2015, a oedd yn adrodd ar y rhai a oedd yn nodi anabledd cyfredol o dan y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd neu anabledd sy’n cyfyngu ar waith.

Gwybodaeth allweddol o ansawdd

Mae’r datganiad hwn yn crynhoi’r ystadegau sydd ar gael ar bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET) yng Nghymru. Caiff ei ddiweddaru bob blwyddyn gyda’r amcangyfrifon diweddaraf o’r Arolwg Poblogaeth Blynyddol a phrif gyfres SFR. I ategu’r allbwn blynyddol hwn, cyhoeddir pennawd a thablau bob chwarter wrth i ddata Arolwg Poblogaeth Blynyddol newydd ddod ar gael. Mae cyhoeddi'r datganiad hwn yn cyd-fynd ag argaeledd amcangyfrifon newydd o gyfres y Datganiad Ystadegol Cyntaf ar gyfranogiad pobl ifanc mewn addysg a datganiad ystadegol y farchnad lafur. Mae'r datganiad hwn fel arfer yn cwmpasu data’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth hyd at ac yn cynnwys mis Mawrth y flwyddyn ganlynol y mae amcangyfrifon Datganiad Ystadegol Cyntaf ar gael ar ei chyfer. Mae'r bwletin eleni yn cynnwys data hyd at ac yn cynnwys y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2022 gan ei fod wedi'i gyhoeddi'n hwyrach nag arfer oherwydd ailbwysoli’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Rhagor o wybodaeth am gyfresi’r Datganiad Ystadegol Cyntaf a’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth, ac amcangyfrifon NEET o arolwg cyrchfannau disgyblion Gyrfa Cymru, wedi’u darparu yn ein canllaw i ddeall y gwahanol ffynonellau o ystadegau ar bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET) yng Nghymru

Bydd y data’n cael ei ddefnyddio i gefnogi’r Dangosydd Cenedlaethol sy’n gysylltiedig â’r ‘Canran o bobl mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant’ a gyflwynwyd o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015.

Perthnasedd

Defnyddir yr ystadegau yn Llywodraeth Cymru i fonitro tueddiadau yn lefel a chyfran pobl ifanc sy’n NEET.

Cyhoeddwyd y Fframwaith Ymgysylltiad a Chynnydd Ieuenctid yn wreiddiol yn 2013 ac fe'i adnewyddwyd ym mis Medi 2022.

Mae’r Fframwaith yn fecanwaith systematig i adnabod ac ymateb i bobl ifanc sydd mewn perygl o ddod yn NEET, sydd yn NEET a/neu sydd mewn perygl o fod yn ddigartref. Mae'n canolbwyntio ar bobl ifanc rhwng 11 a 18 oed ac yn cynnwys 6 cydran craidd:

  1. Adnabod unigolion yn gynnar
  2. Broceru
  3. Monitro cynnydd
  4. Darpariaeth
  5. Cyflogadwyedd a chyfleoedd cyflogaeth
  6. Atebolrwydd

Mae'r ystadegau hyn yn berthnasol i Cymru Gryfach, Tecach, Gwyrddach: Cynllun Cyflogadwyedd a Sgiliau. Mae'r atodiad technegol ar gyfer y strategaeth yn cyfeirio at y dangosydd cenedlaethol yn seiliedig ar ddata o'r datganiad hwn (gweler hefyd yr adran Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol isod). Mae'r ystadegau hyn hefyd yn rhan o'r sylfaen dystiolaeth ar gyfer y Warant i Bobl Ifanc.

Cywirdeb

Mae’r Arolwg Poblogaeth Blynyddol yn arolwg o gartrefi a gynhelir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Mae’r arolwg yn casglu gwybodaeth am amgylchiadau personol ymatebwyr, yn cynnwys eu statws marchnad lafur a’u gweithgarwch addysg a hyfforddiant. Mae’r Arolwg yn cyfuno samplau wedi’u hybu yr Arolwg Llafurlu ac yn darparu data pedwar chwarter treiglol.

Gan fod y data yn dod o arolwg, mae’r canlyniadau’n amcangyfrifon seiliedig ar samplau ac felly yn gallu amrywio i wahanol raddau, h.y. mae gwir werth unrhyw fesur i’w weld yn ystod amrywiol y gwerth amcangyfrifiedig. Cyfrifwyd cyfyngau hyder o tua 95% ar gyfer amcangyfrifon yr Arolwg Poblogaeth Blynyddol o gyfran y bobl ifanc 16 i 18 oed a 19 i 24 oed sy’n NEET ac maent wedi'u cynnwys yn y tablau gwe a gyhoeddir ochr yn ochr â'r datganiad hwn. Mae'r siart isod yn dangos prif gyfres amser NEET yr Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth ar gyfer pobl ifanc 16 i 18 a 19 i 24 oed gyda chyfyngau hyder o 95% wedi’u cynnwys.

Image
Mae Siart 8 yn dangos amcangyfrifon yr Arolwg Poblogaeth Blynyddol o nifer y bobl ifanc yng Nghymru sy’n NEET, gyda chyfyngau hyder o 95%.

Cyfrifwyd y rhain gan ragdybio hapsampl pwysedig syml ac nid ydynt yn ystyried cynllun y sampl ac felly awgrym o’r cyfwng hyder a ddarperir ganddynt yn unig. Hefyd, mae’r dull addasu ar gyfer dosrannu gwerthoedd coll yn creu maint sampl cyfanredol artiffisial a ddefnyddir i gyfrif cyfyngau hyder. Mae amrywioldeb y samplau’n cynyddu wrth i’r manylion yn y data gynyddu ac felly mae amcangyfrifon ar gyfer is-grwpiau a rhanbarthau ar gyfer grwpiau oedran 16 i 18 oed ac 19 i 24 oed sydd o ddiddordeb yn y bwletin hwn yn seiliedig ar gyfartaleddau tri chyfnod.

Rhagor o wybodaeth am ansawdd yr Arolwg Poblogaeth Blynyddol (Swyddfa Ystadegau Gwladol)  

Mae Siart 1 yn dangos, o 2005 i 2013, y lefelau a’r tueddiadau tebyg ymhlith pobl ifanc sy’n NEET a welir rhwng cyfresi’r Datganiadau Ystadegol Cyntaf a’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth yn gyffredinol. O 2014 gwelwyd rhai gwahaniaethau yn yr amcangyfrifon ar gyfer pobl ifanc 16 i 18 oed sydd wedi ehangu ymhellach yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae'r rheswm am hyn yn aneglur ond mae swyddogion yn archwilio'r mater gyda'r Swyddfa Ystadegau Gwladol a'r Adran Addysg (sy'n cynhyrchu’r amcangyfrifon cyfranogiad a NEET cyfatebol ar gyfer Lloegr). Bydd diweddariadau ac esboniadau pellach yn cael eu cynnwys mewn fersiynau o'r datganiad hwn yn y dyfodol.

Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) wedi ailgalibradu pwysoliad setiau data’r Arolwg Poblogaeth Blynyddol ar gyfer cyfnodau sy'n cwmpasu'r flwyddyn sy'n dod i ben yn chwarter 1 2020 i'r flwyddyn sy'n dod i ben yn chwarter 4 2021. Ceir rhagor o wybodaeth am yr ailbwysoliad hwn a'i effaith mewn erthygl a gyhoeddwyd gan yr ONS ar Effaith ailbwysoli ar yr Arolwg o’r Llafurlu.

Polisi diwygiadau

Bydd ffigurau dros dro 2021 yn cael eu datgan yn derfynol yng nghyhoeddiad y flwyddyn nesaf, sydd i’w gyhoeddi ym mis Gorffennaf 2023. Dylid ond cyflwyno diwygiadau yn unol â diwygiadau i ddata ffynhonnell.

Data ar y boblogaeth

Caiff amcangyfrifon canol blwyddyn o’r boblogaeth hyd at ac yn cynnwys 2020 (yn seiliedig ar Gyfrifiad 2011), ynghyd â rhagamcanion o’r boblogaeth sy'n seiliedig ar 2020, eu defnyddio i gyfrif yr amcangyfrifon cyfranogiad hyn. Mae'r canlyniadau cyntaf o Gyfrifiad 2021 yn dangos bod poblogaeth Cymru yn is nag amcangyfrif canol blwyddyn 2020 a rhagamcan 2021. Gwelir gwahaniaethau mwy mewn grwpiau oedran iau. Bydd y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn cyhoeddi amcangyfrifon canol blwyddyn o’r boblogaeth wedi'u hailsylfaenu a'r rhagamcanion wedi'u diweddaru yn 2023. O ganlyniad, rydym yn bwriadu adolygu amcangyfrifon cyfranogiad a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y datganiad y flwyddyn nesaf.

Gallai hyn effeithio hefyd ar ddata o'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth.

Amseroldeb a phrydlondeb

Mae’r SFR diweddaraf yn darparu data newydd ar gyfer 2020 a data dros dro ar gyfer 2021. Mae’r amcangyfrifon dros dro’n defnyddio’r data gorau ar gyfer 2021 sydd ar gael ar bob agwedd ar gyfranogiad; mae hyn yn cynnwys rhywfaint o ddata terfynol, rhywfaint o ddata dros dro a rhywfaint o fodelu.

Cyfres SFR

Bydd ffigurau dros dro 2021 yn cael eu datgan yn derfynol yn y cyhoeddiad SFR nesaf, sydd i’w gyhoeddi ym mis Gorffennaf 2023. Roedd y diwygiadau rhwng amcangyfrifon dros dro a therfynol 2020 yn fwy na’r rhai a welir gan amlaf pan fo amcangyfrifon dros dro’n cael eu diweddaru â’r data terfynol. Mae hyn yn rhannol oherwydd diwygiadau i lawr yn nifer y bobl ifanc mewn addysg amser llawn a rhan-amser rhwng data dros dro y llynedd a'r data terfynol sydd ar gael ar gyfer y datganiad hwn.

Cyfres yr Arolwg Poblogaeth Blynyddol

Mae’r amcangyfrifon hyn o bobl ifanc sy’n NEET yn cael eu diwygio pan mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn rhyddhau setiau data Arolwg Poblogaeth Blynyddol diwygiedig. Mae amcangyfrifon ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2020 i'r flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Rhagfyr 2021 wedi cael eu diwygio yn y datganiad hwn yn dilyn ailbwysoli’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth.

Hygyrchedd ac eglurder

Nid yw’n bosibl dadgyfuno amcangyfrif NEET SFR i lefel awdurdodau lleol oherwydd y ffordd mae’r data wedi’i roi at ei gilydd gan ddefnyddio data ymrestru a chan fod y statws cyflogaeth yn cael ei amcangyfrif drwy ddefnyddio’r Arolwg Poblogaeth Blynyddol. Yn achos pobl ifanc 16 i 18 oed mae nifer yr ymatebwyr i’r Arolwg Poblogaeth Blynyddol yn gymharol fach ym mhob awdurdod; llai na 100 o ymatebwyr.

Defnyddiwyd yr Arolwg Poblogaeth Blynyddol i amcangyfrif cyfran y bobl ifanc sy’n NEET yn ôl rhanbarth. Fodd bynnag, gan fod maint y samplau tua 200-500 ym mhob ardal ar gyfer pobl ifanc 16 i 18 oed mae’r amcangyfrifon wedi’u cyfartaleddu dros y tair blynedd dreiglol ar gyfer pobl ifanc 16 i 24 oed. Y rhanbarthau sy’n cael eu defnyddio yw.

Y Gogledd

  • Ynys Môn
  • Gwynedd
  • Conwy
  • Sir Ddinbych
  • Sir y Fflint
  • Wrecsam

Y Canolbarth a’r De-orllewin

  • Powys
  • Ceredigion
  • Sir Benfro
  • Sir Gaerfyrddin
  • Abertawe
  • Castell-nedd Port Talbot

Y De-ddwyrain

  • Pen-y-bont ar Ogwr
  • Bro Morgannwg
  • Rhondda Cynon Taf
  • Merthyr Tudful
  • Caerffili
  • Blaenau Gwent
  • Torfaen
  • Sir Fynwy
  • Casnewydd
  • Caerdydd

Agweddau cymharydd a chydlyniant

Mae’r dull a ddefnyddir i ddiffinio pobl ifanc sy’n NEET gan ddefnyddio’r Arolwg Poblogaeth Blynyddol yn cael ei gysoni â methodoleg y cytunwyd arno yn y DU o gyfrif amcangyfrifon NEET. Mae rhagor o wybodaeth yn y papur a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Mae’r Adran Addysg yn cyhoeddi amcangyfrifon o gyfraddau NEET pobl ifanc 16 i 18 oed ar gyfer Lloegr gan ddefnyddio methodoleg debyg i’r SFR bob blwyddyn. Darparodd y Datganiad Ystadegol (Yr Adran Addysg) diweddaraf ffigurau dros dro ar gyfer 2021. Mae Siart 7 yn cymharu amcangyfrifon Cymru a Lloegr. Nid yw Lloegr yn darparu mesur cyfwerth ar gyfer pobl ifanc 19 i 24 oed:

Image
Mae Siart 9 yn dangos y bwlch cynyddol rhwng Cymru ac amcangyfrifir bod Lloegr rhwng 16 a 18 oed yn NEET.

Rhwng 2005 a 2012 dilynodd cyfran y bobl ifanc 16 i 18 oed a oedd yn NEET yng Nghymru a Lloegr dueddiadau tebyg yn fras, ond bod gan Gymru gyfran fwy o bobl ifanc 16 i 18 oed sy’n NEET na Lloegr. Mae'r bwlch wedi cynyddu ers hynny ac yn parhau i ehangu.

Yn ôl y ffigyrau dros dro ar gyfer 2021, roedd 13.6% o bobl ifanc 16 i 18 oed yng Nghymru yn NEET o'i gymharu â 6.4% yn Lloegr. Wrth fynd ati i ddehongli tueddiadau, dylid nodi y gwnaed newidiadau deddfwriaethol yn 2013/14 gan Lywodraeth y DU a gynyddodd yr oedran y mae’n ofynnol i holl bobl ifanc Lloegr barhau mewn addysg neu hyfforddiant nes ei gyrraedd.

Ar gyfer y ddwy gyfres, mae angen dehongli newidiadau mewn tuedd yn ofalus, gan y gellid priodoli newidiadau i effeithiau samplu yn ogystal ag effeithiau go iawn.

Nid yw’r Alban a Gogledd Iwerddon yn cyhoeddi amcangyfrifon NEET ar gyfer pobl ifanc 16 i 18 oed ac 19 i 24 oed y gellir eu cymharu’n uniongyrchol.

Arolwg Llafurlu/Arolwg Poblogaeth Blynyddol

Mae’r Adran Addysg hefyd yn cyhoeddi briff blynyddol ar bobl ifanc sy’n NEET sy’n cynnwys cyfraddau NEET yn seiliedig ar yr Arolwg Llafurlu chwarterol. Yn ogystal, o fis Mai 2013 mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi cynhyrchu amcangyfrifon y DU o bobl ifanc sy’n NEET (Swyddfa Ystadegau Gwladol), sydd hefyd yn seiliedig ar yr Arolwg Llafurlu chwarterol.

Ni ellir cymharu’r amcangyfrifon chwarterol yn uniongyrchol ag amcangyfrifon Arolwg Poblogaeth Blynyddol Cymru a gyhoeddwyd yn y datganiad hwn. Nid oes cymhariaeth uniongyrchol rhwng Cymru a Lloegr na mesur Arolwg Llafurlu y DU yn cael ei ddarparu gan nad yw maint y sampl ar gyfer pobl ifanc 16 i 18 oed ac 19 i 24 oed yn ddigon mawr. Fodd bynnag, trwy ddefnyddio methodoleg debyg i’r hyn a ddefnyddir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol, ond gan ddefnyddio’r Arolwg Poblogaeth Blynyddol yn lle’r Arolwg Llafurlu, gallwn ddarparu amcangyfrifon o bobl ifanc sy’n NEET ledled y DU.

Bydd yr amcangyfrifon hyn yn wahanol i’r amcangyfrifon swyddogol a gynhyrchir gan yr Adran Addysg a’r Swyddfa Ystadegau Gwladol ac adrannau perthnasol eraill a dylid eu dehongli’n ofalus felly. Cyhoeddodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol erthygl yn egluro’r gwahaniaeth rhwng ystadegau NEET ledled y DU, ochr yn ochr â’u cyhoeddiad cyntaf o amcangyfrifon o bobl ifanc sy’n NEET yn y DU:

Mae Tabl 1 yn dangos amcangyfrifon o gyfran y bobl ifanc sy’n NEET ar gyfer pob un o wledydd y DU ar gyfer y blynyddoedd a ddaeth i ben ym Mehefin 2021 a Mehefin 2022.

Ar gyfer pobl ifanc 16 i 18 oed, bu gostyngiad yng nghyfran y boblogaeth a amcangyfrifwyd yn NEET ar draws y DU yn ei chrynswth.

Tabl 1: Amcangyfrifon o gyfran y bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET), yn ôl oedran a gwlad y DU, blwyddyn sy'n dod i ben ym Mehefin 2021 a blwyddyn sy’n dod i ben ym Mehefin 2022
Gwlad Pobl ifanc 16 i 18 oed: blwyddyn sy’n dod i ben ym Mehefin 2021 Pobl ifanc 16 i 18 oed: blwyddyn sy’n dod i ben ym Mehefin 2022 Pobl ifanc 19 i 24 oed: blwyddyn sy’n dod i ben ym Mehefin 2021 Pobl ifanc 19 i 24 oed: blwyddyn sy’n dod i ben ym Mehefin 2022
Cymru 10.3%  (!!) 6.3% 15.3% 15.1%
Lloegr 6.1% 6.0% 13.9% 13.8%
Yr Alban  (!!) 8.9%  (!!) 7.5% 14.8% 12.1%
Gogledd Iwerddon  (!) 4.0%  (!) 5.6% 15.8% 13.0%
DU 6.5% 6.1% 14.1% 13.7%

(!!) Mae'r eitem ddata yn seiliedig ar rhwng 25 a 40 o ymatebion, ac yn cael ei chategoreiddio fel un o ansawdd cyfyngedig.
(!) Mae'r eitem ddata'n seiliedig ar rhwng tua 10 a 25 ymateb ac wedi'i dosbarthu fel ei bod o ansawdd isel.

Yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2022 fe wnaeth cyfran y bobl ifanc 16 i 18 oed yr amcangyfrifwyd eu bod yn NEET ostwng yng Nghymru, Lloegr a'r Alban a chynyddu yng Ngogledd Iwerddon. Fe wnaeth y bwlch rhwng y DU a Chymru leihau o 3.9 pwynt canran yn y flwyddyn hyd at 2021 i 0.2 pwynt canran yn y flwyddyn hyd at 2022.

Statws Ystadegau Gwladol

Mae Awdurdod Ystadegau’r Deyrnas Unedig wedi dynodi’r ystadegau hyn fel Ystadegau Gwladol, yn unol â Deddf Ystadegau a’r Gwasanaeth Cofrestru 2007 ac sy’n arwydd eu bod yn cydymffurfio â’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau.

Mae statws Ystadegau Gwladol yn golygu bod ystadegau swyddogol yn bodloni’r safonau dibynadwyedd, ansawdd a gwerth cyhoeddus uchaf. Dylai’r holl ystadegau swyddogol gydymffurfio â phob agwedd ar y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Maent yn derbyn statws Ystadegau Gwladol yn dilyn asesiad gan fraich rheoleiddio Awdurdod Ystadegau’r DU. Mae’r Awdurdod yn ystyried a yw’r ystadegau’n bodloni’r safonau uchaf o ran cydymffurfiaeth â’r Cod, yn cynnwys y gwerth maent yn ei ychwanegu at benderfyniadau cyhoeddus a thrafodaeth. Cadarnhawyd dynodiad yr ystadegau hyn fel Ystadegau Gwladol ym mis Gorffennaf 2012 yn dilyn asesiad llawn yn erbyn y Cod Ymarfer.

Ers yr adolygiad diweddaraf gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau rydym wedi parhau i gydymffurfio â’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau, ac wedi gwneud y gwelliannau canlynol:

  • Wedi cynnwys nifer o ddelweddau gweledol yn dangos tueddiadau hirdymor yn ogystal â sylwadau ar y tueddiadau hyn
  • Cael gwared ar dablau diangen o’r datganiad gan eu bod ar gael ar StatsCymru
  • Y sylwadau’n fwy ystyrlon wrth gymharu’r ddwy gyfres wahanol

Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw cynnal cydymffurfiaeth â’r safonau a ddisgwylir gan Ystadegau Gwladol. Os ydym yn pryderu a yw’r ystadegau hyn yn dal i fodloni’r safonau priodol, byddwn yn trafod unrhyw bryderon gyda’r Awdurdod yn ddi-oed. Gellir dileu statws Ystadegau Gwladol ar unrhyw adeg pan na fydd y safonau uchaf yn cael eu cynnal, a’u hailgyflwyno pan fydd safonau’n cael eu hadfer.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yn ymwneud â gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn cyflwyno saith nod llesiant ar gyfer Cymru. Mae’r rhain er mwyn sicrhau Cymru sy’n fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iachach a chyfrifol yn fyd-eang, gyda chymunedau cydlynus a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, mae’n rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol”) sy’n rhaid eu defnyddio ar gyfer mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) cyflwyno copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio'r dangosyddion cenedlaethol, rhaid iddynt, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol (a) gyhoeddi'r dangosyddion fel y'u diwygiwyd a (b) gosod copi ohonynt gerbron y Senedd. Fe gafodd y dangosyddion cenedlaethol  hyn osodwyd gerbron y Senedd yn 2021. Mae'r dangosyddion a osodwyd ar 14 Rhagfyr 2021 yn disodli'r set a osodwyd ar 16 Mawrth 2016 ac mae’r datganiad hwn yn cynnwys un o’r dangosyddion cenedlaethol sef:

  • (22) Canran o bobl mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant, a fesurir ar gyfer gwahanol grwpiau oedran.

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, a’r naratifau ar gyfer pob un o’r nodau llesiant a’r wybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Fel dangosydd cenedlaethol o dan y Ddeddf mae’n rhaid cyfeirio atynt mewn dadansoddiadau o lesiant lleol a gynhyrchir gan fyrddau gwasanaethau cyhoeddus pan fyddant yn dadansoddi cyflwr llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol yn eu hardaloedd.

Mae’r Ddeddf yn nodi bod yn rhaid gosod cerrig milltir cenedlaethol a fyddai “...ym marn Gweinidogion Cymru, yn helpu i fesur a oes cynnydd yn cael ei wneud tuag at gyflawni’r nodau llesiant.” Wrth wneud hynny, rhaid i Weinidogion Cymru bennu sut y gwyddom fod carreg filltir genedlaethol wedi'i chyflawni ac erbyn pryd y mae i'w chyflawni.

Nid yw cerrig milltir cenedlaethol yn dargedau perfformiad ar gyfer unrhyw sefydliad unigol, ond maent yn fesurau llwyddiant ar y cyd i Gymru.

Yn y datganiad hwn, mae dangosydd 22 ‘Canran y bobl sydd mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant, wedi’i mesur ar gyfer gwahanol grwpiau oedran’, yn cyfateb i garreg filltir genedlaethol:

  • Bydd o leiaf 90% o’r rhai 16 i 24 oed oedd mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant erbyn 2050

Rhagor o wybodaeth am ’Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015

Gallai’r ystadegau sydd wedi’u cynnwys yn y datganiad hwn ddarparu naratif ategol i’r dangosyddion cenedlaethol a gallai byrddau gwasanaethau cyhoeddus eu defnyddio mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant lleol a’u cynlluniau llesiant lleol.

Rydym am gael eich adborth

Rydym yn croesawu unrhyw adborth ar unrhyw agwedd ar yr ystadegau hyn. E-bostiwch yr adborth i ystadegau.addysgol16@llyw.cymru.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Jonathan Ackland
E-bost: ystadegau.addysgol16@llyw.cymru

Cyfryngau:  0300 025 8099

Ystadegau Gwladol

SB 27/2022