Neidio i'r prif gynnwy

Data ar gyfer pobl ifanc yn ôl oedran, rhyw, rhanbarth a statws anabledd ar gyfer Hydref 2018 i Medi 2019.

Pobl ifanc rhwng 16 a 18 oed

  • Mae’r gyfran o bobl ifanc rhwng 16 a 18 oed sydd heb fod mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant (NEET) wedi gostwng yn raddol ers 2011, ond cynyddodd ychydig yn 2018.
  • Ar sail y Datganiad Ystadegol Cyntaf, yn 2018 roedd 10.3% o bobl ifanc rhwng 16 a 18 oed yn NEET o’i gymharu â 9.4% yn 2017.
  • Ar sail yr Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth, ar gyfer y flwyddyn yn dod i ben gyda Chwarter 3 2019, roedd 8.6% o bobl ifanc rhwng 16 a 18 oed yn NEET, o’i gymharu â 8.8% y flwyddyn cynt.

Pobl ifanc rhwng 19 a 24 oed

  • Mae’r gyfran o bobl ifanc rhwng 19 a 24 oed sydd yn NEET wedi gostwng ers y dirwasgiad ac mae nawr yn sefyll ychydig dros 16%.
  • Ar sail y Datganiad Ystadegol Cyntaf, yn 2018 roedd 16.1% o bobl ifanc rhwng 19 a 24 oed yn NEET, yn debyg i 2017.
  • Ar sail yr Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth, ar gyfer y flwyddyn yn dod i ben gyda Chwarter 3 2019, amcangyfrifwyd bod 15.5% o bobl ifanc rhwng 19 a 24 oed yn NEET, o’i gymharu â 15.2% ar gyfer y flwyddyn cynt.

Ffynonellau ystadegol

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Pobl ifanc heb fod mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant, Hydref 2018 i Medi 2019: tablau , Saesneg yn unig, math o ffeil: ODS, maint ffeil: 31 KB

ODS
Saesneg yn unig
31 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.