Neidio i'r prif gynnwy

Data ar gyfer pobl ifanc yn ôl oedran, rhyw, rhanbarth ac awdurdod lleol ar gyfer Hydref 2019 i Fedi 2020.

Pobl ifanc 16 i 18 oed

  • Yn gyffredinol, roedd cyfran y bobl ifanc 16 i 18 oed sy’n NEET wedi bod yn gostwng yn raddol rhwng 2011 a 2017, ond gwelwyd ychydig o gynnydd yn y ddwy flynedd ddiwethaf. Mae maint y cynnydd hwn yn amrywio yn dibynnu ar y ffynhonnell a ddefnyddiwyd.
  • Ar sail y datganiad ystadegol cyntaf (SFR), ar ddiwedd 2019 roedd 11.1% o bobl ifanc 16 i 18 oed yn NEET (11,200) o gymharu â 10.6% (10,800) ar ddiwedd 2018.
  • Ar sail yr arolwg poblogaeth blynyddol, am y flwyddyn yn gorffen Ch3 2020, amcangyfrifwyd bod 7.8% o bobl ifanc 16 i 18 oed yn NEET, o gymharu â 8.6% ar ddiwedd y flwyddyn a ddaeth i ben yn Ch3 2019.

Pobl ifanc 19 i 24 oed

  • Ar sail y Datganiad Ystadegol Cyntaf (SFR), ar ddiwedd 2019 roedd 15.7% o bobl ifanc 19 i 24 oed yn NEET (37,400) gostyngiad o gymharu ag 16.0% (38,500) yn 2018.
  • Ar ddechrau dirwasgiad 2008 gwelodd cyfran y bobl ifanc 19 i 24 oed a oedd yn NEET gynnydd mawr o 17.4% yn 2008 i tua 22% - 23% rhwng 2009 â 2012. Yna gostyngoddym mhob blwyddyn ddilynol hyd at 2017. Roedd y gostyngiad hwn yn deillio o gynnydd yng ngweithgarwch y farchnad lafur, gyda chyfranogiad mewn addysg a hyfforddiant yn aros yn gymharol sefydlog.
  • Ar sail yr Arolwg Poblogaeth Blynyddol, am y flwyddyn a ddaeth i ben yn Ch3 2020, amcangyfrifwyd bod 14.6% o bobl ifanc 19 i 24 oed yn NEET, o gymharu ag 15.4% ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben yn Ch3 2019.

Ffynonellau ystadegol

  • Datganiad Ystadegol Cyntaf ‘Cyfranogiad pobl ifanc mewn addysg a'r farchnad lafur’ yn defnyddio ffynonellau data addysg a’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth.
  • Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth (Y Swyddfa Ystadegau Gwladol).

Dylid nodi mai amcangyfrifon yw pob ffynhonnell. Mae ein canllaw ar ddeall y ffynonellau gwahanol o ystadegau ar bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET) yng Nghymru’n darparu rhagor o wybodaeth.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Pobl ifanc heb fod mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant (NEET): Hydref 2019 i Fedi 2020 , math o ffeil: ODS, maint ffeil: 30 KB

ODS
30 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.