Neidio i'r prif gynnwy

Mae pobl sy’n cadw dofednod yn cael eu hannog i ddilyn arferion bioddiogelwch da i leihau eu cysylltiad gydag adar gwyllt ac i fod yn wyliadwrus am arwyddion o Ffliw’r Adar.

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Tachwedd 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Ffliw’r Adar yn glefyd firysol hynod heintus sy’n cael effaith ar system anadlol, dreulio ac/neu nerfol nifer o rywogaethau adar.  Mae’n lledaenu o un aderyn i’r llall trwy gysylltiad uniongyrchol â hylifoedd heintus, baw adar, ac esgidiau, dillad ac offer wedi’u heintio.  

Mae adroddiadau o achosion o Ffliw’r Adar H5N8 mewn adar gwyllt a dofednod yn yr Almaen, Awstria, Croatia, Denmarc, Hwngari, yr Iseldiroedd, Poland a’r Swistir wedi arwain at godi lefel y risg o Ffliw’r Adar yn dod i’r DU drwy adar gwylltion o “Isel” i “Canolig”.  

Awgrymir i geidwaid dofednod fonitro eu hadar yn rheolaidd ac i drafod unrhyw bryderon gyda’u milfeddyg preifat ar unwaith.  Byddai defnyddio arferion bioddiogelwch da yn helpu i’w wneud yn llai tebygol i’r clefyd godi a lledaenu, ac mae’r rhain yn cynnwys:  

  • glanhau a diheintio dillad, offer a cherbydau cyn ac wedi eu defnyddio,  
  • glanhau a diheintio llochesi adar ar ddiwedd pob cylch cynhyrchu,  
  • sicrhau bod storfeydd porthiant a bwyd wedi’u gorchuddio a lleihau unrhyw gyfleoedd eraill o gysylltiad uniongyrchol gydag adar gwyllt,  
  • lleihau nifer yr ymwelwyr â’ch eiddo, ac i’r rhai sydd yn ymweld, sicrhau eu bod yn deall ac yn cadw at eich gofynion bioddiogelwch, dylid adolygu’r rhain a’u diweddaru yn rheolaidd, 
  • sicrhau bod diheintydd ar gael wrth fynedfeydd eich fferm ar gyfer y rhai hynny sy’n cyrraedd ac yn gadael.  
Dywedodd Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig: 

“Mae’n bwysig i bawb sy’n cadw dofednod barhau i fod yn wyliadwrus am arwyddion o’r clefyd yn eu haid ac i gadw lefelau bioddiogelwch uchel i leihau’r risg o’r clefyd yn lledaenu.  

“Mae cyfathrebu da hefyd yn hanfodol i reoli’r clefyd ac rwy’n annog pawb sy’n cadw dofednod i hysbysu’r gofrestr ddofednod o’u manylion a manylion eu haid, a’u diweddaru.  Bydd hyn yn sicrhau bod modd cysylltu â hwy ar unwaith mewn achos o ffliw’r adar, gan ganiatâu iddynt gymeryd camau i ddiogelu eu haid cyn gynted â phosib.”  

Meddai Christianne Glossop, Prif Swyddog Milfeddygol Cymru:  

“Er nad yw yr un o’r achosion o Ffliw’r Adar wedi bod yn y DU, mae angen i geidwaid dofednod fonitro eu heidiau yn agos am unrhyw arwydd o’r clefyd.  Yn benodol, trafferthion wrth anadlu, dolur rhydd, dodwy llai o wyau, colli archwaeth a cholli lliw ar y gwddf.  Nid yw Ffliw’r Adar yn glefyd hysbysadwy, ac felly dylid hysbysu’r awdurdodau ar unwaith os oes unrhyw amheuaeth.   

“Dylai pob ceidwad dofednod barhau eu hymdrechion i sicrhau bioddiogelwch uchel i leihau’r cysylltiad rhwng eu heidiau eu hunain ac adar gwylltion.”