Bydd pobl sy'n ei chael hi'n anodd ymdopi â chostau byw yn elwa ar bron i £5 miliwn o gyllid Llywodraeth Cymru i awdurdodau lleol eleni.
- Bron i £5 miliwn yn cael ei fuddsoddi mewn awdurdodau lleol ledled Cymru i fynd i'r afael â thlodi
- Bydd cyllid yn cefnogi cymorth bwyd brys ac atal tlodi hirdymor
- Arian ychwanegol yn cael ei ddyrannu i ardaloedd gwledig sy'n wynebu heriau penodol
Bydd y buddsoddiad gwerth £4.8 miliwn yn ariannu cymorth bwyd brys i bobl mewn argyfwng, ochr yn ochr â chymorth i atal tlodi.
Gall awdurdodau lleol ddefnyddio'r cyllid i gryfhau rhwydweithiau cymorth cymunedol fel clybiau cinio, archfarchnadoedd cymdeithasol a chaffis cymunedol. Gallant hefyd roi grantiau uniongyrchol i fanciau bwyd sy'n wynebu galw cynyddol.
Bydd y cyllid hefyd yn helpu i fynd i'r afael ag achosion sylfaenol tlodi, gan alluogi sefydliadau i gryfhau cyngor o ran costau byw i deuluoedd, gan helpu pobl i feithrin gwydnwch parhaol, nid dim ond ymdopi mewn argyfwng.
Bydd cyllid cyfalaf yn helpu sefydliadau i brynu oergelloedd, rhewgelloedd ac offer coginio, fel y gallant storio a dosbarthu mwy o fwyd, gan gynnwys cyflenwadau dros ben a fyddai fel arall yn cael ei wastraffu.
Bydd arian ychwanegol hefyd yn mynd i awdurdodau lleol gwledig, gan gydnabod yr heriau ychwanegol o ddarparu cymorth mewn ardaloedd gwledig.
Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog a Gweinidog Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb, Sioned Williams:
Ni ddylai neb yng Nghymru orfod mynd heb fwyd na ei chael hi'n anodd cael dau ben llinyn ynghyd. Bydd y cyllid hwn yn helpu awdurdodau lleol i ymateb yn gyflym i bobl mewn argyfwng ar hyn o bryd, gan hefyd adeiladu'r cymorth hirdymor sy'n helpu teuluoedd i osgoi caledi yn y dyfodol.
Rydyn ni'n gwybod bod costau byw yn parhau i roi pwysau ar aelwydydd ledled y wlad, a dyna pam rydyn ni'n targedu cymorth lle mae ei angen fwyaf. Rydyn ni am i bob rhan o Gymru gael yr adnoddau sydd eu hangen arnynt i gefnogi pobl drwy gyfnodau anodd ac adeiladu gwydnwch parhaol ar gyfer y dyfodol.
Mae cyllid blaenorol wedi helpu prosiectau fel Down to Zero i gefnogi pobl sy'n wynebu tlodi bwyd yn Rhondda Cynon Taf.
Mae Down to Zero yn darparu cynnyrch fforddiadwy, wedi'i dyfu'n lleol a heb blaladdwyr yn syth i garreg drws pobl yn Rhondda Cynon Taf. Darparwyd dros 230 o focsys llysiau ffres, cost isel yn Rhondda Cynon Taf y llynedd.
Dywedodd un o reolwyr safle Down to Zero, Llantrisant, Kevin Edwards:
Fel yr arweinydd Llysiau yn Down to Zero, fy rôl i yw helpu gyda rhedeg y safle yn gyffredinol, ac i redeg gwaith dosbarthu prosiect 'Llysh bocs'. Ar hyn o bryd rwy'n dosbarthu bocsys llysiau i 40 o deuluoedd drwy Rondda Cynon Taf.
Mae'r cynllun yn helpu teuluoedd sy'n cael trafferthion o ran tlodi bwyd gyda chyflenwadau bob tri diwrnod. Mae'n dorcalonnus clywed bod teuluoedd yn ei chael hi'n anodd bwydo eu plant, felly rwy'n falch iawn o fod yn rhan o gynllun sy'n ceisio lleihau tlodi bwyd.
Mae'r cyllid yn rhan o becyn ehangach o gymorth costau byw Llywodraeth Cymru, sy'n helpu aelwydydd i reoli pwysau ariannol, gwneud y mwyaf o'u hincwm a lleihau costau bob dydd.
Mae'r cymorth yn cynnwys; y Gronfa Gynghori Sengl, y Gronfa Cymorth Dewisol, y Rhaglen Cartrefi Clyd, talebau banc tanwydd, prydau ysgol am ddim a Bwyd a Hwyl sy'n rhaglen i ddarparu bwyd a gwella'r gwyliau ysgol.
