Neidio i'r prif gynnwy

Helpu pobl i gadw mewn cysylltiad â'u teuluoedd a'u ffrindiau lle na fu ymweliadau rheolaidd yn bosibl oherwydd cyfyngiadau COVID-19.

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Mawrth 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae pandemig COVID-19 wedi cael effaith enfawr ar y sector iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru dros y flwyddyn ddiwethaf, gyda chartrefi gofal yn profi cyfnod anodd a heriol iawn i staff, preswylwyr a pherthnasau.

Gweithiodd cartrefi gofal ledled Cymru yn ddiwyd i drefnu ymweliadau dan do, a helpu pobl i gadw mewn cysylltiad â'u teuluoedd a'u ffrindiau lle na fu ymweliadau rheolaidd yn bosibl oherwydd cyfyngiadau COVID-19.

Cyn Nadolig 2020, roedd angen ateb ar dîm Iechyd Llywodraeth Cymru a oedd yn bodloni Canllawiau Iechyd Cyhoeddus Cymru i ganiatáu ymweliadau diogel adeg y Nadolig a thu hwnt. Byddai ehangu’r lle oedd ar gael mewn cartrefi gofal yn ei gwneud yn haws cynnal ymweliadau’n seiliedig ar asesiadau risg yn ystod misoedd y gaeaf, gan fod rhai darparwyr gofal wedi ei chael yn anodd trefnu ymweliadau gan nad oedd digon o le i allu cadw at y mesurau pellter cymdeithasol.

Gweithiodd Gwasanaethau Caffael Corfforaethol Llywodraeth Cymru (CPS) gyda chydweithwyr Iechyd i ganfod a chaffael ateb oedd yn cydymffurfio â’r rheoliadau a fyddai'n caniatáu ymweliadau diogel mewn cartrefi gofal peilot yng Nghymru. Penderfynon nhw osod podiau ymwelwyr fel llwybr diogel ac addas i helpu rhai o'n pobl fwyaf agored i niwed i dreulio amser gwerthfawr gyda theulu a ffrindiau yn ddiogel.

Gwelodd y peilot gwerth £3m, sy'n cynnwys caffael, gosod a phrydlesu hyd at 100 o bodiau ymweld, bron i 80 o unedau wedi’u gosod ac yn barod i'w defnyddio cyn y Nadolig. Fel arfer, gallai caffael o’r gwerth yma gymryd 4-6 mis, ond dim ond wythnosau oedd gan y CPS a'r tîm Iechyd i ddod o hyd i ateb a'i ddarparu.

Nododd CPS 2 fframwaith addas i gael mynediad i'r gwasanaethau'n gyflym ac mewn modd a oedd yn cydymffurfio; Fframwaith Adeiladu Cydweithredol De-ddwyrain a Chanolbarth Cymru (SEWSCAP) a Fframwaith Digwyddiadau a Chyfathrebu Llywodraeth Cymru. Gweithiodd y CPS gyda'r cwsmer i sicrhau cyfanswm o dri chontract ar gyfer cyflenwi podiau ymwelwyr ledled Cymru, gan addasu'r gofynion a'r cwmpas wrth i ganllawiau gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ddatblygu.

Gosodwyd contract mewn pryd i ddarparu podiau ymwelwyr i gartrefi gofal ar gyfer ymweliadau adeg y Nadolig. Mae rhagor o gontractau wedi'u gosod ers hynny i ddarparu podiau ymwelwyr i ragor o gartrefi gofal, ac i addasu i ganllawiau newydd Iechyd Cyhoeddus Cymru wrth i ni symud ymlaen drwy'r pandemig.

Bydd dyfodiad y podiau ymweld hyn mewn cartrefi gofal yn helpu rhai o'n pobl fwyaf agored i niwed i dreulio amser gwerthfawr gyda theulu a ffrindiau yn ddiogel.

Rhagor o wybodaeth

Cysylltwch â Lisa Thomas-Lewis yn y Gwasanaethau Caffael Corfforaethol: Lisa.Thomas-lewis@llyw.cymru