Neidio i'r prif gynnwy

Mae marchogwr paralympaidd, sy’n cystadlu gyda’i cheffylau dressage, wedi gorfod trechu poen parhaus i wireddu ei breuddwydion. Mae’n canmol canllawiau diwygiedig a gafodd eu lansio gan Lywodraeth Cymru i wella canlyniadau a phrofiadau i bobl sy’n dioddef poen cronig.

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Medi 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Gall poen parhaus effeithio ar unrhyw un o unrhyw oed ar unrhyw adeg. Amcangyfrifir bod rhwng 33% a 50% o oedolion yn y DU yn byw gyda rhyw fath o boen cronig, sy’n cyfateb i oddeutu 1.3 miliwn o bobl yng Nghymru.

Gall y cyflyrau hyn gael effaith ddifrifol ar iechyd meddwl pobl, eu gallu i weithio, a’u perthynas â ffrindiau a theulu.

Cafodd canllawiau newydd ar gyfer byw gyda phoen parhaus eu lansio heddiw. Maent yn canolbwyntio ar helpu pobl i ddatblygu sgiliau i reoli’r poen parhaus eu hunain yn eu bywyd o ddydd i ddydd.

Mae hyn yn cynnwys hunanreoli â chymorth, gwella ymwybyddiaeth o boen parhaus ymysg staff gofal sylfaenol a’r cyhoedd, rhoi cyngor ar yr amrywiaeth o dechnegau rheoli ac adnoddau ar-lein sydd ar gael, a gwella sut mae gwybodaeth yn cael ei rhannu.

Torrodd Julia Godden ei chefn ym mis Gorffennaf 2018, a hynny ar ôl goroesi canser yn flaenorol. Mae’n dioddef poen parhaus yn ei chefn oherwydd ei hanaf, a phoen yn ei choes chwith a’i dwylo oherwydd effeithiau cemotherapi.

Datblygodd Julia ddulliau o ymdopi drwy fynychu cynllun Rhaglenni Addysg i Gleifion yng Ngwent, sef cynllun y mae hi ei hunan bellach yn ei redeg.

Mae wedi ennill mewn Pencampwriaethau Cenedlaethol yn cynrychioli Cymru a Phrydain, ac yn fwyaf diweddar enillodd ym Mhencampwriaethau Para’r Gaeaf 2023.

Dywedodd:

Fe wnes i ymuno â’r Riding for the Disabled Association (RDA) tra oeddwn mewn cadair olwyn ar ôl cael triniaeth cemotherapi ar gyfer canser.

Dw i wedi treulio rhan fawr iawn o fy mywyd yn gorwedd mewn gwely mewn ysbyty, a’r un peth gartref yn teimlo’n hynod o wael ac wedi f’anafu’n ddifrifol. Fe wnes benderfyniad - os oeddwn i’n ddigon da i godi o’r gwely, rhaid oedd cael nod bob amser i ganolbwyntio arno, a byddai’r nod yn fy helpu i gyflawni cymaint â phosibl tra bod cyfle i wneud hynny. Fy nodau ar hyn o bryd yw codi arian i elusennau drwy gerdded marathonau ar fy maglau, ac i gyrraedd y Gemau Olympaidd fel marchogwr para yn y gystadleuaeth dressage.

Dw i’n rheoli fy mhoen gyda dulliau a ddysges i drwy ddilyn cynllun y Rhaglen Addysg i Gleifion, a fi bellach sy’n rhedeg y rhaglen honno. Yn gyffredinol, dw i’n disgwyl i lefel fy mhoen fod o gwmpas pump allan o ddeg, ond bydd y poen yn gwaethygu gan ddibynnu ar fy llwyth gwaith, a hefyd weithiau gall jyst waethygu’n sydyn.

Dw i’n credu y bydd y canllawiau newydd hyn yn helpu i roi taw ar y syniad bod chi’n gorfod rhoi’r gorau i bopeth jyst oherwydd eich bod mewn poen. Dw i hefyd yn gobeithio y bydd y canllawiau’n rhoi mwy o hyder i bobl a’u helpu i gael hyd i gymorth ar gyfer pennu nodau a gweithio tuag atyn nhw.

Lansiodd y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan y canllawiau newydd yn y Gynhadledd gyntaf ar Boen Parhaus yng Nghymru:

Dywedodd:

Mae poen parhaus yn gallu cael effeithiau difrifol ar ansawdd bywyd unigolion â’u teuluoedd. Gyda’r wybodaeth a’r cymorth iawn, gallwn ddatblygu gwasanaethau poen parhaus mewn ffordd sy’n arwain at ganlyniadau a phrofiadau gwell i’r unigolion hyn.

Mae’n bwysig i Lywodraeth Cymru bod pobl yn cael eu helpu i chwarae mwy o rôl ymarferol yn eu gofal eu hunain. Mae’r canllawiau a gafodd eu cyhoeddi heddiw yn gwneud hynny drwy hyrwyddo egwyddorion hunanreoli, cyd-gynhyrchu, a gwneud penderfyniadau ar y cyd. Maen nhw’n gosod ffocws ar y person a’r hyn sy’n bwysig iddo, yn hytrach na chanolbwyntio ar faterion meddygol yn unig. 

Dw i’n edrych ymlaen at weithio’n agos gyda’r holl randdeiliaid allweddol yn ystod y blynyddoedd nesaf er mwyn inni allu gweithredu argymhellion y darn pwysig hwn o waith.