Neidio i'r prif gynnwy

Pwrpas

Gofynnir i aelodau’r Grŵp Llywio gynnig eu barn ar:

  • sut y dylid ymdrin â chanlyniadau ac amcanion sydd i’w blaenoriaethu gan fframwaith buddsoddi rhanbarthol newydd i Gymru.
  • y ffordd orau o gynnwys y bobl a’r sefydliadau y maent yn gweithio â hwy yn y broses o ddatblygu polisi.

Y Mater

1. Mae Llywodraeth Cymru, mewn ymateb i dystiolaeth gan randdeiliaid ac arfer gorau rhyngwladol, wedi ymrwymo i ddatblygu fframwaith sy’n seiliedig ar ganlyniadau yn lle ein cronfeydd Strwythurol a Buddsoddi Ewropeaidd yng Nghymru.

2. Mae trefn buddsoddi rhanbarthol newydd yng Nghymru yn golygu bod cyfle i nodi’r diben a’r blaenoriaethau er mwyn cyfateb i anghenion a chyfleoedd yng Nghymru yn well.

Y cyd-destun presennol

3. Mae galwadau clir am drefn buddsoddi rhanbarthol yn y dyfodol a fydd wedi’i hintegreiddio’n llawnach â deddfwriaeth a pholisïau Cymru, yn enwedig Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a’r Cynllun Gweithredu ar yr Economi.

Y Cyd-destun cyfreithiol: Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

4. Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn cynnwys set o saith Nod Llesiant a’r gofyniad bod yn rhaid i’r rhan fwyaf o gyrff cyhoeddus datganoledig – gan gynnwys Llywodraeth Cymru – wneud y cyfraniad mwyaf posibl i’r Nodau, wrth arfer eu swyddogaethau. Mae’n rhaid iddynt wneud hynny yn unol â’r pum ffordd o weithio a nodir o dan egwyddor datblygu cynaliadwy.

5. Y nodau yw canlyniadau i Gymru gyfan – ei phobl, ei heconomi, ei hamgylchedd, ei chymdeithas a’i diwylliant (Llesiant cenedlaethau’r dyfodol). Bydd y pum ffordd o weithio yn arwain y broses o weithredu a chyflawni’r trefniadau buddsoddi rhanbarthol; wedi’i llywio’n uniongyrchol gan gyd-ddatblygu â rhanddeiliaid.

6. Mae Deddfau a gofynion cyfreithiol eraill yn berthnasol i’r broses o ddatblygu polisïau, gan gynnwys deddfwriaeth cydraddoldebau, Deddf yr Amgylchedd, Deddf yr Iaith Gymraeg, a deddfwriaeth sy’n cefnogi diwygio llywodraeth leol. Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn enwedig yn ymgorffori ffocws yn y gyfraith ar set o ganlyniadau y mae gwasanaethau cyhoeddus Cymru ar y cyd yn atebol amdanynt.

Y cyd-destun cenedlaethol

7. Mae’r rhaglen lywodraethu, Ffyniant i Bawb: y strategaeth genedlaethol, yn pennu amcanion y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio tuag atynt er mwyn sicrhau ei bod yn gwneud y cyfraniad mwyaf posibl i Nodau Llesiant Cymru (Rhaglen lywodraethu).

8. Mae Ffyniant i Bawb: y Cynllun Gweithredu ar yr Economi yn disgrifio sut y bydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi economi sy’n cynyddu ein cyfoeth a’n llesiant drwy dwf cynhwysol a chynaliadwy, gan fanteisio ar y cyfleoedd i bawb sy’n bresennol neu y gellir eu creu yn ein cymunedau (y cynllun gweithredu ar yr economi). Wrth wneud hynny, mae’r Cynllun Gweithredu ar yr Economi yn sbarduno cyfraniadau at bob un o’r saith Nod Llesiant, ac yn enwedig o ran gwireddu Cymru ffyniannus; Cymru gydnerth; Cymru iachach; a Chymru sy’n fwy cyfartal.

Safbwyntiau ar gwmpas polisi hyd yma

9. Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi nifer o ymrwymiadau sy’n gysylltiedig â chwmpas polisi fframwaith buddsoddi rhanbarthol yn y dyfodol hyd yma, wedi’u llywio gan safbwyntiau rhanddeiliaid ledled Cymru. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Defnyddio Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol fel sail ar gyfer dull gweithredu sy’n canolbwyntio mwy ar ganlyniadau, gan roi pwyslais ar nodau a rennir.
  • Integreiddio â pholisi Llywodraeth Cymru. Cysoni agos iawn â’r Cynllun Gweithredu ar yr Economi, ond hefyd bolisïau ehangach y llywodraeth megis y Cynllun Cyflogadwyedd, y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol, polisi Adfywio ac eraill.
  • Dylai Llywodraeth Cymru bennu fframwaith cenedlaethol ar gyfer buddsoddi, gan bennu amcanion a rennir, ond gan gynnwys hyblygrwydd i ranbarthau ac ardaloedd lleol i bennu eu blaenoriaethau eu hunain yn seiliedig ar wybodaeth leol.
  • Symud y tu hwnt i ddibenion economaidd yn unig, a chydnabod rôl barhaus i gefnogi twf economaidd cynaliadwy a swyddi, Er enghraifft, cynhwysiant cymdeithasol, llesiant, cynaliadwyedd amgylcheddol a gwaith teg.

10. Cyflwynwyd nifer o safbwyntiau gan randdeiliaid ledled Cymru mewn ymateb i bapur polisi Buddsoddiad Rhanbarthol yng Nghymru ar ôl Brexit; ymchwiliadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru; papurau sefyllfa, ac i ni mewn cyfarfodydd a digwyddiadau. Mae’r safbwyntiau ar y polisi yn cynnwys:

  • Galw am roi hyblygrwydd i ardaloedd rhanbarthol a lleol a phrosiectau bennu eu canlyniadau eu hunain, yn gysylltiedig ag anghenion a chyfleoedd cenedlaethol a rhanbarthol. Ymhlyg â hyn mae’r gallu i benderfynu ar fesurau perfformiad wedi’u teilwra.
  • Sbarduno ‘twf cynhwysol’, sy’n golygu mynd i’r afael ag anghydraddoldebau penodol rhwng ac o fewn rhanbarthau yn gysylltiedig â lleihau tlodi, gwella gwaith a chyflog, a sicrhau bod cyfleoedd ar gael i bawb.
  • Sicrhau bod egwyddorion twf cynaliadwy yn cydnabod y cyfleoedd sydd ymhlyg wrth newid i economi carbon isel, gan gynnwys yr economi gylchol.
  • Galwadau i gydnabod pwysigrwydd yr Economi Sylfaenol yn ffurfiol.
  • Pwyslais ar hybu cynhyrchiant a gwella cystadleurwydd.
  • Galwadau am amrywiaeth eang o feysydd penodol lle y gellir targedu buddsoddiad, gyda phwyslais ar: sgiliau, arloesedd, cymorth busnes a chyllid, seilwaith, datblygu gwledig, tai a gofal cymdeithasol.
  • Awydd cryf i annog mwy o arloesi a mentro, ynghyd â lefelau mwy cymesur o lywodraethu a rheoli risg. Byddai angen i ddull gweithredu sy’n seiliedig ar ganlyniadau gydnabod gwerth arloesi, caniatáu ar gyfer methiant a dysgu gwersi.

11. Roedd rhai meysydd lle roedd safbwyntiau croes rhwng rhanddeiliaid, megis:

  • Er bod cefnogaeth gyffredinol i ffocws ar ganlyniadau, a’i fod yn cael ei ystyried yn newid cadarnhaol oddi wrth ormod o bwyslais ar fewnbynnau/allbynnau, mynegwyd rhai pryderon y gallai’r canlyniadau hyn fod yn rhy gul, y gallant ond ganolbwyntio ar yr hyn a oedd yn fesuradwy yn draddodiadol, ac y gallent fethu ag ystyried canlyniadau ‘mwy meddal’.
  • Un farn gyffredinol yw bod y pwyslais traddodiadol ar greu swyddi ym mholisïau economaidd Cymru yn fesur llwyddiant rhy gul, ond roedd gwahaniaeth barn o ran p’un a ddylai hyn gael ei ddisodli neu ei fireinio (e.e. drwy ganolbwyntio ar fannau penodol neu ymgorffori mesurau o ansawdd swyddi).
  • Roedd safbwyntiau gwahanol ar y pwyslais i’w roi ar dargedu buddsoddiadau yn seiliedig ar angen neu gyfle. Bu galwadau clir am ymgorffori angen mewn unrhyw ddyraniad cyllid is-genedlaethol, ond hefyd am ddull o fuddsoddi sy’n seiliedig ar asedau, sy’n adeiladu ar gryfderau.
  • Bu rhai galwadau i glustnodi cyllid er mwyn sicrhau yr eir i’r afael ag amcanion llai amlwg yn llawn, gan gynnwys trechu tlodi, allgáu cymdeithasol, darpariaeth y trydydd sector, ardaloedd gwledig a chymunedau pysgota.

12. Mae’r safbwyntiau hyd yma yn awgrymu bod angen cytuno ar weledigaeth gyffredin a nodi amcanion cenedlaethol sy’n ymgorffori twf cynhwysol a chynaliadwy o’r cychwyn. Bydd angen i hyn gael ei lywio gan ddadansoddiad economaidd-gymdeithasol manylach, ond gall trafodaeth gychwynnol helpu i lywio cyfeiriad y dadansoddiad hwnnw.

Gweledigaeth gyffredin: diben trefn buddsoddi rhanbarthol yng Nghymru

13. Bydd datganiad diben, neu ddatganiad cenhadaeth, ar gyfer cyllid newydd yn helpu i lywio’r broses o ddatblygu polisi ac yn helpu i sicrhau bod pawb sy’n ymwneud â’r trefniadau buddsoddi rhanbarthol yn rhannu dealltwriaeth gyffredin.

14. Dylai’r datganiad gyfeirio at safbwyntiau a nodwyd hyd yma, rhoi cyfeiriad ar gyfer datblygu polisi, a bod yn syml i’w ddeall. Gall disgrifiad posibl o ddiben cronfa buddsoddi rhanbarthol fod fel a ganlyn:

Datblygu cryfderau unigryw pob un o ranbarthau ac ardaloedd lleol Cymru, gan gefnogi twf economaidd cynhwysol a chynaliadwy, a sicrhau’r cyfleoedd gorau i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau rhanbarthol a lleol, gan gyfrannu at y Nodau Llesiant i Gymru.

Pwynt Trafod 1: A yw hyn yn mynegi datganiad cenhadaeth addas yn effeithiol?

Cymhwyso egwyddorion ffocws ar ganlyniadau at fuddsoddi rhanbarthol

15. Mae addasu model Atebolrwydd ar sail Canlyniadau4 a ddefnyddiwyd wrth lunio Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn cynnig cyfle i sicrhau cysondeb agos â’r Ddeddf a sicrhau model sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau (Friedman, Mark. 2015. Trying Hard Is Not Good Enough. Rhifyn pen-blwydd yn 10. s.l. : Sefydliad Astudiaethau Polisi Cyllid, 2015. Model Atebolrwydd ar sail Canlyniadau (RBA) Friedman sy’n sail i’r dull gweithredu hwn sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau).

16. Yn y model hwn, cytunir ar brosiectau unigol a’u mesurau perfformiad o dan strategaeth sydd â’r nod o wneud y cyfraniad mwyaf tuag at y canlyniadau a ddymunir.

17. Yn gyntaf, mae’n rhaid i ni nodi beth yw ein canlyniadau, yna lunio strategaeth a chynllun gweithredu a fydd yn cyfrannu orau, yn ein barn ni, at y canlyniadau hynny.

18. Os mai ‘pam rydym yn gwneud yr hyn rydym yn ei wneud’ yw ein canlyniadau; yna’r strategaeth yw ‘sut’ rydym yn mynd i’w wneud, a’r prosiect unigol yw ‘beth’ rydym yn mynd i’w wneud.

Adnabod ein canlyniadau a’u cadw o’n blaenau ni: atebolrwydd i’r boblogaeth

19. Pan ddefnyddiwn y term “canlyniadau” ar gyfer system sy’n gweithio yn y modd hwn, rydym yn golygu rhywbeth sy’n gymwys i’r boblogaeth gyfan ac yn disgrifio cyflwr sy’n rhan o lesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a/neu ddiwylliannol y boblogaeth honno. Ar y lefel hon, mae’r gweithgarwch yn y system yn ei chyfanrwydd yn atebol i’r boblogaeth yn ei chyfanrwydd; ac mae dangosyddion yn mesur cynnydd cyffredinol. Disgrifir y lefel hon eisoes yng Nghymru gan y Nodau Llesiant (Atodiad A) a’r Dangosyddion Cenedlaethol.

20. Mae Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar greu Cerrig Milltir Cenedlaethol sy’n gysylltiedig â’r Dangosyddion Cenedlaethol, er mwyn mesur cynnydd tuag at y Nodau Llesiant. Ceir y rhestr arfaethedig o ddangosyddion a gaiff eu defnyddio i bennu Cerrig Milltir Cenedlaethol yn Atodiad B.

Sut i benderfynu beth i’w wneud: llunio strategaeth a dewis amcanion

21. Mae strategaeth yn nodi sut y bwriedir sicrhau’r cyfraniad at y canlyniadau. Mae’n nodi’r blaenoriaethau i weithio arnynt er mwyn sicrhau’r canlyniadau gorau. Mae’n cynnwys meini prawf penodol sy’n helpu i nodi pa gamau i’w cymryd a pha brosiectau i’w hariannu.

22. Mae fframwaith cenedlaethol i lywio buddsoddi rhanbarthol yn y dyfodol ar lefel briodol i ddatblygu strategaeth sy’n ategu amcanion sy’n bodoli eisoes sydd ar waith o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, Yn bwysig ddigon, bydd angen i’r fframwaith hwn adlewyrchu’r dirwedd strategol ehangach yng Nghymru, a adlewyrchir yn y Nodau Llesiant a chynlluniau a strategaethau cysylltiedig.

Sut rydym yn dylunio: o ganlyniadau i weithgarwch

Image

Cysoni strategol

23. Bydd fframwaith rhanbarthol newydd yn helpu i lywio buddsoddiadau ar lefel genedlaethol, ranbarthol a lleol drwy flaenoriaethu amcanion sy’n cyfrannu at yr canlyniadau a’r cerrig milltir o dan y Ddeddf Llesiant. Ond ni all weithredu ar ei ben ei hun. Mae galw clir am fwy o integreiddio polisi, a bydd angen i’r fframwaith cenedlaethol hwnnw gael ei lywio’n uniongyrchol a’i arwain gan y cyd-destun polisi ehangach yng Nghymru. Rhoddir amlinelliad cychwynnol o fframwaith posibl isod.

Fframwaith polisi ar gyfer buddsoddi rhanbarthol ar ôl Brexit

Image

24. Er bod hwn yn cynrychioli rhannau allweddol o dirwedd bolisi Cymru, bydd polisïau a ffrydiau ariannu i’r DU gyfan yn berthnasol hefyd. Er enghraifft, Strategaeth Ddiwydiannol y DU, sy’n cynnig ariannu sylweddol, neu waith Ymchwil ac Arloesedd y DU sydd wedi arwain at gynnydd sylweddol mewn cyllid yn y DU gyfan.

25. Er ein bod yn gadael yr UE, rydym yn gobeithio gallu parhau i gymryd rhan mewn nifer o raglenni’r UE megis Horizon 2020, Erasmus a Chydweithredu Tiriogaethol Ewropeaidd. Mae polisi’r UE hefyd yn cynnig llawer o wersi, o ystyried natur fyd-eang yr heriau a wynebir gan ranbarthau ledled yr UE.

Rheoli prosiectau a ariennir ar gyfer canlyniadau: atebolrwydd o ran perfformiad

26. Ar lefel atebolrwydd o ran perfformiad y mae cyfraniadau unigol tuag at y canlyniadau yn cael eu diffinio a’u cofnodi.

27. Bydd gan y pethau a ariennir yn uniongyrchol - prosiectau unigol - eu mesurau eu hunain o lwyddiant, yn dibynnu ar yr hyn y maent yn ceisio ei gyflawni. Mewn system sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau, gallai’r rhain ymddangos ychydig yn wahanol i fesurau traddodiadol, a all fod wedi cyfrif allbynnau yn draddodiadol heb gynnwys mesur effaith.

28. Mae mesurau perfformiad sy’n gymwys i bob un o’r prosiectau o fewn y system yn mesur maint yr ymdrech a wnaed, ansawdd yr ymdrech a wnaed; ac effaith wirionedd y ddau beth hynny gyda’i gilydd.

29. Cyhyd ag y bônt yn ddefnyddiol, mae mesurau perfformiad yn bwydo i mewn i’r broses cyllidebu prosiectau neu barhad y broses gyllido (e.e. ar lefel prosiect, leol, ranbarthol neu genedlaethol). Bydd deall pam y newidiodd y mesurau, gan adlewyrchu’r gwersi o ran sut mae’r prosiect yn datblygu ac yn newid yn ystod ei oes, yn sbarduno gwelliant.

Sut rydym yn cyflawni: o weithgarwch i ganlyniadau

Image

Yn ymarferol: fframwaith cenedlaethol ar gyfer buddsoddi rhanbarthol

30. Felly, bydd y fframwaith arfaethedig i Gymru gyfan ar gyfer buddsoddi rhanbarthol yn disgrifio’r strategaeth a’r amcanion sy’n diffinio’r haen atebolrwydd o ran perfformiad, gan ddisgrifio cyfraniad disgwyliedig dull buddsoddi rhanbarthol newydd at y Nodau Llesiant.

31. Gallai’r amcanion hyn, yn syml, atgynhyrchu Cerrig Milltir Cenedlaethol perthnasol (sy’n cael eu datblygu), neu, gallem geisio diffinio amcanion mwy penodol, er mwyn egluro cwmpas buddsoddiadau yn y dyfodol.

32. Os defnyddir y Cerrig Milltir Cenedlaethol yn unig, byddai’r Dangosyddion Cenedlaethol yn cael eu defnyddio i fonitro cynnydd y fframwaith cenedlaethol yn gyffredinol. Fodd bynnag, mae’r Dangosyddion yn agored i lawer o ddylanwadau gwahanol a gall fod yn anodd mesur effaith.

33. Os ydym yn ceisio datblygu amcanion a dangosyddion mwy penodol neu wedi’u teilwra, byddai angen iddynt adlewyrchu effaith ddisgwyliedig y fframwaith buddsoddi yn fwy agos.

34. Ym mhob achos, mae dull gweithredu sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau yn golygu y bydd angen i benderfyniadau buddsoddi unigol gael eu sbarduno gan y cyfraniad at ganlyniadau, yn hytrach na dangosyddion yn unig, er mwyn osgoi ymddygiadau sy’n mynd yn groes i’w gilydd.

35. Gellid cymhwyso dulliau gweithredu cyfatebol ar lefel ranbarthol a lleol er mwyn egluro cwmpas amcanion a gweithgarwch posibl wrth i flaenoriaethau ganolbwyntio fwy ar ardaloedd o gyfle neu angen penodol.

Image

Pwynt trafod 2:

  1. A ddylai’r Cerrig Milltir Cenedlaethol newydd weithredu fel amcanion ar gyfer fframwaith buddsoddi rhanbarthol i Gymru neu a ddylid pennu amcanion mwy penodol neu wedi’u teilwra?
  2. Os ceisir amcanion mwy penodol, pa feysydd nad ydynt eisoes wedi’u cwmpasu yn y cynigion ar gyfer Cerrig Milltir Cenedlaethol yn Atodiad B a ddylai gael eu cynnwys? A oes unrhyw is-setiau o’r Cerrig Milltir Cenedlaethol y dylid eu hystyried?
  3. Pa waith dadansoddi pellach sydd ei angen i lywio trafodaethau ar bennu amcanion?

Y camau nesaf

36. Gan adlewyrchu trafodaethau’r grŵp, caiff set gychwynnol o amcanion ar gyfer fframwaith buddsoddi rhanbarthol i Gymru gyfan eu datblygu i’w trafod yn y cyfarfod nesaf.

37. Caiff rhagor o waith dadansoddi cysylltiedig ei wneud, gan gynnwys:

  • dadansoddiad economaidd-gymdeithasol a fydd yn llywio’r broses fanylach o ddatblygu amcanion ar gyfer fframwaith buddsoddi rhanbarthol
  • casglu gwersi o ddulliau buddsoddi hanesyddol, gan ganolbwyntio i ddechrau ar: ymchwil ac arloesedd, cymorth i fusnesau (gan gynnwys offerynnau ariannol) sgiliau; seilwaith; a chyflogadwyedd
  • bydd unrhyw ganfyddiadau cynnar o waith gyda’r Sefydliad Datblygiad a Chydweithrediad Economaidd ar systemau monitro a gwerthuso ym mhob rhan o’r llywodraeth yn llywio’r broses o ddatblygu fframwaith perfformiad yn y dyfodol yn uniongyrchol.

Pwynt Trafod 3:

  1. A oes unrhyw feysydd gwaith eraill yr hoffai’r aelodau weld yn cael eu blaenoriaethu er mwyn llywio trafodaethau yn y dyfodol?
  2. Sut y gallwch chi a’ch etholwyr gefnogi’r gwaith hwn, gan gynnwys unrhyw gyfleoedd ar gyfer cyd-gynhyrchu?

Atodiad A: Y Nodau Llesiant

Cymru Lewyrchus

Cymdeithas arloesol, gynhyrchiol, carbon isel sy’n cydnabod y terfynau sydd ar yr amgylchedd byd-eang ac sydd, o ganlyniad, yn defnyddio adnoddau mewn modd effeithlon a chymesur (gan gynnwys gweithredu ar newid yn yr hinsawdd); ac sy’n datblygu poblogaeth fedrus ac addysgedig mewn economi sy’n cynhyrchu cyfoeth ac yn cynnig cyfleoedd cyflogaeth, gan ganiatáu i bobl fanteisio ar y cyfoeth a gynhyrchir drwy gael gafael ar waith addas.

Cymru Gydnerth

Cenedl sy’n cynnal ac yn gwella amgylchedd naturiol bioamrywiol gydag ecosystemau iach gweithredol sy’n cynnal cydnerthedd cymdeithasol, economaidd ac ecolegol ynghyd â’r gallu i addasu i newid (er enghraifft newid yn yr hinsawdd).

Cymru Iachach

Cymdeithas lle mae llesiant corfforol a meddyliol pobl cystal â phosibl a lle deellir dewisiadau ac ymddygiadau sydd o fudd i iechyd yn y dyfodol.

Cymru fwy cyfartal

Cymdeithas sy’n galluogi pobl i gyflawni eu potensial ni waeth beth fo’u cefndir neu eu hamgylchiadau (gan gynnwys eu cefndir a’u hamgylchiadau cymdeithasol-economaidd).

Cymru o gymunedau cydlynol

Cymunedau atyniadol, hyfyw a diogel sydd â chysylltiadau da.

Cymru â diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu

Cymdeithas sy'n hyrwyddo ac yn gwarchod diwylliant, treftadaeth a'r Gymraeg ac sy'n annog pobl i gyfranogi yn y celfyddydau, a chwaraeon a gweithgareddau hamdden.

Cymru sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang

Cenedl sydd, wrth iddi gymryd camau i wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru, yn ystyried a allai camau o’r fath gyfrannu'n gadarnhaol at lesiant byd-eang.

Atodiad B: Dangosyddion drafft ar gyfer cerrig milltir cenedlaethol – sy’n destun ymgynghoriad

Sut fedrwn ni helpu Gweinidogion Cymru i fesur cynnydd y genedl?

Ceir crynodeb isod o'r ffordd y bydd cerrig milltir cenedlaethol gyda'i gilydd yn helpu i ddarparu asesiad cytbwys o'r cynnydd tuag at y saith nod llesiant.

Y Gymru a garem

Ein hamcanion cyffredin - saith nod llesiant Cymru

  1. Cymru Lewyrchus
  2. Cymru Gydnerth
  3. Cymru Iachach
  4. Cymru fwy cyfartal
  5. Cymru o gymunedau cydlynol
  6. Cymru â diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu
  7. Cymru sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang
Y ffordd y byddwn yn gosod graddfa a chyflymder y newid
Dangosyddion cenedlaethol arfaethedig y byddwn yn gosod y cerrig milltir cenedlaethol yn eu herbyn1234567
02. Disgwyliad oes iach adeg geni gan gynnwys y bwlch rhwng y bobl fwyaf a lleiaf difreintiedig.  34   
03. Canran yr oedolion sydd â dau ymddygiad iach neu fwy o ran eu ffordd o fyw.  3456 
05. Canran y plant sydd â dau ymddygiad iach neu fwy o ran eu ffordd o fyw.  345  
07. Sgôr 9 pwynt gyfartalog disgyblion wedi’i chapio, gan gynnwys y bwlch rhwng y rhai sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim a’r rhai nad ydynt yn gymwys.1  4 6 
08. Canran yr oedolion â chymwysterau ar y gwahanol lefelau yn y Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol.1 34   
10. Incwm Gwario Gros Aelwydydd y pen.1 34   
17. Gwahaniaeth cyflog o ran rhyw, anabledd ac ethnigrwydd.1  4   
18. Canran y bobl sy’n byw mewn aelwydydd mewn tlodi incwm o’i gymharu â chanolrif y DU, wedi’i fesur ar gyfer plant, pobl o oedran gweithio a phobl o oedran pensiwn.1234567
21. Canran y bobl sydd mewn gwaith.1 34   
22. Canran y bobl mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant, wedi’i mesur ar gyfer gwahanol grwpiau oedran.1 345  
23. Y ganran sy’n teimlo’u bod yn gallu dylanwadu ar benderfyniadau sy’n effeithio ar eu hardal leol.   45 7
29. Sgôr llesiant meddyliol cymedrig ar gyfer pobl.  34   
37. Nifer y bobl sy'n gallu siarad Cymraeg.    567
41. Allyriadau nwyon tŷ gwydr yng Nghymru.123   7
44. Statws amrywiaeth fiolegol yng Nghymru.12  567