Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig wedi cyhoeddi ei bod yn bwriadu diwygio polisi cynllunio cenedlaethol Cymru mewn ymgais i gefnogi lleoliadau cerddoriaeth fyw.

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Mai 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Ysgrifennydd y Cabinet am gyfeirio’n benodol at yr egwyddor o ‘Asiant dros Newid’ o fewn y polisi cynllunio cenedlaethol.  O dan yr egwyddor hwn, os y caiff datblygaidau newydd, megis fflatiau neu westai, eu hadeiladu yn agos at leoliad cerddoriaeth fyw, er enghraifft, cyfrifoldeb y datblygwr fydd rheoli effaith y newid a rheoli’r sŵn.  Yn ymarferol, golyga hyn y bydd y datblygwr yn talu am atebion megis deunydd atal sŵn.  

Mae Lesley Griffiths wedi cadarnhau hefyd y bydd Polisi Cynllunio Cymru yn cael ei ddiweddaru i ddynodi ardaloedd o bwysigrwydd diwylliannol ym maes cerddoriaeth o fewn Cynlluniau Datblygu Lleol.  

Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi penderfynu diweddaru polisi cynllunio cenedlaethol Cymru yn dilyn ymgyrch gyhoeddus amlwg, yn Womanby Street yng nghanol dinas Caerdydd, lle y mae nifer o leoliadau ar gyfer cerddoriaeth fyw.  Mae defnyddio’r egwyddor o ‘Asiant dros Newid’ yn y polisi cynllunio cenedlaethol a dynodi ardaloedd o bwysigrwydd diwylliannol ar gyfer cerddoriaeth yn ddau o amcanion canolog yr ymgyrch. 

Yn ystod yr ymweliad â Stryd Womanby dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet:

“Mae lleoliadau cerddoriaeth fyw yn cyfrannu’n fawr at ddiwylliant Cymru a’n heconomi liw nos.  Dwi’n ymwybodol o’r  ymdrechion i ddiogelu’r lleoliadau hyn at y dyfodol, gan gynnwys ymgyrch “Achub Stryd Womanby” yng Nghaerdydd, a hoffwn dalu ternged i waith caled ac ymrwymiad pawb fu’n rhan o hyn.  

“Er bod bywiogrwydd ardaloedd fel Stryd Womanby yn dibynnu ar nifer o wahanol garfanau, gan gynnwys awdurdodau lleol, y lleoliadau eu hunain a’u cwsmeriaid, rwyf wedi clywed y galwadau i ddiweddaru ein polisi cynllunio cenedlaethol er mwyn diogelu lleoliadau cerddoriaeth fyw.  

“Dwi’n falch iawn, felly, o gadarnhau fy mod wedi gofyn i’m swyddogion ddechrau diwygio Polisi Cynllunio Cymru cyn gynted â phosib.  

“Dwi’n siŵr y bydd y newyddion hwn yn newyddion gwych i gefnogwyr cerddoriaeth fyw ac rwy’n gobeithio y bydd gan yr awdurdodau cynllunio lleol yr hyder i ddefnyddio’r mesurau hyn wrth ystyried ceisidadau cynllunio."