Neidio i'r prif gynnwy

Sut a pham rydym yn hyrwyddo gweithio o bell.

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Medi 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Newidiodd COVID-19 y ffordd yr ydym yn byw, yn gweithio, yn teithio ac yn cymdeithasu. Bu llawer o bobl yn gweithio i ffwrdd o weithle canolog yn ystod y cyfnod clo. Rydym bellach yn awyddus i gydweithio â sefydliadau er mwyn cefnogi newid hirdymor a fydd yn annog rhagor o bobl i weithio o bell.

Ymysg y manteision ar gyfer economïau lleol, busnesau, unigolion a’r amgylchedd mae:

  • lleihad mewn amser teithio a llai o gostau
  • rhagor o hyblygrwydd a gwell cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith
  • gwell cynhyrchiant
  • llai o draffig, ac yn arbennig yn ystod yr oriau brig
  • llai o lygredd aer a sŵn
  • y cyfle i ailddylunio ein trefi a chanol ein dinasoedd

Hoffem weld gweithwyr yn gallu dewis lle maent yn gweithio. Mae hyn yn cynnwys y gweithle canolog, eu cartref, neu leoliad gwaith sy’n agos i gartref.

Beth yw gweithio o bell?

Gwethio o Bell yw gweithio y tu allan i swyddfa draddodiadol neu safle gwaith ‘canolog’. Mae’n cynnwys gweithio o gartref ac yn agos i gartref.

Pam rydym yn ei wneud

Yn ystod pandemig COVID-19, roedd yn rhaid i nifer o bobl weithio o gartref i arafu lledaeniad y feirws. Arweiniodd hyn at fanteision i weithwyr, cymunedau lleol a’r amgylchedd gan gynnwys.   

  • llai neu ddim cymudo a chydbwysedd gwell rhwng bywyd a gwaith 
  • llai o dagfeydd, llygredd yn yr aer a sŵn mewn rhai ardaloedd
  • mae llai o draffig yn golygu rhagor o le i feicwyr a cherddwyr
  • rhagor o gyfleoedd ar gyfer swyddi y tu allan i drefi, a rhagor o weithwyr ar gael ar gyfer cyflogwyr 
  • manteision economaidd a chymdeithasol i strydoedd mawr lleol
  • caniatáu i bobl anabl weithio mewn lle sy’n cefnogi eu hanghenion
  • mwy o gyfleoedd i bobl sy’n ei chael hi’n anodd teithio.

Gwyliwch ein fideo i weld sut mae gweithio o bell yn gallu bod o fantais i bobl anabl.

Fydd yn rhaid i fusnesau newid eu ffordd o weithio?

Hoffem weld 30% o weithwyr Cymru yn gweithio gartref neu yn agos at eu cartref yn rheolaidd. Nid yw’n ofynnol i fusnesau wneud hyn ond mae llawer o gyflogwyr eisoes wedi mabwysiadu y newidiadau i’r ffordd y mae pobl yn gweithio.  

Hoffem i fusnesau a gweithwyr newid sut y gall gweithio gartref fod o fydd iddynt. Mae llawer o bobl a busnesau am barhau i weithio yn y ffordd mwy hyblyg hon. Gallai hyn olygu cyfuniad o weithio yn y  gweithle canolog, gartref neu mewn lleoliad gwaith yn eich cymuned leol – gelwir hyn yn gweithio o bell.  
Er enghraifft: 

  • gallai gweithiwr llawn amser benderfynu gweithio 2 ddiwrnod yn y swyddfa a 3 diwrnod yn y cartref neu’n agos at y cartref (gweithio o bell am 60% o’r amser)
  • gallai rhywun sy’n gweithio 3 diwrnod yr wythnos weithio 1 diwrnod o’r cartref a 2 ddiwrnod yn y swyddfa (gweithio o bell am 33% o’r amser)  

Lleoliadau gwaith lleol 

Rydym wedi derbyn llawer o ddiddordeb gan gymunedau sydd am ddefnyddio lleoliadau gwaith lleol. Bydd y lleoliadau hyn yn:

  • galluogi pobl i weithio’n agos at eu cartref
  • galluogi unigolion i weithio gyda’i gilydd yn eu cymuned leol
  • darparu lle ar gyfer y rhai nad ydynt yn gallu neu’n dymuno gweithio gartref

Mae nifer o safleoedd wedi ymuno â'n rhwydwaith o leoliadau gwaith. Mae rhai at ddefnydd staff y sector cyhoeddus yn unig ond mae nifer i'w defnyddio gan y cyhoedd.

Dewch o hyd i'ch canolfan gweithio o bell leol.

Nid yw'r lleoliadau hyn yn cynrychioli pob lleoliad gwaith yng Nghymru. Os oes gennych fusnes sy’n cynnig lleoliad gwaith lleol a hoffech roi ei fanylion ar ein gwefan, cysylltwch â ni ar: RemoteWorking@llyw.cymru   

Gwaith ymgysylltu â’r cyhoedd ynghylch gweithio o bell

Gwnaethom gynnal arolwg rhwng mis Chwefror a mis Mawrth 2021 a oedd yn gofyn:

  • ble hoffech weld canolfannau gweithio a rennir
  • sut rydych yn teimlo am y ffordd hon o weithio

Gweld y crynodeb o ymatebion i arolwg 2021.

Gweithio’n glyfar: strategaeth Cymru ar gyfer gweithio o bell

Mae'r Strategaeth Cymru ar gyfer gweithio o bell hon yn amlinellu ein dull o geisio cael 30% o weithlu Cymru yn gweithio gartref neu'n agos ato. Mae'n nodi manteision economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol gweithio o bell. Mae'n esbonio sut rydym yn bwriadu ymgorffori gweithio o bell ar gyfer y tymor hir yn y gweithle yng Nghymru.

Asesiad effaith integredig

Rydym wedi cynnal asesiadau effaith ar feysydd y gallai'r strategaeth effeithio arnynt, megis:

  • iechyd
  • yr amgylchedd
  • pobl â nodweddion gwarchodedig
  • yr iaith Gymraeg.