Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg

Mae'r adroddiad hwn yn cyflwyno crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad ar y polisi a ffefrir ar hydrogen.

Y Camau i’w Cymryd

Mae’r ddogfen hon er gwybodaeth yn unig.

Rhagor o wybodaeth a dogfennau cysylltiedig

Mae fersiynau print bras a Braille o'r ddogfen hon ar gael ar gais ynghyd â chopïau mewn ieithoedd eraill.

Manylion cyswllt

Am ragor o wybodaeth:
Is-adran Ynni
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
E-bost: energypolicymailbox@llyw.cymru

Copïau ychwanegol

Cyhoeddir y crynodeb hwn o'r ymatebion a chopïau o'r holl ddogfennau ymgynghori ar ffurf electronig yn unig. Maent ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.

ISBN: 978-1-80633-976-1

Cyflwyniad a chefndir

Ym mis Chwefror 2025, ymgynghorodd Llywodraeth Cymru ar y polisi strategol a ffefrir ar hydrogen. Drafftiwyd y polisi fel rhan o'n hymateb i'r argyfwng hinsawdd a'r argyfwng natur. Ei nod yw annog datgarboneiddio cynaliadwy ac osgoi dad-ddiwydiannu. 

Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng 21 Chwefror 2024 a 30 Mai 2025. Gofynnodd am farn yr ymatebwyr ar bolisi a fyddai'n cefnogi cynhyrchu a defnyddio hydrogen wedi'i dargedu yn yr achosion canlynol: 

  • pan fydd yn gwneud cyfraniad clir, mesuradwy a pharhaus at ddatgarboneiddio, y broses o gefnu ar ddefnyddio tanwydd ffosil, a ffyniant ar gyfer Cymru (wedi'u hategu â thystiolaeth)
  • pan fydd yr hydrogen yn bodloni gofynion Safon Hydrogen Carbon Isel y DU
  • pan fydd datblygwr/datblygwyr yn gallu cyflwyno tystiolaeth eu bod yn cyfrannu at broses bontio deg ar gyfer y cymunedau a'r diwydiannau hynny y mae defnyddio hydrogen yn effeithio arnynt

Ceisiodd yr ymgynghoriad safbwyntiau diwydiant, y rhai sy'n cynhyrchu pŵer, y cyhoedd a rhanddeiliaid eraill. Mae’r adroddiad hwn yn crynhoi’r materion a grybwyllwyd yn yr ymatebion i’r ymgynghoriad, a hefyd yn cyflwyno ymateb Llywodraeth Cymru i’r materion hyn.

Rydym wedi ystyried pob ymateb yn ystod ein dadansoddiad. Fodd bynnag, rydym wedi anelu at gyflwyno crynodebau byr ac rydym wedi canolbwyntio ar y pwyntiau sy’n ateb y cwestiynau’n uniongyrchol. Cyflwynodd rhai rhanddeiliaid ymatebion cyffredinol, yn hytrach nag ymateb yn uniongyrchol i gwestiynau unigol, ac efallai eu bod wedi cyflwyno atodiadau/tystiolaeth ychwanegol ochr yn ochr â’u cyflwyniadau. Er na chynhwysir y rhain yng nghwmpas y ddogfen isod, maent wedi cael eu hystyried a byddant yn parhau i gael eu hystyried wrth i’n polisïau gael eu datblygu.

Ymateb cyffredinol

Roedd yr ymgynghoriad yn cynnwys saith cwestiwn. Roedd tri chwestiwn yn canolbwyntio ar y sefyllfa bolisi a ffefrir, dau ar effaith bosibl y polisi ar y Gymraeg, un ar natur yr ymatebydd, ac roedd opsiwn i roi gwybodaeth ychwanegol nad oedd yn cael ei chwmpasu gan unrhyw gwestiwn penodol. 

Derbyniwyd chwe deg dau o ymatebion i'r ymgynghoriad, pum deg wyth ohonynt naill ai'n gyfan gwbl neu'n rhannol yn ymateb yn uniongyrchol i'r cwestiynau a ofynnwyd. 

Rhoddodd rhai o’r cwestiynau ymateb cadarnhaol neu negyddol clir. Roedd ymatebion eraill braidd yn amwys, a chyflwynodd yr ymatebwyr gyd-destun a gwybodaeth ychwanegol. Nid yw pob ymatebydd wedi ateb pob cwestiwn. Fodd bynnag, dim ond yr ymatebion hynny a gyflwynwyd yn ffurfiol, naill ai trwy e-bost neu drwy bwyso’r botwm cyflwyno yn yr arolwg ar-lein, a ystyriwyd yn y dadansoddiad.

Yn Ffigur 1, ceir dadansoddiad lefel uchel o gwestiynau un a dau, lle caiff ymatebion sy'n cytuno ac sy'n gefnogol, neu ymatebion sy'n anghytuno ac sy'n anghefnogol, eu cyfuno i greu darlun cyffredinol. Mae Ffigur 1 yn awgrymu bod barn yr ymatebwyr ynglŷn â’r polisi strategol arfaethedig yn gadarnhaol ar y cyfan. Fodd bynnag, mae'r ymatebion i gwestiwn dau yn ei gwneud yn glir bod angen gwybodaeth a chanllawiau ychwanegol i sicrhau y gall Polisi Cynllunio Cymru roi effaith i'r polisi arfaethedig. 

Image
Ffigur 1 – Graff bar sy'n dangos dadansoddiad yr ymatebion i gwestiynau un a dau. Cwestiwn Un: Roedd 71% yn cytuno'n uniongyrchol neu'n gefnogol yn gyffredinol, 29% yn anghytuno'n uniongyrchol neu'n anghytuno'n gyffredinol.  Cwestiwn Dau Roedd 31% yn cytuno'n uniongyrchol neu'n gefnogol yn gyffredinol, 69% yn anghytuno'n uniongyrchol neu'n anghytuno'n gyffredinol.
Ffigur 1.
Cwestiwn Un: Roedd 71% yn cytuno'n uniongyrchol neu'n gefnogol yn gyffredinol, 29% yn anghytuno'n uniongyrchol neu'n anghytuno'n gyffredinol.  
Cwestiwn Dau Roedd 31% yn cytuno'n uniongyrchol neu'n gefnogol yn gyffredinol, 69% yn anghytuno'n uniongyrchol neu'n anghytuno'n gyffredinol.

Cwestiwn 1

A ydych yn cytuno â'r polisi a amlinellir yn y ddogfen hon? Os nad ydych, nodwch beth rydych yn anghytuno ag e' a'ch rhesymau dros anghytuno/

Cafwyd 58 o ymatebion i gwestiwn un, ac o'r rhain, roedd 30 o ymatebion yn cytuno'n glir â'r polisi arfaethedig. Roedd 16 o ymatebion yn anghytuno â'r polisi. Roedd 11 ymateb yn cytuno’n rhannol, ac roedd un ymateb yn anghytuno’n rhannol. Felly, roedd bron i 71% o'r ymatebion yn cytuno neu'n cytuno'n rhannol â'r polisi arfaethedig. Roedd 29% o ymatebion eraill yn anghytuno neu'n anghytuno'n rhannol. 

Fodd bynnag, mae’n amlwg ar sail yr ymatebion fod y datganiadau cefnogol ac anghefnogol, fel ei gilydd, yn amwys ac yn amodol ar faterion allweddol. Isod, cyflwynir dadansoddiad manwl o’r cwestiynau. 

Pwyntiau allweddol a godwyd mewn ymatebion i gwestiwn un

Safbwyntiau ynghylch y Safon Hydrogen Carbon Isel 

Roedd mwyafrif yr ymatebion yn gefnogol o wneud y polisi yn gydnaws â Safon Hydrogen Carbon Isel (LCHS) Llywodraeth y DU, o ran hwyluso mynediad at gymorth Llywodraeth y DU sy'n seiliedig ar gyflawni'r LCHS, a'r ffocws ar ddwysedd carbon yn hytrach na thechnoleg benodol i gynhyrchu hydrogen. Roedd nifer o'r farn bod ffocws ar ddwysedd carbon yn annog arloesedd a allai fod yn anodd ei gyflawni pe bai dull mwy rhagnodol o ran technoleg yn cael ei fabwysiadu.

Fodd bynnag, roedd rhai ymatebwyr yn teimlo bod y ffocws ar ddwysedd carbon, ynghyd â'r datganiad y dylid osgoi defnyddio tanwydd ffosil, yn arwydd y byddai hydrogen electrolytig (hydrogen gwyrdd) yn cael ei ffafrio dros hydrogen sy'n deillio o danwydd ffosil (hydrogen glas). Ar y llaw arall, roedd eraill yn teimlo y gallai'r dull niwtral hwn o ran technoleg , nad oedd yn eithrio'r defnydd o danwydd ffosil yn benodol, annog defnydd pellach o danwydd ffosil.   

Roedd sawl ymatebydd o'r farn y dylai Cymru gael cyfnod o ddefnyddio hydrogen "glas" (hydrogen sy'n deillio o danwydd ffosil gyda Dal a Storio Carbon (CCS)), gan fod hydrogen glas yn bwysig i dyfu'r farchnad wrth drosglwyddo i ddulliau cynhyrchu carbon is. Ar y llaw arall, roedd eraill yn teimlo na ddylem ddibynnu ar CCS i gynhyrchu hydrogen carbon is gan y byddai unrhyw hydrogen sy'n deillio o danwydd ffosil yn ein gorfodi i echdynnu a defnyddio tanwydd ffosil yn ehangach yn yr economi.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Mae'r LCHS yn gosod uchafswm trothwy allyriadau nwyon tŷ gwydr (GHG) ar gyfer cynhyrchu hydrogen, sef 20g CO₂e fesul MJ o hydrogen ar y pwynt cynhyrchu ar hyn o bryd. Er mwyn cymryd rhan yn Rowndiau Dyrannu Hydrogen Llywodraeth y DU, rhaid i brosiect gydymffurfio â'r LCHS. Gall prosiectau hydrogen electrolytig (gwyrdd) a CCS (glas) gyflawni'r LCHS.

Mae Llywodraeth Cymru o'r farn y bydd cydymffurfio â'r safon yn helpu i sicrhau bod cynhyrchu hydrogen carbon isel newydd yn cyfrannu'n uniongyrchol at ein targedau lleihau carbon. Yn ogystal, mae defnyddio hydrogen LCHS yn cyd-fynd â pholisi Llywodraeth Cymru â pholisi Llywodraeth y DU, dull modelau busnes Llywodraeth y DU a chymorth ariannol cysylltiedig. Mae mabwysiadu dull cyson ledled y DU yn osgoi creu rhwystrau rheoleiddiol ac yn hwyluso datblygiadau seilwaith trawsffiniol.

Bydd Llywodraeth y DU yn adolygu'r LCHS yn rheolaidd i sicrhau ei fod yn parhau i fod yn addas i'r diben ac yn adlewyrchu dealltwriaeth gynyddol o sut mae technolegau newydd yn gweithio yn ymarferol, gan gynnwys sut mae'r diwydiant cynhyrchu hydrogen yn rhyngweithio â'r system ynni ehangach a safonau ehangach. Bydd Llywodraeth Cymru, drwy amrywiol weithgorau rheoleiddio a Gweinidogol, yn parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU i lywio datblygiad y safon. 

Safbwyntiau ynghylch y posibilrwydd y gallai’r polisi arfaethedig esgor ar faich gweinyddol a allai atal buddsoddiad yng Nghymru

Gofynnodd nifer o'r ymatebion am fwy o eglurder ynglŷn â’r dystiolaeth sy’n ofynnol i fodloni’r polisi. Hefyd, mynegwyd rhai pryderon ynglŷn â’r posibilrwydd y gallai’r polisi arfaethedig esgor ar rwystrau cydsynio ychwanegol ar gyfer cynhyrchu a defnyddio hydrogen yng Nghymru, sef rhywbeth a allai arwain at niweidio buddsoddiad mewn datgarboneiddio yng Nghymru, o gymharu â’r Alban a Lloegr.  Roedd llawer o ymatebion yn tynnu sylw at yr angen i sicrhau nad oes baich gweinyddol ychwanegol yng Nghymru, bod eglurder ynghylch sut y byddai'r polisi yn cael ei gymhwyso i benderfyniadau cydsynio a chyllido, ac aliniad cryf â pholisi Llywodraeth y DU. 

Awgrymodd nifer fach o ymatebion hefyd y gallai'r polisi arwain at ddyblygu gofynion tystiolaeth gan fod angen cydymffurfio â'r LCHS eisoes fel rhan o Fodel Busnes Cynhyrchu Hydrogen (HPBM) Llywodraeth y DU, bod safonau amgylcheddol llym eisoes ar waith, ac mae'r Cynllun Masnachu Allyriadau (ETS) eisoes yn annog cynhyrchwyr i leihau allyriadau. 

Roedd llawer o ymatebion yn tynnu sylw at bwysigrwydd alinio â pholisi a strategaethau datgarboneiddio ynni a datgarboneiddio ehangach Cymru a Llywodraeth y DU, gyda rhai yn awgrymu bod anghysondeb rhwng meysydd polisi a gofynion rheoleiddio. 

Roedd nifer o ymatebwyr yn cydnabod pwysigrwydd pontio teg i sero net, a'r angen i sicrhau bod defnyddio hydrogen yn galluogi pontio teg ac nad yw'n arwain at anghydraddoldebau pellach mewn iechyd a ffyniant yn ein cymunedau. Fodd bynnag, gofynnwyd am eglurder ar sut y dylid rhoi tystiolaeth o bontio teg mewn o cais datblygu. 

Ymateb Llywodraeth Cymru

Mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl i bob datblygiad newydd liniaru achosion newid hinsawdd yn unol â’r hierarchaeth ynni ar gyfer cynllunio, fel y nodir ym mholisïau ynni Polisi Cynllunio Cymru. Bydd yr hierarchaeth ynni yn parhau i fod yn ystyriaeth bwysig ar gyfer penderfyniadau cynllunio sy'n gysylltiedig ag ynni, gan gynnwys defnyddio hydrogen. 

Mae’r polisi wedi cael ei ddrafftio er mwyn pwysleisio na ddylid ystyried y polisi strategol mewn perthynas â hydrogen mewn gwagle ond, yn hytrach, y dylid ei ystyried ar y cyd â’r polisïau a’r deddfwriaethau a fydd yn peri i hydrogen fanteisio ar enillion datgarboneiddio net gwirioneddol.

Nid yw'r polisi arfaethedig yn cyflwyno gofynion tystiolaeth newydd. Yn hytrach, mae'n darparu cyd-destun pellach i'r gofynion tystiolaeth presennol yn y drefn gynllunio. Rydym yn cytuno bod angen nodi gofynion tystiolaeth cliriach, ac felly bydd canllawiau yn cael eu cyhoeddi i gynorthwyo datblygwyr a'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddatblygu ein polisïau a gweithio ar y cyd â Llywodraeth y DU, rheoleiddwyr, y byd academaidd a'r byd diwydiant i sicrhau bod hydrogen yn datblygu'n gynaliadwy ac yn cyflawni'r gwaith datgarboneiddio angenrheidiol. Mae Llywodraeth Cymru yn cynnal trafodaethau rheolaidd gyda Llywodraeth y DU ar lefel swyddogol a gweinidogol i sicrhau bod prosiectau hydrogen arfaethedig ledled Cymru yn destun rheolaethau rheoleiddiol cadarn, yn ogystal â hwyluso datgarboneiddio hirdymor ac adeiladu economi gryfach a gwyrddach. Rydym hefyd yn ymgysylltu â Llywodraeth y DU ar bwysigrwydd datblygu cymorth priodol ac amserol i alluogi prosiectau datgarboneiddio allweddol i ddwyn ffrwyth.   

Safbwyntiau ynghylch y ffocws ar gynhyrchu heb ystyried prynwyr hydrogen

Nododd sawl ymateb y dylai'r polisi ganolbwyntio ar rôl y sector prynu hydrogen (y diwydiannau hynny sy'n defnyddio'r hydrogen). Credodd yr ymatebwyr eu bod mewn sefyllfa well i nodi'r llwybr cywir ar gyfer buddsoddi a defnyddio seilwaith hydrogen. Nododd yr ymatebion hyn y dylid defnyddio hydrogen lle gall gael yr effaith fwyaf cadarnhaol ar ddatgarboneiddio a swyddi, gyda'r galw yn pennu lefelau cynhyrchu, yn hytrach na gweithio tuag at dargedau cynhyrchu gorfodol gan y llywodraeth. 

Nododd rhai ymatebion fod rôl i Lywodraeth Cymru wrth gydlynu darpar gynhyrchwyr a phrynwyr hydrogen drwy hwyluso'r gwaith o greu canolfannau a chyd-leoli datblygiadau â gofynion cynhyrchu a defnyddio hydrogen cydnaws. Awgrymodd rhai ymatebion y byddai'r dull hwn yn hwyluso'n well ddatgarboneiddio cynaliadwy sectorau sy'n anodd iddynt leihau eu hallyriadau, ac yn cefnogi lleoliadau hydrogen allweddol fel porthladdoedd a chlystyrau trwy sicrhau bod seilwaith cynhyrchu a defnyddio hydrogen yn cael ei ddatblygu ar yr un pryd. 

Ymateb Llywodraeth Cymru

Bwriad y polisi hwn yw bod yn bolisi strategol lefel uchel, sy'n amlinellu cymorth clir i gynhyrchu a defnyddio hydrogen, lle mae'r hydrogen yn cydymffurfio â'r Safon Hydrogen Carbon Isel , ac yn cyfrannu at amcanion llesiant ehangach a phontio teg. 

Mae Strategaeth Hydrogen Llywodraeth y DU yn nodi sut y bydd Llywodraeth y DU yn ceisio elwa ar y manteision economaidd sydd ynghlwm â thyfu economi hydrogen y DU, gan gefnogi arloesedd ac ysgogi buddsoddiad, a hynny er mwyn datblygu'r cadwyni cyflenwi a'r sgiliau sydd eu hangen a chreu swyddi a chyfleoedd allforio i'r DU. Mae strategaeth Llywodraeth y DU, dull ariannu'r Rownd Dyrannu Hydrogen, a'r modelau busnes hydrogen wedi'u cynllunio i gyfyngu ar risg buddsoddi, ysgogi cynhyrchu, ac adeiladu seilwaith.

Mae polisi Llywodraeth Cymru wedi'i gynllunio i gyd-fynd â chymorth Llywodraeth y DU, gan wneud yn glir bwysigrwydd seilwaith hydrogen ar gyfer datgarboneiddio a ffyniant Cymru, ac i sicrhau bod anghenion diwydiant Cymru yn cael eu bodloni'n llawn gan strategaeth y DU. 

Safbwyntiau ynghylch yr angen am weledigaeth gref ar gyfer hydrogen yng Nghymru 

Roedd llawer o ymatebion yn cytuno â'r weledigaeth bod hydrogen yn hwyluso'r gwaith o dyfu diwydiannau cynaliadwy yng Nghymru, yn osgoi dad-ddiwydiannu, ac yn darparu gyrfaoedd o ansawdd uchel a buddion llesiant. Fodd bynnag, roedd llawer o ymatebion hefyd yn nodi nad oes gan Gymru naratif cydlynol ar gyfer hydrogen yng Nghymru. Nid oes strategaeth hydrogen genedlaethol sy'n cynnwys uchelgeisiau, targedau nac amserlenni clir ar gyfer cynhyrchu, storio, dosbarthu a  defnyddio hydrogen, na manylion ar gyfer datblygu gweithlu medrus. Nododd rhanddeiliaid fod Cymru yn wynebu risg o beidio â gallu mynegi a gwireddu uchelgeisiau ac anghenion ei diwydiant heb strategaeth fel hyn. 

Tynnwyd sylw at y ffaith bod rhai agweddau ar ddefnyddio hydrogen fel y cyfundrefnau cynllunio a chydsynio amgylcheddol wedi'u datganoli i Weinidogion Cymru. Fodd bynnag, roedd ymatebion yn cydnabod bod cyllidebau a chymorth ar gyfer hydrogen yn faterion a gedwir yn ôl i raddau helaeth i Lywodraeth y DU. Nodwyd mewn ymatebion y gallai Llywodraeth Cymru weithio'n agosach gyda Llywodraeth y DU i ddylanwadu ar ei phenderfyniadau strategol a chyfathrebu'r effaith bosibl ar ddiwydiant Cymru.

Roedd llawer o ymatebion hefyd yn tynnu sylw at yr angen i Lywodraeth Cymru gymryd golwg fwy cyfannol ar hydrogen fel rhan o'r system ynni ehangach, gan ystyried cynhyrchu, hyblygrwydd y grid a defnydd er mwyn llywio gwneud penderfyniadau a buddsoddi yn well. 

Ymateb Llywodraeth Cymru 

Mae'r polisi hydrogen yn rhan o'r dull polisi ehangach i leihau ein dibyniaeth ar danwydd ffosil ac i leihau allyriadau i'r atmosffer, tra'n gwneud Cymru yn genedl fwy ffyniannus, iach, gwydn a chyfrifol yn fyd-eang.

Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu nifer o adroddiadau, gwybodaeth ac ymchwil i lywio ein dealltwriaeth o hydrogen, a'i effaith bosibl ar ddinasyddion Cymru, yr economi a'r amgylchedd. Mae'r adroddiadau hyn, ynghyd ag adroddiadau cynhyrchu ynni yng Nghymru, Gridiau ynni'r dyfodol i Gymru, Sero Net Cymru: Cyllideb garbon, Polisi Cynllunio Cymru, Adroddiad Ymchwil Hydrogen Diwydiannol Cymru a Chynlluniau Ynni Ardaloedd Lleol (LAEPs) i gyd yn cyfrannu at ddatblygu ein dealltwriaeth o sut y dylid defnyddio hydrogen yng Nghymru. 

Er mwyn annog arloesedd ymhellach, gwnaethom sefydlu Diwydiant Sero Net Cymru (NZIW) yn 2022 fel sefydliad annibynnol i gefnogi'r gwaith o ddatblygu llwybrau datgarboneiddio a helpu i gydlynu llwybrau sectorol i sero net.  Rydym hefyd yn parhau i weithio'n agos gyda Chlwstwr Diwydiannol De Cymru (SWIC), Clwstwr Diwydiannol Gogledd Ddwyrain Cymru (NEWID) a phrosiect HyNet i ddeall a llywio sut y bydd diwydiant a chynhyrchu ynni yng Nghymru yn cyflawni datgarboneiddio. 

Bydd darparu fframwaith polisi clir, cyhoeddi adroddiadau a gwybodaeth, a gweithio gyda Llywodraeth y DU i ddatblygu fframwaith rheoleiddio clir ac effeithiol yn hwyluso ac yn annog y byd academaidd a'r byd diwydiant i drin a thrafod a buddsoddi yn yr ymchwil a'r datblygiad angenrheidiol. Mae gweithio gyda NZIW, y Clystyrau a'r prosiectau seilwaith sy'n dod i'r amlwg yn helpu i ddatblygu ein dealltwriaeth o anghenion y diwydiant, a'r ffordd orau o ddatgloi potensial hydrogen yng Nghymru.

Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru hefyd yn cydnabod gwerth naratif a strategaeth â ffocws, sy'n glir, yn gyson ac sy'n seiliedig ar dystiolaeth i gefnogi datblygiad hydrogen yng Nghymru. Rydym yn disgwyl i Strategaeth Hydrogen y DU fodloni anghenion diwydiant a chymdeithas Cymru yn llawn, ac i fanteisio ar botensial datgarboneiddio enfawr prosiectau yng Nghymru. Rydym wedi ymrwymo i weithio gyda Llywodraeth y DU ar gyflawni Strategaeth Hydrogen y DU, trwy ei gwahanol grwpiau technegol a rheoleiddio. 

Yn dilyn cyhoeddi Strategaeth Llywodraeth y DU, byddwn yn ystyried ymhellach fanteision posibl paratoi strategaeth hydrogen benodol i Gymru. 

Cwestiwn 2

A ydych yn credu bod yr hierarchaeth ynni o fewn Polisi Cynllunio Cymru (PCC) yn ddigonol i hysbysu swyddogion cynllunio wrth ddatblygu a defnyddio hydrogen yng Nghymru? Os nad ydych, a ydych yn credu bod angen ei adlewyrchu'n fanylach o fewn PCC? 

Cafwyd cyfanswm o 55 o ymatebion i gwestiwn dau. Nid oedd 30 o'r ymatebion yn ystyried bod yr hierarchaeth ynni yn ddigon clir i gefnogi penderfyniadau hydrogen, tra bod 17 ymateb o'r farn ei fod yn ddigon clir. Nid oedd 8 ymateb arall yn rhoi ymateb cadarnhaol neu negyddol clir i gwestiwn 2, ond nodwyd nad oeddent yn credu bod yr hierarchaeth ynni yn ddigon clir i gefnogi penderfyniadau hydrogen. 

Yn gyffredinol, roedd ymatebion a oedd yn ystyried bod yr hierarchaeth ynni yn ddigonol ar gyfer penderfyniadau hydrogen yn nodi ei fod yn effeithiol wrth ddarparu strwythur lefel uchel ar gyfer gwneud penderfyniadau, a bod bwriad yr hierarchaeth i gyflawni datgarboneiddio wedi cael ei sefydlu, ei ddeall a'i gefnogi'n gyffredinol. 

Roedd ymatebion a oedd yn ystyried bod yr hierarchaeth ynni yn annigonol yn codi pryderon ynghylch yr hierarchaeth a'r ffaith nad yw'n cwmpasu'r economi hydrogen ehangach yn gywir o gynhyrchu, i drafnidiaeth a storio, a'r defnydd gan brynwyr hydrogen (hy nid yw'r hierarchaeth yn cyd-fynd â dull model busnes Llywodraeth y DU a ddatblygwyd i gefnogi twf economi hydrogen carbon isel ar draws cynhyrchu hydrogen, hydrogen i bŵer, a sectorau cludo a storio hydrogen). Awgrymodd rhai ymatebion hefyd fod yr hierarchaeth ynni yn rhy amwys, heb ddigon o fanylion a naws i lywio cymwysiadau cydsynio hydrogen penodol yn briodol. 

Roedd ymatebion, er eu bod yn gefnogol i PCC, yn teimlo bod angen canllawiau ychwanegol i egluro sut y gallai'r hierarchaeth ynni fod yn berthnasol i ddatblygiadau hydrogen fel y gellir cyflawni ceisiadau a phenderfyniadau cynllunio effeithiol, teg a thryloyw. 

Mynegodd rhai ymatebion bryderon y byddai'r hierarchaeth ynni, trwy ffafrio ynni adnewyddadwy ac atal defnydd o danwydd ffosil, yn creu rhagdybiaeth yn erbyn hydrogen carbon isel a gynhyrchir o danwydd ffosil. 

Nododd ymatebion hefyd fod yr hierarchaeth ynni yn blaenoriaethu lleihau'r galw am ynni, enillion effeithlonrwydd ynni ac ehangu ynni adnewyddadwy, a chan nad yw hydrogen yn ffynhonnell ynni adnewyddadwy gynhenid, mae'n ymddangos bod yr hierarchaeth yn ystyried ei gynhyrchu yn flaenoriaeth isel. Gallai'r canfyddiad hwn dynnu oddi wrth y buddsoddiad angenrheidiol i ddatblygu'r farchnad hydrogen sy'n dod i'r amlwg.

Ymateb Llywodraeth Cymru 

Mae polisi cynllunio Llywodraeth Cymru yn cydnabod hierarchaeth ynni. Mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl i bob datblygiad newydd liniaru achosion newid hinsawdd yn unol â’r hierarchaeth ynni ar gyfer cynllunio, fel y nodir ym mholisïau ynni Polisi Cynllunio Cymru. 

Bwriad y polisi hydrogen yw ychwanegu at yr ystod o bolisïau ynni o fewn Polisi Cynllunio Cymru, gan ddarparu cyd-destun ychwanegol i swyddogion cynllunio a datblygwyr wrth benderfynu ble mae cynnig hydrogen yn eistedd yn yr hierarchaeth ynni.

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod angen canllawiau ychwanegol i sicrhau bod y berthynas rhwng yr hierarchaeth ynni a'r polisi hydrogen yn cael ei deall yn gyson gan swyddogion cynllunio a datblygwyr. 

Bydd canllawiau hefyd yn cael eu paratoi i egluro sut y gall datblygwyr ddangos cydymffurfiaeth drwy ofynion tystiolaeth sy'n bodoli eisoes ym Mholisi Cynllunio Cymru (ac eithrio'r LCHS sydd eisoes wedi'i ymgorffori ym modelau busnes hydrogen Llywodraeth y DU). 

Bydd cynllun rheoleiddiol yn ategu'r canllawiau hyn, gan nodi sut mae datblygiadau hydrogen yn cysylltu â'r fframwaith rheoleiddio ehangach (gan gynnwys y drefn gynllunio, trwyddedu amgylcheddol, y Cynllun Masnachu Allyriadau a gofynion rheoleiddio Iechyd a Diogelwch perthnasol). 

Cwestiwn 3

Pa fath o wybodaeth neu arweiniad ychwanegol priodol fyddai'n helpu i roi'r polisi hwn ar waith, ar gyfer datblygwyr, buddsoddwyr a'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau?

Cafwyd 45 ymateb i gwestiwn 3. Ailadroddodd y mwyafrif o'r rhain y sylwadau a gafwyd ar gyfer cwestiynau un a dau. Oherwydd natur y cwestiwn, roedd yr ymatebion yn eang o ran cynnwys. Crynhoir materion allweddol nad ydynt eisoes wedi'u cynnwys o dan gwestiynau un a dau isod.

Canllawiau 

Yn ogystal â galwadau am arweiniad pellach, cafwyd sylwadau hefyd bod angen safonau technegol penodol i'r sector, offer cynllunio i gefnogi'r gwaith o leoli seilwaith yn y mannau gorau, cyhoeddi enghreifftiau o arferion gorau, ac eglurhad ar y diffiniad o ddulliau cynhyrchu hydrogen. Gofynnwyd hefyd am offer dadansoddi Allyriadau Cylchred Oes i alluogi asesiad llawn o ddwysedd carbon gwahanol lwybrau defnyddio hydrogen.   

Tyfu'r farchnad hydrogen

Roedd rhai ymatebion yn tynnu sylw at yr angen am fwy o ymyrraeth dan arweiniad Llywodraeth Cymru i dyfu'r farchnad hydrogen sy'n dod i'r amlwg, gan gynnwys gosod targedau cynhyrchu, symleiddio gofynion cydsynio a chynnig cymhellion ariannol ar gyfer prosiectau cyfnod cynnar a mentrau bach a chanolig. Roedd yr ymatebion hefyd yn gofyn am gymorth ychwanegol gan Lywodraeth Cymru i gael mynediad at gyllid Llywodraeth y DU. 

Datblygu'r gadwyn gyflenwi a sgiliau cysylltiedig

Soniwyd am heriau'r gadwyn gyflenwi a'r gweithlu mewn llawer o ymatebion.  Roedd rhai yn galw am gymorth pwrpasol i Fentrau Bach a Chanolig a chadwyni cyflenwi a gwasanaethau gweithgynhyrchu Cymru. Codwyd pwysigrwydd datblygu gweithlu medrus gan lawer o ymatebwyr, gan gynnwys galwadau am ddadansoddiad manwl o'r angen am sgiliau a hyfforddiant.

Cysylltedd y grid a chyflenwad dŵr

Codwyd pwysigrwydd mynediad at seilwaith grid trydan cenedlaethol yn gyson fel mater hanfodol i ddefnyddio hydrogen, o ran y mynediad angenrheidiol at drydan i gynhyrchu hydrogen, ac o ran gofynion cydbwyso'r grid. Roedd ymatebion yn cydnabod yn gyffredinol nad yw'r cyfrifoldeb am fynediad i'r grid yn swyddogaeth ddatganoledig, ond awgrymwyd y gallai Llywodraeth Cymru weithio'n agosach gyda Llywodraeth y DU i ddatrys problemau mynediad i'r grid.

Codwyd pwysigrwydd mynediad at adnoddau dŵr digonol, gan awgrymu bod angen ymagwedd strategol at ddŵr at ddibenion cynhyrchu hydrogen, gan gynnwys ailgylchu dŵr ac echdynnu cynaliadwy. Roedd sylwadau pellach yn gofyn am ganllawiau a oedd yn canolbwyntio ar fynediad at adnoddau dŵr ar gyfer cynhyrchu hydrogen, gan gwmpasu gofynion cydsynio a lliniaru effaith amgylcheddol. 

Risgiau a chanfyddiad y cyhoedd

Cododd llawer o ymatebion faterion ynghylch  pryderon diogelwch ac amgylcheddol. Yn benodol, codwyd canfyddiad y cyhoedd o ddiogelwch ac argaeledd yr arbenigedd a'r profiad angenrheidiol i reoli'r risgiau sy'n gysylltiedig â defnyddio technolegau newydd ar raddfa fawr. Awgrymodd ymatebion y gallai canfyddiad y cyhoedd a mynediad at arbenigedd rwystro graddfa a chwmpas prosiectau hydrogen cynnar a thrwy hynny atal y sector rhag cyflawni datgarboneiddio angenrheidiol. Awgrymwyd strategaethau cyfathrebu cyhoeddus wedi'u targedu a chanllawiau manwl ar ofynion cydsynio fel dulliau i lywio'r drafodaeth gyhoeddus ehangach ar hydrogen a sicrhau bod cydsynio amgylcheddol yn cael ei ddefnyddio'n effeithiol i reoli risgiau amgylcheddol. 

Codwyd rôl yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch, gydag ymatebion yn awgrymu bod angen canllawiau penodol i'r sector, ac yna ymgysylltu â'r cyhoedd yn effeithiol. 

Ymateb Llywodraeth Cymru

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd hydrogen o ran cyrraedd sero net, ond hefyd o ran y cyfleoedd economaidd sylweddol y gall y dechnoleg eu cynnig i ddiwydiannau, busnesau a dinasyddion Cymru. Bydd prosiectau hydrogen yn creu gyrfaoedd a swyddi yn ystod y camau adeiladu, gweithredu a chynnal a chadw, a hefyd byddant yn diogelu swyddi mewn sectorau eraill ac yn darparu cyfleoedd ehangach yn y gadwyn gyflenwi. 

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod yr angen am ganllawiau penodol i'r sector i gynorthwyo datblygwyr i gael y caniatâd angenrheidiol a chymorth Llywodraeth y DU. Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'r byd diwydiant a rheoleiddwyr i gyflwyno canllawiau a chynllun sy'n amlinellu'r gofynion rheoleiddiol hynny sy'n berthnasol i gynhyrchu, cludo a storio hydrogen. 

Mae Llywodraeth y DU hefyd wedi cyhoeddi ei Strategaeth Hydrogen. Mae'r Strategaeth yn canolbwyntio ar ddarparu hydrogen lle mae ei angen fwyaf, adeiladu seilwaith newydd, a chefnogi'r gwaith o ddatblygu swyddi a chadwyni cyflenwi ar gyfer y DU. Amcan y Strategaeth yw cefnogi diogelwch ynni, darparu swyddi da a thwf economaidd, tra'n sicrhau dyfodol carbon isel i'r DU. 

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i weithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod Strategaeth Hydrogen y DU yn dod â buddion i Gymru.

Cwestiwn 4

Pa fath o sefydliad ydych yn ateb ar ei ran, ee cynhyrchu pŵer, defnyddiwr mawr y diwydiant, busnes bach neu ganolig, trafnidiaeth, y byd academaidd, ymgynghori, unigolyn?

Fe wnaeth ystod eang o gategorïau ymateb i'r ymgynghoriad. Y pum prif fath oedd Cyrff Cyhoeddus (16), Unigolion (11), Cynrychiolaeth Diwydiant (10), Mentrau Mawr (9), a Mentrau Bach a Chanolig (9). Daeth gweddill yr ymatebwyr gan Fentrau Cymdeithasol ac Elusennau (3), Sefydliadau Proffesiynol (2), a'r byd academaidd (2).

Cwestiynau 5 a 6

Hoffem wybod eich barn ar yr effeithiau y byddai 'Cynhyrchu, storio, cludo a defnyddio hydrogen' yn eu cael ar yr iaith Gymraeg, yn benodol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg, a pheidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg. Beth fyddai’r effeithiau yn eich barn chi? Sut y gellir cynyddu’r effeithiau cadarnhaol, neu liniaru’r effeithiau negyddol?

Esboniwch hefyd sut rydych chi'n credu y gellid geirio neu newid y cynigion polisi er mwyn cael effeithiau cadarnhaol neu fwy o effeithiau cadarnhaol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg ac o ran peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg, heb unrhyw effeithiau andwyol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg ac o ran peidio â thrin yr iaith Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg.

Roedd cwestiynau pump a chwech yn debyg mewn perthynas â pha effaith y gallai'r polisi ei chael ar y Gymraeg, a sut y gellid llunio polisi i gynorthwyo'r effeithiau hynny'n gadarnhaol. Roedd cyfanswm o 29 o ymatebwyr wedi gwneud sylwadau ar gwestiwn pump, gyda chyfanswm o 21 o ymatebwyr yn gwneud sylwadau ar gwestiwn chwech. Roedd rhai o'r ymatebion hynny yn cyfeirio at atebion i gwestiwn pump. Roedd yr ymatebion yn gyffredinol yn gadarnhaol tuag at y Gymraeg ac yn cydnabod effaith bosibl polisi hydrogen. Dyma rai elfennau pwysig a gynhwysir yn yr ymatebion:

  • nodi cyfleoedd i ymgysylltu yn ddwyieithog
  • dogfennau technegol, cyrsiau, addysg ac ailsgilio dwyieithog
  • ymgysylltu â'r gymuned a phartneriaethau
  • hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg
  • croesawu gohebiaeth a chyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg

Cyfleoedd i'r Gymraeg

Cafwyd sawl ymateb a oedd yn awgrymu y byddai defnyddio seilwaith hydrogen yng Nghymru yn y pen draw yn fuddiol i'r Gymraeg ac yn enwedig cymunedau lle mae llawer o bobl yn siarad Cymraeg. Roedd cydnabyddiaeth eang hefyd o bwysigrwydd y Gymraeg a'r angen i'w hystyried yng nghyd-destun datblygu polisi, drwy fyfyrio ar strategaethau a deddfwriaeth gysylltiedig fel Cymraeg 2025, a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

Roedd rhai ymatebion yn awgrymu bod gan ddatblygiad hydrogen yng Nghymru y potensial i ddiogelu'r iaith ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol gan y byddai'r rhai a gyflogir yn y diwydiant, yn siaradwyr Cymraeg ac yn ddi-Gymraeg, yn cael mynediad at addysg cyfrwng Cymraeg yn y rhanbarthau datblygu hynny. Awgrymwyd ymhellach y byddai hyn yn ei dro yn cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg, yn enwedig mewn rhanbarthau diwydiannol. Gwelwyd cynnwys deunyddiau hyfforddi dwyieithog a lleoli siaradwyr Cymraeg mewn rolau gweithredol hefyd fel cyfle i gryfhau'r defnydd o'r Gymraeg.

Soniwyd hefyd y gallai cyflawni prosiectau seilwaith hydrogen helpu i gadw a chreu swyddi mewn ardaloedd lle mae llawer o bobl yn siarad Cymraeg. Byddai hyn yn cefnogi'r iaith ymhellach drwy fod o fudd i gymunedau a siaradwyr Cymraeg sy'n gysylltiedig â datblygiadau hydrogen a'u cadwyni cyflenwi ehangach.Ychwanegodd rhai sylwadau y gallai'r polisi gynyddu cyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg. Roedd rhai sylwadau hefyd yn awgrymu potensial i hydrogen gefnogi pontio teg mewn cymunedau gwledig Cymraeg eu hiaith, yn enwedig y rhai sy'n dibynnu ar amaethyddiaeth a choedwigaeth.

Nodwyd cydberthynas rhwng ethos gwaith a chynhyrchiant sydd fel arfer yn uwch mewn cymunedau â hunaniaeth ddiwylliannol glir hefyd fel budd o'r Gymraeg yn cael ei chryfhau gan ddatblygiad hydrogen. Dywedodd rhai ymatebion hefyd fod yn rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau bod amrywiaeth o brosiectau, ar y môr ac oddi ar y môr, ac ar draws y gadwyn werth hydrogen gyfan yn cael eu cyflawni i wireddu'r budd mwyaf posibl i'r iaith a'r diwylliant Cymraeg.   

Effeithiau negyddol posibl a mesurau lliniaru 

Roedd rhai ymatebion llai cadarnhaol a niwtral. Fodd bynnag, roedd y rhain yn ymwneud yn fwy â pherthnasedd y cwestiwn yn hytrach nag amau pwysigrwydd yr iaith Gymraeg, gyda rhai yn meddwl na fydd unrhyw newid nac effaith arni yng nghyd-destun defnyddio hydrogen. Fodd bynnag, codwyd rhai pryderon yn yr ymatebion ynghylch effaith negyddol bosibl ar y Gymraeg, yn benodol y gallai atyniad cyflogaeth o fewn y sectorau hydrogen ddenu pobl nad ydynt yn siarad Cymraeg, a allai leihau'r cyfleoedd i siaradwyr Cymraeg yn y rhanbarthau hynny. Dull arfaethedig i liniaru'r risg honno yw ymgysylltu'n lleol â grwpiau fel y mentrau iaith, sy'n hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg ac yn gweithio mewn partneriaeth ag ystod eang o randdeiliaid i gryfhau'r defnydd o'r Gymraeg fel iaith gymunedol ffyniannus. Pwysleisiwyd hefyd y gallai methu â chyflenwi hydrogen carbon isel yng Nghymru arwain at golli swyddi a symud siaradwyr Cymraeg i ffwrdd o'r ardaloedd hynny yr effeithir arnynt. 

Syniadau ar sut i gynyddu'r effeithiau cadarnhaol 

Roedd amryw o awgrymiadau ar sut y gallai'r polisi gynyddu'r defnydd o'r Gymraeg. Ymhlith y syniadau yr oedd:

  • ymgysylltu â'r gymuned, sefydlu partneriaethau â chymunedau Cymraeg eu hiaith a grwpiau rhanddeiliaid i gyd-ddylunio prosiectau
  • sicrhau prosesau ymgynghori cynhwysol
  • blaenoriaethu contractwyr sydd â siaradwyr Cymraeg drwy bolisïau caffael
  • sicrhau bod ymgysylltu â'r cyhoedd a negeseuon ynghylch hydrogen yn ddwyieithog
  • meithrin amodau economaidd-gymdeithasol i siaradwyr Cymraeg aros yn eu cymunedau
  • gwerthfawrogi, parchu, a chroesawu pob gohebiaeth ac ymholiad drwy gyfrwng y Gymraeg
  • cynhyrchu a darparu hyfforddiant, addysg, uwchsgilio ac ailsgilio dwyieithog i drigolion gwledig, gan gynnwys siaradwyr Cymraeg, er mwyn galluogi mynediad cyfartal at gyfleoedd a chael gwared ar rwystrau
  • integreiddio a mabwysiadu'r Gymraeg i destun technegol (a geirfaoedd) sy'n gysylltiedig â thechnolegau carbon isel sy'n dod i'r amlwg. Amlygwyd geirfa Diwydiant Sero Net Cymru (NZIW)
  • Hyrwyddo Cymru drwy frandio sy'n gysylltiedig â hydrogen, gan dynnu sylw at y Gymraeg fel rhan annatod o hunaniaeth Cymru
  • datblygu ymhellach yr Asesiadau Effaith ar yr Iaith Gymraeg sy'n ofynnol gan ddatblygwyr yn unol ag ymddangosiad seilwaith hydrogen

Ymateb Llywodraeth Cymru 

Braf iawn oedd gweld y camau sydd eisoes ar waith i ategu’r Gymraeg mewn cymunedau. Mae'r Gymraeg yn perthyn i bawb ledled Cymru, ac rydym am weld yr iaith yn ffynnu ym mhob cwr o Gymru. Er y dylai sicrhau buddsoddiad a thwf hirdymor arwain at gyfleoedd i'r iaith ffynnu, ni ellir rhagdybio hyn, a dylai datblygwyr chwilio am ffyrdd o greu amodau ffafriol i'r iaith ffynnu yn y gymuned lle maent wedi'u lleoli. Eisoes, mae Polisi Cynllunio Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i ddatblygiadau newydd ystyried yr effaith ar y Gymraeg ac i fod yn gwbl gydnaws â Nodau Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ac egwyddorion datblygu cynaliadwy. Mae hyn yn cynnwys ystyriaethau diwylliannol o ran y modd mae cynigion yn gallu ategu defnydd o’r Gymraeg.

Mae’n bwysig i bob datblygiad gael effaith gadarnhaol ar y Gymraeg ledled Cymru. Mae Deddf Cynllunio (Cymru) 2015 yn mynnu bod yn rhaid i bob datblygiad gynnal arfarniad cynaliadwy yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae Polisi Cynllunio Cymru yn mynnu bod yn rhaid i bawb fabwysiadu’r dull ‘creu lleoedd’, sef dull mwy cyfannol sy’n ystyried gwerth cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol datblygiadau.

Cwestiwn 7

Rydym wedi gofyn nifer o gwestiynau penodol. Os oes gennych unrhyw faterion cysylltiedig nad ydym wedi mynd i’r afael â nhw yn benodol, defnyddiwch y lle hwn i'w nodi

Cafwyd 30 o ymatebion i gwestiwn saith. Roedd yr ymatebion yn eang iawn. Defnyddiodd llawer hyn fel cyfle i dynnu sylw at brosiectau hydrogen penodol a'r manteision y gallent eu rhoi i Gymru. Thema gyffredin oedd y cyfle economaidd y mae hydrogen yn ei gynnig i Gymru, a defnyddiodd llawer eu hymateb i gyflwyno syniadau ar sut y gallai Cymru elwa orau o'r dechnoleg.  Ymhlith yr awgrymiadau yr oedd: 

  • cyflymu prosiectau strategol bwysig trwy gyfundrefnau cynllunio a thrwyddedu
  • cydlynu prosiectau hydrogen ar y tir gyda phrosiectau ynni gwynt ar y môr i sicrhau bod ffynhonnell ynni adnewyddadwy ar gael yn rhwydd
  • datblygu canolfan arloesi hydrogen i gefnogi Mentrau Bach a Chanolig gyda chyllid ar gyfer arloesedd a datblygu eu potensial allforio
  • Llywodraeth Cymru i gynorthwyo i gysylltu cynhyrchwyr hydrogen â phrynwyr hydrogen
  • Llywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod cyllid sy'n gysylltiedig â'r Modelau Busnes Hydrogen a'r Rowndiau Dyrannu Hydrogen (HAR) ar gael cyhyd ag y mae'r sector ei angen, a bod Cymru'n derbyn cyfran deg
  • Llywodraeth Cymru i ddarparu cyllid a chymorth i hwyluso cynigion yng Nghymru sy'n aeddfedu i'r pwynt lle mae cais am HAR yn hyfyw

Gofynnwyd i Lywodraeth Cymru fynegi rôl strategol hydrogen yn well o fewn y system ynni ehangach, ac i weithio gyda Gweithredwr y System Ynni Cenedlaethol (NESO) i sicrhau y gallai ei gwaith cynllunio seilwaith ddarparu'r canlyniadau gorau posibl i Gymru drwy Gynlluniau Strategol Ynni Rhanbarthol (RESPs) a'r Cynllun Ynni Gofodol Strategol (SSEP).

Tynnodd yr ymatebion sylw at y gwaith helaeth a wnaed eisoes fel rhan o brosiectau Clwstwr Diwydiannol De Cymru (SWIC) a Datgarboneiddio Diwydiannol Gogledd Ddwyrain Cymru (NEWID), sy'n darparu llwybrau ar gyfer datgarboneiddio diwydiant yng Nghymru, gan ddangos rôl glir i hydrogen. 

Ailadroddodd yr ymatebion yr angen hanfodol am gydweithrediad agos rhwng Llywodraeth Cymru, yr Alban a'r DU i sicrhau aliniad polisïau i gyflawni nodau datgarboneiddio ac economaidd a rennir. Tynnwyd sylw at bwysigrwydd cysylltu'r polisi hydrogen â'r ecosystem ehangach o bolisi ynni a datgarboneiddio er mwyn hwyluso dull cyson ar draws y gwahanol dechnolegau a materion ynni. 

Tynnwyd sylw at y potensial ar gyfer hydrogen fel opsiwn newid tanwydd ar gyfer trafnidiaeth, yn enwedig lle nad yw trydaneiddio yn opsiwn ymarferol. Soniwyd am hyn ynghyd â phwysigrwydd cludiant i Gymru a nodwyd y gallai opsiynau tanwydd deuol hwyluso'r trawsnewidiad mewn ardaloedd gwledig. 

Gofynnwyd i Lywodraeth Cymru ystyried cefnogaeth i hydrogen ar gyfer cynhyrchu gwres preswyl.

Tynnodd rhai ymatebion sylw at y ffaith bod hydrogen yn dechnoleg gymharol newydd o fewn y sector ynni, a gall hyn effeithio ar y risg sy'n gysylltiedig ag unrhyw fuddsoddiad. 

Ymateb Llywodraeth Cymru 

Mae polisi strategol Llywodraeth Cymru ar hydrogen wedi'i gynllunio i wneud yn glir ein bod yn cydnabod pwysigrwydd hanfodol hydrogen wrth gyflawni datgarboneiddio a ffyniant, ac osgoi dad-ddiwydiannu i lawer o sectorau yng Nghymru. Mae'r polisi yn darparu amcanion lefel uchel ar gyfer defnyddio hydrogen, a sylfaen ar gyfer parhau i weithio gyda Llywodraeth yr Alban a'r DU ar ddatgarboneiddio a chanlyniadau economaidd cyffredin.

Mae Strategaeth Hydrogen y DU yn hanfodol i'r gwaith o ddefnyddio hydrogen yng Nghymru, yn ogystal â'r camau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod dinasyddion a busnesau yng Nghymru yn elwa o'r technolegau.