Neidio i'r prif gynnwy

Pa gamau gweithredu y mae Llywodraeth Cymru yn eu hystyried a pham?

Pan fyddwn ni’n sôn am “seilwaith ieithyddol”, ry’n ni’n sôn am adnoddau sy’n ein helpu i ddefnyddio’r Gymraeg o ddydd i ddydd, fel geiriaduron, adnoddau terminoleg, corpora, a’r holl waith ymchwil a safoni sy’n mynd ymlaen er mwyn galluogi’r adnoddau hyn i dyfu a datblygu. Yn achos y Gymraeg, mae’r maes hwn wedi datblygu mewn modd ymatebol dros nifer o ddegawdau, heb neb yn cadw llygad strategol ar y darlun ehangach. 

Nid yw’n anarferol mewn gweinyddiaethau eraill sydd ag ieithoedd lleiafrifol (Iwerddon, Canada, Catalwnia a Gwlad y Basg, er enghraifft) i lywodraeth, neu asiantaeth sy’n gweithredu ar ran y llywodraeth, gynnal trosolwg o brosiectau ieithyddol. Tan yn diweddar, pan sefydlwyd uned seilwaith ieithyddol yn Llywodraeth Cymru, nid oedd neb wedi arwain ar y maes hwn yn ei gyfanrwydd yng Nghymru.

Mae’r sefyllfa hon wedi arwain at rywfaint o ddyblygu mewn rhai meysydd (e.e. sawl fersiwn Cymraeg o air ar gael mewn gwahanol adnoddau, felly, p’un mae’r siaradwr Cymraeg fod ei ddefnyddio?) neu ddiffyg darpariaeth lwyr mewn meysydd eraill (e.e. yn diweddar, ar y cyd â Phrifysgol Bangor, cydlynodd swyddogion Is-adran Cymraeg 2050 broses o safoni termau cydraddoldeb o ran hil ac ethnigrwydd, gan gynnal proses i ymgynghori â rhanddeiliaid ac unigolion allweddol yn y maes i greu rhestr gyfoes o dermau ar gyfer y maes).

Yng nghyd-destun y targed o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg, gellid dweud bod y diffyg cydlynu ac arweiniad yn y maes yn rhwystro pobl rhag defnyddio’r Gymraeg, gan nid yn unig achosi dryswch i siaradwyr Cymraeg hyderus, ond hefyd rwystro siaradwyr newydd nad ydynt yn gwybod ble i gael gafael ar adnoddau awdurdodedig.

Hirdymor

Mae 'Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015' yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus ledled Cymru a enwir yn y ddeddf weithio tuag at gyflawni saith nod llesiant, gan gynnwys 'Cymru â diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu'. Mae dyletswydd ar Lywodraeth Cymru i hyrwyddo a hwyluso'r defnydd o'r Gymraeg ac i weithio tuag at gyflawni'r nodau llesiant. 

Mae strategaeth 'Cymraeg 2050' yn nodi bod creu amodau ffafriol, drwy osod seilwaith a chyd-destun priodol, yn allweddol wrth wireddu’r targedau o greu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 a chynyddu canran y boblogaeth sy’n siarad Cymraeg bob dydd, ac sy’n gallu siarad mwy nag ychydig o eiriau o Gymraeg i 20% erbyn 2050. 

Un o nodau’r strategaeth yw ‘sicrhau bod seilwaith ieithyddol y Gymraeg (geiriaduron, terminoleg, y proffesiwn cyfieithu) yn parhau i ddatblygu ac yn rhan annatod o’r broses o weithredu’r strategaeth hon’. Er mwyn creu’r amodau iawn i’w gwneud yn bosib i nifer siaradwyr a defnyddwyr y Gymraeg gynyddu, mae’n nodi bod angen seilwaith cadarn a buddsoddiad hirdymor yn y seilwaith hwn barhau i sicrhau sylfaen gadarn ar gyfer y dyfodol. Gellir dadlau bod geiriaduron a chronfeydd termau ymysg hoelion wyth unrhyw iaith fodern, hyfyw, ac yn hanfodol er mwyn iddynt barhau’n ieithoedd byw, cyfoes at y dyfodol. 

Mae’r Polisi Seilwaith Ieithyddol hefyd yn cynnwys adran ar warchod enwau lleoedd, sy’n un o brif flaenoriaethau Llywodraeth Cymru, fel a nodir yn ein Rhaglen Lywodraethu 2021 i 2026 a’n Cytundeb Cydweithio gyda Phlaid Cymru. Mae enwau lleoedd Cymraeg yn elfennau hollbwysig o dirwedd ddiwylliannol, ieithyddol a hanesyddol Cymru, a hynny’n lleol ac yn genedlaethol. Mae enwau lleoedd Cymraeg yn arbennig o bwysig i gymeriad clywedol a gweledol ardaloedd a chymunedau Cymraeg, ac rydym yn cydnabod yr angen i werthfawrogi, cynnal a hyrwyddo’r enwau hyn.

Atal

Byddai’r cynigion hyn yn ehangu mynediad pawb at adnoddau seilwaith ieithyddol y Gymraeg dros amser, gan gyfrannu at amcanion 'Cymraeg 2050'. Nodau’r polisi yw:

Ei gwneud yn haws i’r defnyddiwr: Mae pobl sydd am ddefnyddio’r Gymraeg yn aml yn dweud eu bod yn ei chael yn anodd dod o hyd i adnoddau ac atebion. Un arall yw bod dryswch yn sgil nifer y ffynonellau terminoleg a geiriadura sydd ar gael, ac anhawster gwybod p’un sy’n cael blaenoriaeth. Mae creu uned i fod yn gyfrifol am wneud i’r gwahanol adnoddau weithio gyda’i gilydd yn well, a chynnig arweiniad ar eu defnydd a mynediad atynt drwy un rhyngwyneb, yn ffordd o fynd i’r afael â hynny. 

Creu un profiad i’r defnyddiwr: Mae gan nifer o wledydd ac ieithoedd gyrff swyddogol neu academïau ar wahanol fodelau sy’n gyfrifol am gydlynu gwaith yn y maes hwn, ac sy’n fan cychwyn amlwg i’r cyhoedd wrth ofyn cwestiynau ieithyddol. Yn achos y Gymraeg, gan amlaf, bydd y profiad yn dibynnu ar wybodaeth y defnyddiwr o’r ffynonellau. 

Byddwn yn anelu at greu profiad cyson a chyflawn i bawb sy’n defnyddio adnoddau seilwaith Cymraeg. Er mwyn gwneud hynny, byddwn yn edrych eto ar y ffordd y mae adnoddau’n cael eu comisiynu a’u cydlynu, a’u marchnata gyda’r nod o roi hyder i ddefnyddwyr bod yr atebion y maent yn eu cael yn rhai awdurdodol. 

Osgoi dyblygu a llenwi bylchau: Ar hyn o bryd, mae nifer o eiriaduron a chronfeydd termau gwahanol, gyda gwahanol unigolion a sefydliadau yn eu cynhyrchu, heb drefn bendant i gydlynu rhyngddynt. Mae Llywodraeth Cymru eisoes yn darparu cyllid ar gyfer nifer o’r prosiectau hyn, felly gwelwn fod yma gyfle iddi chwarae rhan gydlynol er mwyn datblygu’r maes ymhellach.

Edrych tua’r gorwel: Un bwlch amlwg yn y ddarpariaeth bresennol yw diffyg cynllunio strategol o ran beth fydd yr anghenion dros y cyfnod sydd i ddod. 

Bydd yr uned seilwaith ieithyddol yn Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am edrych tua’r gorwel am ddatblygiadau polisi a phrosiectau cyhoeddus mawr sydd i ddod, ac am sicrhau bod arbenigwyr priodol yn gyfrifol am gynhyrchu a safoni’r derminoleg angenrheidiol yn rhagweithiol, a hynny heb ddyblygu ymdrechion. Mae hyn yn arbennig o bwysig yn achos termau technegol, er mwyn sicrhau bod y term yn gysyniadol gywir ac yn addas at ddefnydd arbenigol, boed ym myd addysg, gwyddoniaeth, meddygaeth neu unrhyw faes arall. 

Ymateb i’r angen am dermau ar frys: Yn ogystal ag edrych ar y darlun hirdymor a chynllunio ar ei gyfer, bydd yr uned hefyd yn sefydlu trefn i helpu gyda thermau uchel eu proffil sy’n codi’n ddirybudd, ond bod brys ar eu cyfer. Drwy helpu i gydlynu terminoleg yn yr achosion hyn, ein nod yw arwain at fwy o gysondeb a’i gwneud hi’n haws i’r defnyddiwr adnabod, deall a dechrau defnyddio termau newydd.

Cydlynu er budd y maes cyfan: Bydd yr uned yn gweithio gyda gwasanaethau cyfieithu o bob math, yn ogystal â Chymdeithas Cyfieithwyr Cymru. Bydd cydweithio agos yn gwneud yn siŵr bod cysylltiad priodol rhwng y meysydd hyn, fel bod datblygiadau mewn un maes yn ystyried y lleill, gan ehangu’r budd sydd i’w gael i bob un.

Integreiddio

Mae cydlynu adnoddau yn hanfodol i bob maes polisi. Er enghraifft, ry’n ni newydd ymgynghori ar Bapur Gwyn sy’n cynnwys cynigion a fydd yn sail i raglen o waith, gan gynnwys Bil Addysg Gymraeg. Craidd cynigion y Papur Gwyn yw gwella deilliannau ieithyddol dysgwyr 3 i 16 oed, ond mae hefyd yn cynnig ehangu rôl y Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol i fod yn sefydliad arbenigol sy’n cefnogi caffael a dysgu’r Gymraeg i ddysgwyr o bob oed yng Nghymru. Wrth reswm, mae sicrhau bod geiriaduron a thermiaduron cydlynus, hawdd i’w defnyddio ar gael i ddysgwyr o bob oed, yn ogystal ag i athrawon, disgyblion a rhieni, yn hollbwysig ar gyfer llwyddiant y cynigion hyn, a llwyddiant y Cwricwlwm i Gymru yn ei gyfanrwydd. 

Ry’n ni hefyd wedi sefydlu cwmni newydd o’r enw Adnodd, a fydd yn cynnal trosolwg o’r ddarpariaeth adnoddau addysgu a dysgu, ac yn comisiynu adnoddau sy’n addas i’r Cwricwlwm i Gymru a’r cymwysterau newydd. Bydd y rhain yn addas i’w defnyddio gan athrawon a dysgwyr yn yr ystafell ddosbarth, yn ogystal ag yn y cartref ar gyfer hunan astudio ac adolygu. Mae angen termau cyson ar gyfer yr adnoddau addysg hyn fel bod modd eu cyhoeddi ar yr un pryd yn Gymraeg a Saesneg. Bydd y berthynas rhwng yr uned, yr Uned Technolegau Iaith ym Mhrifysgol Bangor sy’n gyfrifol am brosiect y Termiadur Addysg, ac Adnodd yn hollbwysig yn hyn o beth.

Ry’n ni eisoes wedi bod mewn trafodaethau â swyddogion mewn sawl maes polisi i drafod sut allai’r drefn newydd helpu i gael trefn ar derminoleg yn y meysydd hynny. Ar y cyd â Phrifysgol Bangor, rydym hefyd wedi cydlynu’r broses o safoni termau cydraddoldeb o ran hil ac ethnigrwydd, gan gynnal proses i ymgynghori â rhanddeiliaid ac unigolion allweddol yn y maes i greu rhestr gyfoes o dermau ar gyfer y maes. Enghreifftiau yn unig yw’r rhain. Bydd hyn yn parhau, ac yn ehangu, am nad oes yr un maes sydd heb anghenion o safbwynt termau.

Cydweithio

Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn arwain a datblygu Polisi Seilwaith Ieithyddol y Gymraeg gyda chymorth llywio clir gan randdeiliaid allweddol, defnyddwyr blaenllaw ar yr adnoddau, a'r cyhoedd drwy eu cyfraniadau i ymgynghoriad. Wrth symud ymlaen i’r cam gweithredu, bydd y sefydliadau sy’n gyfrifol am yr adnoddau, awdurdodau lleol (yn achos enwau lleoedd Cymraeg) a rhanddeiliaid yn chwarae rôl allweddol o ran cefnogi a gweithredu'r ymyraethau. 

Mae’r rhanddeiliaid yn cynnwys: 

  • sefydliadau sy’n cynnal prosiectau seilwaith (geiriaduron, cronfeydd termau, corpora)
  • swyddogion o awdurdodau lleol
  • Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru
  • aelodau o Banel Safoni’r Gymraeg
  • Comisiynydd y Gymraeg
  • Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru
  • a chydweithwyr ym meysydd polisi Llywodraeth Cymru megis iechyd, diwylliant, y gyfraith a Cadw 

Nid yw'r rhestr hon yn gyflawn, ond mae'n dangos ystod y partneriaid mewnol ac allanol y byddwn yn gweithio gyda nhw.

Bydd gan bartneriaid ran a rôl sylweddol ym Mholisi Seilwaith Ieithyddol y Gymraeg. I bob pwrpas, nhw fydd yn gyrru’r gwaith sydd ynghlwm wrth y polisi, gyda swyddogion uned newydd yn Llywodraeth Cymru yn helpu i gydlynu’r gwaith er mwyn sicrhau nad yw cyfleoedd i gydweithio’n cael eu colli, ac nad oes dyblygu’n digwydd. Byddan nhw hefyd yn darparu adborth ac argymhellion ac yn dylanwadu ar waith polisi i'r dyfodol yn ystod y cyfnod gweithredu ac wrth gynllunio’n ieithyddol i’r dyfodol. 

Cynnwys

Cafwyd cydnabyddiaeth o rôl allweddol y prif randdeiliad yn natblygiad y polisi drwy gynnwys nifer ohonynt (e.e. cynrychiolwyr o Eiriadur Prifysgol Cymru, yr Uned Technolegau Iaith ym Mhrifysgol Bangor, Comisiynydd y Gymraeg, gwasanaethau cyfieithu Senedd Cymru a Llywodraeth Cymru) yn aelodau o Grŵp Gorchwyl a Gorffen. Chwaraeodd yr aelodau hyn ran bwysig yn y broses o ddrafftio’r polisi drafft yr ymgynghorwyd yn ehangach yn ei gylch yn 2021. Yn hynny o beth, llwyddwyd i ymateb i nifer o bryderon a oedd gan y rhanddeiliaid hyn yn gynnar yn y broses. 

Am ein bod eisoes yn ariannu nifer o’r prif brosiectau sy’n cynhyrchu’r adnoddau, rydym mewn deialog agos a chyson gyda nhw. Bydd hynny’n parhau wrth i’r gwaith o wireddu’r polisi fynd yn ei flaen. 

Yn ystod yr ymgynghoriad ei hun (a gynhaliwyd rhwng 16 Mawrth 2021 ac 6 Gorffennaf 2021), fe wnaethom dargedu nifer o grwpiau er mwyn sicrhau ein bod yn cael sylwadau cynrychioladol gan ddefnyddwyr pwysig ar yr adnoddau dan sylw. Roedd y grwpiau hyn yn cynnwys dysgwyr Cymraeg (ar ffurf grŵp ffocws o ddysgwyr oddi mewn i Lywodraeth Cymru, a grŵp ffocws a gynhaliwyd yn allanol gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol), cyfieithwyr (ar ffurf grŵp ffocws a drefnwyd gan Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru) a sefydliadau sy’n safoni termau (yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Amgueddfa Cymru).

Effaith

Fel y nodwyd yn yr ymgynghoriad, mae llawer o adnoddau ar gael, ond mae ‘na adegau pan fo hynny’n dod yn rhwystr yn hytrach na’i gwneud yn hawdd dod o hyd i ateb. Mae’n golygu nad yw’n amlwg bob amser pa adnodd sydd fwyaf addas, a bod angen neidio o un wefan i’r llall i chwilio am air neu derm. Mae rhai’n troi’n gynyddol at bethau fel Bing a Google Translate, a rhaid cyfaddef bod y rhain yn ddefnyddiol mewn rhai sefyllfaoedd, ond dydy’r atebion fyddwn ni’n eu cael ganddyn nhw ddim wastad yn ddibynadwy. 

Mae gyda ni lawer o brosiectau o’r ansawdd uchaf yng Nghymru sy’n gallu helpu pob un ohonom ni sy’n defnyddio’r Gymraeg. Er enghraifft, mae arbenigwyr wedi bod yn datblygu Geiriadur Prifysgol Cymru ers 1921, ac mae wedi datblygu i fod yn sylfaen ar gyfer yr holl waith arall ar eiriau a thermau yng Nghymru. Mae adnoddau eraill, fel Porth Termau Prifysgol Bangor, a BydTermCymru yn Llywodraeth Cymru, wedi codi’n fwy diweddar mewn ymateb i fylchau yn y ddarpariaeth a’r galw am dermau cyfoes. Mae’r cronfeydd hyn wedi ennill eu plwy ac yn ddylanwadol tu hwnt erbyn hyn. Ond ymatebol yw’r maes o hyd, gyda thermau’n cael eu comisiynu os bydd galw mawr, a neb yn cadw llygad strategol, lefel uchel ar anghenion y dyfodol.

Mae tipyn o feddwl a thrafod wedi bod ar ddyfodol y maes ers rhai blynyddoedd, ac yn y ddogfen bolisi derfynol ry’n ni’n ceisio adeiladu ar waith Bwrdd yr Iaith a Chomisiynydd y Gymraeg. Mae’r prif fater sydd angen sylw wedi aros yn go gyson: dryswch i’r defnyddiwr o ganlyniad i nifer o ffynonellau terminoleg a geirfa (mae pobl wedi dweud yn yr ymgynghoriad nad ydyn nhw bob amser yn gwybod at ba un i droi, dyw eraill ddim yn ymwybodol bod rhai ohonyn nhw’n bodoli o gwbl), a bod y ffynonellau hynny’n gallu cynnig argymhellion sy’n groes i’w gilydd. Ry’n ni am helpu i newid hynny.

Tan i ni sefydlu uned newydd yn ddiweddar, doedd yna’r un corff na thîm yn gyfrifol am gynnal trosolwg o ddarpariaeth seilwaith ieithyddol y Gymraeg yn ei chyfanrwydd. Mae Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid ar gyfer nifer o brosiectau gwahanol, ond nid oes unrhyw gydlynu ffurfiol.

Dylid pwysleisio bod y camau gweithredu yn y polisi yn adeiladu ar seiliau sydd wedi eu gosod yn barod, yn hytrach na dechrau o’r dechrau. 

Costau ac arbedion

Rydym eisoes yn ariannu nifer o’r prosiectau a fydd yn allweddol i gyflawni nodau’r polisi, e.e. Geiriadur Prifysgol Cymru, Y Termiadur Addysg, Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru.

Rydym yn pwysleisio yn y ddogfen derfynol : 

Ein bwriad yw cynnal y symiau sydd ar hyn o bryd yn cael eu dosbarthu ar gyfer gwahanol brosiectau seilwaith ieithyddol. Bydd unrhyw gyllid a ddarperir ar gyfer gwaith yr uned, ac ar gyfer datblygu’r maes yn fwy cyffredinol (e.e. cynnal panel safoni, datblygu’r cynnig o ran geiriaduron, creu gwefan) yn gyllid newydd ar gyfer y maes.

Systemau

Nid oes deddfwriaeth yn cael ei chynnig. Casgliad o gamau gweithredu a gynigir, er mwyn helpu i gydlynu’r adnoddau presennol yn well, a gwneud yn siŵr bod pawb sy’n defnyddio’r Gymraeg yn gallu cael gafael ar eiriau neu dermau yn hawdd.

Casgliad

Mae Polisi Seilwaith Ieithyddol y Gymraeg yn bodoli i wasanaethu nid yn unig pawb sy’n siarad Cymraeg, ond hefyd unrhyw un sydd eisiau gwybod beth yw gair neu derm penodol yn yr iaith. Mae’r gynulleidfa darged, felly, yn hynod o eang. 

Cynhaliwyd ymgynghoriad 16 wythnos rhwng 16 Mawrth a 6 Gorffennaf 2021Gofynnwyd am sylwadau ynghylch nod y polisi drafft o’i gwneud yn haws i bobl ddefnyddio adnoddau ieithyddol Cymraeg o dan 6 pennawd:

  1. Geiriaduron
  2. Terminoleg
  3. Corpora
  4. Safoni 
  5. Creu un rhyngwyneb 
  6. Creu uned newydd i gydlynu

Yn ogystal ag ymatebion ysgrifenedig, cynhaliwyd 4 grŵp ffocws gyda grwpiau penodol:

  1. Cynrychiolwyr unedau iaith Gymraeg Amgueddfa Cymru a’r Asiantaeth Safonau Bwyd
  2. Cyfieithwyr llawrydd
  3. Tiwtoriaid y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol
  4. Aelodau staff Llywodraeth Cymru a oedd, neu a oedd wedi bod, yn dysgu’r iaith

Cawson ni 88 o ymatebion gan unigolion a sefydliadau, gan gynnwys: mudiadau sy’n lobïo dros yr iaith, cynrychiolwyr dysgwyr, cynrychiolwyr plant a phobl ifanc, awdurdodau lleol, sefydliadau addysg, cyrff cyhoeddus a darparwyr adnoddau seilwaith. 

O ran enwau lleoedd, cafodd y cynigion yn y polisi eu cynnwys gyntaf yn y Cynllun Tai Cymunedau Cymraeg. Ymgynghorodd Llywodraeth Cymru ar y cynigion hyn rhwng 23 Tachwedd 2021 a 22 Chwefror 2022. Anogwyd pawb yn y cymunedau yr effeithir arnynt, a thu hwnt ledled Cymru, i ymateb, p'un a oeddent yn byw, yn rhedeg busnesau, yn berchen ar eiddo, neu'n darparu gwasanaethau cyhoeddus yn y cymunedau hyn. Cafwyd cyfanswm o 776 o ymatebion. 

Byddwn yn parhau i ymgynghori wrth gamu ymlaen i ddatblygu’r wefan newydd sy’n greiddiol i’r polisi, gyda ffocws penodol ar blant a'u cynrychiolwyr, pobl sydd â nodweddion gwarchodedig a siaradwyr Cymraeg.

Crynhowch yr effeithiau mwyaf arwyddocaol a ddisgwylir o ganlyniad i'r cam gweithredu arfaethedig, ar bobl a diwylliant Cymru, ar y Gymraeg, ac ar economi ac amgylchedd Cymru. Disgrifiwch y themâu a gododd wrth gynnwys pobl. Cyfeiriwch at y saith nod llesiant ac amcanion llesiant Llywodraeth Cymru. Cyferbynnwch hyn ag effaith camau gweithredu presennol Llywodraeth Cymru os yw hynny’n briodol.

Y Gymraeg a lles diwylliannol

Mae targedau Cymraeg 2050 i gyrraedd miliwn o siaradwyr erbyn 2050, a dyblu'r defnydd dyddiol o'r Gymraeg, yn naratif clir ynghylch cyfeiriad polisi iaith yng Nghymru. Mae 'Cymraeg 2050' yn cydnabod ac yn gwerthfawrogi rôl Seilwaith Ieithyddol ar gyfer llwyddiant Thema 3 y strategaeth, sef creu amodau ffafriol. Mae creu amodau ffafriol yn hanfodol er mwyn cefnogi themâu eraill y strategaeth, sef: 

  • Thema 1: Cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg
  • Thema 2: Cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg

Mae’r camau gweithredu a nodir yn y polisi Seilwaith Ieithyddol yn rhai newydd (Ac eithrio’r rheini mewn perthynas ag enwau lleoedd, yr oedd y mwyafrif ohonynt eisoes wedi’u cyhoeddi yn y Cynllun Tai Cymunedau Cymraeg), am nad oes corff nac uned wedi bod i gydlynu holl agweddau seilwaith y Gymraeg cyn hyn. Yn hynny o beth, fel y nodir yn gynharach yn yr asesiad hwn, effeithiau cadarnhaol arfaethedig y polisi yw:

  • ei gwneud yn haws i’r defnyddiwr 
  • creu un profiad i’r defnyddiwr 
  • osgoi dyblygu a llenwi bylchau 
  • edrych tua’r gorwel
  • ymateb i’r angen am dermau ar frys 
  • cydlynu er budd y maes cyfan

Wrth ymgynghori, roedd y rhan fwyaf o’r ymatebion a gawsom yn cefnogi’r polisi ac, yn gyffredinol, y cynigion ar gyfer gweithredu. Nododd 70 (86.4%) o’r rhai a atebodd eu bod yn cytuno gyda’r dull a gynigiwyd gennym, gan ddangos bod awydd i’r Llywodraeth weithredu er mwyn ei gwneud yn haws i bobl ganfod atebion am y Gymraeg, ac yn gliriach bod yr atebion maen nhw’n ei gael yn addas ar eu cyfer nhw. 

Crybwyllwyd bod natur y ddarpariaeth bresennol yn golygu bod angen croesgyfeirio rhwng nifer o ffynonellau er mwyn dod o hyd i eiriau, a bod hyn yn gofyn am ddealltwriaeth dda o’r ffynonellau ac o ffactorau fel statws a diben adnoddau penodol. Roedd hyn yr un mor berthnasol i bobl wrth eu gwaith ag aelodau’r cyhoedd.

Yn ychwanegol i hynny, gan fod nifer o’r sefydliadau sy’n gyfrifol am gynnal yr adnoddau yn y polisi Seilwaith Ieithyddol wedi eu lleoli mewn ardaloedd lle mae canran uwch o siaradwyr Cymraeg, bydd y polisi’n cefnogi’r amcan o gynnal a chynyddu nifer y swyddi arbenigol yn yr ardaloedd hynny. 

Mae effeithiau’r camau mewn perthynas ag enwau lleoedd wedi eu pwyso a’u mesur yng nghyd-destun y Cynllun Tai Cymunedau Cymraeg, yn benodol o safbwynt y Gymraeg a lles diwylliannol, yr economi, a chefn gwlad. Mae gwarchod enwau lleoedd, sydd hefyd yn rhan o’r Polisi Seilwaith Ieithyddol, yn un o nodau’r Rhaglen Lywodraethu a’r Cytundeb Cydweithio gyda Phlaid Cymru.

Mae Polisi Seilwaith Ieithyddol y Gymraeg yn amlinellu nifer o gamau i wella sut mae geiriaduron, cronfeydd termau, corpora a gwaith safoni’n cael eu cydlynu i gefnogi pobl i ddefnyddio’r Gymraeg. Mae hefyd yn amlinellu camau cychwynnol i warchod enwau lleoedd Cymraeg. Ceir cysylltiad amlwg rhwng y nodau hyn a dau o'r saith nod llesiant a amlinellir yn 'Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015'.

Cymru lewyrchus, drwy ddatblygu poblogaeth fedrus ac addysgiedig, gwaith gweddus, cymdeithas garbon isel, hyrwyddo prosiectau lleol a sgiliau ar gyfer y dyfodol

Mae’r polisi’n cynnig cydlynu nifer o brosiectau, y mae nifer ohonynt wedi’u lleoli mewn ardaloedd yn y gorllewin a’r gogledd sydd â dwysedd uwch o siaradwyr Cymraeg. Bydd hyn nid yn unig yn golygu parhau â’r buddsoddiad yn y prosiectau hyn, ond yn golygu bod gwaith arbenigol ar gael yn yr ardaloedd hyn sy’n galw am sgiliau penodol. Drwy gynnig archwilio sut mae modd datblygu’r gweithlu yn y meysydd hyn ymhellach, mae’r polisi’n cyfrannu at y nod o geisio datblygu poblogaeth fedrus ac addysgiedig. 

At hynny, mae’n mynd heb ddweud bod cydlynu a datblygu’r arlwy o ran geiriaduron, termau, a chorpora, sydd oll yn helpu pobl i ddysgu a defnyddio’r Gymraeg, yn cyfrannu at y nod o ddatblygu poblogaeth fedrus ac addysgiedig. Mae’r Termiadur Addysg, er enghraifft, yn ffynhonnell sylfaenol ar gyfer y cwricwlwm deunyddiau addysg yng Nghymru.

Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu

Mae angen i Gymru greu cymdeithas sy'n hyrwyddo ac yn gwarchod diwylliant, treftadaeth a'r Gymraeg. Bydd y camau a amlinellir yn y polisi seilwaith ieithyddol, sy’n rhan allweddol o strategaeth 'Cymraeg 2050', yn helpu i sicrhau bod cynifer o bobl â phosib yn ymwybodol o adnoddau Cymraeg fel geiriaduron a chronfeydd termau, a’u bod yn gwybod sut i’w defnyddio a pha rai sy’n iawn ar eu cyfer nhw. Bydd ffocws penodol yn hyn o beth ar blant oedran ysgol, eu rhieni, a phobl sy’n dysgu Cymraeg, a fydd oll yn cefnogi caffael a defnyddio’r Gymraeg. 

At hynny, mae’r rhan honno o’r polisi sy’n ymdrin ag enwau lleoedd yn amlinellu camau i warchod enwau lleoedd Cymraeg a hanesyddol, y cydnabyddir eu bod yn rhan hanfodol o’n diwylliant a’n treftadaeth, yn ogystal ag yn elfennau hollbwysig sy’n sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei gweld a’i chlywed yn eang. 

Bydd hyrwyddo a marchnata’r adnoddau sydd ar gael, a chefnogi pobl i wybod sut y gallan nhw helpu i warchod enwau lleoedd Cymraeg yn eu hardaloedd nhw, yn hollbwysig i lwyddiant y polisi. Byddwn yn cynllunio’n ofalus er mwyn sicrhau ein bod yn marchnata’r adnoddau mor eang â phosibl.

O ran llwyddiant y wefan a’r camau marchnata, byddwn yn dadansoddi data defnydd y wefan, gan roi sylw penodol ar i ba raddau rydym yn gyrru traffig ychwanegol at yr adnoddau seilwaith sy’n bodoli ar wefannau eraill. Bydd modd i bobl gysylltu â’r uned sy’n gyfrifol am y wefan gyda sylwadau drwy flwch ebost.

Byddwn yn comisiynu gwaith i fonitro effeithlonrwydd y polisi yn achlysurol. 

O safbwynt gweld sut mae termau newydd yn gwreiddio, byddwn yn comisiynu gwaith i wneud hynny e.e. unwaith y bydd y termau cydraddoldeb o ran hil ac ethnigrwydd wedi bod yn y parth cyhoeddus am gyfnod o 18 i 24 mis, byddwn yn comisiynu gwaith i olrhain y defnydd o’r termau hynny ac i ddysgu gwersi.