Neidio i'r prif gynnwy

Amcanion polisi

Mae strategaeth 'Cymraeg 2050' yn ein hymrwymo i gynnal a gwella ein seilwaith ieithyddol er mwyn hwyluso’r daith tuag at filiwn o siaradwyr Cymraeg.

Mae cynnwys plant yn allweddol os ydym am wireddu targed y Llywodraeth o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg a chynyddu’r defnydd o’r iaith.

Un o nodau Polisi Seilwaith Ieithyddol y Gymraeg yw creu amodau ffafriol i’w gwneud yn haws i bawb, gan gynnwys plant a dysgwyr o bob oedran, ddefnyddio’r Gymraeg. 

Mae hyn yn cynnwys gwneud yn siŵr bod pawb yn gallu cael gafael ar yr adnoddau sy’n ein helpu i ddefnyddio’r Gymraeg o ddydd i ddydd fel Geiriaduron, Cronfeydd Terminoleg a Chorpora yn ddi-rwystr. 

Mae angen i’r buddsoddi hirdymor yn y seilwaith hwn barhau i sicrhau sylfaen gadarn ar gyfer y dyfodol, ac yn hynny o beth, mae codi ymwybyddiaeth ymysg plant yn hollbwysig.

Casglu tystiolaeth ac ymgysylltu â phlant a phobl ifanc

Polisi lefel uchel yw hwn, ond byddwn yn ymgysylltu’n ehangach â phlant a phobl ifanc maes o law wrth i’r gwaith polisi symud yn ei flaen ac wrth i’w effaith gael ei asesu. Er enghraifft, bydd ymgysylltu gyda defnyddwyr yn hanfodol wrth i ni ddatblygu’r wefan a ddisgrifir yn y polisi, sydd â’r nod o helpu pobl i ganfod geiriau a thermau Cymraeg.

Wrth ddatblygu’r polisi hwn, rydym wedi bod mewn cysylltiad ag adrannau polisi ledled y Llywodraeth, yn arbennig yr adran Addysg. Mae’r cysylltiad hwnnw’n parhau. Mae’r cynigion yn y polisi am fod yn bwysig o safbwynt y cwricwlwm newydd, ac o ran helpu plant a’u rhieni i ddefnyddio’r Gymraeg (gw. isod am ragor o fanylion). 

Mae gwaith estyn allan gyda phlant a phobl ifanc wedi dangos, er mwyn gwella’u hyder gyda’r Gymraeg, yr hoffent well mynediad at eiriaduron a gwella cywirdeb gwefannau ac apiau cyfieithu i’r Gymraeg.

Mae cydlynu adnoddau seilwaith ieithyddol yn hanfodol o safbwynt addysg Gymraeg yn ehangach. Er enghraifft, efallai y byddwch yn ystyried effeithiau gwahanol eich polisi ar y grwpiau canlynol o blant a phobl ifanc: 

  • blynyddoedd cynnar, cynradd, uwchradd, oedolion ifan
  • plant ag anghenion dysgu ychwanegol
  • plant anabl
  • plant sy'n byw mewn tlodi
  • Plant du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig
  • Sipsiwn, Roma a Theithwyr
  • mudwyr
  • ceiswyr lloches
  • ffoaduriaid
  • siaradwyr Cymraeg
  • plant â phrofiad o ofal
  • plant LHDTQ+

Noder nad yw hon yn rhestr gyflawn ac nad un profiad unffurf a fydd gan bawb o fewn y carfanau hyn. 

Mae cydlynu adnoddau seilwaith ieithyddol yn hanfodol o safbwynt addysg Gymraeg yn ehangach. Er enghraifft, rydym newydd ymgynghori ar Bapur Gwyn sy’n cynnwys cynigion a fydd yn sail i raglen o waith, gan gynnwys Bil Addysg Gymraeg. Craidd cynigion y Papur Gwyn yw gwella deilliannau ieithyddol dysgwyr 3 i 16 oed, ond mae hefyd yn cynnig ehangu rôl y Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol i fod yn sefydliad arbenigol sy’n cefnogi caffael a dysgu’r Gymraeg i ddysgwyr o bob oed yng Nghymru. Mae sicrhau bod geiriaduron a thermiaduron cydlynus, hawdd i’w defnyddio ar gael i ddysgwyr o bob oed, yn ogystal ag i athrawon, disgyblion a rhieni, yn hollbwysig ar gyfer llwyddiant y cynigion hyn, a llwyddiant y Cwricwlwm i Gymru yn ei gyfanrwydd. 

Rydym hefyd wedi sefydlu cwmni newydd o’r enw Adnodd, a fydd yn cynnal trosolwg o’r ddarpariaeth adnoddau addysgu a dysgu, ac yn comisiynu adnoddau sy’n addas i’r Cwricwlwm i Gymru a’r cymwysterau newydd. Bydd y rhain yn addas i’w defnyddio gan athrawon a dysgwyr yn yr ystafell ddosbarth, yn ogystal ag yn y cartref ar gyfer hunan astudio ac adolygu. Mae angen termau cyson ar gyfer yr adnoddau addysg hyn fel bod modd eu cyhoeddi ar yr un pryd yn Gymraeg a Saesneg. Bydd y berthynas rhwng yr uned, yr Uned Technolegau Iaith ym Mhrifysgol Bangor sy’n gyfrifol am brosiect y Termiadur Addysg, ac Adnodd yn hollbwysig yn hyn o beth. 

Yn fwy cyffredinol, mae’r uned seilwaith newydd yn y Llywodraeth yn gyfrifol am ariannu’r Termiadur Addysg a Geiriadur Prifysgol Cymru. Mae’r datblygiadau a’r adnoddau hyn oll yn cael eu datblygu gyda golwg ar y system addysg statudol. 

Dywed Erthygl 12 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn fod gan blant yr hawl i fynegi eu barn, yn enwedig pan fo oedolion yn gwneud penderfyniadau sy'n effeithio arnyn nhw, ac i'w barn gael ei hystyried.

Yn ystod yr ymgynghoriad, cafwyd sylwadau gan sefydliadau’n cynrychioli plant, er enghraifft, Mudiad Meithrin, y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, Pupils 2 Parliament. 

Byddwn yn ymgynghori gyda phlant a phobl ifanc wrth inni ddatblygu’r wefan newydd y sonir amdani’n y polisi, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at drafod drwy grwpiau megis fforwm SyrIfanC yr Urdd.

Byddwn yn marchnata ac yn hyrwyddo’r adnoddau sydd eisoes yn bodoli drwy wefan ganolog, ac yn gwneud hynny drwy ysgolion, Hwb, cylchlythyr Dysg a dulliau eraill sy’n briodol i grwpiau oedran gwahanol (er enghraifft, rhagwelwn y bydd pecyn gwybodaeth i athrawon, i’w helpu i fod yn ymwybodol o’r adnoddau sydd ar gael i blant, yn cael ei ddatblygu maes o law). 

Mae marchnata ac ymgysylltu ymysg hoelion wyth y polisi, a byddwn yn gwneud yn siŵr ein bod yn targedu ymgysylltu gyda phobl ifanc am eu bod nhw’n hanfodol i gynyddu defnydd y Gymraeg.

Dadansoddi'r dystiolaeth ac asesu’r effaith

Bydd y polisi yn ehangu mynediad plant a phobl ifanc yng Nghymru at y Gymraeg ac at adnoddau a fydd yn eu helpu i ddefnyddio’r Gymraeg. 

Dros amser, bydd hyn yn rhoi cyfleoedd iddynt ddatblygu eu sgiliau Cymraeg ac i ddod yn siaradwyr Cymraeg mwy hyderus, ni waeth beth fo’u categori iaith cychwynnol.

Byddai cael gwell cysondeb yn sgil gwaith safoni yn codi hyder plant, a phobl o bob oed, wrth iddynt ddefnyddio’r Gymraeg. Yn ei dro, gallai hyn arwain at fwy o bobl yn teimlo’n hyderus wrth gyfathrebu â’i gilydd yn y Gymraeg, er enghraifft, mewn cyd-destunau ffurfiol ac anffurfiol yn yr ysgol.

Erthyglau neu brotocol dewisol y confensiwn

Erthygl 30: yn y Gwladwriaethau hynny lle mae lleiafrifoedd ethnig, crefyddol neu ieithyddol neu bersonau o darddiad brodorol yn bodoli, rhaid peidio â gwrthod hawl i blentyn sy’n perthyn i’r lleiafrif hwnnw, neu sy’n frodor, fwynhau ei ddiwylliant ei hun, proffesu ac arfer ei grefydd ei hun, neu ddefnyddio ei iaith ei hun mewn cymuned gydag aelodau eraill o’i grŵp:

  • Gwelliannau neu heriau: gwelliannau
  • Esboniad: un o nodau’r polisi hwn yw hyrwyddo hawliau plant a phobl ifanc i fanteisio ymhellach ar y Gymraeg a diwylliant Cymru drwy hyrwyddo cyfleoedd anffurfiol i ddefnyddio'r iaith yn unol â’u hawliau i gyfranogiad diwylliannol

Dylech ystyried a yw unrhyw rai o Hawliau Dinasyddion yr UE (y cyfeirir atynt yn yr Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb) yn ymwneud â phobl ifanc hyd at 18 oed.

Cyngor Gweinidogol a phenderfyniad y Gweinidog

Ni fydd y dadansoddiad hwn yn llywio ein cyngor gweinidogol, gan ein bod ers cychwyn y broses o ddatblygu’r polisi wedi argymell camau gweithredu i wella adnoddau i bob defnyddiwr yng Nghymru, gyda ffocws penodol ar blant ysgol a dysgwyr. Fel y nodir yn strategaeth 'Cymraeg 2050', y system addysg statudol yw ein prif beiriant ar gyfer creu siaradwyr Cymraeg newydd, felly mae targedu a chynnwys y grŵp hwn yn hanfodol ar gyfer llwyddiant y strategaeth honno, yn ogystal â llwyddiant y polisi hwn, sy’n bwydo i mewn i’r strategaeth. Bydd ein cyngor gweinidogol felly’n parhau’n gyson gyda’r nod cychwynnol hwnnw.

Cyfathrebu â phlant a phobl ifanc

Byddwn yn rhoi’r cyfle i bobl ifanc gyfrannu eu barn wrth i ni roi’r polisi ar waith, yn arbennig wrth i ni ddatblygu a gwella’r wefan, a fydd yn cynnig mynediad at ystod eang o adnoddau Cymraeg. Byddwn yn sicrhau eu bod yn gallu gwneud hyn drwy:

  • Dargedu pobl ifanc yn benodol, drwy grwpiau fel SyrIfanC yr Urdd, Clybiau Ffermwyr Ifanc, ysgolion lleol a Plant yng Nghymru.
  • Fel rhan o hyn, byddwn eisiau gwybod beth fyddai’n eu hannog i ddefnyddio’r adnoddau Cymraeg safonol yn hytrach nag, er enghraifft, teclynnau cyfieithu ar y we fel MS Translate/Google Translate.
  • Mewn perthynas â gwaith ymchwil, byddwn yn nodi’n benodol bod angen ystyried a/neu geisio barn pobl ifanc.
  • Rhan hollbwysig o’r strategaeth yw gwella’r ffordd y mae’r adnoddau Cymraeg yn cael eu marchnata, ac ymgysylltu gyda’r rheini sy’n eu defnyddio. Byddwn yn rhoi ffocws priodol ar gyfathrebu gyda phlant a phobl ifanc fel rhan o hyn, am fod meithrin arferion geiriadura da yn gynnar yn eu taith gyda’r Gymraeg am osod patrymau cadarnhaol at y dyfodol.
  • Rydym yn awyddus i ymgysylltu ag Ymarferwyr Addysgu priodol er mwyn trafod y ffordd orau o roi gwybodaeth syml i blant am sut i ddefnyddio geiriaduron a chodi ymwybyddiaeth o’r adnoddau sydd ar gael.

Monitro ac adolygu

Mae'n hanfodol ailedrych ar eich Asesiad o’r Effaith ar Hawliau Plant i nodi a welwyd yr effeithiau a nodwyd gennych yn wreiddiol, ac a oedd unrhyw ganlyniadau anfwriadol. 

Pan fyddwch yn bwrw ymlaen ag is-ddeddfwriaeth, ni fydd yn ddigon dibynnu ar yr Asesiad o’r Effaith ar Hawliau Plant ar gyfer y ddeddfwriaeth sylfaenol, bydd angen i chi ddiweddaru'r Asesiad i ystyried sut y gallai manylion y cynigion yn y rheoliadau neu'r canllawiau effeithio ar blant.

Gall yr arweinydd polisi ailedrych ar y fersiwn o'u Hasesiad o’r Effaith ar Hawliau Plant a gyhoeddwyd, ei ailenwi'n adolygiad o'r Asesiad gwreiddiol, a diweddaru'r dystiolaeth o effaith. Dylid cyflwyno'r Asesiad Effaith a Adolygwyd i Weinidogion gydag unrhyw gynigion ynghylch diwygio'r polisi, yr arfer neu'r canllawiau. Dylid cyhoeddi'r Asesiad hwn a adolygwyd hefyd.

Ar ôl cyfnod cychwynnol, byddwn yn ystyried y ffordd orau o werthuso’r polisi i sicrhau ein bod yn asesu effaith yr ymyraethau arfaethedig. Bydd hyn ymhen amser yn rhoi gwell dealltwriaeth i ni o effeithiolrwydd y camau a gymerwn yn ogystal â'n helpu i ddatblygu cofnod o wersi a ddysgwn.