Neidio i'r prif gynnwy

Rhagair y Gweinidog

Pan fyddwn ni’n sôn am ‘seilwaith ieithyddol’, ry’n ni’n sôn am adnoddau sy’n ein helpu i ddefnyddio’r Gymraeg o ddydd i ddydd. Y brics a’r morter fel geiriaduron ac adnoddau terminoleg a chorpora, a’r holl waith ymchwil a safoni sy’n mynd ymlaen er mwyn galluogi’r adnoddau hyn i dyfu a datblygu.

Mae llawer o adnoddau ar gael, ond mae ‘na adegau pan fo hynny’n dod yn broblem yn hytrach na’i gwneud yn hawdd dod o hyd i ateb. Mae’n golygu nad yw’n amlwg bob amser pa adnodd sydd fwyaf addas, a bod angen neidio o un wefan i’r llall i chwilio am air neu derm. Ac wedyn dydy pob adnodd ddim yn cynnig pob ateb. A beth sy’n digwydd os yw’r ateb mewn un man yn wahanol i ateb mewn man arall? Dw i’n gwybod bod rhai’n troi’n gynyddol at bethau fel Bing a Google Translate, a rhaid cyfaddef bod y rhain yn ddefnyddiol mewn rhai sefyllfaoedd, ond dydy’r atebion fyddwn ni’n eu cael ganddyn nhw ddim wastad yn ddibynadwy.

Mae gyda ni lawer o brosiectau o’r ansawdd uchaf yng Nghymru. Dechreuodd y gwaith ar Eiriadur Prifysgol Cymru, er enghraifft, ym 1921, ac mae wedi datblygu i fod yn sylfaen ar gyfer yr holl waith arall ar eiriau a thermau yng Nghymru. Mae adnoddau eraill, fel Porth Termau Prifysgol Bangor, a BydTermCymru yn Llywodraeth Cymru, wedi codi’n fwy diweddar mewn ymateb i fylchau yn y ddarpariaeth a’r galw am dermau cyfoes. Ond ymatebol yw’r maes o hyd, gyda thermau’n cael eu comisiynu os bydd galw mawr, a neb yn cadw llygad strategol, lefel uchel ar anghenion y dyfodol.

Mae’r cwestiwn yn codi, felly – a yw hynny’n ddigon da? Dyna’r hyn y gofynnon ni yn ein hymgynghoriad ar fersiwn ddrafft o’r Polisi Seilwaith Ieithyddol hwn. Daeth 88 o ymatebion i law, a hoffwn ddiolch o galon i bawb a gyfrannodd. Ry’n ni wedi cymryd yr ymatebion hynny i ystyriaeth wrth lunio’r polisi terfynol hwn.

Ry’n ni eisoes wedi dechrau gweithredu er mwyn camu ymlaen gyda rhai o’r pethau sydd yn y polisi hwn. Y pennaf yn eu plith, efallai, yw creu uned newydd yn Llywodraeth Cymru i fod yn gyfrifol am seilwaith ieithyddol. Bydd gan yr uned rôl sy’n estyn ar draws adnoddau seilwaith ieithyddol, yn ogystal â meysydd polisi ledled Llywodraeth Cymru.

Mae cydlynu adnoddau yn hanfodol wrth i faes polisi’r Gymraeg yn ehangach barhau i ddatblygu. Er enghraifft, ry’n ni newydd ymgynghori ar Bapur Gwyn sy’n cynnwys cynigion a fydd yn sail i raglen o waith, gan gynnwys Bil Addysg Gymraeg. Craidd cynigion y Papur Gwyn yw gwella deilliannau ieithyddol dysgwyr 3 i 16 oed, ond mae hefyd yn cynnig ehangu rôl y Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol i fod yn sefydliad arbenigol sy’n cefnogi caffael a dysgu’r Gymraeg i ddysgwyr o bob oed yng Nghymru. Wrth reswm, mae sicrhau bod geiriaduron a thermiaduron cydlynus, hawdd i’w defnyddio ar gael i ddysgwyr o bob oed, yn ogystal ag i athrawon, disgyblion a rhieni, yn hollbwysig ar gyfer llwyddiant y cynigion hyn, a llwyddiant y Cwricwlwm i Gymru yn ei gyfanrwydd.

Ry’n ni hefyd wedi sefydlu cwmni newydd o’r enw Adnodd, a fydd yn cynnal trosolwg o’r ddarpariaeth adnoddau addysgu a dysgu, ac yn comisiynu adnoddau sy’n addas i’r Cwricwlwm i Gymru a’r cymwysterau newydd. Bydd y rhain yn addas i’w defnyddio gan athrawon a dysgwyr yn yr ystafell ddosbarth, yn ogystal ag yn y cartref ar gyfer hunan astudio ac adolygu. Mae angen termau cyson ar gyfer yr adnoddau addysg hyn fel bod modd eu cyhoeddi ar yr un pryd yn Gymraeg a Saesneg. Bydd y berthynas rhwng yr uned, yr Uned Technolegau Iaith ym Mhrifysgol Bangor sy’n gyfrifol am brosiect y Termiadur Addysg, ac Adnodd yn hollbwysig yn hyn o beth.

Bydd gan yr uned hefyd un cyfrifoldeb sy’n ychwanegol i’r hyn a gynigiwyd yn y polisi drafft, sef ein hymrwymiad i warchod enwau lleoedd Cymraeg, sy’n deillio o’n Rhaglen Lywodraethu a’r Cytundeb Cydweithio gyda Phlaid Cymru. Mae cyhoeddiadau diweddar gan Barciau Cenedlaethol Eryri a Bannau Brycheiniog y byddant yn defnyddio enwau Cymraeg ar y sefydliadau hynny o hyn allan yn ddatganiadau cadarnhaol o ran statws enwau Cymraeg. Bydd yr uned a grybwyllir yn y polisi hwn yn tynhau’r lens ar enwau tai, enwau nodweddion daearyddol ac enwau hanesyddol. Amlinellir ein camau cychwynnol yn hyn o beth yn ein Cynllun Tai Cymunedau Cymraeg, a byddwn yn cyhoeddi camau manylach ar sail canlyniadau ymchwil a fydd yn dod i law tua diwedd y flwyddyn.

Nid y Gymraeg yw’r unig iaith sy’n wynebu heriau yn y maes hwn. Mae nifer fawr o ieithoedd ar draws Ewrop – yn rhai lleiafrifol yn ogystal â rhai o brif ieithoedd y byd – yn wynebu’r problemau a ddisgrifir yn y ddogfen hon, ac yn poeni ynghylch sut i’w datrys. Dydyn ni ddim yn unigryw, felly. Ond mae’n deg dweud mai’r bwlch mawr yng Nghymru yw’r elfen o gydlynu gwaith ac adnoddau, ac ymwneud asiantaethau llywodraethol yn hynny o beth, er mwyn arwain at ffordd fwy strategol o ledaenu a chyhoeddi ffrwyth y gwaith. O wneud hynny’n iawn, fe lwyddwn ni i wella’r ddarpariaeth i bawb sydd am ddefnyddio’r Gymraeg.

Jeremy Miles AS
Gweinidog y Gymraeg ac Addysg

Geirfa

Corpws (lluosog: corpora)

Casgliad mawr o ddata ieithyddol (er enghraifft, geiriau, termau, ymadroddion) wedi ei dynnu ynghyd gan ddilyn egwyddorion penodol. Mae corpora’n cael eu defnyddio i greu adnoddau technolegol a digidol ac i wneud ymchwil ieithyddol er mwyn datblygu cronfeydd termau neu eiriaduron. Gallan nhw fod yn seiliedig ar recordiadau sain, testunau ysgrifenedig neu ystumiau dynol (er enghraifft, iaith arwyddion).

Geiriadur

Mae geiriaduron traddodiadol fel arfer yn disgrifio’r iaith ac yn cofnodi’i geirfa. Maen nhw hefyd yn cynnig cyfystyron. Mae hyn yn wahanol i restrau terminoleg, lle mae term neu ymadrodd yn cyfateb i un cysyniad yn unig.

Term

Mae termau’n eiriau neu’n ymadroddion sydd ag ystyron penodol mewn cyd-destunau neu feysydd penodol. Gall yr ystyron hyn fod yn wahanol i’r ystyr a roddir iddynt mewn iaith bob dydd.

Terminoleg

Casgliad o dermau sy’n perthyn i feysydd pwnc penodol (er enghraifft, iechyd, addysg). Mae terminoleg yn nodi pa dermau sy’n safonol mewn cyd-destun penodol, er enghraifft, wrth ysgrifennu ar gyfer sector neu i gwsmer penodol. Mae gwaith ar derminoleg yn wahanol i waith ar eiriadur am ei fod yn golygu astudio cysyniadau, systemau cysyniadol a’u labeli, yn hytrach nag astudio geiriau a’u hystyron, fel y gwneir wrth lunio geiriadur.

Crynodeb gweithredol

Yn ystod haf 2017, fe wnaethon ni gyhoeddi strategaeth iaith Cymraeg 2050: Miliwn o siaradwyr a oedd yn cyflwyno cynllun ar gyfer dyblu nifer y siaradwyr Cymraeg i filiwn a chynyddu defnydd o’r iaith. Roedd y strategaeth yn golygu newid sylweddol i bolisi iaith Cymru.

Yn y strategaeth honno fe wnaethon ni nodi, er mwyn cyrraedd y targed o filiwn o siaradwyr, bod angen i fwy o bobl siarad Cymraeg a mwy o bobl ddefnyddio’r Gymraeg. Ond hefyd fe ddywedon ni bod angen creu amodau ffafriol – pethau fel adnoddau ieithyddol, economi ffyniannus, neu sicrhau cefnogaeth pobl i’r iaith. Mae geiriaduron, terminolegau a chorpora (pethau rydyn ni’n cyfeirio atyn nhw ar y cyd yma fel ‘seilwaith ieithyddol’) yn rhan bwysig iawn o hyn.

Gan fod cynyddu nifer y siaradwyr yn golygu cynnwys pawb, o bob cefndir, rydyn ni am weld y gwahanol adnoddau hyn yn cael eu cydlynu’n effeithiol fel eu bod yn gyson, yn ffitio gyda’i gilydd, ac yn hawdd dod o hyd iddyn nhw. Rydyn ni am wneud hyn fel bod pawb yn gallu eu defnyddio’n hawdd waeth ble mae nhw ar eu taith iaith – yn siaradwyr newydd, yn blant ysgol a’u rhieni, yn fyfyrwyr, yn bobl sy’n defnyddio’r Gymraeg yn y gweithle, yn gyfieithwyr proffesiynol, gweithwyr cymdeithasol ac iechyd, cyfreithwyr, yr heddlu a’r gwasanaethau brys, newyddiadurwyr, athrawon, a llawer mwy.

Ein blaenoriaethau

Gyda chynifer o adnoddau ar gael i bobl sydd am ddefnyddio’r Gymraeg, mae pobl yn dal i ddweud nad ydyn nhw’n gwybod ble i droi i chwilio am air neu derm. Y gwir yw eu bod nhw ar wasgar – rhai ohonyn nhw’n wefannau neu’n apiau, a rhai ar bapur – a phobl ddim yn gwybod bob amser ble i droi am atebion nac arweiniad. Mae’n bosibl mai dyna’r rheswm bod nifer o ymatebion i’r ymgynghoriad ar ein polisi drafft yn dangos cefnogaeth i’r syniad o greu gwefan sy’n cynnwys gwybodaeth am y gwahanol adnoddau sydd ar gael, ac a fyddai’n caniatáu chwilio drwy’r holl adnoddau mewn un man. Rydyn ni felly am greu trefn newydd i gydlynu’r prif adnoddau’n well, a rhoi mynediad atynt mewn un man, fel bod pawb yn gallu cael gafael ar atebion yn hawdd.

Yng ngweddill y ddogfen hon, rydyn ni’n amlinellu ein polisi ar gyfer y chwe maes canlynol:

  1. Geiriaduron
  2. Terminoleg
  3. Corpora
  4. Safoni (er enghraifft, orgraff, sillafu, enwau lleoedd, termau)
  5. Gwefan ganolog
  6. Uned newydd i gydlynu seilwaith ieithyddol y Gymraeg

Ein nod yw gwneud i’r holl elfennau hyn weithio’n llyfn gyda’i gilydd, er mwyn ei gwneud yn haws i fwy o bobl nag erioed ddefnyddio’r Gymraeg.

Ers cyhoeddi’r polisi drafft, rydyn ni wedi dechrau rhoi rhai o’r camau cychwynnol a nodwyd ynddo ar waith. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • creu uned newydd yn Llywodraeth Cymru i ddechrau ar y gwaith o wneud i’r gwahanol elfennau weithio gyda’i gilydd yn well.
  • dechrau ar y gwaith o sefydlu gwefan hawdd i’w chyrraedd, hawdd i’w defnyddio i bawb sydd am ddefnyddio’r Gymraeg – gwefan sy’n esbonio ac yn cynnig mynediad hwylus at adnoddau fel y prif eiriaduron a chronfeydd termau, yn ogystal ag adnoddau fel corpora, i gyd mewn un man.
  • sefydlu Panel Safoni’r Gymraeg i ddechrau datrys problemau ieithyddol, gan ganolbwyntio i ddechrau ar faterion orgraffyddol hirsefydlog.
  • ar y cyd â Phrifysgol Bangor, cydlynu’r broses o safoni termau cydraddoldeb o ran hil ac ethnigrwydd, gan gynnal proses i ymgynghori â rhanddeiliaid ac unigolion allweddol yn y maes i greu rhestr gyfoes o dermau ar gyfer y maes.

Cyflwyniad: Pam rhoi’r cyfrifoldeb am gydlynu hyn i gyd mewn un lle?

Ei gwneud yn haws i’r defnyddiwr

Mae pobl sydd am ddefnyddio’r Gymraeg yn mynegi nifer o rwystredigaethau. Un ohonyn nhw yw eu bod yn ei chael yn anodd dod o hyd i adnoddau ac atebion. Un arall yw bod dryswch yn sgil nifer y ffynonellau terminoleg a geiriadura sydd ar gael, ac anhawster gwybod p’un sy’n cael blaenoriaeth. Mae hyn yn awgrymu bod aneglurder ynghylch lle i droi am atebion i gwestiynau ieithyddol. Mae creu uned i fod yn gyfrifol am wneud i’r gwahanol adnoddau weithio gyda’i gilydd yn well, a chynnig arweiniad ar eu defnydd a mynediad atynt drwy un rhyngwyneb, yn ffordd o fynd i’r afael â hynny.

Byddwn yn helpu i gydlynu adnoddau gyda’r nod o roi mwy o eglurder i’r defnyddiwr. Yn hynny o beth, byddwn yn ystyried datrysiadau ac yn gweithio tuag at sefyllfa lle mae modd dod o hyd i gynnyrch nifer o’r prif adnoddau ieithyddol (boed yn eiriau neu’n dermau, yn gorpora neu’n gyngor ieithyddol) drwy un porth chwilio.

Creu un profiad i’r defnyddiwr

Mae gan nifer o wledydd ac ieithoedd gyrff swyddogol neu academïau ar wahanol fodelau sy’n gyfrifol am gydlynu gwaith yn y maes hwn, ac sy’n fan cychwyn amlwg i’r cyhoedd wrth ofyn cwestiynau ieithyddol. Mae hyn yn creu undod profiad lle mae sefydliad cenedlaethol, hanesyddol yn rhoi hyder i ddefnyddwyr eu bod yn defnyddio gair neu derm addas.

Yn achos y Gymraeg, gan amlaf, bydd y profiad yn dibynnu ar wybodaeth y defnyddiwr o’r ffynonellau. Er enghraifft, bydd cyfieithydd proffesiynol yn gwybod pa ffynhonnell o blith nifer i’w dewis; bydd gan rai siaradwyr Cymraeg rywfaint o wybodaeth, ond weithiau’n drysu neu ddim yn ymwybodol o ffynhonnell addas; ac yn aml ni fydd gan siaradwyr newydd neu bobl nad ydyn nhw’n siarad Cymraeg syniad ble i ddechrau.

Byddwn yn anelu at greu profiad cyson a chyflawn i bawb sy’n defnyddio adnoddau seilwaith Cymraeg. Er mwyn gwneud hynny, byddwn yn edrych eto ar y ffordd y mae adnoddau’n cael eu comisiynu a’u cydlynu, a’u marchnata gyda’r nod o roi hyder i ddefnyddwyr bod yr atebion y maent yn eu cael yn rhai awdurdodol.

Osgoi dyblygu a llenwi bylchau

Mae dyblygu nid yn unig yn gallu achosi dryswch, ond hefyd yn gallu arwain at ddefnydd aneffeithlon o adnoddau a sgiliau arbenigol prin.

Ar hyn o bryd, mae nifer o eiriaduron a chronfeydd termau gwahanol, gyda gwahanol unigolion a sefydliadau yn eu cynhyrchu, heb drefn bendant i gydlynu rhyngddynt. Mae Llywodraeth Cymru eisoes yn darparu cyllid ar gyfer nifer o’r prosiectau hyn, felly gwelwn fod yma gyfle iddi chwarae rhan gydlynol er mwyn datblygu’r maes ymhellach.

Edrych tua’r gorwel

Un bwlch amlwg yn y ddarpariaeth bresennol yw diffyg cynllunio strategol o ran beth fydd yr anghenion dros y cyfnod sydd i ddod. Er enghraifft, os daw i’r amlwg bod gwaith yn cael ei gynllunio mewn maes polisi newydd, neu fod diwydiant penodol yn dod i Gymru a bod angen termau Cymraeg ar y gweithlu, pwy sy’n gyfrifol am sicrhau bod termau priodol ar gael mewn pryd? Rydyn ni wedi gweld rhywbeth tebyg yn digwydd yn ddiweddar gyda therminoleg ym maes cydraddoldeb o ran hil ac ethnigrwydd, wrth i weithredu ledled y byd dynnu sylw at fylchau yn y derminoleg yn Gymraeg. Diffyg systemig yw hyn, gan nad oes un corff yng Nghymru sy’n gyfrifol am gadw golwg strategol ar anghenion ym maes terminoleg y Gymraeg. Yn achos y ddwy brif ganolfan sy’n safoni termau yng Nghymru, ymateb i gynlluniau a defnydd termau gan Weinidogion Cymru y mae Gwasanaeth Cyfieithu Llywodraeth Cymru drwy wefan BydTermCymru, a datblygu geiriaduron termau newydd ar gyfer Porth Termau Cenedlaethol Cymru, ar y cyd â chyrff sy'n comisiynu'r gwaith, y mae’r Uned Termau a Thechnolegau Iaith ym Mhrifysgol Bangor. Dyna’u gwaith nhw, ac maen nhw’n gwneud hynny i safon uchel iawn.

Felly bydd yr uned seilwaith ieithyddol yn Llywodraeth Cymru (gw. Maes datblygu 6) yn gyfrifol am edrych tua’r gorwel am ddatblygiadau polisi a phrosiectau cyhoeddus mawr sydd i ddod, ac am sicrhau bod arbenigwyr priodol yn gyfrifol am gynhyrchu a safoni’r derminoleg angenrheidiol yn rhagweithiol, a hynny heb ddyblygu ymdrechion. Mae hyn yn arbennig o bwysig yn achos termau technegol, er mwyn sicrhau bod y term yn gysyniadol gywir ac yn addas at ddefnydd arbenigol, boed ym myd addysg, gwyddoniaeth, meddygaeth neu unrhyw faes arall.

Ymateb i’r angen am dermau ar frys

Yn ogystal ag edrych ar y darlun hirdymor a chynllunio ar ei gyfer, bydd yr uned hefyd yn sefydlu trefn i helpu gyda thermau uchel eu proffil sy’n codi’n ddirybudd, ond bod brys ar eu cyfer. Rydyn ni am leihau nifer y sefyllfaoedd lle mae unigolion a sefydliadau’n gorfod bathu termau ar frys heb ymgynghori nac arweiniad ehangach. Mae hynny’n gallu arwain at ddyblygu wrth i gyrff neu asiantaethau gwahanol, oherwydd y brys, fynd ati ar eu liwt eu hunain, gan arwain yn aml at greu sawl term am yr un cysyniad. Drwy helpu i gydlynu terminoleg yn yr achosion hyn, ein nod yw arwain at fwy o gysondeb a’i gwneud hi’n haws i’r defnyddiwr adnabod, deall a dechrau defnyddio termau newydd.

Cydlynu er budd y maes cyfan

Er bod peth cydweithio rhwng sefydliadau a thimau sy’n gyfrifol am elfennau o seilwaith ieithyddol y Gymraeg, does dim strwythur i sicrhau bod datblygiadau a gwersi a ddysgwyd mewn un maes yn cael eu rhannu â meysydd eraill fel mater o drefn.

Mae cyllid cyhoeddus yn ariannu cyfran helaeth o’r gwaith sy’n digwydd ar hyn o bryd, felly bydd sefydlu trefn i’w gydlynu’n well yn ffordd o sicrhau gwell gwerth am arian, gyda’r nod o leihau dyblygu a gwneud y mwyaf o’r cyllid, yr adnoddau a’r arbenigedd sydd ar gael. Bydd sicrhau buddsoddiad digonol a sefydlog i’r maes, yn ogystal â gwneud yn siŵr bod gwaith sydd eisoes wedi’i ariannu yn parhau’n gyfoes ac yn werthfawr, yn rhan ganolog o hyn.

Yn y tymor byr, mae’n bosib y bydd prinder unigolion sydd â’r arbenigedd angenrheidiol i ymgymryd â’r gwaith yn her – hyn a hyn o bobl yng Nghymru sydd ag arbenigedd ym meysydd geiriadura a therminoleg, er enghraifft. Bydd yn gyfrifoldeb i’r uned, felly, gynllunio at y tymor hwy, gan archwilio dulliau o feithrin arbenigedd ac ehangu’r pwll o arbenigwyr sy’n gallu ymgymryd â’r gwaith.

Bydd yr uned yn gweithio gyda gwasanaethau cyfieithu o bob math, yn ogystal â Chymdeithas Cyfieithwyr Cymru. Bydd cydweithio agos yn gwneud yn siŵr bod cysylltiad priodol rhwng y meysydd hyn, fel bod datblygiadau mewn un maes yn ystyried y lleill, gan ehangu’r budd sydd i’w gael i bob un.

Y meysydd datblygu

Yn yr adran hon, rydyn ni’n amlinellu’r chwe maes y byddwn yn eu datblygu er mwyn cryfhau a chydlynu seilwaith ieithyddol y Gymraeg. Rydyn ni’n credu y bydd gwneud hyn yn helpu i gynyddu defnydd o’r iaith.

Maes datblygu 1: Geiriaduron

Mae “Beth yw’r gair Cymraeg am...?” yn gwestiwn rydyn ni’n ei glywed dro ar ôl tro. Ar y radio neu’r teledu, yn yr ystafell ddosbarth, ar y cyfryngau cymdeithasol neu wrth siarad yn y swyddfa, mae cwestiynau am eiriau Cymraeg yn gyffredin iawn. Ac yn aml, heb i ni sylweddoli, mae ateb i’n cwestiwn eisoes yn bodoli mewn geiriadur, ac fel arfer o fewn cyrraedd hawdd ar-lein ac ar apiau.

Mae’n hawdd cymryd geiriaduron yn ganiataol. Maen nhw’n chwarae rôl bwysig wrth sicrhau bod gwybodaeth am ddiffiniad geiriau, a chyfieithiadau ohonyn nhw, ar gael i’w defnyddwyr. Yn y byd modern, gall gwahanol fathau o eiriaduron gofnodi defnydd hanesyddol yr iaith, adlewyrchu defnydd iaith pob dydd, neu ddarparu ar gyfer cynulleidfaoedd penodol, fel siaradwyr newydd neu blant.

Bydd diogelu dyfodol geiriaduron o’r fath, a gwneud yn siŵr eu bod ar gael yn hawdd i bawb, yn golygu bod mwy o bobl y gallu defnyddio’r iaith yn ddirwystr. Mae geiriaduron hefyd yn cynnig sylfaen gref ar gyfer datblygu bob math o adnoddau ieithyddol defnyddiol eraill ar gyfer pawb sydd am ddefnyddio’r Gymraeg.

Pa adnoddau sydd ar gael ar hyn o bryd

Mae sawl geiriadur Cymraeg ar gael, ond yma rydyn ni’n canolbwyntio ar y geiriaduron hynny sydd ar gael ar-lein.

Geiriadur Prifysgol Cymru

Prif eiriadur hanesyddol safonol y Gymraeg, a gafodd ei baratoi’n wreiddiol rhwng 1921 a 2002 gan Brifysgol Cymru ac sy’n cael ei ddiweddaru o hyd. Mae’n debyg o ran statws i’r Oxford English Dictionary yn y Saesneg. Dyma sylfaen yr holl gyfeirlyfrau eraill ar gyfer y Gymraeg, er enghraifft, geiriaduron, cronfeydd terminoleg, llyfrau gramadeg, penderfyniadau ar yr orgraff (er enghraifft, sut mae geiriau’n cael eu sillafu) ac ati. Mae’r adnodd hwn hefyd ar gael ar ffurf ap.

Geiriadur yr Academi

Geiriadur Saesneg-Cymraeg, wedi ei olygu gan Bruce Griffiths a Dafydd Glyn Jones. Cyn ei gyhoeddi, doedd dim geiriadur cynhwysfawr addas at ddefnydd y proffesiwn cyfieithu. Mae hefyd wedi bod yn adnodd hynod bwysig er mwyn hwyluso gweithio yn Gymraeg mewn sefydliadau dwyieithog, ac ym myd addysg. Bu Bwrdd yr Iaith Gymraeg gynt a Chomisiynydd y Gymraeg yn gyfrifol am brosiect i drosi’r geiriadur i fersiwn electronig a’i gyhoeddi ar-lein, ac mae gwaith pellach i’w wneud i ddiwygio a diweddaru’r cofnodion. Mae’r cynnwys wedi bod yn segur i bob pwrpas ers ail argraffiad y fersiwn print yn 2003 (cyfnod o newid cyflym i’r Gymraeg) ac mae nifer sylweddol o eiriau mwy diweddar felly nad ydynt wedi eu cynnwys ynddo, neu sydd angen eu diweddaru.

Geiriadur Prifysgol Bangor

Geiriadur Cymraeg-Saesneg a Saesneg-Cymraeg yr Uned Termau a Thechnolegau Iaith ym Mhrifysgol Bangor. Mae’n arbennig o ddefnyddiol i siaradwyr newydd. Ceir cysylltiadau i eiriaduron eraill ac i adnoddau termau technegol. Mae hefyd ar gael yn ddi-dâl yn yr ap Geiriaduron.

Geiriadur y Drindod Dewi Sant

Geiriadur Cymraeg-Saesneg a Saesneg-Cymraeg cynhwysfawr a gafodd ei baratoi gan Adran y Gymraeg, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn Llanbedr Pont Steffan. Nid yw’r geiriadur hwn wedi cael ei ddiweddaru ers nifer o flynyddoedd, ond mae’n parhau’n adnodd hynod ddefnyddiol.

Y Gweiadur

Geiriadur Cymraeg-Saesneg ac Saesneg-Cymraeg ar-lein sy’n cynnwys diffiniadau ac ynganiadau ac sy’n rhan o gasgliad o adnoddau aml-gyfrwng ar gyfer defnyddwyr y Gymraeg o bob oedran a gallu. Gellir ei ddefnyddio’n ddi-dâl, ond mae angen cofrestru i’w ddefnyddio. Mae’r wefan hefyd yn cynnwys adnoddau defnyddiol fel Berfiadur a Thesawrws.

Adnoddau eraill: rhaid cydnabod hefyd fod llawer o bobl yn defnyddio adnoddau fel Bing Microsoft Translator a Google Translate i ddod o hyd i air neu derm. Mae’r rhain yn gallu bod yn adnoddau defnyddiol a hygyrch sy’n hwyluso defnyddio’r Gymraeg mewn rhai sefyllfaoedd, ond dydyn nhw ddim bob amser yn rhoi atebion dibynadwy.

Amcanion

Cael cysondeb rhwng gwahanol eiriaduron, lle mae hynny’n briodol, drwy annog a hwyluso eu diweddaru ar sail yr un ymchwil fel eu bod yn cyfoethogi ei gilydd.

Ei gwneud yn hawdd i unrhyw un ganfod ble i droi am ddiffiniad o air Cymraeg neu am gyfieithiad o air.

Sicrhau bod yr adnoddau a ariennnir gan Lywodraeth Cymru yn cael eu diweddaru’n gyson, fel eu bod yn adlewyrchu’r Gymraeg fel iaith fyw.

Sicrhau bod geiriadur Cymraeg>Saesneg cyfoes, sy’n cael ei ddiweddaru’n gyson, ar gael i bawb yn ddigidol.

Gwneud y mwyaf o’r arbenigedd sy’n bodoli yn y maes, a’i ddatblygu ymhellach.

Sut y byddwn yn ei wneud

  • Helpu i gynllunio adnoddau geiriadurol cyson sy’n ategu ei gilydd, fel bod darpariaeth safonol a chynhwysfawr ar gael i ddefnyddwyr y Gymraeg.
  • Fel rhan o hynny, annog ailgydio yn y gwaith o ddiwygio a diweddaru adnodd hollbwysig Geiriadur yr Academi.
  • Sicrhau bod defnyddwyr yn gallu cael mynediad at y prif adnoddau geiriadurol drwy wefan ganolog (gweler Maes datblygu 5), gan farchnata a chodi ymwybyddiaeth ohoni fel bod pobl yn gwybod ble i droi pan fydd y cwestiwn “Beth yw’r gair Cymraeg am...?” yn codi ei ben.
  • Archwilio dulliau o ddatblygu’r hyfforddiant sydd ar gael i’r rheini sydd am fod yn eiriadurwyr, fel bod y pwll o bobl sy’n gallu gwneud y gwaith yn cynyddu.

Maes datblygu 2: Terminoleg

Yn yr un ffordd â’r geiriau mewn geiriaduron, rydyn ni hefyd yn dibynnu ar dermau yn ein bywydau pob dydd – p’un a ydyn ni’n sylweddoli hynny neu beidio.

Mae termau’n cael eu defnyddio i ddynodi cysyniadau penodol mewn meysydd penodol ac, yn wahanol i eiriau yn yr iaith gyffredinol, rhaid wrth brosesau safoni er mwyn sicrhau un term ar gyfer pob cysyniad. Yn hynny o beth, mae geiriaduron terminoleg yn wahanol i eiriaduron ieithyddol disgrifiadol, fel y rhai rydyn ni’n sôn amdanynt ym Maes datblygu 1. Ond maen nhw yr un mor bwysig.

Allwn ni ddim defnyddio cyfrifiadur, er enghraifft, heb gyffwrdd llygoden a bysellfwrdd, neu fewnbynnu cyfrinair – mae’r rhain i gyd yn dermau sy’n ymwneud â’r maes technoleg. Mae llygoden yn golygu mwy nag un peth, ond o’i chynnwys mewn terminoleg ar gyfer y maes technoleg, rydyn ni’n gwybod ei bod yn cyfeirio at y teclyn sy’n ein helpu ni i weithio ar gyfrifiadur, yn hytrach nag anifail. O gasglu termau sy’n berthnasol i’r un maes ynghyd mewn un lle, rydyn ni’n creu rhestr o dermau, neu mewn gair arall, terminoleg. Ac mae’n hollbwysig bod ffynonellau safonol o derminoleg yn bodoli sy’n ei gwneud yn haws defnyddio’r Gymraeg ym mhob agwedd ar fywyd bob dydd, er enghraifft mewn meysydd arbenigol fel technoleg, y gyfraith, maes iechyd, a’r byd addysg.

Mae gwaith safoni termau’r Gymraeg wedi bod yn digwydd ers canol yr ugeinfed ganrif (er enghraifft, Termau Technegol, Gwasg Prifysgol Cymru, 1950). Ym maes addysg, dechreuodd gwaith safoni terminoleg ym 1993 pan ddyfarnodd yr Awdurdod Cwricwlwm Ysgolion gontract i Brifysgol Bangor safoni terminoleg y Gymraeg ar gyfer ysgolion Cymru. Arweiniodd hynny at greu Y Termiadur Addysg, sy’n parhau i fod yn adnodd pwysig dros ben. Ond dydy’r angen am greu terminoleg byth yn diflannu. Yn ddiweddar, er enghraifft, fe welson ni’r angen i ddiweddaru a thynnu ynghyd dermau yng nghyswllt cydraddoldeb ym maes hil ac ethnigrwydd. Drwy gydweithio â Phrifysgol Bangor ac amrywiol arbenigwyr iaith, ynghyd ag aelodau o wahanol gymunedau ethnig, crëwyd rhestr o dermau Cymraeg addas i’w defnyddio gan bawb. Y nod yw ei gwneud hi’n haws i bobl drafod y maes pwysig hwn yn hyderus yn Gymraeg a chynnal sgyrsiau pwysig a gwerthfawr.

Mae geiriaduron terminoleg yn seiliedig ar gysyniadau yn hytrach na geiriau, ac yn dilyn proses safoni a ragnodir yn nheulu ISO/TC37 o safonau rhyngwladol. Gall hynny olygu ei bod yn cymryd ychydig o amser i dermau gael eu safoni a’u cynnwys mewn adnoddau terminoleg. Mae’n bwysig iawn, felly, bod gwaith ar dermau’n cael ei gydlynu a’i gynllunio’n drylwyr er mwyn gwneud yn siŵr nad oes bylchau amlwg yn y ddarpariaeth.

Byddwn ni’n mynd ati i ddatrys dau brif fater mewn perthynas â therminoleg.

1: Bod cynifer o adnoddau, rhai wedi eu safoni a rhai heb, yn golygu nad yw pobl bob amser yn gwybod pa rai i’w defnyddio, ac weithiau bod anghysondeb rhwng adnoddau

Er bod cynifer o adnoddau terminoleg ar-lein o’r ansawdd uchaf ar gael ar gyfer y Gymraeg – boed yn gronfeydd termau gan arbenigwyr terminoleg, neu’n rhestrau ar-lein a gedwir er hwylustod gan wahanol gyrff cyhoeddus – mae’n amlwg nad yw pobl bob amser yn gwybod ble i droi am derm, pa dermau sydd wedi’u safoni gan ddilyn rheolau cydnabyddedig, na pha derm yw’r un gorau at eu dibenion nhw.

Am fod safoni termau yn digwydd mewn nifer o gyd-destunau, gan unigolion a sefydliadau, er mwyn mynegi cysyniad technegol, mae hynny’n gallu arwain at sefyllfa lle mae nifer o wahanol ffynonellau’n cynnig termau, rhai ohonynt wedi eu safoni, ac eraill heb eu safoni. I’r rhai sy’n gweithio mewn maes penodol, gall fod yn amlwg pa ffynhonnell sydd fwyaf dibynadwy, a pha derm i’w ddefnyddio. Ond beth am y gweddill ohonom?

2: Blaenoriaethu pa dermau technegol sy’n cael eu safoni, a threfn well i fathu termau newydd ar frys a sicrhau eu bod yn cael eu mabwysiadu’n eang

Yn fras, gellir rhannu’r gwaith o safoni termau’n ddau weithgaredd gwahanol:

  • llenwi bylchau yng ngeirfa gyffredinol yr iaith, er enghraifft fel bod geiriau a thermau ar gael ar gyfer cysyniadau newydd wrth iddyn nhw godi
  • safoni pecynnau o dermau technegol, fel bod y termau hynny’n addas at ddefnydd arbenigol mewn meysydd penodol, er enghraifft, addysg, gwyddoniaeth, meddygaeth, hylendid bwyd ac yn y blaen
Llenwi bylchau yng ngeirfa gyffredinol yr iaith

O bryd i’w gilydd, bydd angen creu term newydd ar frys, oherwydd rhywbeth sydd wedi digwydd yn y newyddion, er enghraifft, neu am fod angen rhoi gwybodaeth newydd i’r cyhoedd. Yng Nghymru, fel ag yn achos nifer fawr o ieithoedd, mae hyn fel arfer yn digwydd er mwyn ceisio cyfleu yn Gymraeg gysyniadau sy’n cael eu mynegi’n gyntaf yn Saesneg. Mae enghreifftiau diweddar yn cynnwys termau yng nghyswllt Brexit, termau meddygol oherwydd y pandemig COVID-19, a thermau cydraddoldeb ym maes hil ac ethnigrwydd.

Safoni pecynnau o dermau technegol

Adegau eraill, ni fydd cymaint o frys am dermau, ond eto mae’n amlwg y bydd angen pecyn o dermau newydd yn y dyfodol agos, er enghraifft, os bydd y Llywodraeth yn bwriadu datblygu polisi newydd mewn maes penodol, os bydd maes penodol yn cael rhagor o sylw cyhoeddus (er enghraifft, cydraddoldeb o ran hil ac ethnigrwydd), neu os bydd diwydiant newydd yn dod i Gymru nad oes termau Cymraeg yn bodoli ar ei gyfer. Gyda dau brosiect mawr yn creu termau (Uned Termau a Thechnolegau Iaith Prifysgol Bangor, a BydTermCymru yng Ngwasanaeth Cyfieithu Llywodraeth Cymru), a’r ddau’n gweithio’n annibynnol ar eu meysydd, bydd yr uned newydd yn cynllunio darpariaeth pan fydd cyfres o dermau’n codi mewn maes newydd, er mwyn penderfynu pa becynnau terminoleg y byddai o fudd cenedlaethol eu blaenoriaethu.

Yn y ddau achos uchod, os bydd mwy nag un ffynhonnell yn bathu term gwahanol am yr un cysyniad technegol, mae angen dull o benderfynu pa un sy’n cael blaenoriaeth, ac o sicrhau bod gwahanol adnoddau’n cael eu cysoni lle bo’n briodol (rydym yn derbyn bod gwahaniaeth rhwng termau’n anorfod mewn rhai sefyllfaoedd oherwydd amrywiadau o ran cynulleidfa neu gyd-destun).

Pa adnoddau sydd ar gael ar hyn o bryd

Mae sawl casgliad o dermau Cymraeg ar gael – isod rydyn ni’n rhestru’r prif ffynonellau:

Porth Termau Cenedlaethol Cymru

Cafodd y gronfa dermau hon ei datblygu gan Uned Termau a Thechnolegau Iaith Prifysgol Bangor. Mae Porth Termau Cenedlaethol Cymru'n cynnwys casgliadau o derminoleg arbenigol sydd wedi eu safoni mewn cydweithrediad â nifer o gyrff allanol arbenigol, er enghraifft:

  • Y Termiadur Addysg
  • Geiriadur Termau'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol
  • Termau Gofal Cymdeithasol Cymru
  • Termau Rhwydwaith Cyfiawnder Cymru
  • Geiriaduron Natur Cymdeithas Edward Llwyd
  • Termau yr Asiantaeth Safonau Bwyd

Gellir cael mynediad at rai o'r adnoddau hyn drwy adnodd Cysgeir (sy'n rhan o'r pecyn meddalwedd Cysgliad) a'r Ap Geiriaduron hefyd.

TermCymru

Casgliad chwiliadwy o’r termau y bydd cyfieithwyr Llywodraeth Cymru yn eu defnyddio wrth eu gwaith bob dydd. Mae’n cael ei ddiweddaru’n rheolaidd ac mae’n tyfu’n gronfa helaeth o dermau safonol a chyfoes sy’n cofnodi’r termau a ddefnyddir yng ngwaith y Llywodraeth. Yn ogystal â'i chwilio, gallwch ei lawrlwytho yn ei gyfanrwydd dan drwydded agored, sy'n rhoi mwy o hyblygrwydd i chi ei ddefnyddio na dim ond ei gynnig ar ffurf chwiliadwy.

Y Termiadur Addysg

Adnodd a noddir gan Lywodraeth Cymru, ac a gafodd ei ddatblygu gan Uned Termau a Thechnolegau Iaith Prifysgol Bangor, ar gyfer darparu termau safonol yn y byd addysg. Rhain yw’r termau i’w defnyddio mewn arholiadau ac asesiadau cyfrwng Cymraeg ac mewn adnoddau o bob math ar gyfer athrawon a disgyblion. Gellir chwilio’r gronfa hon hefyd drwy’r Porth Termau uchod.

Termau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Cronfa o dermau ar gyfer maes Addysg Uwch cyfrwng Cymraeg, a safonwyd gan yr Uned Technolegau Iaith ym Mhrifysgol Bangor. Mae’n adnodd ar-lein i fyfyrwyr a staff i hwyluso’r broses o astudio, addysgu ac ymchwilio drwy gyfrwng y Gymraeg ar lefel Prifysgol. Gellir chwilio’r gronfa hon hefyd drwy’r Porth Termau uchod, a thrwy’r Ap Geiriaduron.

Casgliadau eraill: Mae amrywiol gyrff eraill hefyd yn llunio ac yn cadw eu rhestrau termau eu hunain, gan fynd ati weithiau i’w cyhoeddi ar-lein. Ond anaml y bydd nifer o’r rhestrau hyn wedi eu safoni drwy brosesau cydnabyddedig a’u bwydo i’r adnoddau ehangach uchod. Yn absenoldeb ffynonellau eraill, serch hynny, gallant fod yn ddefnyddiol iawn – mae enghreifftiau’n cynnwys rhestrau a gedwir gan Stonewall ac Amgueddfa Cymru.

Amcan

Sicrhau bod pawb yn gallu dod o hyd i derm yn hawdd, a bod ganddynt hyder mai’r term hwnnw yw’r un cywir iddyn nhw.

Sut y byddwn yn ei wneud
Yr hyn rydym wedi’i wneud
  • Sefydlu uned newydd (gweler Maes datblygu 6) i gydlynu’r gwaith terminoleg sy’n digwydd ar hyn o bryd, er mwyn osgoi dyblygu a gweithio tuag at gysondeb. Bydd yr uned hefyd yn gyfrifol am greu rhaglenni gwaith er mwyn cynllunio’r blaenoriaethau ar gyfer safoni fesul blwyddyn.
Yr hyn a wnawn
  • Yn y tymor byr, byddwn ni’n creu gwefan i wneud yn siŵr bod pawb yn gwybod ble i droi er mwyn cael atebion terminolegol. Bydd hyn yn cynnwys marchnata’r ddarpariaeth yn effeithiol, codi ymwybyddiaeth o’r adnoddau sydd ar gael, a chynnig cyngor am y mannau gorau i ddod o hyd i atebion, gan ddibynnu pwy yw’r defnyddiwr.
  • Gan ddechrau ar unwaith ond gan ddwyn ffrwyth yn y tymor hir, byddwn ni’n gweithio ar ddatrysiad i alluogi defnyddwyr i chwilio drwy brif gronfeydd terminoleg y Gymraeg (er enghraifft, y Porth Termau a BydTermCymru) mewn un lle, ar un wefan hawdd i’w defnyddio (gweler Maes datblygu 5). Bydd hyn yn golygu nad oes yn rhaid i ddefnyddwyr chwilio drwy nifer o wefannau am ffynhonnell dermau addas, ac y byddai ganddynt hyder bod y term a gyflwynir yn un cymeradwy, safonedig.
  • Byddwn ni hefyd yn darparu dolenni at restrau termau gan amrywiol gyrff a allai helpu pobl i ddod o hyd i dermau arbenigol, gan esbonio nad yw’r rhain o reidrwydd wedi’u safoni drwy brosesau cydnabyddedig.
  • Byddwn ni’n helpu defnyddwyr i wybod pa adnodd sy’n addas at eu dibenion nhw, er enghraifft, os ydyn nhw’n ddisgybl ysgol, yn defnyddio’r Gymraeg yn y gwaith, neu’n siaradwr newydd. Byddwn ni’n cadw llygad ar batrymau defnydd er mwyn gwybod pwy yw’r gwahanol gynulleidfaoedd, sut maen nhw’n defnyddio’r adnoddau, ac ym mha gyd-destun maen nhw’n debygol o chwilio am derm. 
  • Byddwn yn annog gwahanol brosiectau i gysoni termau, lle bo’n briodol, er mwyn ceisio sicrhau nad oes termau sy’n anghyson â’i gilydd o un adnodd i’r llall o safbwynt, er enghraifft, orgraff neu ystyr.
  • Byddwn yn sefydlu gwasanaeth ymholiadau ar-lein i gasglu tystiolaeth ynghylch pa dermau sy’n flaenoriaeth i’r cyhoedd ac sydd angen atebion brys yn eu cylch.
  • Byddwn yn achlysurol yn gwerthuso i ba raddau y mae termau’n cael eu derbyn a’u defnyddio, gan ddysgu a bwydo’r canfyddiadau i mewn i’r broses wrth gamu ymlaen.
  • Byddwn yn helpu i gynyddu nifer y terminolegwyr proffesiynol, er enghraifft, drwy gyfuniad o hyfforddiant, marchnata’r cyfleoedd sydd ar gael yn y maes, a phrentisiaethau. 

Amcanion

O ran llenwi bylchau yng ngeirfa gyffredinol yr iaith, o ganlyniad i dermau sy’n codi’n ddirybudd a lle mae angen datrysiad brys: byddwn ni’n sefydlu trefn gyflymach i greu termau newydd mewn ffordd sy’n ymateb i ddigwyddiadau wrth iddyn nhw godi.

O ran safoni pecynnau o dermau technegol y gellir rhagweld y bydd eu hangen yn y dyfodol agos (er enghraifft, am fod polisi dan ddatblygiad, neu am fod cyflogwr mawr am agor gweithle newydd a bod angen termau i ddiwallu’r angen mewn sector penodol) – byddwn ni’n llunio rhaglenni gwaith blynyddol i gydlynu’r gwaith pwysig hwnnw.

Yn y ddau achos uchod, byddwn ni’n hwyluso’r gwaith o gysoni’r termau a safonir ar draws gwahanol adnoddau.

Sut y byddwn yn ei wneud
Yr hyn rydym wedi’i wneud
  • Sefydlu uned (gweler maes 6) i adnabod termau sydd angen eu safoni ar frys, ac i edrych tua’r gorwel am dermau y bydd eu hangen yn y dyfodol agos.
  • Ar y cyd â Phrifysgol Bangor, rydym wedi cydlynu’r broses o safoni termau cydraddoldeb o ran hil ac ethnigrwydd, gan gynnal proses i ymgynghori â rhanddeiliaid ac unigolion allweddol yn y maes i greu rhestr gyfoes o dermau Cymraeg ar gyfer y maes. Bydd y gwersi a ddysgir o’r profiad hwn yn gosod cynsail ar gyfer safoni pecynnau eraill o dermau at y dyfodol.
Yr hyn a wnawn
  • O ran termau sydd eu hangen ar frys, ar y cyd â’r prif ddarparwyr yn y maes, byddwn yn cytuno ar broses safoni trac cyflym, fel bod statws i’r term a chysondeb yn y defnydd ohono. Byddwn yn hwyluso dosbarthu’r term i’r bobl sydd fwyaf tebygol o fod angen ei ddefnyddio heb oedi.
  • O ran termau nad oes cymaint o frys yn eu cylch, lle ceir bylchau byddwn yn comisiynu darparwyr penodol i arwain ar y gwaith o safoni pecynnau terminoleg.
  • Byddwn ni’n annog bod y termau y cytunir arnynt yn cael eu lledaenu a’u cynnwys yn yr holl gronfeydd terminoleg priodol, fel bod unrhyw un sy’n chwilio am y term Cymraeg yn gwybod mai dyma’r term cywir.
  • Byddwn yn rhoi cyhoeddusrwydd i dermau newydd a safonir fel bod defnyddwyr yn ymwybodol ohonynt.

Maes datblygu 3: Corpora

Gall ‘corpws’ (lluosog: corpora) olygu sawl peth. Ond yr hyn sydd gennym dan sylw yn y ddogfen hon yw cronfa o ddata ieithyddol wedi ei chasglu gan ddilyn egwyddorion penodol, sy’n cael ei defnyddio i wneud ymchwil ieithyddol ac i greu adnoddau. Gall corpora fel hyn fod yn seiliedig ar destun neu recordiadau iaith lafar, neu gyfuniad o’r ddau.

Mae gwaith ieithyddol o bob math yn cael ei wneud ar sail corpws, er enghraifft, gall corpws ddarparu tystiolaeth i bobl sy’n creu geiriadur, cronfa derminoleg neu adnodd technoleg iaith. Mae sut mae’r data sydd yn y corpws yn cael ei gasglu yn dibynnu ar beth rydyn ni eisiau ei gael allan ohono, er enghraifft, bydd angen corpora sain â thrawsgrifiadau er mwyn hyfforddi systemau lleferydd a deallusrwydd artiffisial (artificial intelligence) Cymraeg.

Rydyn ni hefyd yn gallu eu defnyddio er mwyn datblygu adnoddau ar gyfer gwahanol fathau o siaradwyr Cymraeg. Mae hynny’n cynnwys siaradwyr newydd a phlant ysgol (am y gallan nhw ddangos sut mae geiriau neu ymadroddion penodol yn cael eu defnyddio mewn brawddeg, a pha mor aml), yn ogystal â chyhoeddwyr, geiriadurwyr, ymchwilwyr a’r cyfryngau.

Yn hynny o beth, mae’n bwysig gwneud yn siŵr bod amrywiaeth o gorpora safonol wedi’u tagio ar gael i bawb eu defnyddio, boed yn unigolion neu’n gwmnïau technoleg. Os ydym hefyd yn gallu sicrhau eu bod ar gael drwy drwydded agored, bydd hynny’n golygu bod data strwythuredig ar gael i ddatblygwyr gwahanol adnoddau eu defnyddio, er enghraifft, i hyfforddi systemau ieithyddol, lleferydd neu ddeallusrwydd artiffisial newydd. Dyma fydd ein pwyslais wrth gamu tua’r dyfodol, er mwyn sicrhau bod adnoddau, yn arbennig y rheini sydd wedi eu datblygu gan ddefnyddio arian cyhoeddus, ar gael er budd pawb.

Mae corpora’n hynod bwysig hefyd er mwyn creu a chynnal seilwaith digidol i’r iaith. Nod ein Cynllun Gweithredu Technoleg Cymraeg yw i dechnoleg gefnogi’r iaith, er mwyn iddi gael ei defnyddio mewn cynifer o sefyllfaoedd â phosibl. Rydyn ni’n ymwybodol bod technoleg yn datblygu’n gyflym, ac rydyn ni’n awyddus i’r Gymraeg symud gyda’r dechnoleg. Bydd ein hymdrechion gyda’r polisi seilwaith ieithyddol newydd hwn yn golygu, er enghraifft, bod corpora’n cael eu datblygu (gan gynnwys y rheini sy’n gefn i eiriaduron a therminolegau), a fydd yn darparu rhagor o ddata strwythuredig i gefnogi’r Cynllun Gweithredu Technoleg Cymraeg a chyfoethogi profiad y rheini sy’n defnyddio technoleg yn Gymraeg. Mae angen sicrhau bod gennym setiau data enfawr a chorpora Cymraeg perthnasol er mwyn datblygu gallu lleferydd-i-destun, systemau cyfieithu newydd, a dysgu peirianyddol. Er mwyn gwneud hynny, mae angen sicrhau bod ymchwil a datblygiad academaidd ym maes technoleg iaith yn cael eu cefnogi dros y tymor hir. Mae angen cynnal a chadw’r seilwaith hwn a’i ddiweddaru i genedlaethau’r dyfodol.

Pa adnoddau sydd ar gael

Weithiau bydd corpora’n cael eu cynllunio er mwyn ateb anghenion penodol, ac weithiau byddant yn cael eu creu fel sgil-gynnyrch gweithgareddau eraill, er enghraifft, yn sgil cynhyrchu geiriaduron neu gronfeydd termau. Mae nifer o gorpora Cymraeg neu ddwyieithog yn bodoli, yn ffrwyth gwahanol brosiectau ymchwil ar hyd y blynyddoedd. Yn wir, mae unrhyw gasgliad mawr o eiriau, termau neu ymadroddion wedi eu tagio yn gorpws. Y tu ôl i unrhyw eiriadur neu gronfa derminoleg, fe fydd yna gorpws, ond nid yw’r rhain bob amser ar gael i bawb eu defnyddio oherwydd cyfyngiadau eiddo deallusol.

Mae’r prif adnoddau corpws sydd ar gael i ddefnyddwyr y Gymraeg wedi eu nodi isod (nid yw pob un o reidrwydd ar gael i’w lawrlwytho drwy drwydded agored).

Corpws Cenedlaethol Cymraeg Cyfoes (CorCenCC)

Mae CorCenCC yn brosiect sy'n cynnwys Prifysgolion Caerdydd, Abertawe, Caerhirfryn a Bangor. Mae’n cynnwys samplau o Gymraeg gyfoes sy’n digwydd yn naturiol mewn bywyd go iawn ar ffurf data llafar, ysgrifenedig ac electronig (er enghraifft, y Gymraeg sy’n cael ei defnyddio ar y cyfryngau cymdeithasol), a gyflwynir ar ffurf corpws testun ar-lein a dagiwyd ac y gellir ei chwilio. Mae pecyn offer addysgu a dysgu ar-lein yn gysylltiedig ag ef, sy’n tynnu ar ddata’r corpws er mwyn cynnig adnoddau ar gyfer dysgu Cymraeg i bobl o bob oedran a phob gallu. Mae gan Brifysgol Caerdydd hefyd borth sy’n caniatáu i ddefnyddwyr chwilio CorCenCC yn ogystsal â theclynnau defnyddiol eraill fel WordNet Cymru, Thesawrws, teclyn dadansoddi FreeTxt, a’r Tiwtiadur i ddysgu Cymraeg.

Porth Corpora Cenedlaethol Cymru

Casgliad o gorpora ysgrifenedig Cymraeg a dwyieithog ar-lein a gynhelir gan Uned Termau a Thechnolegau Iaith Prifysgol Bangor. Mae’n darparu rhyngwyneb sy’n gallu chwilio am eiriau, termau neu ymadroddion, ac fe’u dangosir yn ôl cyd-destun eu defnydd. Hefyd, os oes cyfieithiad o’r testun ar gael, mae’n gallu dangos hwnnw ochr yn ochr â’r gwreiddiol. Mae’r rhyngwyneb yn cynnwys meddalwedd o’r enw lemateiddiwr, sy’n gallu dod o hyd i unrhyw ffurf ar air Cymraeg (os yw wedi ei dreiglo, er enghraifft, neu’n dangos y ffurf luosog). Mae’r Porth Corpora hefyd yn cynnig dolenni at gorpora eraill a all fod o ddiddordeb i ymchwilwyr. Cafodd rhai o’r rhain eu datblygu gan Brifysgol Bangor, a rhai gan sefydliadau eraill.

Amcanion

Sicrhau bod adnoddau corpws helaeth a safonol wedi’u tagio ar gael i bawb eu defnyddio o dan drwydded ganiataol addas. Mae’n bosib y bydd hyn yn digwydd yn organig fel sgil-gynnyrch gweithgareddau sydd eisoes yn digwydd, ond bydd cydlynu’r maes a thrafod gyda’r prif ddarparwyr yn fodd o sicrhau bod corpora priodol ar gael ar gyfer cynifer o ddatblygiadau o ran y Gymraeg â phosib.

Cadw llygad ar fylchau sy’n codi yn y math o gorpws sy’n bodoli, gan gomisiynu lle bo’n briodol.

Sut y byddwn yn ei wneud

  • Bydd yr uned seilwaith ieithyddol (a ddisgrifir ym Maes datblygu 6) yn cynnal trosolwg o’r maes, gan hwyluso creu neu ddatblygu corpora lle bo angen.
  • Archwilio sut i ddiogelu corpora sydd eisoes yn bodoli, er enghraifft drwy gynnig cyfleuster i gadw fersiynau wrth gefn ohonynt, fel bod llai o berygl i’r hyn sydd wedi ei ddatblygu gyda chyllid cyhoeddus gael ei golli.
  • Cynnal dolenni at adnoddau corpws (gw. Maes datblygu 5) er mwyn helpu pobl i ddod o hyd i’r corpora sy’n addas ar eu cyfer ac esbonio sut y gallant fod o ddefnydd.
  • Helpu i ddatblygu’r corpora sydd eisoes yn bodoli, er enghraifft drwy hwyluso argaeledd dogfennau cyhoeddus i ehangu’r adnoddau hyn, lle bo hynny’n briodol.
  • Hwyluso cyfoethogi corpora drwy gydlynu’r berthynas rhwng gwahanol ddarparwyr cyhoeddus a sicrhau nad oes cyfleoedd yn cael eu colli i wneud hynny.
  • Ar wefan ganolog, cynnal dolenni at gorpora awdurdodol, gan gynnwys, er enghraifft: lecsiconau, brawddegau Cymraeg ac Saesneg wedi eu gwirio a’u halinio, enwau lleoedd a strydoedd, rhestrau o endidau enwol, corpora sain wedi eu trawsgrifio, ac ati, er mwyn caniatáu i brosiectau geiriaduron a chronfeydd terminoleg barhau i ddatblygu ar sail tystiolaeth.
  • Er mwyn cefnogi siaradwyr newydd, byddai’n fuddiol cael corpws o ffurfiau a chamgymeriadau cyffredin at ddefnydd sefydliadau fel y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol i gyfoethogi eu dysgu (yn achos ffurfiau cyffredin, mae hyn eisoes yn cael ei dreialu ar ffurf prosiect Geirfan Prifysgol Caerdydd). 

Maes datblygu 4: Safoni

Mae sawl math gwahanol o waith safoni yn digwydd ar gyfer y Gymraeg, ac yn y bôn maen nhw i gyd yn anelu at yr un peth, sef cysondeb yn y modd y caiff y Gymraeg ei defnyddio, gan sicrhau bod canllawiau’n bodoli lle bo’u hangen.

Mae’r gwahanol fathau o safoni yn cynnwys:

  • safoni’r orgraff (er enghraifft, sut mae geiriau’n cael eu sillafu) 
  • safoni gramadeg (er enghraifft, cenedl enwau, sef a yw enwau’n wrywaidd neu fenywaidd; ffurfiau lluosog enwau; terfyniadau berfol; ffurfiau cymharol, benywaidd a lluosog ansoddeiriau) 
  • safoni enwau lleoedd (yn achos enwau dinasoedd, trefi, pentrefi a rhai nodweddion daearyddol eraill yng Nghymru, Comisiynydd y Gymraeg sy’n arwain ar y maes hwn) 
  • safoni termau (rydyn ni’n ymdrin â safoni termau o dan adran 2)

Safoni’r orgraff

Byrger neu byrgyr? Cydbwyllgor neu Cyd-bwyllgor? Microffon neu meicroffon? P’un sy’n iawn?

Ar hyn o bryd, mae’r ffordd y mae rhai geiriau Cymraeg yn cael eu sillafu yn gallu amrywio, ac mae hyn yn gallu arwain at anghysondeb rhwng gwahanol ffynonellau ac ansicrwydd i’r defnyddiwr. Mae gwneud yn siŵr bod orgraff y Gymraeg (y ffordd y mae geiriau Cymraeg yn cael eu sillafu) yn cael ei safoni’n barhaus yn bwysig os ydym am weld rhagor o gysondeb, er enghraifft rhwng geiriaduron a chronfeydd terminoleg, a chynyddu hyder pobl sydd am ddefnyddio’r iaith.

Er mwyn mynd i’r afael â hyn, rydyn ni wedi sefydlu Panel Safoni’r Gymraeg. Mae’r Panel yn cynnwys academyddion, terminolegwyr, geiriadurwyr, cyfieithwyr ac ieithyddion sy’n dod ynghyd i safoni orgraff y Gymraeg i’w gwneud yn addas at ddibenion defnyddwyr cyfoes. Mae’r Panel Safoni eisoes wedi cyfarfod sawl gwaith ers dod ynghyd am y tro cyntaf ym mis Ionawr, 2021.

Mae gan yr uned yn Llywodraeth Cymru rôl allweddol yn sicrhau bod aelodau Panel Safoni’r Gymraeg (y rheini sy’n cynnal geiriaduron a rhestrau terminoleg er enghraifft) yn cydnabod penderfyniadau’r Panel o safbwynt orgraff, ac annog adnoddau eraill i ddilyn eu hesiampl. 

Safoni gramadeg ac arddull

Ar ôl ymgymryd i ddechrau â’r gwaith o safoni materion orgraffyddol brys, sy’n flaenoriaeth, bydd Panel Safoni’r Gymraeg yn ystyried y camau nesaf, a allai gynnwys safoni gramadeg. Gallai hyn arwain at ddarparu cyngor a chanllawiau ehangach ar ddefnyddio’r iaith, gan roi eglurder i unrhyw un sydd am ddefnyddio’r Gymraeg.

Gydag amser, bydd y gwaith safoni hwn yn hwyluso datblygu canllawiau ieithyddol safonol hawdd i’w defnyddio. Gallai hyn olygu cynnwys canllawiau, cyngor ac atebion ar bethau fel rhedeg berfau, treigladau, defnydd priodol o gywair mewn rhai cyd-destunau, ac ati, ar wefan ganolog (gweler Maes datblygu 5). Bydd modd i’r uned (a ddisgrifir ym Maes datblygu 6) ddatblygu’r agwedd hon ar y gwaith wrth fynd yn ei blaen yn y tymor hir.

Safoni enwau lleoedd

Comisiynydd y Gymraeg sy’n arwain ar safoni enwau aneddiadau yng Nghymru (er enghraifft, enwau dinasoedd, trefi a phentrefi), ac mae’n gwneud hynny drwy gynnal y Panel Safoni Enwau Lleoedd, sy’n canolbwyntio ar safoni sut mae enwau pentrefi, trefi a dinasoedd yng Nghymru yn cael eu sillafu.

Mae’r Panel yn cynnwys arbenigwyr ar enwau lleoedd ac orgraff y Gymraeg, ac yn dilyn canllawiau penodol er mwyn argymell ffurfiau safonol enwau lleoedd. Rhan o’r gwaith yw cynnal Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru, sy’n adnodd ar-lein y gallwch chwilio drwyddo neu ei lawrlwytho.

Mae enwau lleoedd wedi’u cynnwys yma am eu bod yn rhan o’r maes safoni ehangach. Ond gwelwn y byddai’r gwaith rydyn ni’n ei gynnig o ran orgraff, gramadeg ac arddull, ar y cyd â’r gwaith ar enwau lleoedd, yn codi statws y maes yn gyffredinol. Yn ogystal â hynny, law yn llaw â Chomisiynydd y Gymraeg, mae’n synhwyrol bod gan yr uned ym Maes datblygu 6 rôl yn pwysleisio statws enwau lleoedd sydd wedi eu safoni, ac yn codi ymwybyddiaeth bellach ohonyn nhw.

Amcanion

Yr hyn rydym wedi’i wneud

Mae Panel Safoni’r Gymraeg wedi dechrau ateb y galw am lais awdurdodol ar faterion orgraff y Gymraeg. Bydd y gwaith hwn yn parhau.

Yr hyn a wnawn

Ystyried a oes galw am ehangu cylch gorchwyl Panel Safoni’r Gymraeg i gynnwys safoni gramadeg neu arddull.

Codi statws yr hyn a safonir, a chydlynu lle bo angen y gwahanol fathau o safoni sy’n digwydd yng Nghymru.

Annog bod amrywiaethau orgraffyddol rhwng adnoddau seilwaith yn cael eu cysoni dros amser wrth i ddarparwyr ddilyn penderfyniadau Panel Safoni’r Gymraeg, er mwyn arwain at ragor o gysondeb rhwng adnoddau a llai o ddryswch i ddefnyddwyr.

Sut y byddwn yn ei wneud

  • Bydd yr uned seilwaith ieithyddol (a ddisgrifir ym Maes datblygu 6) yn cydlynu ac yn goruchwylio anghenion o ran safoni, yn ôl yr hyn sy’n briodol.
  • Parhau i gynnull Panel Safoni’r Gymraeg a darparu ysgrifenyddiaeth i’w gefnogi i ymgymryd â materion ieithyddol, er enghraifft, safoni’r orgraff. Sicrhau bod aelodaeth y Panel yn cynnwys amrywiaeth o arbenigwyr a all ddatrys materion sy’n peri dryswch.
  • Sicrhau bod y cyrff sy’n aelodau o Banel Safoni’r Gymraeg yn cydnabod penderfyniadau’r Panel o safbwynt orgraff, ac annog adnoddau eraill i ddilyn eu hesiampl.
  • Cynnal trosolwg o’r maes a chymryd camau os gwelir bod dirfawr angen gwaith safoni pellach ar agweddau ieithyddol penodol.

Maes datblygu 5: Gwefan ganolog

Un o’r prif faterion rydyn ni’n ceisio’i ddatrys yw bod cynifer o adnoddau ar wasgar ar y we, boed y rheini’n eiriaduron, yn rhestrau o dermau, neu’n adnoddau corpws. Nid oes modd i’r defnyddiwr cyffredin wybod beth yw statws y ffynonellau, na pha un sy’n fwyaf tebygol o gynnig yr ateb safonol. Gall hefyd olygu nad yw nifer fawr o bobl yn gallu dod o hyd i adnoddau, neu’n gwybod am eu bodolaeth o gwbl.

Beth fyddwn ni’n ei wneud

P’un a ydyn ni’n sôn am ddod o hyd i air neu derm, mae’n amlwg y byddai gallu cael gafael ar yr holl wybodaeth yn gyflym ac yn ddi-rwystr mewn un man yn gwneud pethau’n haws i unrhyw un sy’n ceisio dod o hyd i atebion mewn perthynas â’r Gymraeg. Felly byddwn ni’n creu gwefan lle gellir dod o hyd i wybodaeth am y gwahanol adnoddau seilwaith ieithyddol y Gymraeg mewn un man.

Yn y tymor byr, bydd y wefan hon yn eich helpu i ddod o hyd yn hawdd i’r adnoddau sydd fwyaf addas i’ch anghenion chi, boed yn eiriaduron, yn gronfeydd termau neu’n gorpora ar-lein. Bydd yn disgrifio’r hyn a gynigir gan y gwahanol brosiectau, ac yn darparu dolenni i’ch helpu i fynd atynt yn ddirwystr.

Bydd pob geiriadur a chronfa dermau y cyfeirir atyn nhw ar y wefan newydd yn parhau’n brosiectau annibynnol gyda’u gwefannau eu hunain. Bydd hyn yn golygu bod y Llywodraeth yn hyrwyddo’r adnoddau hyn ac yn rhoi rhagor o bresenoldeb iddyn nhw ar y we.

Gan ddechrau ar unwaith ond gan ddwyn ffrwyth yn y tymor hir, byddwn yn archwilio a oes modd datblygu’r wefan hon er mwyn caniatáu chwilio’n hawdd mewn sawl adnodd ar-lein ar yr un pryd. Mae nifer o gymhlethdodau ynghlwm wrth yr uchelgais hwn, a bydd angen cymorth a chefnogaeth darparwyr yr adnoddau eu hunain er mwyn ei wireddu.

Cam cyntaf yn hyn o beth fydd parhau â’r gwaith o safoni’r orgraff (gw. Maes datblygu 4) er mwyn creu sillafiadau cyson, a sicrhau bod adnoddau’n ymrwymo i ddilyn y ffurfiau safonol hyn. Bydd hefyd angen ystyried sut orau i dagio geiriau a thermau o wahanol brosiectau mewn ffordd gyson sy’n caniatáu chwilio amdanyn nhw ar ryngwyneb canolog. O wneud hynny, hoffem gyrraedd sefyllfa lle gallech nodi pa fath o ddefnyddiwr ydych chi (er enghraifft, rhywun sy’n defnyddio’r Gymraeg yn y gwaith, cyfieithydd proffesiynol, disgybl ysgol, rhiant – boed yn gallu siarad Cymraeg ai peidio, athro, myfyriwr prifysgol, ac ati), neu pa faes yr hoffech chwilio ynddo, a bod y canlyniadau’n cael eu trefnu yn ôl pa mor berthnasol ydyn nhw i chi. Byddai hyn yn caniatáu i chi fod yn hyderus eich bod wedi dod o hyd i’r ateb cywir.

Gwefan aml-bwrpas

Bydd y wefan ganolog hon hefyd yn fan cychwyn ar gyfer pob math o weithgarwch mewn perthynas â seilwaith ieithyddol y Gymraeg.

Ar ôl ei sefydlu, byddwn yn datblygu agweddau eraill arni er mwyn helpu siaradwyr Cymraeg o bob math. Er enghraifft, drwy dynnu sylw at adnoddau sy’n dangos sut mae geiriau’n treiglo neu’n cael eu rhedeg mewn ffyrdd eraill. Byddai cynnwys canllawiau ieithyddol, fel a grybwyllir ym Maes datblygu 4, hefyd yn ategu hyn. Byddai adnoddau tebyg i’r rhain yn arbennig o ddefnyddiol i siaradwyr newydd a’r rheini sy’n defnyddio’r iaith bob dydd wrth eu gwaith.

Er mwyn canfod bylchau yn y ddarpariaeth o safbwynt geiriau neu dermau, byddwn yn cynnwys ffurflen ar y wefan, fel y gall unigolion neu sefydliadau grybwyll term neu air penodol uchel ei broffil sydd heb eu cynnwys yn yr adnoddau sydd ohonynt. Bydd swyddogion yr uned (gweler Maes datblygu 6) yn defnyddio’r wybodaeth a gesglir drwy’r broses hon i helpu i flaenoriaethu pa waith safoni terminoleg sy’n digwydd yn y dyfodol.

Bydd y rhyngwyneb hefyd yn fan delfrydol i gyhoeddi penderfyniadau Panel Safoni’r Gymraeg, mewn perthynas ag orgraff, gramadeg ac arddull, y sonnir amdanynt ym maes 4. 

Yn achos corpora, peth hawdd fyddai i’r wefan gynnal dolenni at yr holl adnoddau corpws priodol ar yr un rhyngwyneb er mwyn helpu pobl i ddod o hyd i’r corpora sy’n addas ar eu cyfer. Y nod fyddai hwyluso rhannu gwahanol adnoddau corpws er mwyn i bobl allu datblygu adnoddau newydd. Yn hynny o beth byddai’n arfer da, ac yn sicrhau gwerth da am arian cyhoeddus, gweithio tuag at sefyllfa lle bo modd lawrlwytho fersiwn ddiweddaraf adnoddau o’r wefan dan drwydded agored. Yn wir, rydyn ni’n cynnig bod yr egwyddor o ddarparu adnoddau ar drwydded agored yn berthnasol i gymaint o’r adnoddau a grybwyllir yn y ddogfen hon â phosib.

Pa adnoddau sydd ar gael

Mae Uned Technolegau Iaith Prifysgol Bangor

Yn cynnig mynediad at Eiriadur Bangor, Porth Termau a Phorth Corpora. Mae’n gasgliad helaeth a chwiliadwy o adnoddau terminoleg ar draws nifer o feysydd. Nid yw’n cynnwys y prif adnodd terminoleg arall ar gyfer y Gymraeg, sef BydTermCymru, nac yn galluogi chwilio pob geiriadur ar-lein blaenllaw, er enghraifft, Geiriadur Prifysgol Cymru.

Mae’r Gweiadur

Hefyd yn darparu cyfres o adnoddau ieithyddol y gellir eu chwilio, sy’n cynnwys Geiriaduron Cymraeg-Saesneg a Saesneg-Cymraeg, Thesawrws Cymraeg, Thesawrws Saesneg-Cymraeg, a Berfiadur. Cafodd yr adnoddau eu hunain, yn ogystal â’r wefan, eu datblygu gan D. Geraint Lewis a Nudd Lewis. Mae’r wefan hefyd yn cynnwys dolenni sy’n hwyluso chwilio mewn adnoddau eraill, fel Geiriadur Prifysgol Cymru, TermCymru, Y Porth Termau, Wikipedia, a chorpora Cofnod y Senedd a CorCenCC, drwy agor tabiau newydd.

Porth Geiriaduron Ewropeaidd

Un enghraifft lai hysbys sy’n gweithredu fel ffenest i nifer fawr o adnoddau yw’r Porth Geiriaduron Ewropeaidd, sy’n cael ei guradu gan arbenigwyr o’r European Network of e-Lexicography. Mae’n cynnig modd i chwilio nifer o ffynonellau mewn un man, ond yn hytrach na darparu’r holl ganlyniadau ochr yn ochr, rhaid mynd i bob gwefan unigol i weld y canlyniad. Nid yw ychwaith yn cynnig arweiniad i ddefnyddwyr ynghylch pa adnodd allai fod fwyaf priodol iddyn nhw.

Amcanion

Yn y tymor byr, creu gwefan lle gellir cael gwybodaeth am adnoddau seilwaith Cymraeg, yn ogystal â dolenni atyn nhw, i helpu defnyddwyr wybod ble mae canfod yr adnodd sydd orau iddyn nhw.

Yn y tymor hir, ystyried sut mae gweithio tuag at sefyllfa lle gellir chwilio ym mhrif eiriaduron a chronfeydd termau’r Gymraeg drwy un rhyngwyneb.

Datblygu’r rhyngwyneb i fod yn ffynhonnell ar gyfer pob math o waith sy’n gysylltiedig â seilwaith y Gymraeg.

Defnyddio’r wefan fel ffordd o farchnata a hyrwyddo’r adnoddau gwych sydd gennym ar gyfer y Gymraeg, fel bod rhagor o bobl yn ymwybodol ohonynt ac yn eu defnyddio.

Sut y byddwn yn ei wneud

Yn y tymor byr
  • Creu a lansio gwefan lle gall defnyddwyr fynd i gael cyngor ynghylch pa adnoddau sydd orau iddyn nhw. Bydd y wefan hefyd yn ffordd o hyrwyddo a marchnata’r adnoddau sy’n bodoli ar gyfer y Gymraeg.
  • Sefydlu trefn ar gyfer derbyn ac ymateb i ymholiadau sy’n dod i law drwy’r wefan.
  • Sefydlu cyswllt rhwng yr ymholiadau a ddaw i law drwy’r wefan a’r maes safoni termau a amlinellir yn adran 4.
  • Archwilio pa bosibiliadau eraill sydd i’r wefan o safbwynt gwaith corpws, safoni, rhannu arferion, olrhain sut mae termau a geiriau’n cael eu defnyddio, darparu canllawiau defnydd byr, ac ati.
Yn y tymor canolig-hir
  • Dechrau ar unwaith i drafod gyda gwahanol brosiectau er mwyn gweithio tuag at sefyllfa lle gellir cynnwys canlyniadau chwilio amrywiol gronfeydd drwy ryngwyneb canolog, yn ogystal ag ar eu gwefannau hwy.
  • Cymryd camau er mwyn paratoi’r ffordd tuag at allu chwilio drwy un rhyngwyneb, gan gynnwys parhau i gysoni sillafiadau geiriau, fel bod modd iddynt ymddangos yn yr un chwiliadau. 

Maes datblygu 6: Uned newydd i gydlynu seilwaith ieithyddol y Gymraeg

Wrth ddisgrifio’r gwahanol adnoddau uchod, mae’n amlwg bod gwaith proffesiynol o safon uchel iawn yn cael ei wneud ar draws pob un. Yr hyn a welwn ni hefyd yw bod yna fylchau y gellid eu llenwi drwy gynnal trosolwg mwy parhaol o’r maes, er mwyn cydlynu’n well yr hyn sydd eisoes yn bodoli.

Yn y polisi drafft yr ymgynghorwyd yn ei gylch, fe nodon ni nad oedd yna’r un corff na thîm yn gyfrifol am gydlynu’r ddarpariaeth seilwaith ieithyddol y Gymraeg yn ei chyfanrwydd. Nodwyd mai Llywodraeth Cymru sy’n darparu cyllid ar gyfer nifer o brosiectau gwahanol, ond nad oedd unrhyw gydlynu ffurfiol, gyda’r prosiectau unigol yn gweithredu’n annibynnol ar ei gilydd.

Mae sôn wedi bod ers blynyddoedd, degawdau hyd yn oed, am yr angen i gydlynu seilwaith ieithyddol y Gymraeg yn well. Mae nifer o arbenigwyr yn y maes hefyd wedi cytuno â’r angen hwn.

Mewn gwledydd eraill sydd ag ieithoedd mewn sefyllfaoedd tebyg i’r Gymraeg, mae llywodraethau ac asiantaethau llywodraethol yn cymryd rhan flaenllaw wrth gynllunio a chydlynu geiriaduron, cronfeydd terminoleg a chorpora, ac yn helpu i safoni’r iaith.

Dyna pam ein bod ni wedi sefydlu uned ganolog i gydlynu geiriaduron, terminoleg, gwaith corpws, gwaith safoni, a chreu un rhyngwyneb i dynnu ynghyd yr holl waith hwn. Bydd yr uned hefyd yn gweithio'n agos gyda phob math o randdeiliaid mewn meysydd fel cyfieithu a thechnoleg gwybodaeth.

Beth fyddwn ni’n ei wneud

Er mwyn cynnal trosolwg o’r maes, a helpu i’w gynllunio’n strategol, rydyn ni wedi creu uned newydd. Bydd yr uned yn cydlynu’r gwahanol agweddau ar waith seilwaith ieithyddol y Gymraeg, a sicrhau bod y ddarpariaeth yn ei gwneud yn haws i’r defnyddiwr ddod o hyd i atebion. Drwy sefydlu uned o’r fath, y weledigaeth yw estyn bri i’r maes, gan ddyrchafu statws geiriau a thermau yng Nghymru, fel bod rhagor o gysondeb o ran defnydd ar draws amrywiol gyrff a chyfryngau. Bydd hyn yn ei dro yn helpu pobl i ddefnyddio’u Cymraeg yn amlach ac mewn mwy o sefyllfaoedd. Bydd yr uned yn ymhél â’r gweithgareddau a ddisgrifir ym meysydd datblygu 1-5 yn y ddogfen hon.

Rydyn ni wedi sefydlu’r uned hon yn Llywodraeth Cymru. Mantais hyn yw ei bod yn gallu elwa ar gynllunio holistaidd, gan glymu i mewn gyda meysydd polisi eraill o ran y Gymraeg, er enghraifft ein gwaith fel Llywodraeth ar dechnoleg iaith, sy’n ategu’r hyn sydd yn y ddogfen hon. Mae hefyd yn golygu bod yr uned mewn sefyllfa dda i fod yn ymwybodol o ddatblygiadau mewn gwahanol feysydd polisi (er enghraifft, addysg, iechyd, yr economi) er mwyn edrych tua’r gorwel o safbwynt anghenion terminoleg.

Ar lefel ymarferol, mae ei lleoli yn y Llywodraeth yn golygu bod y costau a’r gorbenion sy’n gysylltiedig â sefydlu uned o’r fath yn is na phetaem yn ei sefydlu y tu allan i Lywodraeth Cymru, a fydd yn helpu i sicrhau bod y buddsoddiad yn mynd ar y cynnyrch ac ar staff arbenigol, yn hytrach nag ar orbenion, gwasanaethau Adnoddau Dynol a swyddfeydd.

Strwythur yr uned

Er mwyn sicrhau bod yr uned mewn sefyllfa dda i ymateb i ddatblygiadau polisi, edrych tua’r gorwel am anghenion terminoleg ac ymateb i ymholiadau o natur ieithyddol, rydym wedi dechrau ei staffio gan weithwyr proffesiynol â chefndir ym maes seilwaith ieithyddol.

Bydd swyddogaeth farchnata ac ymgysylltu yn bwysig i’r uned er mwyn sicrhau bod y gynulleidfa darged yn ymwybodol o’r adnoddau, yn deall eu diben ac yn eu defnyddio. Po fwyaf o statws sydd gan yr uned a’i gwaith, a po fwyaf yr ymwybyddiaeth ohoni, y gobaith yw y bydd hynny’n arwain at ragor o gysondeb yn y defnydd o eiriau a therminoleg yn ehangach, gan gynyddu eu defnydd.

Gan mai un o’i nodau yw datblygu gwytnwch hirdymor seilwaith ieithyddol y Gymraeg, byddwn hefyd yn ceisio manteisio ar gynlluniau prentisiaeth i sicrhau bod hyfforddeion yn cael eu trwytho yn y maes.

Er bod yr uned wedi ei lleoli yn Llywodraeth Cymru, byddwn yn datblygu hunaniaeth a’i brand ei hun iddi, fel ei bod yn weledol ac yn hygyrch i’r cyhoedd

Cyllid

Ein bwriad yw cynnal y symiau sydd ar hyn o bryd yn cael eu dosbarthu ar gyfer gwahanol brosiectau seilwaith ieithyddol. Bydd unrhyw gyllid a ddarperir ar gyfer gwaith yr uned, ac ar gyfer datblygu’r maes yn fwy cyffredinol (er enghraifft, cynnal panel safoni, datblygu’r cynnig o ran geiriaduron, creu gwefan) yn gyllid newydd ar gyfer y maes.

Amcanion
Yr hyn rydym wedi’i wneud

Rydym eisoes wedi sefydlu uned yn Llywodraeth Cymru i ddechrau gweithio ar yr amcanion yn y ddogfen hon. Nod yr uned yw cydlynu seilwaith ieithyddol y Gymraeg, a darparu arweiniad strategol fel bod y gwahanol gydrannau’n gweithio’n well gyda’i gilydd.

Yr hyn a wnawn

Bydd yr uned yn gyfrifol am yr amcanion a nodir ym meysydd datblygu 1 i 5 y ddogfen hon, a bydd yn blaenoriaethu

  • Creu hunaniaeth gref a sicrhau bod yr uned a’r adnoddau sy’n gysylltiedig â hi yn cael eu marchnata’n effeithiol.
  • Cynnal a datblygu’r berthynas gyda’r prif randdeiliaid.
  • Datblygu gwefan lle gall defnyddwyr fynd i gael cyngor ynghylch pa adnoddau sydd orau iddyn nhw, a gweithio tuag at sefyllfa lle mae modd chwilio amrywiol adnoddau ar yr un wefan.
  • Annog a hwyluso cynyddu gallu ac arbenigedd yn y maes drwy brentisiaethau a mentrau i godi ymwybyddiaeth o’r maes fel llwybr gyrfa.
  • Dechrau ar y pecynnau gwaith o dan y meysydd datblygu a ddisgrifir yn adrannau 1 i 5.

Enwau lleoedd Cymraeg

Yn ein Rhaglen Lywodraethu, rydym yn ymrwymo i weithio i ddiogelu enwau lleoedd Cymru, ac mae hyn wedi’i atgyfnerthu gan y Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru. Bydd yr uned seilwaith ieithyddol hefyd yn gyfrifol am bolisi Llywodraeth Cymru ar enwau lleoedd Cymraeg.

Mae ein camau cychwynnol yn hyn o beth wedi’u datgan yn ein Cynllun Tai Cymunedau Cymraeg, a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2022. Nod y cynllun hwnnw yw mynd i’r afael â’r heriau sy’n wynebu cymunedau Cymraeg gyda dwysedd uwch o ail gartrefi. Bydd yr uned seilwaith ieithyddol yn gyfrifol am y camau hynny, sydd â’r nod o “ddiogelu etifeddiaeth ieithyddol Gymraeg ein hamgylchedd adeiledig a'n topograffi”.

Amcan

Gweithredu i sicrhau bod enwau lleoedd Cymraeg yn yr amgylchedd adeiledig a naturiol yn cael eu diogelu a’u hyrwyddo ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol (Y Cytundeb Cydweithio).

Yr hyn rydym wedi’i wneud
  • Comisiynu ymchwil i ddysgu mwy am sut, pam a lle mae enwau lleoedd yn newid, i'n galluogi i ddatblygu ymyraethau polisi wedi'u targedu i warchod enwau ym mhob rhan o Gymru.
  • Sefydlu Fforwm Sirol Enwau Lleoedd, gyda’r nod o:
    • rannu gwybodaeth
    • canfod bylchau yn y ffordd o ymdrin ag enwau lleoedd, a chyfleoedd i gydweithio
    • cefnogi ein gilydd i geisio canfod datrysiadau ymarferol i atal enwau Cymraeg rhag cael eu disodli
    • rhannu arferion da, fel bod enghreifftiau o’r hyn sy’n gweithio mewn un sefydliad yn gallu cael eu mabwysiadu, lle bo’n briodol, mewn sefydliad arall
Yr hyn a wnawn
  • O ran enwau daearyddol, yn ogystal â'r ymchwil a grybwyllwyd uchod i ddeall yn well y prosesau y tu ôl i newidiadau, byddwn yn gweithio gyda phartneriaid a busnesau, yn ogystal â chartograffwyr amlwg, i warchod enwau daearyddol yn well yn yr amgylchedd naturiol.
  • Byddwn yn archwilio sut y bydd awdurdodau lleol yn cyflawni eu rôl yn y maes gwaith hwn i sicrhau bod pob cam posibl yn cael eu cymryd i warchod enwau lleoedd.
  • Byddwn yn ystyried y defnydd diweddar o gyfamodau i warchod enwau tai ac yn archwilio sut y gellir defnyddio’r rhain yn ehangach yn y dyfodol.
  • Byddwn yn archwilio'r defnydd o becynnau trawsgludo fel ffordd o godi ymwybyddiaeth o werth enw eiddo penodol.
  • Byddwn yn ystyried ffyrdd newydd o godi ymwybyddiaeth o Restr Enwau Lleoedd Hanesyddol Cymru a'i hyrwyddo.
  • Byddwn yn cadw golwg ar ddatblygiadau mewnol ym maes wardiau etholaethol ac enwau etholaethau newydd y Senedd ar gyfer etholiad 2026, ac yn cynghori lle bo’n briodol.
  • Byddwn yn parhau i ystyried yr hyn sy’n digwydd yn rhyngwladol er mwyn cadw golwg ar arferion gorau, gan barhau i wneud defnydd o fforymau fel y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig (Llywodraeth Cymru sy’n cadeirio’r ffrwd waith ieithoedd brodorol, lleiafrifol a llai eu defnydd, a’r gobaith yw y bydd gwarchod enwau lleoedd yn rhan o raglen waith 3 mlynedd nesaf y Cyngor) a’r Rhwydwaith i Hyrwyddo Amrywiaeth Ieithyddol (NPLD).
Credwn y bydd hyn yn
  • Ein galluogi i gael gwell dealltwriaeth o rolau gwahanol asiantaethau ac awdurdodau o ran gwarchod enwau lleoedd ac enwau tai Cymraeg.
  • Ein galluogi i lunio ymyraethau priodol i warchod enwau Cymraeg yn well, p’un a yw hynny’n arwain at gamau deddfwriaethol, o ran y system gynllunio, neu unrhyw gamau eraill ai peidio.
  • Cynyddu ymwybyddiaeth o enwau lleoedd Cymreig a hanesyddol o bob math, a mwy o werthfawrogiad o'u gwerth.
  • Gwarchod enwau lleoedd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, fel rhan o'n treftadaeth hanesyddol ac fel arwydd gweledol o’n cymunedau byw.

Diweddglo

Does dim amheuaeth bod angen gwella’r ffordd y mae seilwaith ieithyddol y Gymraeg yn gweithio. Diben y camau yn y ddogfen hon yw cydlynu gwahanol elfennau, comisiynu adnoddau megis terminoleg yn ôl y galw, a sicrhau bod ffrwyth y gwaith ar gael yn rhwydd i bawb ac yn cael ei farchnata’n effeithiol. Rydyn ni’n ffyddiog bod hyn am ei gwneud hi’n haws i bawb ddefnyddio’r iaith yn hyderus, boed yn siaradwyr newydd, yn rhieni plant ysgol neu’n bobl sy’n defnyddio’r Gymraeg yn broffesiynol yn y gwaith.

Mae’r ymatebion i’r ymgynghoriad wedi ein helpu i bwyso a mesur beth yn union fydd hyd a lled y drefn newydd, a’r union gyfrifoldebau y byddwn am iddo ymgymryd â nhw.

Mae llawer o waith eisoes wedi’i wneud yn y maes. Ers degawdau, rydyn ni wedi cydnabod bod yna berthynas rhwng gwahanol elfennau seilwaith ieithyddol y Gymraeg. Mae llawer iawn o’r cydrannau eisoes yn bodoli – yr hyn y byddwn ni’n ei wneud yw eu cydlynu fel eu bod yn gweithio mewn ffordd resymegol ac effeithiol, gan ychwanegu’r elfen ragweithiol o edrych tua’r gorwel a chynllunio strategol.

Rydym am i’r Polisi Seilwaith Ieithyddol hwn chwarae rhan ganolog yn ein hymateb wrth wella’r ffordd y mae’r maes hwn yn gweithio, ac i helpu i wneud yn siŵr bod y ddarpariaeth yn parhau i ddatblygu fel bod pobl yn gallu defnyddio’r Gymraeg yn hawdd.