Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae’r crynodeb hwn yn cyflwyno canfyddiadau’r astudiaeth ymchwil aml-ddull o bolisïau blynyddoedd cynnar yng Nghymru a dyfodol ôl-bandemig.[troednodyn 1]

Ym mis Mehefin 2022, comisiynwyd Miller Research i gynnal astudiaeth ymchwil i ddeall ymhellach sut y gall Llywodraeth Cymru wrthweithio unrhyw anfantais neu oedi sydd wedi datblygu o ganlyniad i blant a’u teuluoedd yn colli mynediad at y systemau cymorth a’r ymyraethau arferol yn ystod y pandemig COVID-19. Diben yr ymchwil oedd ystyried hefyd a oes angen mireinio polisïau a rhaglenni presennol y blynyddoedd cynnar neu eu datblygu i ddiwallu anghenion plant a theuluoedd mewn ‘dyfodol ôl-bandemig’.

Dull

Roedd y dull terfynol yn cynnwys dau gam. Roedd Cam 1 yn cynnwys 17 o gyfweliadau ansoddol gydag academyddion sy’n gysylltiedig ag amrywiaeth o sefydliadau ymchwil a phrifysgolion ledled Cymru a Lloegr. Roedd Cam 2 yn ymwneud â chyfres o wyth o grwpiau ffocws rhithiol gyda chyfanswm o 76 o ymarferwyr blynyddoedd cynnar, a ddilynwyd gan arolwg ar-lein o ymarferwyr, a dderbyniodd gyfanswm o 178 o ymatebion.

Defnyddiwyd dull thematig drwy’r holl astudiaeth, gyda’r recriwtio a’r cwestiynau ymchwil yn canolbwyntio ar themâu allweddol datblygiad plant a datblygiad cyfannol, Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu, iechyd meddwl a llesiant plant, ac iechyd meddwl a llesiant rhieni. Cyfunwyd hyn ag adolygiad o bolisïau a rhaglenni allweddol blynyddoedd cynnar yng Nghymru. Roedd y rhain yn cynnwys:

  • Dechrau’n Deg
  • Teuluoedd yn Gyntaf
  • Rhaglen Drawsnewid Integreiddio’r Blynyddoedd Cynnar
  • Rhaglen Plant Iach Cymru
  • Magu plant. Rhowch amser iddo
  • Siarad Gyda Fi: Cynllun cyflawni ar gyfer Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu
  • Polisïau Llywodraeth Cymru ac iddynt y nod o liniaru’r niwed sy’n codi o Brofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod
  • System Anghenion Dysgu Ychwanegol
  • Cwricwlwm i Gymru

Effeithiau COVID-19

Roedd academyddion ac ymarferwyr blynyddoedd cynnar yn sôn yn aml am yr effaith negyddol ar lesiant ac iechyd meddwl plant a rheini, gan adrodd am lefelau uwch o orbryder a cholli hyder. Yn ogystal, gwelwyd bod datblygiad corfforol a sgiliau lleferydd, iaith a chyfathrebu wedi cael eu llesteirio, gyda’r sgiliau hynny’n cymryd cam yn ôl hyd yn oed i lawer o blant o ganlyniad i’r pandemig. 

Yn gyffredinol, credai academyddion fod y diffyg cyfle am Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar yn ystod y cyfnod wedi arwain i raddau helaeth at waethygu problemau a oedd yn bod eisoes, yn hytrach na chreu unrhyw broblemau newydd penodol.

Blaenoriaethau ar gyfer polisi Blynyddoedd Cynnar yng Nghymru yn y dyfodol

Roedd ymarferwyr yn pwysleisio pwysigrwydd dealltwriaeth gyfannol, sy’n canolbwyntio ar unigolion, o ddatblygiad plant, gyda phwyslais penodol ar ddarparu cymorth addas ar gyfer anghenion plant sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY). Yn unol ag egwyddorion y Cwricwlwm i Gymru, roedd dull seiliedig ar chwarae, gan ganolbwyntio’n arbennig ar ddysgu yn yr awyr agored, yn cael ei weld gan academyddion ac ymarferwyr fel strategaeth allweddol ar gyfer helpu datblygiad plant. Y farn oedd bod y dull hwn yn arbennig o bwysig er mwyn lleihau effeithiau unrhyw drawma a brofodd plant yn ystod y pandemig. Yn yr un modd, dywedodd ymarferwyr ar draws y sector y dylid blaenoriaethu iechyd meddwl a llesiant plant trwy ganolbwyntio ar eu diogelwch, sicrwydd a hapusrwydd. I rieni roedd cael eu cyfeirio at adnoddau hygyrch ac addas yn bwysig er mwyn diwallu anghenion iechyd meddwl a dysgu effeithiol yn y cartref.

Yn gyffredinol, y farn oedd bod gwell cydweithio amlasiantaethol, rhannu’r arferion gorau a rhannu data yn allweddol er mwyn sicrhau llwyddiant yn y blynyddoedd cynnar.

Blaenoriaeth arall a amlygwyd oedd swm ac ansawdd yr hyfforddiant, yn enwedig hyfforddiant sy’n galluogi ymarferwyr i fod yn fwy hyddysg mewn trawma, yn ogystal â hyfforddiant i gefnogi plant sydd ag anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu, ADY ac Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth.

Er mwyn mynd i’r afael â’r problemau lleferydd, iaith a chyfathrebu a brofwyd gan blant, fel y crybwyllwyd uchod, roedd cyfranogwyr yn galw am safon uwch a mwy o hyfforddiant lleferydd, iaith a chyfathrebu yn y sector blynyddoedd cynnar, yn ogystal â gwiriadau lleferydd, iaith a chyfathrebu mwy trylwyr gan ymwelwyr iechyd. Codwyd hefyd yr angen am ddull gwell neu safonol o asesu lleferydd, iaith a chyfathrebu.

Rhwystrau

Canfu’r ymchwil amryw o rwystrau a wynebwyd gan y sector blynyddoedd cynnar. Roedd y rhain yn cynnwys y cyllid cyffredinol sydd ar gael ar gyfer amrywiol ymyraethau a natur dymor byr gyffredinol cyllid grantiau canolog. Priodolwyd yr anawsterau mewn recriwtio a chadw yn y sector i’r cyflogau cymharol isel i staff blynyddoedd cynnar. Roedd hyn yn ei dro yn cyfyngu ar y staff presennol o ran eu gallu i gymryd rhan yn yr hyfforddiant perthnasol a darparu’r cymorth mwyaf effeithiol posibl.

Blaenoriaethau ar gyfer rhaglenni a pholisïau

Dangosodd data o’r arolwg ar-lein fod ymarferwyr yn teimlo mai Dechrau’n Deg oedd y rhaglen fwyaf addas i ddiwallu anghenion plant a theuluoedd ar ôl y pandemig, yn enwedig ym maes lleferydd ac iaith. Croesawyd y ffordd roedd Dechrau’n Deg yn cael ei ehangu’n raddol, gyda llawer o ymarferwyr yn gweld hyn fel blaenoriaeth allweddol. Yn ogystal, roedd rhai galwadau i Dechrau’n Deg gael ei ehangu i gynnwys nid yn unig yr elfen gofal plant, ond hefyd gwella cymorth ymwelwyr iechyd, cymorth magu plant a chymorth lleferydd, iaith a chyfathrebu.

Ar draws amrediad o bolisïau a rhaglenni blynyddoedd cynnar, roedd ymarferwyr yn awgrymu gwella cyfathrebu er mwyn gwella ymwybyddiaeth o’r cymorth a gynigir, law yn llaw â galluogi mwy o hyblygrwydd yn eu modelau gweithredu eu hunain. Yn achos Teuluoedd yn Gyntaf, y farn oedd  ei bod yn gwbl hanfodol ymestyn y ffenest amser o gymorth. Ymysg ymatebwyr a oedd yn gyfrifol â Rhaglen Drawsnewid Integreiddio’r Blynyddoedd Cynnar, roedd ehangu pellach o buddsoddiad mwy hirdymor yn y rhaglen yn cael ei nodi fel cam nesaf pwysig. Yn unol â’r egwyddorion y tu o’r Rhaglen Drawsnewid Integreiddio’r Blynyddoedd Cynnar, roedd ymarferwyr yn nodi’r angen hefyd i wella parhad cyswllt ymwelwyr iechyd i ddefnyddwyr gwasanaethau trwy Raglen Plant Iach Cymru, law yn llaw â newid amserlen cysylltiadau.

Crynodeb o argymhellion

Mewn ymateb i’r blaenoriaethau a’r rhwystrau a nodir uchod, yr argymhellion cyffredinol yw:

  • ystyried cyflogau gweithlu’r blynyddoedd cynnar.
  • annog cydweithio rhwng asiantaethau a gwasanaethau.
  • cynyddu hyfforddiant a gwella ei ansawdd.
  • gwneud swyddi blynyddoedd cynnar yn fwy sicr.
  • blaenoriaethu datblygiad lleferydd, iaith a chyfathrebu.
  • mabwysiadu dull seiliedig ar chwarae (yn enwedig i blant sydd ag ADY).
  • annog gweithgarwch wyneb yn wyneb gyda phlant a theuluoedd.
  • defnyddio dull seiliedig ar gryfderau, yn hytrach na dull sy’n canolbwyntio ar ddiffygion.

Argymhellion ar gyfer rhaglenni penodol

  • Parhau gydag ehangu Dechrau’n Deg, ond ymestyn hyn i gynnwys gwella gwasanaeth ymwelwyr iechyd, cymorth lleferydd, iaith a chyfathrebu a chymorth magu plant. Dylai hyn fod yn seiliedig ar angen.
  • Dyrannu cyllid cymesur ar gyfer ehangu Dechrau’n Deg, er mwyn sicrhau nad yw’r gwasanaeth yn cael ei lastwreiddio a’i fod yn parhau’n effeithiol.
  • Hyrwyddo ac annog ehangu Rhaglen Drawsnewid Integreiddio’r Blynyddoedd cynnar i bob rhan o Gymru, gan barhau i flaenoriaethu cydweithio agosach rhwng gwasanaethau blynyddoedd cynnar. Ailgyflwyno rhannu’r arferion gorau yn rheolaidd rhwng ardaloedd Braenaru.
  • Cyflwyno mwy o hyblygrwydd i’r ffenest bresennol o amser cyfyngedig o gymorth sy’n gymwys o dan Rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf. Mae hyn er mwyn cydnabod bod anghenion teuluoedd yn fwy cymhleth ac angen mwy o amser i ymdrin â hwy.
  • Cynyddu ymwybyddiaeth o ymrwymiad Llywodraeth Cymru i symud polisi oddi wrth y canolbwyntio cul ar y profiadau niweidiol gwreiddiol yn ystod plentyndod, i un sy’n cydnabod bodolaeth ac effaith ystod lawer ehangach o ffynonellau posibl o brofiadau niweidiol a thrawma mewn plentyndod.
  • Ailedrych ar amserlen gysylltiadau Rhaglen Plant Iach Cymru wrth gydnabod capasiti (cyfyngedig) ymwelwyr iechyd a gwerth caniatáu i ymwelwyr iechyd ddefnyddio eu doethineb proffesiynol ynghylch pa gysylltiadau sydd eu hangen (sef mwy, neu o bosibl llai, na’r isafswm o 10).
  • Archwilio ffyrdd mwy ystyrlon o fesur prosesau a chanlyniadau’r prif raglenni blynyddoedd cynnar yng Nghymru (yn enwedig Dechrau’n Deg, Teuluoedd yn Gyntaf a Rhaglen Plant Iach Cymru).

Troednodiadau

[1] Mae’r ‘blynyddoedd cynnar’ yn un o pum blaenoriaeth drawsbynciol Llywodraeth Cymru a chaiff ei ddiffinio fel y cyfnod mewn bywyd rhwng cyn geni a 7 oed.

Manylion cyswllt

Awduron yr adroddiad: Tom Bajjada, Maya Richardson, Merryn Tully a Kerry KilBride / Miller Research (UK) Ltd

Mae’r safbwyntiau a fynegwyd yn yr adroddiad hwn yn perthyn i’r ymchwilwyr ac nid o reidrwydd Llywodraeth Cymru.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:
Mina Gedikoglu a Launa Anderson
Ebost: ymchwilcyfiawndercymdeithasol@llyw.cymru

Rhif Ymchwil Gymdeithasol: 22/2024
ISBN digidol 978-1-83577-811-1

Image
GSR logo