Cyfyngiadau ar symudiadau anifeiliaid sy'n gysylltiedig â'r firws y Tafod Las gan gynnwys parthau dan gyfyngiadau (Cymru gyfan) a parthau rheoli dros dro.
Yn y casgliad hwn
Parth dan Gyfyngiadau - Cymru gyfan
Datganwyd parth dan gyfyngiadau'r tafod glas ledled Cymru gyfan o 00:01 ddydd Llun 10 Tachwedd 2025. Mae hyn yn golygu, er mwyn symud anifeiliaid yng Nghymru:
- nid oes angen trwydded benodol
- nid oes angen profion cyn symud
- rhaid bodloni amodau'r drwydded gyffredinol EXD671(EW) (ar gov.uk) ar gyfer symudiadau rhwng y parth dan gyfyngiadau'r tafod glas yn Lloegr a'r parth dan gyfyngiadau yng Nghymru.
Mae hyn yn berthnasol os ydych chi'n symud anifeiliaid i farchnad, sioe, lladd-dy neu unrhyw le arall o fewn parth dan gyfyngiadau'r tafod glas.
Roedd datgan parth dan gyfyngiadau'r tafod glas hefyd yn gosod Ardal Heintiedig y tafod glas sy'n berthnasol i'r un ardal ddaearyddol â'r parth dan gyfyngiadau, sy'n cyfyngu ar symud anifeiliaid i fangre ac oddi yno, ac i’r ardal heintiedig ac allan ohoni. Cyhoeddir Trwydded Gyffredinol o dan Orchymyn Symud Anifeiliaid (Cyfyngiadau) (Cymru) 2003 (fel y'i diwygiwyd) (EXD612(Cy) (GL)) i oresgyn cyfyngiadau cyfreithiol a fyddai fel arall yn atal symud anifeiliaid. Nid yw hyn yn dileu unrhyw rwymedigaethau i gydymffurfio â chyfyngiadau a thrwyddedau symud BTV ac nid yw'n caniatáu symud anifeiliaid allan o barth dan gyfyngiadau.
Daliadau neu anifeiliaid sydd â hysbysiad cyfyngu
Bydd yr holl hysbysiadau cyfyngu a gyhoeddwyd i ddaliadau unigol ac anifeiliaid a oedd ar waith cyn 10 Tachwedd 2025 yn cael eu codi ar 10 Tachwedd.
Symud anifeiliaid i'r Alban
Edrychwch ar y canllawiau ar symud anifeiliaid o Gymru i'r Alban (ar gov.scot).
Parthau rheoli dros dro
Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw parthau rheoli dros dro.
