Neidio i'r prif gynnwy

Sut i ddatblygu gweithgareddau i ddod â grwpiau oedran gwahanol at ei gilydd a sicrhau budd i bawb sy’n cymryd rhan.

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Ebrill 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae pontio’r cenedlaethau yn dod â phobl o bob oed at ei gilydd. Mae prosiectau yn cynnig gweithgareddau sy’n fuddiol ac yn ddifyr i bawb sy’n cymryd rhan. Gall pontio’r cenedlaethau helpu pobl i deimlo’n llai unig ac yn llai ynysig yn gymdeithasol. Mae’r rhai hynny sy’n cymryd rhan yn dysgu mwy am grwpiau oedran gwahanol ac yn teimlo’n rhan o’u cymuned. 

Mae ein strategaethau Unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol a Cymru o blaid pobl hŷn yn nodi’r buddion o helpu cymunedau i ddod at ei gilydd.

Sut i sefydlu prosiect pontio’r cenedlaethau

Darllenwch ein hadroddiad ar effeithiau prosiectau pontio’r cenedlaethau ar y rhai hynny sy’n cymryd rhan. Mae’r adroddiad hefyd yn edrych ar beth all helpu prosiect pontio’r cenedlaethau i fod yn un llwyddiannus, neu rwystro hynny. 

Mae amrywiaeth o brosiectau yn cael eu cynnal ledled Cymru. Dyma rai enghreifftiau a chyngor defnyddiol ar sut i sefydlu prosiect:

Adnodd Pontio'r Cenedlaethau – (Comisiynydd Pobl Hŷn a Chomisiynydd Plant Cymru)

Cynllun Ffrind i Mi (Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan)

Dilynwch y rhwydwaith Pontio’r Cenedlaethau ar y cyfryngau cymdeithasol:

Pontio'r Cenedlaethau, Cyngor Gwynedd (Facebook)

Pontio’r Cenedlaethau (@cenedlaethau) / Twitter

Sut y mae prosiectau pontio’r cenedlaethau yn cael eu rhoi ar waith

Manylion cyswllt

Blwch post pontio'r cenedlaethau Llywodraeth Cymru

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.