Neidio i'r prif gynnwy

Os ydych chi'n rhentu tir neu'n pori'ch anifeiliaid yn dymhorol ar dir rhywun arall, gallai perchennog y tir gael ei archwilio a bod yn gyfrifol am les y stoc. 

Mae'r siartiau llif isod yn dangos y trefniadau ar gyfer:

Pori'ch stoc ar dir rhywun arall 

Pori'ch stoc ar dir rhywun arall
 

Pori stoc rhywun arall ar eich tir chi

Pori stoc rhywun arall ar eich tir chi

Dechreuodd y prosiect CPH yn 2016. Ers hynny, mae Taliadau Gwledig Cymru (RPW) wedi gofyn i geidwaid drosglwyddo'u tir a'i reoli ar Reoli fy CPH (RPW ar-lein). 

Bydd pob cwsmer yn gorfod cadw at y rheolau CPH newydd os oes ganddyn nhw: 

  • gysylltiadau â'r System Olrhain Gwartheg (CTS)
  • tir o dan Awdurdod Meddiannaeth Unigol (SOA)
  • cytundeb Rheoli Cysylltiadau Tir Dros Dro

Bydd ceidwaid newydd a'r rheini sydd wedi newid manylion eu tir yn gorfod cadw at y rheolau hyn hefyd. 

Caiff defnyddwyr hen a newydd reoli eu CPH ar-lein o dan Reoli fy CPH ar eu cyfrif RPW Ar-lein unrhyw bryd. Mae hyn yn cynnwys:

  • tynnu tir neu ychwanegu tir  
  • creu neu ddileu Cysylltiad Tir Dros Dro (TLA)/rhifau CPH dros dro.

Os oes gennych gwestiynau, cysylltwch â’r Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid drwy’ch cyfrif RPW Ar-lein neu drwy ffonio 0300 062 5004..