Mae Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru (PCAC) yn ymwybodol o broblemau ysbeidiol wrth gyrchu ein porth gwaith achos cynllunio.
Mae’r mater wedi cael ei adrodd i’r tîm TG perthnasol o fewn Llywodraeth Cymru. Rhoddwyd gwybod i ni y gallai gymryd ychydig o amser i ddatrys y broblem. Yn y cyfamser, gofynnwn i ddefnyddwyr sy’n cael trafferth cyrchu’r porth roi cynnig arall arni ar ôl dwy awr i weld a allant gael mynediad.
Os na allwch gael at y porth am fwy na dau ddiwrnod, anfonwch neges e-bost at y tîm gwaith achos perthnasol. Ar gyfer apeliadau cynllunio a chysylltiedig, defnyddiwch PEDW.GwaithAchos@llyw.cymru Ar gyfer Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (DNS) a cheisiadau Seilwaith eraill, defnyddiwch PEDW.Seilwaith@llyw.cymru
Gwnewch yn siŵr eich bod yn cynnwys manylion yr achos a’r dogfennau yr oeddech eisiau cael atynt drwy’r porth, a’r dyddiadau a’r amserau y ceisioch gyrchu’r porth heb lwyddiant.
Ymddiheurwn yn ddiffuant am unrhyw anghyfleustra a achosir gan y broblem ysbeidiol barhaus hon.
Gellir mynd at y porth gwaith achos cynllunio yma: Gwaith achos cynllunio | LLYW.CYMRU
