Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw cyhoeddwyd £25 miliwn ar gyfer saith prosiect i roi hwb i Borthladd Rhydd Ynys Môn a sbarduno twf economaidd ar draws yr ynys a Gogledd Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Mawrth 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU a Chyngor Sir Ynys Môn a Stena Line UK wedi llofnodi Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth (MoU) sy'n ffurfioli sut y bydd y porthladd rhydd yn cael ei lywodraethu a'i gyflawni.

Mae'r cytundeb hwn yn datgloi'r gyfran gyntaf o £25 miliwn o gyllid cyfalaf sbarduno, gan lywodraethau'r DU a Chymru, ar gyfer prosiectau a fydd yn gwella seilwaith, yn denu mewnfuddsoddiad ac yn creu cyfleoedd cyflogaeth.

Mae Porthladd Rhydd Ynys Môn yn barth dynodedig lle mae busnesau'n elwa o ryddhad treth a chymhellion eraill sydd wedi'u cynllunio i ddenu buddsoddiad a chreu swyddi o ansawdd uchel.

Mae'r saith prosiect yn cynnwys gwelliannau i fynedfeydd ffyrdd, seilwaith ynni, gwaith adfer safleoedd a chyfleusterau newydd a gwell ar gampws Parc Gwyddoniaeth Menai. Gyda'i gilydd byddant yn paratoi safleoedd treth y porthladd rhydd ar gyfer buddsoddiad sector preifat.

Mae'r cyhoeddiad yn ddatblygiad ar ymrwymiadau mawr diweddar ar gyfer y rhanbarth, gan gynnwys cymeradwyo adweithydd niwclear newydd yn Wylfa a dynodi Ardal Twf AI Gogledd Cymru. Mae blaenoriaethau sector y porthladd rhydd, sy'n cynnwys ynni niwclear a thechnoleg ddigidol, yn ategu'r ddau ddatblygiad yn uniongyrchol.

Dywedodd Rebecca Evans, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio: 

Mae'r buddsoddiad hwn o £25 miliwn yn dangos ymrwymiad ein llywodraeth i sicrhau dyfodol economaidd Ynys Môn a sicrhau bod manteision penderfyniadau mawr Llywodraeth y DU a Llywodraeth Lafur Cymru yn cael eu teimlo yma ar yr ynys.

"Drwy roi seilwaith critigol yn ei le nawr, rydym yn sicrhau bod Ynys Môn mewn sefyllfa i fanteisio i'r eithaf ar y Porthladd Rydd, y momentwm newydd yn Wylfa, a chyfleoedd Ardal Twf AI Gogledd Cymru.

"Mae hon yn neges glir: rydym yn arfogi cymunedau Cymru â'r offer sydd eu hangen arnynt i gystadlu, i ddenu swyddi o ansawdd uchel, ac i siapio'r diwydiannau a fydd yn diffinio economi'r dyfodol."

Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Jo Stevens:

Mae newyddion heddiw yn foment arwyddocaol o ran cyflawni Porthladd Rhydd Ynys Môn a fydd yn hanfodol ar gyfer rhoi hwb i dwf economaidd. Rhagwelir y bydd 5,000 o swyddi yn cael eu creu erbyn 2030.

"Mae hyn yn dilyn cyhoeddiadau diweddar Llywodraeth y DU am niwclear newydd ar gyfer Wylfa ac Ardal Twf AI Gogledd Cymru, a fydd gyda'i gilydd yn drawsnewidiol i bobl gogledd Cymru, ac yn darparu cyfleoedd am genedlaethau i ddod."

Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn, Gary Pritchard:

Mae Cyngor Ynys Môn yn falch o lofnodi Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth y Porthladd Rhydd gan ei fod yn garreg filltir bwysig o ran darparu cyfleoedd economaidd newydd i'r ynys. Mae'r cytundeb yn cadarnhau ymrwymiad cyffredin gyda'r ddwy lywodraeth a Stena Line i sefydlu Porthladd Rhydd a all ddenu buddsoddiad, cefnogi arloesedd, a chreu swyddi medrus i gymunedau lleol.

"Mae sicrhau cyfalaf sbarduno yn arbennig o bwysig, gan ei fod yn golygu gallu dechrau ar waith cynnar hanfodol, ac yn dangos hyder ym mhotensial strategol Ynys Môn. Gyda'r sylfaen hon yn ei lle, gall y Cyngor gyda Stena Line a phartneriaid eraill gyflymu cynlluniau sy'n cryfhau rôl yr ynys ym meysydd ynni, gweithgynhyrchu a masnach, gan helpu i yrru ffyniant hirdymor ar draws Ynys Môn a Gogledd Cymru."

Dywedodd Cadeirydd Gweithredol Stena Line UK, Ian Hampton:

Rydym yn croesawu cymeradwyo memorandwm cyd-ddealltwriaeth Porthladd Rhydd Ynys Môn gyda llywodraethau Cymru a'r DU. Mae'r cyhoeddiad hwn yn nodi dechrau cam gweithredol Porthladd Rhydd Ynys Môn, yn dilyn y gwaith a wnaed hyd yma i sicrhau statws y Porthladd Rhydd, cwblhau ein hachosion busnes, a pharatoi ein safleoedd treth ar gyfer buddsoddiad.

"Rydym yn ddiolchgar i lywodraethau'r DU a Llywodraeth Cymru am eu cefnogaeth barhaus a byddwn yn parhau i weithio gyda'r ddwy lywodraeth a'r holl bartneriaid Porthladd Rhydd i gyflawni ein gweledigaeth o ddarparu swyddi a thwf economaidd i Ynys Môn a Gogledd Cymru, tra'n diogelu'r iaith a'r diwylliant Cymraeg."