Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae'r polisi cadw ardrethi annomestig ar gyfer Porthladdoedd Rhydd, sydd wedi'i amlinellu yn y Rhaglen Porthladdoedd Rhydd yng Nghymru: prosbectws ymgeisio, yn nodi'r bwriad i'r “awdurdod(au) lleol y mae’r safleoedd treth Porthladd Rhydd wedi’u lleoli ynddo/ynddynt gadw’r twf ardrethi annomestig ar gyfer yr ardal honno uwchben llinell sylfaen gytunedig. Bydd hyn wedi’i warantu am 25 mlynedd, gan roi’r sicrwydd y mae ei angen ar awdurdodau lleol i fenthyca er mwyn buddsoddi mewn adfywio a seilwaith a fydd yn cefnogi twf ychwanegol”. 

Bwriad y canllawiau hyn yw helpu awdurdodau lleol i weinyddu'r broses ar gyfer cadw ardrethi annomestig o fewn Porthladdoedd Rhydd. Nid ydynt yn disodli unrhyw ddeddfwriaeth bresennol sy'n ymwneud ag ardrethi annomestig.

Dylid anfon unrhyw ymholiadau am y canllawiau hyn i: 
PolisiTrethiLleol@llyw.cymru.

Incwm a gedwir yn ôl

Fel y manylir yn y Rhaglen Porthladdoedd Rhydd yng Nghymru: canllawiau'r cam sefydlu, ‌dylai incwm o dwf ardrethi annomestig a gedwir yn ôl gael ei ddefnyddio yn bennaf i gyllido'r canlynol:

  • costau gweithredu Porthladd Rhydd;
  • seilwaith ffisegol a/neu ddigidol a fydd yn hwyluso buddsoddi yn ardal y Porthladd Rhydd;
  • gwaith cydosod tir a/neu waith adfer safleoedd a fydd yn hwyluso buddsoddi yn ardal y Porthladd Rhydd;
  • datblygu sgiliau a'r gweithlu – yn seiliedig ar egwyddorion gwaith teg a chynaliadwyedd;
  • mentrau arloesi;
  • adfywio a/neu ddatblygu asedau 'byw gweithio chwarae' yn Ardal Teithio i'r Gwaith y Porthladd Rhydd;
  • lliniaru unrhyw ddadleoli a/neu allanoldebau negyddol sy'n gysylltiedig â'r Porthladd Rhydd;
  • gweithgarwch i ategu uchelgeisiau'r Porthladd Rhydd o ran Sero Net a datgarboneiddio;
  • cyflawni mesurau cynllunio sy'n benodol i Borthladd Rhydd.

Mae'r polisi yn darparu ar gyfer cadw hyd at 100% o incwm ardrethi annomestig o fewn y safleoedd treth dynodedig. Bydd yr incwm sylfaenol cychwynnol, ar gyfer yr ardal a amlinellir y bydd ardrethi'n cael eu cadw ynddi, yn cael ei bennu drwy ffurflen incwm sylfaenol cychwynnol. Yr eiddo a fydd wedi'i gynnwys yn y llinell sylfaen gychwynnol fydd eiddo ar y rhestr ardrethu yn safle treth y Porthladd Rhydd ar y diwrnod cyn dynodi safle yn safle treth, gan ddefnyddio gwerthoedd ardrethol cyfatebol fel ag yr oeddent ar yr un diwrnod. 

Bydd yr incwm sydd i'w gadw yn ôl gan yr awdurdod lleol yn y Porthladd Rhydd yn cael ei bennu gan faint y mae'r incwm ardrethi annomestig yn fwy na'r incwm sylfaenol, yn amodol ar gymhwyso'r ffactor(au) dadleoli a ragnodir gan Lywodraeth Cymru. Bydd yr incwm hwn a gedwir yn ôl yn deillio o ardrethi annomestig a delir ar adeiladau newydd, estyniadau a gwelliannau i adeiladau presennol, yn ogystal ag ailadeiladu adeiladau presennol sy'n arwain at werthoedd ardrethol uwch ac incwm uwch. Bydd yn cynnwys gwerth unrhyw incwm a fyddai wedi'i wireddu fel arall cyn cymhwyso rhyddhad ardrethi Porthladdoedd Rhydd, ond ni fydd yn cynnwys gwerth unrhyw ryddhad(au) statudol, rhyddhadau lleol nac elfennau o ryddhadau dewisol a ariennir yn lleol (gan na fyddai'r incwm hwn wedi'i dderbyn beth bynnag). 

Bydd yr incwm sylfaenol, yn ogystal â swm yr incwm sydd i'w gadw yn ôl, yn cael eu cyfrifo'n flynyddol gan ddefnyddio ffurflen flynyddol newydd sydd wedi'i dylunio i ategu'r broses hon. Bydd yn ofynnol i awdurdodau lleol lenwi'r ffurflen a'i chyflwyno erbyn 30 Mehefin ar ôl diwedd pob blwyddyn ariannol. Bydd awdurdodau lleol sydd â Phorthladd Rhydd yn parhau i adrodd am bob incwm ardrethi annomestig, gan gynnwys yr hyn a fydd yn cael ei gadw yn ôl, yn rhan o'r ffurflenni ardrethi annomestig safonol (ffurflenni blynyddol NDR1 ac NDR3). 

Bydd awdurdodau lleol yn cael eu hincwm a gedwir yn ôl drwy'r Setliad Llywodraeth Leol yn ystod y mis Ebrill wedi i'r ffurflenni cadw ardrethi ddod i law. Y rheswm dros hyn yw y bydd yr incwm ychwanegol yn cael ei gofnodi yn y ffurflen a fydd yn cael ei llenwi ar ôl diwedd y flwyddyn ariannol berthnasol ac y bydd angen gwirio'r wybodaeth honno. Y cyfle nesaf fydd ar gael i ddangos yr addasiad angenrheidiol i Setliad Llywodraeth Leol fydd y flwyddyn ariannol ar ôl y flwyddyn honno. Er enghraifft, bydd incwm sydd i'w gadw yn ôl mewn perthynas â'r flwyddyn ariannol 2025 i 2026 yn cael ei gynnwys yn y Setliad Llywodraeth Leol ar gyfer 2027 i 2028. 

Y prawf cwmpas

Fel y nodir yn y prosbectws ymgeisio, mae Porthladdoedd Rhydd yn seiliedig ar dri phrif amcan, sef:

  • hyrwyddo adfywio a chreu swyddi o ansawdd uchel;
  • sefydlu’r Porthladd Rhydd fel canolfan genedlaethol ar gyfer masnach a buddsoddiad byd-eang ar draws yr economi; a
  • meithrin amgylchedd arloesol.

Ni fydd y broses o gadw incwm Porthladdoedd Rhydd yn cynnwys prosiectau o fewn yr ardal a amlinellir a fyddai wedi'u cynnal beth bynnag, heb gymhellion yn ymwneud â Phorthladdoedd Rhydd. 

Er mwyn i brosiectau newydd gyfrannu at incwm ychwanegol Porthladd Rhydd, rhaid iddynt fodloni'r prawf cwmpas. Pan ofynnir iddynt, rhaid i awdurdodau lleol gadarnhau'r canlynol: 

  • heb y Porthladd Rhydd, ni fyddai'r buddsoddiad angenrheidiol mewn seilwaith wedi digwydd; a
  • bod y prosiect yn cyflawni'r un neu fwy o’r amcanion a nodir uchod. 

Gall Llywodraeth Cymru wneud ymholiadau ynghylch eiddo Porthladdoedd Rhydd, neu adolygu'r eiddo, i benderfynu a ydynt wedi bodloni'r prawf hwn. Os nad yw Llywodraeth Cymru wedi'i hargyhoeddi bod yr eiddo wedi bodloni'r prawf, gallai ofyn am ffurflenni wedi'u diwygio a'u hôl-ddyddio. Mae canllawiau'r cam sefydlu yn datgan bod rhaid i Borthladdoedd Rhydd nodi strategaeth gadarn briodol ar gyfer rheoli eu safleoedd treth, gan gynnwys rhoi sicrwydd bod buddsoddi mewn gweithgarwch economaidd newydd yn cael ei greu, yn hytrach na'i ddadleoli o rywle arall. Disgwylir y bydd mabwysiadu'r strategaeth hon yn caniatáu i awdurdodau lleol sicrhau, mewn modd syml, fod modd tystiolaethu, pe bai unrhyw ymholiadau o'r fath yn codi, fod incwm ardrethi annomestig sydd wedi'i nodi ar gyfer ei gadw yn ôl yn deillio o dwf sy'n bodloni'r prawf cwmpas.

Bydd prosiectau mewn ardal a amlinellir nad ydynt yn bodloni'r prawf cwmpas yn cyfrannu at incwm sylfaenol, yn hytrach nag at incwm Porthladd Rhydd a gedwir yn ôl.

Newidiadau i'r sylfaen drethu

Bydd awdurdodau lleol yn llenwi ffurflen flynyddol (ffurflen cadw ardrethi annomestig Porthladdoedd Rhydd) a fydd yn cofnodi'r incwm sylfaenol wedi'i ddiweddaru, unrhyw incwm ychwanegol (wedi'i addasu ar gyfer y ffactor dadleoli rhagnodedig) a chyfanswm incwm ar gyfer y flwyddyn berthnasol. Defnyddir y ffurflen i gofnodi'r newidiadau i incwm ardrethi annomestig o ran y flwyddyn berthnasol yn unig, o gymharu â'r flwyddyn flaenorol. Bydd nodiadau ar wahân wedi'u hatodi i'r ffurflen er mwyn helpu awdurdodau lleol sy'n llenwi'r ffurflen hon.

Mae newidiadau i'r sylfaen drethu, er enghraifft yn sgil adeiladau newydd, estyniadau, dymchweliadau ac ailadeiladu, yn debygol o ddigwydd drwy gydol y flwyddyn. Mae'r cyfnod cyntaf o 12 mis ar ôl y dyddiad y daw'r newid i rym yn debygol felly o ymestyn dros ddwy flynedd ariannol (dwy ffurflen). 

Yn y flwyddyn y mae'r newid yn digwydd, dim ond i'r graddau y mae'n effeithio ar incwm yn y flwyddyn honno y bydd yn berthnasol (hynny yw, o'r dyddiad y daw'r newid i rym hyd at ddiwedd y flwyddyn ariannol). Bydd yna'n cael ei drosglwyddo i'r blynyddoedd dilynol yn rhan o gyfanswm yr incwm yn y flwyddyn flaenorol. 

Yn y flwyddyn ar ôl y newid, bydd gweddill yr addasiad i gyfanswm yr incwm yn berthnasol (hynny yw, o ddechrau'r flwyddyn hyd at 12 mis ar ôl y dyddiad y daeth y newid i rym yn y flwyddyn flaenorol). Bydd effaith lawn y newidiadau ar gyfanswm yr incwm yn cael ei throsglwyddo i'r blynyddoedd dilynol.

Gellir dod o hyd i ragor o fanylion am sut yr ymdrinnir ag adeiladau newydd, estyniadau, dymchweliadau ac ailadeiladu isod.

Adeiladau newydd ac estyniadau

Pan fo eiddo sydd newydd ei adeiladu yn cael ei ychwanegu at y rhestr ardrethu yn ardal y Porthladd Rhydd, neu os yw eiddo presennol yn cael ei estyn neu ei wella (gan arwain at werth ardrethol uwch), bydd hyn yn cael ei gynnwys yng nghyfanswm yr incwm. Yn y rhan fwyaf o achosion, disgwylir hefyd y bydd y newidiadau hyn yn cael eu nodi fel incwm ychwanegol, ond efallai y byddant yn cael eu cynnwys yn hytrach yn yr incwm sylfaenol mewn rhai amgylchiadau (hynny yw, pan na fodlonir y prawf cwmpas). 

Ar gyfer estyniadau a gwelliannau i eiddo a oedd yn rhan o'r incwm sylfaenol, bydd yr incwm ychwanegol yn gymesur â'r newid mewn gwerth ardrethol. Er enghraifft, pe bai gwerth ardrethol eiddo yn cynyddu o £75,000 i £100,000 ar ôl ei estyn neu ei wella, bydd 25% o'r incwm (ar ôl cymhwyso unrhyw ryddhad statudol neu ryddhad nad yw’n gysylltiedig â Phorthladd Rhydd) o'r eiddo estynedig yn cael ei gadw yn ôl.

Dymchweliadau

Yn y flwyddyn y caiff eiddo ei ddymchwel, dylid parhau i'w nodi yng nghyfanswm yr incwm am y rhan o'r flwyddyn yr oedd cyfraddau'n daladwy (cyn dymchwel yr eiddo). Ar gyfer y rhan o'r flwyddyn pan nad yw cyfraddau'n daladwy (ar ôl dymchwel yr eiddo), dylid nodi'r gostyngiad yng nghyfanswm yr incwm.

Yn y flwyddyn ar ôl dymchwel yr eiddo, dylid nodi gweddill y gostyngiad yng nghyfanswm yr incwm, mewn perthynas â'r cyfnod o ddechrau'r flwyddyn hyd at 12 mis ar ôl y dyddiad pan nad oedd y cyfraddau yn daladwy mwyach (pan gwblhawyd y gwaith dymchwel). Ni fydd incwm a gedwir yn ôl yn sgil gwaith dymchwel yn dod i'r amlwg wedyn nes bod eiddo yn cael ei ailadeiladu yn lle'r eiddo sydd wedi'i ddymchwel. 

Eiddo wedi'i ailadeiladu

Mewn rhai achosion, bydd eiddo'n cael ei ddymchwel (a'i ddileu'n llawn o incwm y Porthladd Rhydd) ac yna yn cael ei ailadeiladu. Pan fo'r ailadeiladu'n digwydd, bydd incwm cyn dymchwel yr eiddo a gafodd ei ddymchwel yn cael ei ychwanegu yn ôl naill ai at yr incwm sylfaenol (os oedd yr eiddo a gafodd ei ddymchwel wedi'i gynnwys ynddo yn flaenorol) neu at yr incwm ychwanegol (os oedd yr eiddo yn eiddo newydd yn y Porthladd Rhydd cyn iddo gael ei ddymchwel). Mae'r gwahaniaeth rhwng yr incwm ailadeiladu a'r incwm cyn dymchwel yn cael ei drin fel incwm ychwanegol, ar yr amod bod gwerth ardrethol yr eiddo sydd wedi'i ailadeiladu yn fwy na gwerth ardrethol yr eiddo cyn ei ddymchwel.

Pan fo'r sylfaen drethu gyfan yn cael ei hailbrisio, gan achosi newid i werth ardrethol eiddo sydd wedi'i ailadeiladu, dylai'r gwahaniaeth rhwng yr incwm sylfaenol a'r incwm ychwanegol fod fel yr un rhaniad cymesur a oedd ar waith cyn ailbrisio, ond dylid ei gymhwyso i'r gwerth ardrethol newydd. Yn yr amgylchiadau prin pan fo ailbrisio yn digwydd ar ôl dymchwel eiddo, ond cyn gwaith ailadeiladu, ni fydd unrhyw werth ardrethol ar gael i gyfeirio ato er mwyn pennu rhaniad incwm sylfaenol neu incwm ychwanegol ar gyfer y cylch ailbrisio newydd hwnnw. Yn yr achosion hyn, dylid addasu (naill ai codi neu ostwng) y gwerth ardrethol cyn ailbrisio (cyn dymchwel eiddo) drwy ddefnyddio'r newid cyfartalog mewn gwerth ardrethol a ddigwyddodd yn ardal y Porthladd Rhydd. Bydd y gwerth ardrethol hwn wedi'i addasu yn cael ei drin fel y gwerth ardrethol cyn dymchwel at ddibenion pennu'r rhaniad.