Neidio i'r prif gynnwy

Rhagymadrodd

Rhaid i awdurdodau lleol roi sylw i Ganllawiau Gweithredu Premiymau’r Dreth Gyngor ar Gartrefi Gwag Hirdymor ac Ail Gartrefi yng Nghymru. Ers cyhoeddi’r canllawiau gyntaf yn 2016, mae nifer o newidiadau i bolisi treth gyngor wedi’u gweithredu a chynigir canllawiau drafft diwygiedig.

Mae'r ymgynghoriad hwn yn gymwys i Gymru’n unig.

Cefndir

Yn 2021, ymgynghorodd Llywodraeth Cymru ar newidiadau posibl i drethi lleol ar gyfer ail gartrefi a llety hunanddarpar. Roedd y cynigion yn cyfrannu at un rhan, cyfraniad teg, o ddull tair elfen Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael ag effaith niferoedd mawr o ail gartrefi mewn cymunedau ac at helpu pobl i allu fforddio byw yn eu hardaloedd lleol. Roedd yr ymgynghoriad yn ceisio safbwyntiau a thystiolaeth gan unigolion a sefydliadau ar y pwerau dewisol presennol sy'n caniatáu i awdurdodau lleol godi cyfradd uwch o'r dreth gyngor ar ail gartrefi ac anheddau gwag hirdymor.

Yn dilyn yr ymgynghoriad, mae deddfwriaeth wedi'i gwneud sy'n cynyddu uchafswm  premiwm y dreth gyngor y gall awdurdodau lleol benderfynu ei godi ar ail gartrefi ac eiddo gwag hirdymor i 300%. Bydd Rheoliadau’r Dreth Gyngor (Anheddau Gwag Hirdymor ac Anheddau a Feddiennir yn Gyfnodol) (Cymru) 2022 yn effeithiol o 1 Ebrill 2023 ymlaen.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi diwygio'r meini prawf sy'n penderfynu a yw llety hunanddarpar yn cael ei ddosbarthu fel eiddo annomestig. Bydd y newidiadau yng Ngorchymyn Ardrethu Annomestig (Diwygio’r Diffiniad o Eiddo Domestig) (Cymru) 2022 hefyd yn gymwys o 1 Ebrill 2023 ymlaen. O'r dyddiad hwnnw, i ddosbarthu eiddo hunanddarpar fel eiddo annomestig, rhaid iddo fod ar gael i'w osod am o leiaf 252 diwrnod mewn unrhyw gyfnod o 12 mis, a chael ei osod mewn gwirionedd am o leiaf 182 diwrnod.

Bydd y trothwyon newydd yn sicrhau na fydd eiddo hunanddarpar yn cael ei ddosbarthu fel eiddo annomestig ond os yw’n cael ei ddefnyddio at ddibenion busnes am y rhan fwyaf o’r flwyddyn ac yn gwneud cyfraniad sylweddol i'r economi leol. O 1 Ebrill 2023 ymlaen, os nad yw eiddo hunanddarpar yn bodloni'r meini prawf gosod newydd, bydd yn cael ei ddosbarthu fel eiddo domestig a bydd yn agored i dalu’r dreth gyngor. Pan fo’r awdurdod lleol wedi penderfynu cymhwyso premiwm ar gyfer ail gartrefi, bydd y perchennog hefyd yn agored i dalu'r tâl ychwanegol oni bai bod ei eiddo'n dod o fewn eithriad.

Mae cynrychiolwyr busnesau hunanddarpar a'r sector twristiaeth wedi dweud na fydd hi'n bosibl i rai gweithredwyr fodloni'r meini prawf newydd. Yn benodol, awgrymwyd bod rhai mathau o eiddo hunanddarpar yn ddarostyngedig i amodau cynllunio sy'n atal meddiannaeth barhaol neu'n nodi na ellir ond defnyddio'r eiddo fel llety gwyliau a bod hyn yn cyfyngu ar yr opsiynau sydd ar gael i’r perchennog pan ddaw'r meini prawf gosod newydd i rym.

Cynigir deddfwriaeth newydd felly i estyn Dosbarth 6 o’r eithriadau i bremiymau’r dreth gyngor. Bydd hyn yn cynnwys eiddo gydag amodau cynllunio sy'n atal meddiannaeth fel unig breswylfa neu brif breswylfa person neu sy'n nodi mai dim ond fel llety gwyliau y gellir ei ddefnyddio. Byddai eiddo o'r fath yn dod yn agored i dalu’r dreth gyngor ar y raddfa safonol os nad yw’n bodloni'r meini prawf gosod ar gyfer ei ddiffinio fel eiddo annomestig ond na ellid codi premiwm arnynt. Y bwriad yw y bydd y ddeddfwriaeth yn dod i rym o 1 Ebrill 2023 ymlaen.

Y canllawiau drafft

Mae'r newidiadau i lefel uchaf premiymau’r dreth gyngor, y meini prawf gosod a'r estyniad arfaethedig i eithriadau y premiymau wedi arwain at yr angen i adolygu a diweddaru’r canllawiau presennol.

Cynigir canllawiau diwygiedig, Premiymau'r Dreth Gyngor ar Anheddau Gwag Hirdymor ac Anheddau a Feddiennir yn Gyfnodol yng Nghymru: Canllawiau ar eu Gweithredu, eu Gweinyddu a’u Gorfodi.

Mae'r canllawiau drafft diwygiedig yn atodiad a.

Dylai pob awdurdod lleol roi sylw i'r canllawiau hyn er mwyn sicrhau dull gweithredu teg a chyson ledled Cymru.

Y camau nesaf

Bydd yr ymgynghoriad hwn ar y canllawiau drafft ar agor am gyfnod o 6 wythnos. Pan ddaw’r ymgynghoriad i ben, caiff yr holl ymatebion eu hystyried, a bydd unrhyw ddiwygiadau a ystyrir yn angenrheidiol yn cael eu hymgorffori yn y canllawiau.

Ar ôl eu cwblhau, y bwriad yw y bydd y canllawiau diwygiedig yn gymwys at ddibenion ymarferol ar unwaith.

Cwestiynau'r ymgynghoriad

Cwestiwn 1

A oes gennych unrhyw sylwadau am y canllawiau drafft arfaethedig?

Cwestiwn 2

Hoffai Llywodraeth Cymru wybod eich barn am yr effeithiau y byddai’r canllawiau hyn yn eu cael ar y Gymraeg, ac ar y canlynol yn benodol:  

  • ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg
  • ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg

Beth fyddai'r effeithiau, yn eich barn chi?  Sut y byddai modd cynyddu’r effeithiau cadarnhaol, neu liniaru’r effeithiau negyddol?

Cwestiwn 3

Eglurwch hefyd, yn eich barn chi, sut y gellid llunio neu newid y canllawiau drafft er mwyn:

  • cael effaith gadarnhaol neu gynyddu’r effaith gadarnhaol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg
  • sicrhau nad ydynt yn cael effeithiau niweidiol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg nac ar drin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg.

Sut i ymateb

Dylech gyflwyno eich sylwadau erbyn 22 Rhagfyr 2022, mewn unrhyw un o’r ffyrdd canlynol.

Cangen Polisi'r Dreth Gyngor
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10  3NQ

Eich hawliau

O dan ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych hawl i wneud y canlynol:

  • i gael gwybod am y data personol sy’n cael eu cadw amdanoch chi, ac i gael gweld y data hynny
  • i fynnu ein bod yn cywiro gwallau yn y data hynny
  • (o dan rai amgylchiadau) i wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu’r data
  • (o dan rai amgylchiadau) i’ch data gael eu dileu
  • (o dan rai amgylchiadau) i gludadwyedd data
  • i gyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

Mae’n bosibl y bydd ymatebion i ymgyngoriadau yn cael eu cyhoeddi, ar y rhyngrwyd neu mewn adroddiad. Os byddai'n well gennych chi i'ch ymateb aros yn ddienw, dywedwch wrthym

I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac am y defnydd a wneir ohoni, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan GDPR y DU, gweler y manylion cyswllt isod:

Swyddog Diogelu Data

Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10  3NQ

E-bost: SwyddogDiogeluData@llyw.cymru

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113

Gwefan: ico.org.uk

Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU)

Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer unrhyw ddata personol yr ydych yn eu darparu fel rhan o’ch ymateb i’r ymgynghoriad. Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu’r data personol hyn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau cytbwys ynghylch sut y maent yn cyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus. Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy'n gweithio ar y materion y mae'r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â nhw neu sy’n cynllunio ymgyngoriadau ar gyfer y dyfodol. Pan fo Llywodraeth Cymru yn cynnal dadansoddiad pellach o'r ymatebion i ymgynghoriad, gall trydydd parti achrededig (e.e. sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori) gael ei gomisiynu i wneud y gwaith hwn. Dim ond o dan gontract yr ymgymerir â gwaith o'r fath. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o'r fath yn nodi gofynion caeth ar gyfer prosesu a chadw data personol yn ddiogel.

Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi’i gynnal yn briodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ddogfen hon. Mae’n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi’r ymatebion yn llawn. Fel arfer, bydd enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr unigolyn neu'r sefydliad a anfonodd yr ymateb yn cael eu cyhoeddi gyda’r ymateb. Os nad ydych yn dymuno i’ch enw a’ch cyfeiriad gael eu cyhoeddi, rhowch wybod inni yn ysgrifenedig wrth anfon eich ymateb. Byddwn wedyn yn cuddio’ch manylion cyn cyhoeddi’ch ymateb.

Dylech hefyd fod yn ymwybodol o'n cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth. Os caiff eich manylion eu cyhoeddi fel rhan o'r ymateb i'r ymgynghoriad, caiff yr adroddiadau hyn eu cadw am gyfnod amhenodol. Ni fydd gweddill eich data a gedwir fel arall gan Lywodraeth Cymru yn cael eu cadw am fwy na thair blynedd.

Rhagor o wybodaeth a dogfennau cysylltiedig

Rhif: WG46231

Gallwch weld y ddogfen hon mewn ieithoedd eraill. Os oes arnoch ei hangen mewn fformat gwahanol, cysylltwch â ni.