Neidio i'r prif gynnwy

Mae gwersyll hyfforddi sgiliau yn cael ei gynnal yng Ngholeg Sir Gâr ar hyn o bryd i baratoi prentisiaid ar gyfer cystadleuaeth WorldSkills yn Shanghai ym mis Medi.

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Awst 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae’r gwersyll hyfforddi yn rhan o raglen baratoi ddwys WorldSkills UK ar gyfer y gystadleuaeth, lle bydd chwe chystadleuydd yn cynrychioli Cymru ar Dîm y DU. Mae Madeleine Warburton, un o’r aelodau a ddewiswyd, yn cwblhau prentisiaeth Lefel 4 mewn ynni adnewyddadwy ar hyn o bryd.

Mae prentisiaethau yng Nghymru yn cynnig cyfle i unigolion ennill profiad ymarferol gwerthfawr wrth weithio tuag at gymwysterau a gydnabyddir yn genedlaethol.

Mae prentisiaethau hefyd yn chwarae rôl allweddol wrth gefnogi economi Cymru, gan helpu i fynd i’r afael â bylchau sgiliau mewn sectorau â blaenoriaeth a sicrhau bod gan gyflogwyr fynediad at weithlu medrus ar gyfer y dyfodol.

Ymwelodd y Dirprwy Weinidog dros Sgiliau ac Addysg Drydyddol, Cefin Campbell, â’r gwersyll i weld yr hyfforddiant ar waith ac i siarad â Madeleine a phrentisiaid eraill sy’n cymryd rhan.

Dywedodd Madeleine:

Rydw i wastad yn cael cymaint o fudd o’r gwersylloedd hyfforddi. Dros y blynyddoedd diwethaf, rydw i wedi gwneud llawer o waith yn mireinio fy sgiliau technegol, ond rydw i wedi gweld bod y sgiliau meddal rwy’n eu datblygu trwy’r profiadau hyn yr un mor werthfawr. Mae’r cyfle i gwrdd ag unigolion brwdfrydig eraill, o feddwl tebyg ond o wahanol ddiwydiannau, wedi bod yn hynod ysbrydoledig.

Ynni adnewyddadwy yw fy maes sgiliau i, ond mae wedi bod yn ddiddorol cwrdd â phobl sy’n wych yn eu meysydd gwahanol, fel gwasanaeth bwyty, a gweld eu hangerdd a’u hymrwymiad i’w crefft. Mae’n codi eich ysbryd ac yn eich atgoffa bod pawb yn ymdrechu i ragori yn eu ffordd eu hunain.

Rwy’n ffodus i gael cyflogwr cefnogol iawn trwy gydol fy mhrentisiaeth, ac mae fy hyder a’m gallu i weithio o dan bwysau wedi tyfu’n sylweddol o ganlyniad. Mae’r gwersylloedd hyfforddi a’r cystadlaethau wedi darparu amgylchedd diogel i herio fy hun, gwneud camgymeriadau, dysgu oddi wrthynt, a dod â’r profiadau hynny yn ôl i’m rôl bob dydd.

Rwy’n edrych ymlaen at yr hyn sy’n dod nesaf, ac ychydig yn nerfus. Ond mae’r teimladau hynny’n mynd law yn llaw â thwf. Mae’r tair blynedd diwethaf o ddatblygu trwy gystadlaethau a’r rhaglen ehangach wedi bod yn amhrisiadwy, ac rwy’n hynod ddiolchgar am y cyfleoedd maen nhw wedi’u rhoi imi.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog:

Mae wedi bod yn wych cael ymweld â Choleg Sir Gâr heddiw a gweld ymroddiad a thalent Madeleine a phawb arall sy’n cymryd rhan yn y gwersyll hyfforddi hwn. Mae taith Madeleine o fod yn brentis i gystadlu gyda Thîm y DU yn dangos beth y gellir ei gyflawni trwy waith caled a’r cyfleoedd sydd ar gael drwy ein system sgiliau yng Nghymru.

Rwy’n arbennig o falch y bydd chwe chystadleuydd yn cynrychioli Cymru yn Shanghai, sy’n dros 20% o Dîm y DU. Maen nhw’n dod o raglenni prentisiaeth, colegau a phrifysgolion, sy’n dangos cryfder y gwahanol lwybrau sydd ar gael i bobl yng Nghymru a’r sgiliau o’r radd flaenaf sy’n cael eu datblygu ar draws ein system addysg a hyfforddiant.

Rwy’n gobeithio y bydd eu llwyddiant yn ysbrydoli mwy o bobl ledled Cymru i archwilio’r cyfleoedd sydd ar gael iddynt a cheisio gwireddu eu huchelgeisiau.