Prentisiaethau: Stori Georgia
Mae gyrfa Georgia fel peiriannydd awyrennol yn codi i'r entrychion
Mae Georgia Price yn arloeswr. Hi yw'r fenyw ifanc gyntaf yn Ne Cymru i ddymuno mai gradd mewn Peirianneg Awyrennol yw'r nod.
Mae'r ferch 21 oed o Lantrisant yn cael ei chefnogi ar ei thaith ddysgu gan ei chyflogwr, AerFin Ltd yng Nghasnewydd ac ar hyn o bryd mae'n fyfyriwr ym Mhrifysgol De Cymru. Mae'r cwmni hedfan byd-eang yn arbenigo mewn gwasanaethau cymorth awyrennau a chydrannau injan.
Yn ogystal â'i gradd, mae Georgia yn agos at gwblhau Prentisiaeth mewn Peirianneg Awyrennol gyda Choleg y Cymoedd, aelod o Academi Sgiliau Cymru.
Gan dorri cwys newydd i ferched ifanc mewn gyrfaoedd gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg (STEM), fe enillodd fedalau efydd ac aur yn Her Tîm Gweithgynhyrchu Cystadleuaeth Sgiliau Ysbrydoledig Cymru a'r llynedd enillodd Wobr Talent Yfory Academi Sgiliau Cymru.
Dechreuodd Georgia ei gradd fis Medi diwethaf a bydd yn treulio dwy flynedd yn y brifysgol, wrth weithio yn AerFin. Ei nod yw dod yn beiriannydd trwyddedig B1, a thrwy hynny ehangu'r gwaith y gall ei wneud. Mae hi wrth ei bodd yn y gweithdy, yn tynnu pethau'n ddarnau ac yn ei hail adeiladu.
"Rwy'n mwynhau'r cymysgedd o ddysgu ymarferol, ac astudiaethau academaidd tra'n cael fy nhalu," meddai Georgia. "Bydd cyflawni'r drwydded B1 yn agor mwy o gyfleoedd gwaith, ac ni fyddwn yn cau'r drws ar wneud mwy o gymwysterau.
"Rwy'n arloeswr oherwydd mai fi yw'r prentis peirianneg awyrennol benywaidd cyntaf yn AerFin a nawr, fi yw'r cyntaf i wneud y radd hon. Mae'r cwmni wedi bod mor gefnogol ac erbyn hyn mae ganddo dair prentis benywaidd.
“Fy nghyngor i fenywod eraill sy'n ystyried gyrfa ym maes peirianneg yw ewch amdani. Nid yw mor frawychus ag y gall edrych, ac mae pawb mor gefnogol a chroesawgar.” Mae swyddi lleol â chyflogau uchel ar gael ac, oherwydd bod y diwydiant peirianneg awyrennol yn ffynnu, byddant o gwmpas am amser hir.
"Rydw i nawr yn cael fy nhalu i ddysgu a does dim rhaid i mi jyglo'r brifysgol gyda swydd ran-amser; gallaf ganolbwyntio fy holl sylw ar fy nyfodol."
Mae AerFin yn gobeithio y bydd llwyddiant Georgia yn atgyfnerthu enw da'r cwmni fel cyflogwr blaenllaw yn y diwydiant awyrofod ac yn denu mwy o dalent.
Dywedodd Simon Bayliss, prif swyddog gweithredu AerFin a chyn-brentis peirianneg ei hun:
“Mae Georgia yn ased gwych i'r busnes. Pan wnaethom eistedd i lawr a thrafod ei chynllun ar gyfer y dyfodol, mynegodd ddiddordeb mewn dod yn beiriannydd gweithfeydd pŵer yn ein hadran dechnegol, a arweiniodd at y radd.
"Mae hi'n gynnil iawn ond yn canolbwyntio'n llwyr ar ble mae hi eisiau mynd yn ei gyrfa.
Mae prentisiaethau yn rhoi cyfle gwych i'r cwmni ddenu a datblygu talentau lleol sy'n ein galluogi i dyfu'n organig. Rydym yn darparu lleoedd profiad gwaith, interniaethau a phrentisiaethau ac rydym yn awyddus i ddatblygu rhaglen STEM mewn partneriaeth ag ysgolion lleol.
"Rydym yn cydnabod gwerth datblygu peirianwyr medrus i'r busnes. Rydym yn canolbwyntio ar ein pobl a datblygu'r diwylliant cywir sy'n gwneud AerFin yn lle gwych i weithio."
Dywedodd Louise Burnell, cydlynydd awyrofod Coleg y Cymoedd :
"Mae Georgia mor ddiymhongar; does ganddi ddim syniad pa mor dalentog yw hi mewn gwirionedd. Mae ganddi ddyfodol disglair ac mae ar y trywydd iawn i ddod yn ffigwr blaenllaw yn y diwydiant awyrofod.
"Mae AerFin wedi bod yn wych yn ei chefnogi a chofleidio prentisiaethau. Mae mor braf gweld pobl ifanc yn ymuno ac yn datblygu yn y diwydiant awyrofod. Nhw yw dyfodol y wlad hon."
Mae Louise yn siarad o brofiad, ar ôl bod yn brentis peirianneg awyrennol ei hun gyda GE Arerospace yn 2003 cyn ymuno â'r coleg i ddatblygu'r genhedlaeth nesaf o brentisiaid.
Gwnewch rywbeth clyfar - symud ymlaen yn eich gyrfa drwy ddilyn prentisiaeth
P’un a ydych chi’n ceisio gwneud eich ffordd drwy’r byd gwaith, neu’n cymryd camau i newid eich gyrfa, efallai mai prentisiaeth yw’r peth i chi.
