Neidio i'r prif gynnwy

Mae Ensinger, cwmni peirianneg plastigion yn Nhonyrefail, wedi canmol prentisiaethau am weddnewid ei fusnes ar ôl creu ei “Ysgol Brentisiaeth” ei hun- datrys ei brinder sgiliau.

Ensinger

Ar ôl cael anhawster dod o hyd i staff gyda’r sgiliau iawn ar gyfer y busnes, penderfynodd Ensinger recriwtio prentisiaid i gwtogi costau recriwtio a mynd i’r afael â’r bwlch sgiliau yn y diwydiant peirianneg.

Ers agor yr Ysgol Brentisiaeth, mae Ensinger wedi gallu hyfforddi 8 prentis, gan ddysgu sgiliau technegol hanfodol, yn ogystal â rhoi profiad ymarferol iddynt.

Hyfforddi pobl angerddol

Meddai Gino Abramo, Rheolwr Hyfforddi Prentisiaid Ensinger:

“Mae’n rhaid i’n staff fod yn wirioneddol dechnegol eu ffyrdd, gan fod angen iddyn nhw ddehongli’r lluniadau peirianneg cymhleth a’u trosi yn god rhaglennu ar gyfer rheoli offer peiriannau. 

“Mae cael ein Hysgol Brentisiaeth ein hunain yn golygu y gallwn hyfforddi pobl sydd ag angerdd am beirianneg mewn ffordd benodol i helpu i feithrin staff gyda’r set sgiliau rhagorol rydym ei hangen.”

Ar hyn o bryd, mae’r cwmni yn cyflogi 12 prentis yn ei safleoedd yn Nhonyrefail a Bridgewater, gan gynnig prentisiaethau pedair blynedd mewn Peirianneg Fecanyddol a Gweithgynhyrchu.

Meddai Gino:

“Fel busnes, rydym yn credu fod personoliaeth yr un mor bwysig â chymwysterau, gan ein bod yn gallu dysgu popeth i rywun y mae angen iddyn nhw ei weithio am weithio ar beiriant, ond alli di ddim dysgu rhinweddau personoliaeth fel parodrwydd i ddysgu neu fod yn rhan o dîm.”

Dod o hyd i'r llwybr delfrydol

Mae Kyle Stark, prentis Peirianneg Fecanyddol a Gweithgynhyrchu Lefel 3, ar ei ail flwyddyn o’i brentisiaeth pedair blynedd.

Meddai Kyle, sy’n 21 oed:

“Dydw i ddim ond yn fy ail flwyddyn ond rydw i eisoes wedi dysgu cymaint mewn cyn lleied o amser. Mae ambell dasg yn galed ond mae gennym ni gymaint o gefnogaeth ac rydym ni’n cael ein hannog i rannu ein gwybodaeth â phrentisiaid eraill, sy’n wych i feithrin tîm.

“Fy nod bellach yw gorffen fy mhrentisiaeth, a byddwn wrth fy modd bod yn Uwch Beiriannydd rhyw ddydd.”

Gwnewch rywbeth clyfar - symud ymlaen yn eich gyrfa drwy ddilyn prentisiaeth

P’un a ydych chi’n ceisio gwneud eich ffordd drwy’r byd gwaith, neu’n cymryd camau i newid eich gyrfa, efallai mai prentisiaeth yw’r peth i chi.