Neidio i'r prif gynnwy

Mae Safyan Iqbal, prentis ITV Cymru Wales yn annog eraill i ystyried prentisiaethau fel cam ymlaen i yrfa lwyddiannus.

Safyan Iqbal

Ennill ei swydd ddelfrydol

Cafodd y prentis creadigol 22 oed o’r brifddinas, ei ddewis o blith cannoedd o ymgeiswyr am brentisiaeth llawn amser ym mhencadlys ITV Cymru ym Mae Caerdydd haf diwethaf, ac ers hynny, mae’n dweud taw ei brentisiaeth yw profiad gorau’i fywyd.

Fe gafodd Safyan ei eni gyda nam ar y clyw a waethygodd dros amser nes iddo gael llawdriniaeth pan oedd yn 11 oed i osod mewnblaniad yn y cochlea i’w helpu i glywed yn well. Mae ar fin cwblhau ei brentisiaeth erbyn hyn, ar ôl dysgu pob math o sgiliau gwahanol gan gynnwys sut i drin camera, a ffilmio a golygu fel rhan o’i uchelgais o fod yn ddyn camera neu wneuthurwr ffilmiau.

Nid yw colli clyw wedi bod yn broblem 

Meddai:

“Cyfathrebu yw’r rhan anoddaf o fod â diffyg clyw. Rwyf wrth fy modd yn siarad â phobl – dyna’r peth gorau am y swydd. Fy uchelgais erioed oedd gweithio yn y byd teledu ond roeddwn i’n poeni y gallwn wynebu rhwystrau oherwydd fy niffyg clyw – ond rwy’n dangos nad yw hynny wedi digwydd.”

“Dw i wrth fy modd fel prentis, achos dw i’n dysgu wrth wneud pethau. Mae prentisiaeth yn addas iawn i mi achos rwy’n awyddus i ddysgu o hyd - ond mae hyn yn gwbl wahanol i’r ysgol neu’r coleg. Mae pob diwrnod yn wahanol. Dw i’n cael y cyfle i wylio gweithredwyr camerâu wrth eu gwaith, mynd i leoliadau diddorol, a chreu fy ffilmiau fy hun. Mae’n brofiad rhagorol. Dw i’n cael cymaint o hwyl, a fyddwn i ddim ar drywydd gyrfa lwyddiannus yn y cyfryngau heb fy mhrentisiaeth.”

Meddai Nia Britton ei reolwr llinell a rheolwr gweithrediadau ITV Cymru:

“Mae Safyan yn un o bedwar prentis, ac fe gafodd ei ddewis ar sail teilyngdod. Roeddem wrth ein bodd â’i bersonoliaeth a’i agwedd gadarnhaol at waith – mae’n gweithio’n galed iawn ac mae wrth ei fodd yn gwneud gwaith ffilmio a golygu. Mae’n gwmni rhagorol ac rydym yn dysgu llawer ganddo. Nid ydym yn gwneud unrhyw ragdybiaethau ynglŷn â’i allu, a byddwn ni’n ei helpu yn ôl yr angen.”

Gwnewch rywbeth clyfar - symud ymlaen yn eich gyrfa drwy ddilyn prentisiaeth

P’un a ydych chi’n ceisio gwneud eich ffordd drwy’r byd gwaith, neu’n cymryd camau i newid eich gyrfa, efallai mai prentisiaeth yw’r peth i chi.