Neidio i'r prif gynnwy

Yr wybodaeth reoli ddiweddaraf ynghylch prentisiaid yng Nghymru a roddwyd ar ffyrlo neu a ddiswyddwyd yn ystod pandemig y coronafeirws hyd at 27 Awst 2021.

Darperir yr wybodaeth reoli hon i Lywodraeth Cymru gan ddarparwyr prentisiaethau, ac ar sail data Cofnod Dysgu Gydol Oes Cymru. Nid yw ei hansawdd wedi’i sicrhau i’r un graddau â’r ystadegau swyddogol.

Mae nifer y prentisiaid y cofnodir yn y datganiad hwn eu bod yn dal i fod ar ffyrlo yn debygol o fod yn uwch na’r hyn sy’n wir go iawn. Mae dau reswm am hyn.

Yn achos un darparwr, ni chyflwynodd ei ddata ar gyfer mis Awst mewn pryd, ac felly defnyddiwyd ei ddata ar gyfer mis Mehefin yn lle hynny. Mae un o bob chwech o brentisiaid y cofnodir eu bod yn dal i fod ar ffyrlo yn perthyn i’r darparwr hwn. Yn gyffredinol, mae’r niferoedd sydd ar ffyrlo yn gostwng, ac felly gallai ffigur mis Mehefin fod yn oramcangyfrif o’r ffigur gwirioneddol mewn perthynas â’r darparwr hwn.

Yn ail, rhoddodd rhai prentisiaid y gorau i’w prentisiaeth tra oeddent ar ffyrlo a dechrau prentisiaeth newydd. Os nad yw eu darparwr wedi cofnodi eu bod wedi dod yn ôl ar ôl eu cyfnod ffyrlo, efallai eu bod yn dal i fod wedi’u rhestru fel rhai sydd ar ffyrlo. Gallai dryswch fod wedi codi ynghylch pa brentisiaeth yr oeddent ar ffyrlo mewn perthynas â hi.

O 1 Gorffennaf, mae wedi bod yn ofynnol i gyflogwyr gyfrannu mwy tuag at gyflog gweithwyr ar ffyrlo. Cynyddwyd eu cyfraniad eto ar 1 Awst.  

Prif bwyntiau

  • Roedd 635 prentis ar ffyrlo llawn ar 27 Awst 2021.
  • Parhaodd nifer y prentisiaid ar ffyrlo i ostwng. Am bob 4 prentis ar ffyrlo llawn ym mis Mehefin, roedd 1 yn llai ar ffyrlo ym mis Awst (225 yn llai i yn gyffredinol).
  • Mae nifer y prentisiaid ar ffyrlo 92% yn llai na’r hyn a oedd ar ei uchaf.
  • Rhoddwyd terfyn ar lai na 0.5% o brentisiaethau yn sgil diswyddo prentisiaid dros y flwyddyn ddiwethaf.
  • Roedd 70 o brentisiaid eraill (llai na 0.5 %) wedi cael eu diswyddo, ond maent yn parhau â’u rhaglen ddysgu tra bo’u darparwr yn ceisio dod o hyd i gyflogwr arall.
  • Mae llai o brentisiaethau wedi’u cwblhau, yn llwyddiannus neu’n aflwyddiannus, o gymharu â blynyddoedd blaenorol.
  • Dim ond 33% o brentisiaid sydd wedi cwblhau eu prentisiaeth neu gael swydd, o gymharu â chyfartaledd o 42% erbyn yr adeg hon yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Wrth i nifer y prentisiaid ar ffyrlo barhau i syrthio, mae anghydraddoldebau o ran y rhai sydd ar ffyrlo o hyd. Y prentisiaid yr effeithir fwyaf arnynt yw’r rhai:

  • ifanc
  • gwrywaidd
  • hil gymysg
  • sy’n gweithio yn y meysydd hamdden, chwaraeon a theithio neu lletygarwch
  • sy’n astudio prentisiaethau lefel 2
  • sy’n gweithio i gwmnïau â llai na 50 o gyflogeion
  • sy’n byw mewn cymdogaethau llai difreintiedig
  • sy’n byw yn y canolbarth neu’r de-orllewin

Ceir gwybodaeth am nifer y bobl sydd ar ffyrlo yng Nghymru yn yr ‘Ystadegau ar y Cynllun Cadw Swyddi Coronafeirws a’r Cynllun Cymorth Incwm Hunangyflogaeth’.

Nodi

Mae’r ystadegau ar gyfer prentisiaid sy’n cwblhau eu prentisiaethau yn cwmpasu cyfnod hirach ac maent yn edrych ar garfan fymryn yn wahanol o brentisiaid na’r ystadegau yn yr adroddiad Deilliannau dysgwyr mewn addysg ôl-16 a effeithiwyd gan bandemig y coronafeirws (COVID-19): Awst 2019 i Orffennaf 2020. Mae dysgwr sydd wedi cwblhau prentisiaeth wedi dysgu’r hyn sy’n ofynnol iddo ei ddysgu, ond ni fydd o reidrwydd wedi cyflawni pob un o'r cymwysterau gofynnol.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Prentisiaid a roddeyd ar ffyrlo neu a ddiswyddwyd yn ystod pandemig coronafeirws (COVID-19): hyd at 27 Awst 2021 , math o ffeil: ODS, maint ffeil: 105 KB

ODS
105 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.