Neidio i'r prif gynnwy

Yr wybodaeth reoli ddiweddaraf ynghylch prentisiaid yng Nghymru a roddwyd ar ffyrlo neu a ddiswyddwyd yn ystod pandemig y coronafeirws hyd at 27 Tachwedd 2020.

Darperir yr wybodaeth reoli hon i Lywodraeth Cymru gan ddarparwyr prentisiaethau, ac ar sail data Cofnod Dysgu Gydol Oes Cymru. Nid yw ei hansawdd wedi’i sicrhau i’r un graddau â’r ystadegau swyddogol.

Mae cyfanswm y prentisiaid wedi’i addasu er mwyn eithrio dysgwyr a oedd wedi’u trosglwyddo i raglen arall. Mae pob canran wedi’i diwygio ar sail y newid hwn i’r cyfanswm.

Prif bwyntiau

  • Roedd 1,255 prentis ar ffyrlo llawn ar 27 Tachwedd 2020.
  • Mae nifer y prentisiaid ar ffyrlo wedi parhau i ddisgyn. Roedd 500 yn llai o brentisiaid ar ffyrlo llawn y mis hwn nag a oedd yn ystod y mis blaenorol.
  • Rhoddwyd terfyn ar lai na 0.5% o brentisiaethau yn sgil diswyddo prentisiaid yn ystod y pandemig.
  • Roedd 145 o brentisiaid eraill (llai na 0.5%) wedi cael eu diswyddo, ond maent yn parhau â’u rhaglen ddysgu tra bo’u darparwr yn ceisio dod o hyd i gyflogwr arall.
  • Mae llai o brentisiaethau wedi’u cwblhau, yn llwyddiannus neu’n aflwyddiannus, o gymharu â blynyddoedd blaenorol.
  • Dim ond 19% o brentisiaid sydd wedi cwblhau eu prentisiaeth yn llwyddiannus neu gael swydd, o gymharu â chyfartaledd o 27% erbyn yr adeg hon yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Wrth i nifer y prentisiaid sydd ar ffyrlo ostwng, mae’r anghydraddoldebau o ran pwy sydd wedi’i roi ar ffyrlo wedi lleihau. Fodd bynnag, mae rhywfaint o anghydraddoldeb o hyd, a’r prentisiaid a oedd yn dal wedi’u heffeithio fwyaf oedd y rhai:

  • ifanc
  • sy’n gweithio yn y meysydd gwallt a harddwch; neu’r meysydd hamdden, chwaraeon a theithio
  • sydd ddim yn astudio prentisiaethau uwch
  • sy’n gweithio i gwmnïau â llai na 10 o gyflogeion
  • sydd ddim yn gweithio yn y sector cyhoeddus

Ceir gwybodaeth am nifer y bobl sydd ar ffyrlo yng Nghymru yn yr 'Ystadegau ar y Cynllun Cadw Swyddi Coronafeirws a’r Cynllun Cymorth Incwm Hunangyflogaeth'.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Gwybodaeth reoli: prentisiaid a roddwyd ar ffyrlo neu a ddiswyddwyd yn ystod pandemig y coronafeirws (COVID-19): hyd at 27 Tachwedd 2020 , math o ffeil: ODS, maint ffeil: 76 KB

ODS
76 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.