Neidio i'r prif gynnwy

Yr wybodaeth reoli ddiweddaraf ynghylch prentisiaid yng Nghymru a roddwyd ar ffyrlo neu a ddiswyddwyd yn ystod pandemig y coronafeirws hyd at 28 Awst 2020.

Darperir yr wybodaeth reoli hon i Lywodraeth Cymru gan ddarparwyr prentisiaethau, ac ar sail data Cofnod Dysgu Gydol Oes Cymru. Nid yw ei hansawdd wedi’i sicrhau i’r un graddau â’r ystadegau swyddogol.

Prif bwyntiau

  • Mae nifer y prentisiaid sydd ar ffyrlo wedi gostwng 2,835 (37%) o uchafswm o 7,770 ar 29 Mai 2020.
  • Roedd 4,930 prentis yn dal ar ffyrlo ar 28 Awst 2020.
  • Roedd 195 prentis wedi cael eu diswyddo, ond maent yn parhau â’u rhaglen ddysgu tra bo’u darparwr yn ceisio dod o hyd i gyflogwr arall.
  • Rhoddwyd terfyn ar brentisiaeth 50 unigolyn yn sgil eu diswyddo.

Y prentisiaid sydd wedi eu heffeithio fwyaf yw:

  • yn ifanc
  • yn wrywaidd
  • yn wyn neu o hil gymysg
  • yn gweithio yn y meysydd gwallt a harddwch; hamdden, chwaraeon a theithio; neu letygarwch
  • ddim yn astudio prentisiaethau uwch
  • yn gweithio i gwmnïau â llai na 50 o gyflogeion
  • wedi’u cyflogi gan y sector preifat
  • yn byw mewn cymdogaethau llai difreintiedig
  • wedi hunan-nodi bod ganddynt 'brif anabledd a/neu anhawster dysgu'

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Gwybodaeth reoli: prentisiaid a roddwyd ar ffyrlo neu a ddiswyddwyd yn ystod pandemig y coronafeirws (COVID-19): hyd at 28 Awst 2020 , math o ffeil: ODS, maint ffeil: 53 KB

ODS
53 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.