Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth, Julie James, wedi llongyfarch cwmni ar gyrraedd carreg filltir o ran nifer ei brentisiaid.

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Hydref 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Addawodd Costain a'i bartneriaid yn y gadwyn cyflenwi sy'n gweithio i Lywodraeth Cymru ar brosiect Deuoli'r A465, Ffordd Blaenau'r Cymoedd, i greu 60 o brentisiaid yn ystod y prosiect. Maen nhw eisoes wedi cynnig dros 50 o gyfleoedd i bobl ifanc de Cymru. 

Mae'r rolau hyd yn hyn wedi bod yn gyfuniad o brentisiaethau technegol proffesiynol megis peirianwyr, syrfëwyr meintiau, yn ogystal â chyfrifyddion, gweithwyr tir, rheolwyr a gweinyddwyr.

Mae'r tîm yn cynnal ac yn datblygu ei brentisiaid drwy raglen strwythuredig o hyfforddiant a phrofiad, ac mae hyn yn cynhyrchu canlyniadau pendant iawn.  

Enillodd un o'r tîm, Joshua Short, wobr Prentis y Flwyddyn Sefydliad y Peirianwyr Sifil ar gyfer 2016.

Hefyd, mae un o'u prentisiaid sy'n gweithio'r tir, Rhys Donovan, wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobr Prentis y Flwyddyn Llywodraeth Cymru a Phrentis y Flwyddyn CITB yn eu Gwobrau Cenedlaethol, a gynhelir yn Llundain yn hwyrach y mis hwn.

Cefnogir y Fframwaith Prentisiaethau gan golegau lleol; Coleg Gwent, Coleg y Cymoedd, Coleg Castell-nedd Port Talbot a Choleg Pen-y-bont. 

Mae nifer o brentisiaethau peirianyddol, syrfëwyr meintiau a gwaith tir yn cael eu cynnal gan CITB tra bod eraill yn rhai dysgu seiliedig ar waith ac yn cael eu hadolygu'n chwarterol gan ddarparwyr dysgu.

Dywedodd y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth, Julie James: 

"Mae gwella buddion cymunedol ein prosiectau mawr yn flaenoriaeth allweddol i Lywodraeth Cymru er mwyn sicrhau etifeddiaeth gynaliadwy i Gymru. Mae Costain a'i bartneriaid cyflenwi yn dangos yr hyn y gellir ei gyflawni pan fydd cwmnïau blaengar yn deall manteision rhaglenni prentisiaeth, ac yn cefnogi datblygiad y bobl ifanc y maent yn eu cymryd ymlaen.

"Gall prentisiaethau helpu i fynd i'r afael â phrinder sgiliau, gan ddarparu sgiliau yn ôl anghenion busnesau, a helpu i ddatblygu'r sgiliau arbenigol sydd eu hangen er mwyn cadw i fyny â’r dechnoleg a'r arferion gwaith diweddaraf."