Presenoldeb ac absenoldeb o ysgolion: Medi 2024 i Awst 2025
Data presenoldeb ac absenoldeb mewn ysgolion cynradd, canol, uwchradd ac arbennig a gynhelir gan awdurdodau lleol yng Nghymru ar gyfer disgyblion 5 i 15 oed dros y flwyddyn academaidd lawn 2024/25 (o Fedi 2024 i Awst 2025).
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Mae’r bwletin hwn yn ymdrin â phresenoldeb disgyblion o oedran ysgol gorfodol (5 i 15 oed) mewn ysgolion a gynhelir, gan gynnwys ysgolion cynradd, canol, uwchradd ac arbennig.
Mae’r data yn y bwletin hwn yn cyfuno’r data a gyhoeddwyd mewn dau ddatganiad blaenorol:
- Presenoldeb ac absenoldeb o ysgolion cynradd: Medi 2024 i Awst 2025
- Presenoldeb ac absenoldeb o ysgolion uwchradd: Medi 2024 i Awst 2025
Cyhoeddir y datganiad hwn ynghyd â thaenlenni manwl sy’n cynnwys yr holl dablau data o’r ddau ddatganiad ystadegol ar wahân a gysylltir uchod. Ceir rhagor o fanylion yn yr adroddiad ansawdd cysylltiedig.
Prif bwyntiau
Cymariaethau rhwng blynyddoedd academaidd 2023/24 a 2024/25
- Mae canran y sesiynau hanner diwrnod a gollwyd gan ddisgyblion oedran ysgol wedi gostwng o 9.5% i 8.9% yn 2024/25.
- Collodd disgyblion oed ysgol gynradd sy'n gymwys i gael Prydau Ysgol Am Ddim (PYD) 14.6% o sesiynau hanner diwrnod yn 2024/25 tra bod disgyblion oedran ysgol nad ydynt yn gymwys i gael PYD wedi colli 7.3% o sesiynau hanner diwrnod. Mae'r ddau ffigur wedi gostwng ers 2023/25.
- Gan ddefnyddio'r trothwy 10%, roedd canran y disgyblion oedran ysgol a oedd yn absennol yn gyson wedi gostwng o 30.5% i 27.0% yn 2024/25.
- Gan ddefnyddio'r trothwy 10% roedd 50.7% canran y disgyblion oedran ysgol sy’n gymwys i PYD yn absennol yn gyson yn 2024/25, o’i gymharu â 21.1% o ddisgyblion nad oeddent yn gymwys i gael PYD. Mae hyn yn ostyngiad o 2024/25 ar gyfer y ddau grŵp o ddisgyblion.
Cymariaethau rhwng blynyddoedd academaidd 2018/19 a 2024/25
- Mae canran y sesiynau hanner diwrnod a fethwyd gan ddisgyblion oedran ysgol yn 2024/25 oedd 8.9%, i fyny o 5.7% yn 2018/19.
- Collodd disgyblion oed ysgol sy'n gymwys i gael PYD 14.6% o sesiynau hanner diwrnod, i fyny o 8.8% yn 2018/19, tra bod disgyblion oed ysgol nad ydynt yn gymwys i gael PYD wedi colli 7.3% o sesiynau hanner diwrnod, i fyny o 4.9%.
- Gan ddefnyddio'r trothwy 10%, roedd canran y disgyblion oed ysgol a oedd yn absennol yn gyson yn 2024/25 yn 27.0%, i fyny o 14.7% yn 2018/19
- Gan ddefnyddio'r trothwy 10%, roedd 50.7% o ddisgyblion oed ysgol sy'n gymwys i gael PYD yn absennol yn gyson yn 2024/25, i fyny o 30.4% yn 2018/19. Mewn cymhariaeth, roedd 21.1% o ddisgyblion nad oeddent yn gymwys ar gyfer PYD yn absennol yn gyson yn 2024/25, i fyny o 11.3% yn 2018/19.
Absenoldeb cyffredinol
Ffigur 1: Canran y sesiynau hanner diwrnod yn absennol o'r ysgol gan ddisgyblion oed ysgol gynradd, 2013/14 i 2024/25 [Nodyn 1]
Disgrifiad o ffigur 1: siart llinell sy'n dangos absenoldeb rhwng 2013/14 a 2024/25. Dangosir absenoldeb, absenoldeb awdurdodedig ac absenoldeb heb awdurdod. Bu cynnydd sydyn yn absenoldeb cyffredinol rhwng 2018/19 a 2022/23 yn dilyn pandemig Covid-19. Rhwng 2022/23 a 2024/25 bu gostyngiad yn yr absenoldeb cyffredinol, yn enwedig oherwydd gostyngiad mewn absenoldebau awdurdodedig.
Ffynhonnell: Casgliad Data Presenoldeb 2024/25 (yn cynnwys ysgolion cynradd, canol ac uwchradd a gynhelir)
[Nodyn 1] Nid oes data yn y casgliad hwn ar gyfer y blynyddoedd 2019/20, 2020/21, 2021/22 oherwydd pandemig y coronafeirws (COVID-19). Mae’r blynyddoedd lle mae data yn cael eu nodi gan y marcwyr cylchol ar y llinellau. Dangosir y cyfnod pandemig fel ardal lwyd yn y siart.
Absennol yn gyson
Mae Llywodraeth Cymru bellach wedi newid y trothwy swyddogol ar gyfer absenoldeb cyson i 10% o’r nifer mwyaf cyffredin o sesiynau gofynnol.
I gael rhagor o fanylion am sut y mae hyn yn wahanol i ddisgyblion mewn ysgolion cynradd ac uwchradd, gweler yr adroddiad ansawdd.
Ffigur 2: canran y disgyblion oedran ysgol uwchradd yn absennol yn gyson, 2013/14 i 2024/25 [Nodyn 1]
Disgrifiad o ffigur 2: siart llinell yn dangos bod canran y disgyblion oedran ysgol gynradd sy'n absennol yn gyson wedi aros rhwng 13.7% a 15.5% rhwng 2013/14 a 2018/19. Yn dilyn pandemig y Coronafeirws, mae absenoldeb cyson (trothwy 10%) wedi mwy na dyblu rhwng 2018/19 a 2022/23 cyn disgyn ychydig rhwng 2022/23 a 2024/25 i 27%.
Ffynhonnell: Casgliad Data Presenoldeb 2024/25 (yn cynnwys ysgolion cynradd, canol ac uwchradd a gynhelir)
[Nodyn 1] Nid oes data yn y casgliad hwn ar gyfer y blynyddoedd 2019/20, 2020/21, 2021/22 oherwydd pandemig y coronafeirws (COVID-19). Mae’r blynyddoedd lle mae data yn cael eu nodi gan y marcwyr cylchol ar y llinellau. Dangosir y cyfnod pandemig fel ardal lwyd yn y siart.
