Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth reoli a ddarperir gan ysgolion yng Nghymru ar ddisgyblion sy'n bresennol mewn ysgolion a gynhelir o 4 i 29 Medi 2023.

Mae’r pennawd hwn yn cyflwyno gwybodaeth am bresenoldeb disgyblion mewn ysgolion yn ystod y flwyddyn academaidd gyfredol.

Mae’r holl ddata yn y pennawd hwn yn seiliedig ar y diffiniad o bresenoldeb a oedd yn cael ei ddefnyddio ac a gyhoeddwyd cyn y pandemig coronafeirws (COVID-19). Nid oes modd cymharu’r data yma â’r data a gyhoeddwyd yn ystod y pandemig ar gyfer 2020/21 a 2021/22, ac eithrio Tabl 8 sydd wedi'i gyfrifo ar yr un sail. Am ragor o fanylion gweler yr adran ansawdd isod a'r daenlen sy'n cyd-fynd â hi.

Darperir y data yn Nhabl 8 i alluogi cymariaethau rhwng lefelau presenoldeb presennol a hanesyddol. Er bod modd cymharu’r data dros amser, byddem yn annog defnyddwyr i drin cymariaethau rhwng 2023/24 a blynyddoedd cynharach yn ofalus ar hyn o bryd hyd nes y bydd data pellach ar gael ar gyfer y flwyddyn gyfredol a’r tueddiadau presennol yn dod yn fwy cadarn a sefydlog.

Prif bwyntiau

  • Mae cyfartaledd presenoldeb dros y flwyddyn academaidd hyd yn hyn yn 91.9%.
  • Yr wythnos diweddaraf yw 25 to 29 Medi, a’r wythnos flaenorol yw 18 to 22 Medi. 
  • Roedd cyfartaledd o 89.9% o sesiynau hanner diwrnod wedi’u cofnodi yn bresennol ar gyfer disgyblion 5 i 15 oed yn ystod yr wythnos ddiweddaraf, i  lawr o 90.7% yr wythnos cynt.  Mae'r data dros dro ar gyfer yr wythnos diwethaf. 
  • Roedd cyfartaledd o 7.1% o sesiynau hanner diwrnod wedi’u cofnodi fel absenoldeb awdurdodedig ar gyfer disgyblion 5 i 15 oed yn ystod yr wythnos ddiweddaraf, i fyny o 6.5% yr wythnos cynt.
  • ​​​​​​​Roedd cyfartaledd o 3.0% o sesiynau hanner diwrnod wedi’u cofnodi fel absenoldeb heb awdurdod ar gyfer disgyblion 5 i 15 oed yn ystod yr wythnos ddiweddaraf, i fyny o 2.8% yr wythnos cynt.
  • ​​​​​​​Nid oes llawer o wahaniaeth yn y gyfradd presenoldeb ar gyfer gwrywod (91.9%) a benywod (91.8%) ar gyfer y flwyddyn academaidd hyd yma.
  • ​​​​​​​Mae’r gyfradd presenoldeb yn ôl grŵp blwyddyn ar gyfer y flwyddyn academaidd hyd yma wedi bod ar ei uchaf ym Mlwyddyn 7 (94.3%) ac ar ei isaf ym Mlwyddyn 11 (87.8%).
  • ​​​​​​​Mae’r gyfradd presenoldeb ar gyfer y flwyddyn academaidd hyd yma wedi bod yn uwch ar gyfer disgyblion sydd ddim yn gymwys am PYD (93.4%) na disgyblion sydd yn gymwys am PYD (87.4%).
  • Y rheswm mwyaf cyffredin dros absenoldeb ar gyfer y flwyddyn academaidd hyd yma yw salwch, gyda 42.6% o sesiynau wedi'u methu oherwydd y rheswm hyn.

Ansawdd

Mae'r data hwn yn wybodaeth reoli a dynnir o systemau gwybodaeth rheoli ysgolion unwaith yr wythnos. Nid yw'r data hwn wedi cael yr un lefel o sicrwydd ansawdd ag ystadegau swyddogol a gall y data gael ei ddiwygio yn y dyfodol. Dylai'r ffigurau ar gyfer y pythefnos diweddaraf gael eu trin fel rhai dros dro. Mae'r ffigurau cynharach yn derfynol ac ni allant newid.

Mae’r holl ddata yn y pennawd hwn yn seiliedig ar y diffiniad o bresenoldeb a oedd yn cael ei ddefnyddio ac a gyhoeddwyd cyn y pandemig coronafeirws (COVID-19). Nid oes modd cymharu’r data yma â’r data a gyhoeddwyd yn ystod y pandemig ar gyfer 2020/21 a 2021/22, ac eithrio Tabl 8 sydd wedi'i gyfrifo ar yr un sail. Y prif wahaniaethau mewn diffiniadau yw:

  • Cyflwynir data fel canran y sesiynau hanner diwrnod a gollwyd yn hytrach na chanran y disgyblion sy'n absennol.
  • Mae'r data ar gyfer disgyblion o oedran ysgol statudol yn unig (5 i 15 oed) yn hytrach na data ar gyfer pob oedran.
  • Mae'r data ar gyfer disgyblion mewn ysgolion cynradd, canol, uwchradd ac arbennig yn unig ac nid yw'n cynnwys data ar gyfer ysgolion meithrin nac unedau cyfeirio disgyblion.
  • Mae Cod Y (cau rhannol a gorfodol) bellach yn cael ei gyfrif fel "dim angen mynychu" yn hytrach nag "absennol".

Cymaroldeb

Mae'r 4 gwlad yn cyhoeddi data rheolaidd ar bresenoldeb yn yr ysgol. Nid ydym yn cynghori gwneud cymariaethau rhwng y cenhedloedd oherwydd gwahaniaethau mewn dulliau casglu data a chyflwyniad a diffiniadau.

Statws Ystadegau Gwladol

Nid yw’r ystadegau hyn yn Ystadegau Gwladol. Cynhyrchwyd yr ystadegau hyn yn gyflym mewn ymateb i ddatblygiadau cenedlaethol a lleol.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Presenoldeb disgyblion mewn ysgolion a gynhelir: 4 i 29 Medi 2023 , math o ffeil: ODS, maint ffeil: 30 KB

ODS
30 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Steve Hughes

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.