Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth reoli a ddarperir gan ysgolion yng Nghymru ar ddisgyblion sy'n bresennol mewn ysgolion a gynhelir 4 Medi 2023 i 15 Mawrth 2024.

Mae’r pennawd hwn yn cyflwyno gwybodaeth am bresenoldeb disgyblion mewn ysgolion yn ystod y flwyddyn academaidd gyfredol. 

Mae’r holl ddata yn y pennawd hwn yn seiliedig ar y diffiniad o bresenoldeb a oedd yn cael ei ddefnyddio ac a gyhoeddwyd cyn y pandemig coronafeirws (COVID-19). Nid oes modd cymharu’r data yma â’r data a gyhoeddwyd yn ystod y pandemig ar gyfer 2020/21 a 2021/22, ac eithrio Tabl 9 sydd wedi'i gyfrifo ar yr un sail. Am ragor o fanylion gweler yr adran ansawdd isod a'r daenlen sy'n cyd-fynd â hi.

Darperir y data yn Nhabl 9 i alluogi cymariaethau rhwng lefelau presenoldeb presennol a hanesyddol. Er bod modd cymharu’r data dros amser, byddem yn annog defnyddwyr i drin cymariaethau rhwng 2023/24 hyd yn hyn a blynyddoedd academaidd cynharach cyflawn yn ofalus ar hyn o bryd hyd nes y bydd data pellach ar gael ar gyfer y flwyddyn gyfredol a’r tueddiadau presennol yn dod yn fwy cadarn a sefydlog.

Absenoldeb cyson

Dangosir data ar absenoldeb cyson gan ddefnyddio'r trothwy newydd o 10% o sesiynau fel yr amlinellwyd yn y canllawiau diweddar ar wella presenoldeb mewn ysgolion yn Tabl 1. Mae'r tabl hefyd yn cynnwys data sy'n defnyddio'r hen drothwy o 20%. 

Mae'r tabl yn dangos canran y disgyblion sydd wedi cyrraedd y trothwy o sesiynau a gollwyd yn seiliedig ar gyfanswm cyfanswm nifer y sesiynau ar gael dros y flwyddyn academaidd gyfan. Ar gyfer y trothwy newydd o 10% byddai disgybl oed cynradd yn absennol yn gyson pe bai'n colli 38 sesiwn neu fwy. Byddai disgybl oed uwchradd yn absennol yn gyson pe bai'n colli 30 sesiwn neu fwy.

Prif bwyntiau

Cymhariaeth gyda'r flwyddyn academaidd flaenorol

  • Mae cyfartaledd presenoldeb dros y flwyddyn academaidd hyd yn hyn yn 90.4%, i fyny o 89.5% dros yr un cyfnod ym mlwyddyn academaidd 2022/23.
  • Mae 17.7% o ddisgyblion wedi cyrraedd y trothwy absenoldeb cyson o 10% o sesiynau a gollwyd ar gyfer y flwyddyn academaidd hon, i lawr o 20.5% dros yr un cyfnod ym mlwyddyn academaidd 2022/23.

Data ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol

  • Yr wythnos diweddaraf yw 11 i 15 Mawrth, a’r wythnos flaenorol yw 4 i 8 Mawrth. Roedd ysgolion ar gau ar gyfer hanner tymor rhwng 12 a 16 o Chwefror. 
  • Roedd cyfartaledd o 89.6% o sesiynau hanner diwrnod wedi’u cofnodi yn bresennol ar gyfer disgyblion 5 i 15 oed yn ystod yr wythnos ddiweddaraf, yn is na’r 90.4% yr wythnos cynt. Mae'r data dros dro ar gyfer y pythefnos diwethaf.
  • Roedd cyfartaledd o 7.1% o sesiynau hanner diwrnod wedi’u cofnodi fel absenoldeb awdurdodedig ar gyfer disgyblion 5 i 15 oed yn ystod yr wythnos ddiweddaraf, yn uwch na’r 6.5% yr wythnos cynt.
  • Roedd cyfartaledd o 3.4% o sesiynau hanner diwrnod wedi’u cofnodi fel absenoldeb heb awdurdod ar gyfer disgyblion 5 i 15 oed yn ystod yr wythnos ddiweddaraf, i fyny o’r 3.1% yr wythnos cynt.
  • Nid oes llawer o wahaniaeth yn y gyfradd presenoldeb ar gyfer gwrywod (90.5%) a benywod (90.3%) ar gyfer y flwyddyn academaidd hyd yma.
  • Mae’r gyfradd presenoldeb yn ôl grŵp blwyddyn ar gyfer y flwyddyn academaidd hyd yma wedi bod ar ei uchaf ym Mlwyddyn 3 (92.9%) ac ar ei isaf ym Mlwyddyn 11 (85.9%).
  • Mae’r gyfradd presenoldeb ar gyfer y flwyddyn academaidd hyd yma wedi bod yn uwch ar gyfer disgyblion sydd ddim yn gymwys am PYD (92.2%) na disgyblion sydd yn gymwys am PYD (84.9%).
  • Y rheswm mwyaf cyffredin dros absenoldeb ar gyfer y flwyddyn academaidd hyd yma yw salwch, gyda 48.7% o sesiynau wedi'u methu oherwydd y rheswm hyn.

Ansawdd

Mae'r data hwn yn wybodaeth reoli a dynnir o systemau gwybodaeth rheoli ysgolion unwaith yr wythnos. Nid yw'r data hwn wedi cael yr un lefel o sicrwydd ansawdd ag ystadegau swyddogol a gall y data gael ei ddiwygio yn y dyfodol. Dylai'r ffigurau ar gyfer y pythefnos diweddaraf gael eu trin fel rhai dros dro. Mae'r ffigurau cynharach yn derfynol ac ni allant newid.

Mae’r holl ddata yn y pennawd hwn yn seiliedig ar y diffiniad o bresenoldeb a oedd yn cael ei ddefnyddio ac a gyhoeddwyd cyn y pandemig coronafeirws (COVID-19). Nid oes modd cymharu’r data yma â’r data a gyhoeddwyd yn ystod y pandemig ar gyfer 2020/21 a 2021/22, ac eithrio Tabl 9 sydd wedi'i gyfrifo ar yr un sail. Y prif wahaniaethau mewn diffiniadau yw:

  • Cyflwynir data fel canran y sesiynau hanner diwrnod a gollwyd yn hytrach na chanran y disgyblion sy'n absennol.
  • Mae'r data ar gyfer disgyblion o oedran ysgol statudol yn unig (5 i 15 oed) yn hytrach na data ar gyfer pob oedran.
  • Mae'r data ar gyfer disgyblion mewn ysgolion cynradd, canol, uwchradd ac arbennig yn unig ac nid yw'n cynnwys data ar gyfer ysgolion meithrin nac unedau cyfeirio disgyblion.
  • Mae Cod Y (cau rhannol a gorfodol) bellach yn cael ei gyfrif fel "dim angen mynychu" yn hytrach nag "absennol".

Cymaroldeb

Mae'r 4 gwlad yn cyhoeddi data rheolaidd ar bresenoldeb yn yr ysgol. Nid ydym yn cynghori gwneud cymariaethau rhwng y cenhedloedd oherwydd gwahaniaethau mewn dulliau casglu data a chyflwyniad a diffiniadau.

Statws Ystadegau Gwladol

Nid yw’r ystadegau hyn yn Ystadegau Gwladol. Cynhyrchwyd yr ystadegau hyn yn gyflym mewn ymateb i ddatblygiadau cenedlaethol a lleol.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Presenoldeb disgyblion mewn ysgolion a gynhelir: 4 Medi 2023 i 15 Mawrth 2024 , math o ffeil: ODS, maint ffeil: 71 KB

ODS
71 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Steve Hughes

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.