Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth reoli a ddarperir gan ysgolion yng Nghymru ar ddisgyblion sy'n bresennol mewn ysgolion a gynhelir o 6 Medi i 5 Tachwedd 2021.

Mae'r pennawd hwn yn cyflwyno gwybodaeth am ddisgyblion sy'n bresennol mewn ysgolion yn ystod y pandemig coronafirws (COVID-19) cyfredol.

Roedd y wybodaeth a gyhoeddwyd ar gyfer blwyddyn academaidd 2020/21 yn ymwneud â disgyblion a oedd yn bresennol yn gorfforol ar dir yr ysgol am o leiaf un sesiwn ysgol bob dydd. Caniataodd hyn inni fesur nifer y disgyblion a oedd â chysylltiad uniongyrchol â staff a disgyblion eraill yn yr ysgol yn ystod y pandemig hwn.

Ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol 2021/22 hon, ac yn dilyn penderfyniadau polisi ar swigod ysgolion a hunan ynysu rydym wedi dychwelyd at y diffiniad o ddisgyblion sy'n mynychu ysgolion a ddefnyddir yn ein cyhoeddiadau ystadegol hanesyddol. Mae hyn yn golygu nad oes modd cymharu'r data ar gyfer y flwyddyn academaidd hon a'r un ddiwethaf yn llwyr.

Mae dadansoddiad o'r data ar gyfer wythnosau cyntaf tymor yr hydref yn awgrymu bod y mesur presenoldeb newydd cyfredol oddeutu 0.6 pwynt canran yn uwch na'r mesur ar gyfer disgyblion a oedd yn bresennol a ddefnyddiwyd yn ystod y flwyddyn academaidd flaenorol.

Mesur absenoldeb cysylltiedig â COVID-19

Er mwyn mesur absenoldeb cysylltiedig â COVID-19 rydym yn defnyddio'r codau cofrestr “[“ (Dysgu o bell oherwydd COVID-19) ac “Y” (Absenoldeb dan gyfarwyddyd ysgol oherwydd COVID-19). Yn y canllawiau gweithredol cyhoeddedig ar gyfer ysgolion mae'r codau hyn yn rhan o'r categori ystadegol “dim rhaid bod yn bresennol” ond ar gyfer mesur absenoldeb cysylltiedig â COVID-19 rydym wedi'u diffinio fel “absenoldeb awdurdodedig”. Mae'r newid hwn at ddibenion ystadegol yn unig a bydd yn caniatáu inni ateb y galw am y wybodaeth hon trwy gyhoeddi data wythnosol ar absenoldeb cysylltiedig â COVID-19.

Ar hyn o bryd nid ydym yn casglu data yn benodol ar nifer y disgyblion sy'n absennol oherwydd eu bod yn sâl gyda COVID-19. Cofnodir yr absenoldebau hyn o dan god “I” (salwch). Mae hyn yn golygu bod yr amcangyfrifon o absenoldeb cysylltiedig â COVID-19 yn is nag y byddent pe bai absenoldebau o'r fath yn cael eu cynnwys yn y ffigurau.

Gellir gweld y codau cofrestr sy'n diffinio pa ddisgyblion sy'n cael eu cyfrif fel presenoldeb yn Nhabl 8 y daenlen sy'n cyd-fynd.

Digwyddedd COVID-19 mewn plant oed ysgol

Mae effaith sylweddol ar dueddiadau presenoldeb gan nifer yr achosion COVID-19 a gadarnhawyd ymhlith plant oed ysgol. Mae'r data diweddaraf gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dangos bod achosion yn cynyddu mwy yn y grŵp oedran hwn nag unrhyw grŵp oedran arall.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ar 15 Medi 2021 y byddai GIG Cymru yn dechrau cynnig y brechlyn COVID-19 i bobl ifanc rhwng 12 a 15 oed o 4 Hydref 2021. Gall cyflwyno'r rhaglen frechu hon hefyd effeithio ar y ffigurau yn y datganiad hwn.

Prif bwyntiau

  • Roedd cyfartaledd o 89.3% o ddisgyblion yn bresennol yn yr ysgol dros y wythnos 1 Tachwedd i 5 Tachwedd 2021, i fyny o 85.5% pythefnos yn gynt (wythnos 18 Hydref i 22 Hydref 2021). Mae'r data dros dro ar gyfer yr wythnos diwethaf. Ni does data ar gyfer 25 Hydref i 29 Hydref 2021 oherwydd gwyliau hanner tymor yr hydref.
  • Gellir esbonio'r cynnydd hwn o bron i 4 pwynt canran yn rhannol gan y gwyliau ysgol hanner tymor. Dros yr hanner tymor bydd rhai disgyblion wedi cwblhau eu cyfnod hunan ynysu 10 diwrnod yn dilyn prawf positif ac yn gyffredinol bydd disgyblion wedi bod yn cymysgu â llai o ddisgyblion eraill.
  • Roedd 1.5% o ddisgyblon yn absennol oherwydd rheswm hysbys cysylltiedig â COVID-19 dros y wythnos 1 Tachwedd i 5 Tachwedd 2021.
  • Roedd cyfartaledd o 1.4% o ddisgyblon oedran cynradd a 1.5% o ddisgyblion oedran uwchradd yn absennol oherwydd rheswm hysbys cysylltiedig â COVID-19 rhwng 1 Tachwedd a 5 Tachwedd 2021.
  • Dros yr wythnos 1 Tachwedd i 5 Tachwedd 2021 roedd y canran o fechgyn a oedd yn bresennol yn yr ysgol ychydig yn uwch na’r canran o ferched a oedd yn bresennol. Mae hyn yn wahanol o gymharu â'r patrwm a welir yn ein cyhoeddiadau hanesyddol, lle mae bechgyn wedi cael cyfraddau presenoldeb is.
  • Ymhlith disgyblion oedran ysgol statudol dros yr wythnos 1 Tachwedd i 5 Tachwedd 2021, roedd canran y disgyblion a oedd yn bresennol ar eu huchaf ar gyfer disgyblion ym Mlwyddyn 1 (91%) ac yn isaf ar gyfer Blwyddyn 9 (87%).
  • Y rheswm mwyaf cyffredin dros sesiynau a gollwyd yn ystod yr wythnos rhwng 1 Tachwedd i 5 Tachwedd 2021 oedd salwch (cod “I”), gyda 5% o sesiynau wedi’u colli oherwydd y rheswm hwn. Mae'r data yn y tabl hwn yn gyfrif o sesiynau ysgol hanner diwrnod a gollwyd ac nid yw'n gyfrif o ddisgyblion.
Image
Mae'r cyfradd presenoldeb wedi amrywio o 82% i 94% ers dechrau'r flwyddyn academaidd 2021/22.

Ansawdd

Mae adroddiad ansawdd yn cael ei ddatblygu a bydd yn cael ei gyhoeddi cyn gynted â phosibl.

Mae'r data hwn yn wybodaeth reoli a dynnir o systemau gwybodaeth rheoli ysgolion unwaith yr wythnos. Mae'n cynnwys disgyblion a oedd yn bresennol mewn ysgolion meithrin, cynradd, canol, uwchradd ac arbennig a gynhelir ac mae'n cynnwys disgyblion o bob oed. Mae hefyd yn cynnwys rhai disgyblion o Unedau Cyfeirio Disgyblion.

Nid yw'r data hwn wedi cael yr un lefel o sicrwydd ansawdd ag ystadegau swyddogol a gall y data gael ei ddiwygio yn y dyfodol. Dylai'r ffigurau ar gyfer y pythefnos diweddaraf gael eu trin fel rhai dros dro. Mae'r ffigurau cynharach yn derfynol ac ni allant newid.

Cymharoldeb

Mae'r 4 gwlad yn cyhoeddi data rheolaidd ar bresenoldeb yn yr ysgol. Nid ydym yn cynghori gwneud cymariaethau rhwng y cenhedloedd oherwydd gwahaniaethau mewn dulliau casglu data a chyflwyniad a diffiniadau.

Cefndir a chyd-destun

Canllawiau coronafeirws i ysgolion.

Statws Ystadegau Gwladol

Nid yw’r ystadegau hyn yn Ystadegau Gwladol. Cynhyrchwyd yr ystadegau hyn yn gyflym mewn ymateb i ddatblygiadau cenedlaethol a lleol.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Presenoldeb disgyblion mewn ysgolion a gynhelir: 6 Medi i 5 Tachwedd 2021 , math o ffeil: ODS, maint ffeil: 57 KB

ODS
57 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.