Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth reoli a ddarperir gan ysgolion yng Nghymru ar ddisgyblion sy'n bresennol mewn ysgolion a gynhelir o 6 Medi i 8 Hydref 2021.

Mae'r pennawd hwn yn cyflwyno gwybodaeth am ddisgyblion sy'n bresennol mewn ysgolion yn ystod y pandemig coronafirws (COVID-19) cyfredol.

Roedd y wybodaeth a gyhoeddwyd ar gyfer blwyddyn academaidd 2020/21 yn ymwneud â disgyblion a oedd yn bresennol yn gorfforol ar dir yr ysgol am o leiaf un sesiwn ysgol bob dydd. Caniataodd hyn inni fesur nifer y disgyblion a oedd â chysylltiad uniongyrchol â staff a disgyblion eraill yn yr ysgol yn ystod y pandemig hwn.

Ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol 2021/22 hon, ac yn dilyn penderfyniadau polisi ar swigod ysgolion a hunan ynysu rydym wedi dychwelyd at y diffiniad o ddisgyblion sy'n mynychu ysgolion a ddefnyddir yn ein cyhoeddiadau ystadegol hanesyddol. Mae hyn yn golygu nad oes modd cymharu'r data ar gyfer y flwyddyn academaidd hon a'r un ddiwethaf yn llwyr.

Mae dadansoddiad o'r data ar gyfer wythnosau cyntaf tymor yr hydref yn awgrymu bod y mesur presenoldeb newydd cyfredol oddeutu 0.6 pwynt canran yn uwch na'r mesur ar gyfer disgyblion a oedd yn bresennol a ddefnyddiwyd yn ystod y flwyddyn academaidd flaenorol.

Mesur absenoldeb cysylltiedig â COVID-19

Er mwyn mesur absenoldeb cysylltiedig â COVID-19 rydym yn defnyddio'r codau cofrestr “[“ (Dysgu o bell oherwydd COVID-19) ac “Y” (Absenoldeb dan gyfarwyddyd ysgol oherwydd COVID-19). Yn y canllawiau gweithredol cyhoeddedig ar gyfer ysgolion mae'r codau hyn yn rhan o'r categori ystadegol “dim rhaid bod yn bresennol” ond ar gyfer mesur absenoldeb cysylltiedig â COVID-19 rydym wedi'u diffinio fel “absenoldeb awdurdodedig”. Mae'r newid hwn at ddibenion ystadegol yn unig a bydd yn caniatáu inni ateb y galw am y wybodaeth hon trwy gyhoeddi data wythnosol ar absenoldeb cysylltiedig â COVID-19.

Nid yw'r ffigurau ar gyfer absenoldeb cysylltiedig â COVID-19 yn cynnwys disgyblion sy'n sâl oherwydd COVID-19. Cofnodir yr absenoldebau hyn o dan god “I” (salwch).

Gellir gweld y codau cofrestr sy'n diffinio pa ddisgyblion sy'n cael eu cyfrif fel presenoldeb yn Nhabl 8 y daenlen sy'n cyd-fynd.

Digwyddedd COVID-19 mewn plant oed ysgol

Mae effaith sylweddol ar dueddiadau presenoldeb gan nifer yr achosion COVID-19 a gadarnhawyd ymhlith plant oed ysgol. Mae'r data diweddaraf gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dangos bod achosion yn cynyddu mwy yn y grŵp oedran hwn nag unrhyw grŵp oedran arall.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ar 15 Medi 2021 y byddai GIG Cymru yn dechrau cynnig y brechlyn COVID-19 i bobl ifanc rhwng 12 a 15 oed o 4 Hydref 2021. Gall cyflwyno'r rhaglen frechu hon hefyd effeithio ar y ffigurau yn y datganiad hwn.

Prif bwyntiau

  • Roedd cyfartaledd o 87.4% o ddisgyblion yn bresennol yn yr ysgol dros y wythnos 4 Hydref i 8 Hydref 2021, i fyny o 85.3% yr wythnos flaenorol. Mae’r ffigwr dros yr wythnos 27 Medi i 1 Hydref wedi’i ddiwygio i lawr o 85.5%. Mae'r data dros dro ar gyfer y pythefnos diwethaf.
  • Roedd 1.7% o ddisgyblon yn absennol oherwydd rheswm hysbys cysylltiedig â COVID-19 dros y wythnos 4 Hydref i 8 Hydref 2021.
  • Roedd cyfartaledd o 1.7% o ddisgyblon oedran cynradd a 2.4% o ddisgyblion oedran uwchradd yn absennol oherwydd rheswm hysbys cysylltiedig â COVID-19 rhwng 4 Hydref i 8 Hydref 2021.
  • Dros yr wythnos 4 Hydref i 8 Hydref 2021 nid oedd llawer o wahaniaeth rhwng canran y merched a'r bechgyn a oedd yn bresennol yn yr ysgol. Mae hyn yn wahanol o gymharu â'r patrwm a welir yn ein cyhoeddiadau hanesyddol, lle mae bechgyn wedi cael cyfraddau presenoldeb is.
  • Ymhlith disgyblion oedran ysgol statudol dros yr wythnos 4 Hydref i 8 Hydref 2021, roedd canran y disgyblion a oedd yn bresennol ar eu huchaf ar gyfer disgyblion ym Mlwyddyn 3 (89%) ac yn isaf ar gyfer Blwyddyn 11 (81%).
  • Y rheswm mwyaf cyffredin dros sesiynau a gollwyd yn ystod yr wythnos rhwng 4 Hydref i 8 Hydref 2021 oedd salwch (cod “I”), gyda 6.9% o sesiynau wedi’u colli oherwydd y rheswm hwn. Mae nifer y sesiynau a fethwyd oherwydd salwch wedi mwy na dyblu ers wythnos gyntaf y tymor. Mae'r data yn y tabl hwn yn gyfrif o sesiynau ysgol hanner diwrnod a gollwyd ac nid yw'n gyfrif o ddisgyblion.
Image
Mae'r cyfradd presenoldeb wedi amrywio o 82% i 94% ers dechrau'r flwyddyn academaidd 2021/22.

Ansawdd

Mae adroddiad ansawdd yn cael ei ddatblygu a bydd yn cael ei gyhoeddi cyn gynted â phosibl.

Mae'r data hwn yn wybodaeth reoli a dynnir o systemau gwybodaeth rheoli ysgolion unwaith yr wythnos. Mae'n cynnwys disgyblion a oedd yn bresennol mewn ysgolion meithrin, cynradd, canol, uwchradd ac arbennig a gynhelir ac mae'n cynnwys disgyblion o bob oed. Mae hefyd yn cynnwys rhai disgyblion o Unedau Cyfeirio Disgyblion.

Nid yw'r data hwn wedi cael yr un lefel o sicrwydd ansawdd ag ystadegau swyddogol a gall y data gael ei ddiwygio yn y dyfodol. Dylai'r ffigurau ar gyfer y pythefnos diweddaraf gael eu trin fel rhai dros dro. Mae'r ffigurau cynharach yn derfynol ac ni allant newid.

Cymharoldeb

Mae'r 4 gwlad yn cyhoeddi data rheolaidd ar bresenoldeb yn yr ysgol. Nid ydym yn cynghori gwneud cymariaethau rhwng y cenhedloedd oherwydd gwahaniaethau mewn dulliau casglu data a chyflwyniad a diffiniadau.

Cefndir a chyd-destun

Canllawiau coronafeirws i ysgolion.

Statws Ystadegau Gwladol

Nid yw’r ystadegau hyn yn Ystadegau Gwladol. Cynhyrchwyd yr ystadegau hyn yn gyflym mewn ymateb i ddatblygiadau cenedlaethol a lleol.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Presenoldeb disgyblion mewn ysgolion a gynhelir: 6 Medi i 8 Hydref 2021 , math o ffeil: ODS, maint ffeil: 51 KB

ODS
51 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.