Wrth i Lywodraeth Cymru barhau i ddathlu blwyddyn Cymru yn India, yr wythnos hon mae'r Athro Jas Pal Badyal FRS, Prif Gynghorydd Gwyddonol Cymru, wedi cwrdd â Phrif Gynghorydd Gwyddonol India, yr Athro Ajay K Sood FRS, i drafod economi gylchol flaenllaw a sectorau technoleg feddygol a thechnoleg amaeth Cymru.
Mae'r Athro Ajay K Sood ymhlith y rhai sy'n gwneud y penderfyniadau mwyaf dylanwadol ym maes gwyddoniaeth a thechnoleg yn India – gan gynghori cabinet y Llywodraeth ar faterion gwyddonol strategol domestig a rhyngwladol.
Mae'r ymweliad yn rhan o raglen ehangach o weithgareddau yn New Delhi, Bengaluru a Mumbai i'r Athro Badyal, gyda'r gwyddonydd, entrepreneur technoleg ac ymgynghorydd blaenllaw yn hyrwyddo'r cyfleoedd ar gyfer partneriaeth a buddsoddiadau mewn technoleg busnesau gwyddoniaeth blaengar yng Nghymru.
Dywedodd yr Athro Badyal:
Rwyf wrth fy modd yn cael cyflwyno'r enghreifftiau gorau o dechnoleg ac arloesi yng Nghymru ar lefel fyd-eang i economïau CDG uchel sy'n tyfu'n gyflym, ac roedd siarad â'r Athro Sood yn gyfle unigryw i wneud hynny gyda rhywun sy'n meddu ar arweinyddiaeth a statws sylweddol ar y llwyfan rhyngwladol.
Gyda blwyddyn Cymru yn India eisoes wedi bod yn llwyddiannus wrth feithrin perthynas strategol rhwng partïon â diddordeb yn y ddwy wlad, rwy'n gobeithio gweld llawer o fanteision i'r ddau barti deillio o waith ein gilydd a rhinweddau unigryw ein gwledydd – yn ogystal ag arwain at agor drysau eraill ar gyfer buddsoddi a chydweithio.
Ymhlith pethau eraill a drafodwyd gennyn ni oedd y sectorau economi gylchol o'r radd flaenaf sydd yng Nghymru a lle y gallen ni helpu ein gilydd yn y dyfodol. Amddiffyn yr amgylchedd yw un o'r heriau mwyaf sy'n wynebu dynoliaeth heddiw. Byddwn ni nawr yn ystyried ymhellach rai o'r pynciau sydd o ddiddordeb i'r ddau barti cyn cyfarfod arall yn ddiweddarach eleni.
Yn dilyn y cyfarfod, dywedodd yr Athro Sood:
Rwy'n falch iawn y bydd y drafodaeth heddiw gyda'r Athro Badyal yn dyfnhau ymhellach y cydweithio rhwng India a Chymru ar faterion gwyddonol sydd o ddiddordeb i'r ddwy wlad. Mae llawer o botensial i gynyddu ein gwaith ar y cyd mewn meysydd amrywiol sy'n cynnwys ynni gwyrdd ac ynni adnewyddadwy, bioamrywiaeth, deallusrwydd artiffisial, seiberddiogelwch, lled-ddargludyddion, trawsnewid digidol a datblygu sgiliau. Rwy'n canmol ymdrechion Cymru wrth greu model ar gyfer economi gylchol – mae gennyn ni gymaint yn gyffredin i gynyddu ein trafodaethau am y mater hwn.
Rwy'n croesawu'r cyfle i uno ein cryfderau i ddatblygu atebion arloesol, drwy rannu ymchwil a datblygu a buddsoddiadau, i fynd i'r afael â heriau cyffredin amrywiol yn ogystal â heriau byd-eang.