Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r Prif Swyddog Meddygol ar gyfer Cymru, Dr Frank Atherton, wedi cadarnhau bod naw claf arall yng Nghymru wedi profi’n bositif am goronafeirws (COVID -19).

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Mawrth 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae dau o’r cleifion wedi dychwelyd o ogledd yr Eidal yn ddiweddar ac yn byw yn ardal awdurdod lleol Sir Gaerfyrddin. 

Profwyd y saith claf arall ar ôl olrhain mewn cysylltiad ag unigolyn yn byw yng  Nghyngor Castell-nedd Port Talbot a gafodd brawf positif dros y penwythnos ac y gwnaed cyhoeddiad yn ei gylch ddoe (9 Mawrth). 

Mae un o’r saith yn byw yn ardal awdurdod lleol Caerdydd, un o ardal awdurdod lleol Abertawe a’r pump arall o ardal awdurdod lleol Castell-nedd Port Talbot.

Mae’r naw claf yn cael eu rheoli mewn lleoliadau clinigol addas. 

Dywedodd Dr Atherton:

“Gallaf gadarnhau bod naw unigolyn ychwanegol yng Nghymru wedi profi’n bositif am goronafeirws (COVID-19), gan wneud cyfanswm yr achosion positif yng Nghymru yn 15.

“Mae’r holl unigolion yn cael eu rheoli mewn lleoliadau clinigol addas. Mae’r holl gamau priodol yn cael eu cymryd i ofalu am yr unigolion ac i leihau’r risg o drosglwyddo’r feirws i eraill.

“Rydyn ni wastad wedi bod yn glir ein bod ni wedi disgwyl i nifer yr achosion positif gynyddu, sydd yn unol â’r hyn sydd wedi digwydd mewn rhannau eraill o’r byd. 

“Mae canfod y saith unigolyn yn gysylltiedig â’r unigolyn gyda choronafeirws sy’n byw yng Nghastell-nedd Port Talbot yn dangos bod yr olrhain cysylltiadau a’r profi cymunedol sy’n cael eu cynnal gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithio fel y dylent.  

“Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i sicrhau’r cyhoedd bod Cymru a’r Deyrnas Unedig gyfan yn barod ar gyfer digwyddiadau o’r math hyn. Gan weithio gyda’n partneriaid yng Nghymru a’r Deyrnas Unedig, rydym wedi gweithredu’r ymateb a baratowyd gennym, gan roi mesurau rheoli haint cadarn ar waith i ddiogelu iechyd y cyhoedd.”

Er mwyn gwarchod cyfrinachedd y cleifion, ni fydd unrhyw fanylion pellach am yr unigolion yn cael eu rhyddhau.

I gael yr wybodaeth ddiweddaraf am y Coronafeirws (COVID-19) ewch i wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.