Neidio i'r prif gynnwy

Mae llawer ohonom ni yn manteisio ar y cyfle yn y Flwyddyn Newydd i feddwl am sut rydym eisiau gwella ein hiechyd a’n lles yn ystod y flwyddyn sydd i ddod.

Cyhoeddwyd gyntaf:
31 Rhagfyr 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Dywed Prif Swyddog Meddygol Cymru, Dr Frank Atherton, mai’r allwedd i newid parhaus yw cael cefnogaeth, gan ffrindiau a theulu neu gan y rhaglenni niferus sydd wedi’u cynllunio i helpu. 

Dywedodd Dr Atherton:

Un o’r prif addunedau blwyddyn newydd yw stopio ysmygu, sy’n arferiad anodd iawn ei dorri, ond mae’n un o’r pethau gorau wnewch chi er lles eich iechyd. Rydym yn gwybod eich bod chi hyd at bedair gwaith yn fwy tebygol o lwyddo yn eich ymdrechion i stopio ysmygu gyda chefnogaeth am ddim gan y GIG nag ydych chi ar eich pen eich hun, felly cymerwch eich cam cyntaf tuag at 2020 iachach drwy gysylltu â Helpa Fi I Stopio, gwasanaeth am ddim gan GIG Cymru. Ffoniwch 0800 085 2219, anfonwch HMQ mewn neges destun at 80818 neu ewch i helpafiistopio.cymru am help a chymorth rhad ac am ddim, effeithiol ac wedi’u teilwra.  

Rydym yn gwybod bod gweithgarwch corfforol yn hynod fuddiol i’n hiechyd ni, o ran cyflawni a chynnal pwysau iach a chyfrannu at ein hapusrwydd a’n lles. Gall cynnydd cymharol fychan hyd yn oed mewn gweithgarwch corfforol wella ein hiechyd ac ansawdd ein bywyd, a does dim rhaid i chi fod yn ymarfer yn y gampfa nac yn rhedeg marathon, oni bai fod hynny’n bleserus ac yn gyraeddadwy i unigolion. Mae garddio, cerdded, cario siopa i gyd yn cyfrif, felly ceisiwch gynnwys mwy o weithgarwch yn eich bywyd bob dydd pan fo hynny’n bosib, a byddwch yn teimlo’r budd. 

Ychwanegodd:

Mae dechrau blwyddyn newydd yn amser pan rydym yn meddwl am ein pwysau yn aml, ac mae’n ffaith bod cyflawni pwysau iach yn un o’r ffyrdd mwyaf effeithiol o leihau’r risg o gyflyrau iechyd tymor hir fel diabetes, clefyd y galon a chanser. Gall newid arferion dyddiol fod yn heriol, ond mae posib gwneud hynny, ac mae ein cynllun newydd ni i fynd i’r afael â gordewdra’n datgan y ffyrdd y byddwn yn helpu pobl i dorri hen arferion a chreu rhai newydd, iach. Mae cynnwys ymddygiad iach o oedran ifanc yn allweddol, felly os mai un o’ch addunedau chi yw helpu eich plant i fyw bywyd iach, mae Pob Plentyn Cymru yn darparu llawer o syniadau i’ch rhoi chi ar y llwybr cywir. 

Hefyd mae’r flwyddyn newydd yn amser da i feddwl am sut gallwn ni leihau faint o alcohol rydym yn ei gymryd er mwyn lleihau’r risgiau i’n hiechyd. Gyda mis Ionawr rownd y gornel, gall rhoi’r gorau i yfed alcohol am ddim ond mis arwain at fanteision iechyd gwych, gan gynnwys cysgu’n well, mwy o arian yn eich poced, eich tu mewn chi’n iachach, mwy o egni, croen glanach a llawer mwy.