Neidio i'r prif gynnwy

Bydd Prif Weinidog Cymru yn arwain dathliadau coffa mewn gwylnos yn Eglwys Gadeiriol Llandaf ar 30 Mehefin. Y nod yw anrhydeddu’r milwyr dewr a fu wrthi’n ymladd ym mrwydr fwyaf y Rhyfel Byd Cyntaf.

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Mehefin 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae’r wylnos yn rhan o raglen Cymru’n Cofio 1914-1918, sy’n nodi can mlynedd ers y Rhyfel Byd Cyntaf. Cynhelir digwyddiadau, prosiectau a rhaglenni coffa ledled Cymru.  

Bydd Brwydr y Somme yn ganolbwynt i’r dathliadau sydd ar y gweill eleni ac mae Llywodraeth Cymru a Chyngor Dinas Caerdydd yn trefnu gwylnos. Caiff y cyhoedd eu gwahodd i’r digwyddiad ynghyd ag aelodau o’r Fyddin, y Llynges Frenhinol, y Llu Awyr Brenhinol a’r Lleng Brydeinig Frenhinol.

Ar ddiwedd yr wylnos, cynhelir gwasanaeth cyhoeddus wrth Gofeb Rhyfel Cenedlaethol Cymru ym Mharc Cathays, Caerdydd rhwng 7:00 – 7:30 ar 1 Gorffennaf. Bydd hynny’n cyd-fynd â’r amser pan ddechreuodd y frwydr gan mlynedd yn ôl. Bydd y gwasanaeth yn dod i ben gyda gynnau’n cael eu tanio’n gyflym a chwiban yn cael ei chwythu, a hynny er mwyn cyfleu’r foment pan ddringodd y milwyr allan o’r ffosydd.

Dywedodd Carwyn Jones, y Prif Weinidog:

“Mae’r wylnos yn gyfle i gofio ac adlewyrchu’r aberth a wnaed gan y miliwn o ddynion gafodd eu hanafu neu eu lladd yn ystod Brwydr y Somme. Mae’n fraint gennyf i arwain yr wylnos.  

“Ni ddylid byth anghofio’r rhai a frwydrodd yn ddewr ar gyfer ein dyfodol ni. Mae mor bwysig ein bod ni i gyd yn deall y modd y gwnaeth y Rhyfel Byd Cyntaf newid ein gwlad am byth. Ar yr un pryd, mae angen i ni ddysgu gwersi o’r hanes hwnnw i sicrhau na welir erchyllterau o’r fath byth eto.”  

Dywedodd y Cynghorydd Phil Bale, Arweinydd Cyngor Caerdydd:

“Mae’n bwysig iawn ein bod yn cofio am y rhai a wnaeth aberthu eu bywydau i frwydro yn Rhyfel Mawr 1914-18. Brwydr y Somme oedd brwydr fwyaf y Rhyfel Byd Cyntaf. Mae’r atgofion yn parhau hyd heddiw ac mae’n rhaid inni sicrhau bod yr atgofion yn parhau. Bydd yr wylnos hon yn cyfrannu rhyw faint at sicrhau bod yr atgofion am y rhai a fu’n brwydro a’r rhai a fu farw rhwng 1 Gorffennaf 1916 a 18 Tachwedd 1916 ar gof a chadw.”