Neidio i'r prif gynnwy

Mae Prif Weinidog Cymru, Vaughan Gething, wedi teithio i Mumbai heddiw i gwrdd ag arweinwyr Dur Tata er mwyn cyflwyno'r achos dros osgoi diswyddiadau caled ar draws safleoedd y cwmni yng Nghymru, yn enwedig ar safle Port Talbot.

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Mai 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Fis diwethaf cyhoeddodd Tata y byddai'n bwrw ymlaen â'i gynlluniau i gau ei ddwy ffwrnais chwyth ym Mhort Talbot, i'w disodli yn y blynyddoedd i ddod â ffwrnais bwa trydan.

Amcangyfrifir bod cynlluniau Tata i gau'r ffwrneisi chwyth yn effeithio ar tua 2,500 o weithwyr yn uniongyrchol, yn ogystal â thua 10,000 o bobl ar draws yr ardal, o fewn y gadwyn gyflenwi a busnesau dibynnol.

Mae Llywodraeth Cymru wedi galw am broses bontio decach, fwy graddol i gynhyrchu dur mwy gwyrdd, nad yw'n golygu diswyddiadau sydyn ac sy'n parhau i ddarparu'r dur Prydeinig o ansawdd sydd ei angen i gefnogi llawer o uchelgeisiau gwyrdd blaenllaw'r DU.

Dywedodd Vaughan Gething:

"Mae dur o safon, sy'n cael ei wneud yng Nghymru, yn hanfodol i economi a diogelwch y DU.
"Rydyn ni wedi dadlau'n gyson bod yna fargen well i'r diwydiant a gweithwyr Tata y gellid ac y dylid ei sicrhau - gan arwain at broses bontio hirach, decach tuag at gynhyrchu dur mwy gwyrdd.

"Fe allai ac fe ddylai fod gan ein sector dur ddyfodol cryf, a dim ond symud swyddi ac allyriadau Cymru i wlad arall y bydd atal cynhyrchu dur yn ei gyflawni nawr.

"O dyrbinau gwynt i geir glanach, rydyn ni'n gwybod y byddwn ni'n defnyddio mwy o ddur, yn enwedig dur gwyrdd, yn y DU yn y dyfodol, ac mae hynny'n golygu cyfleoedd sylweddol i Bort Talbot os gall Tata ddelio'n iawn â'r broses bontio.

"Er y gall y ffenestr ar gyfer sicrhau'r broses bontio gyfiawn hon fod yn un gul, fel Prif Weinidog dw i'n addo ymladd bob cam i ddiogelu'r swyddi hyn. Fe fydda' i'n dadlau'n gryf dros gadw swyddi Tata yng Nghymru, sy'n hanfodol nid dim ond i'r ardal, ond i ddyfodol gweithgynhyrchu yn y DU."