Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r Prif Weinidog, Carwyn Jones, wedi croesawu’r cytundeb rhwng Tata a’r undebau, gan ddweud ei fod yn gam enfawr tuag at sicrhau dyfodol tymor hir y diwydiant dur yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Rhagfyr 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw, mae Llywodraeth Cymru yn darparu dros £4 miliwn ar gyfer sgiliau a hyfforddiant; sef yr elfen gyntaf mewn pecyn cymorth ehangach ar gyfer y cwmni.

Bydd y pecyn sgiliau a hyfforddiant yn helpu i sicrhau dyfodol gweithfeydd Tata yng Nghymru drwy ddatblygu’r staff, drwy wella gwaith cynllunio ar gyfer olyniaeth a thrwy hwyluso’r broses o drosglwyddo’r sgiliau sydd gan y gweithlu aeddfed i’r gweithwyr iau.  

Dywedodd y Prif Weinidog fod y buddsoddiad yn brawf bod Llywodraeth Cymru’n ffyddiog bod gan y diwydiant dur ddyfodol hirdymor yng Nghymru.  

Dywedodd:

“Mae hyn yn newyddion da ar gyfer dyfodol y diwydiant dur yng Nghymru ac yn hwb enfawr i’r diwydiant.

“Mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio’n ddiflino gyda Tata i ddod o hyd i ffordd gynaliadwy ymlaen ac i sicrhau na fyddai’r gweithfeydd yn cau ac mae'r cyhoeddiad hwn yn gam mawr ymlaen.

“Dw i’n falch o gael cyhoeddi heddiw ein bod yn darparu dros £4 miliwn i ddatblygu hyfforddiant ar gyfer gweithwyr Tata ac i feithrin eu sgiliau, a’n bod hefyd wedi cymryd camau breision ymlaen o ran diffinio pecyn ehangach o gymorth ar gyfer Tata er mwyn sicrhau bod dur yn parhau i gael ei gynhyrchu yng Nghymru.  

“Mae hon wedi bod yn flwyddyn hir ac anodd i weithwyr Tata, eu teuluoedd a chymuned ehangach Port Talbot. Dw i’n falch bod yna mwy o sicrwydd ar gyfer y dyfodol a bod y gweithiwyr a’u theuluoedd yn gallu edrych ’mlaen at y Nadolig gyda mwy o hyder a gyda sicrwydd wrth wynebu’r Flwyddyn Newydd.”


Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates:

“Mae’r pecyn sgiliau hwn yn newyddion da nid yn unig i weithfeydd Tata yng Nghymru ond hefyd i’r gweithwyr unigol sydd wedi gweithio’n ddiflino dros y flwyddyn a aeth heibio i barhau i gynhyrchu dur yma.

“Mae’n tystio i’n hymrwymiad cadarn i wneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau dyfodol ar gyfer gweithfeydd Tata yng Nghymru ac mae’n dangos ein bod yn credu bod gan y diwydiant dur ddyfodol cynaliadwy yma.  

“Rydyn ni’n dangos ein hymrwymiad i ddyfodol y diwydiant dur yng Nghymru, a hefyd ein penderfyniad i gynnig unrhyw gymorth posibl, mewn nifer o ffyrdd, ac un yn unig o’r ffyrdd hynny yw’n buddsoddiad yn y rhaglen hon.”