Neidio i'r prif gynnwy

Bydd pob siop yng Nghymru sy’n gwerthu nwyddau nad ydynt yn hanfodol yn cael ailagor o ddydd Llun (22 Mehefin). Cadarnhawyd hynny heddiw (dydd Gwener 19 Mehefin) gan y Prif Weinidog Mark Drakeford, wrth iddo gyhoeddi’r camau mwyaf sydd wedi’u cymryd hyd yma i lacio rheoliadau’r coronafeirws (COVID-19).

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Mehefin 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd busnesau manwerthu yn cael ailddechrau masnachu os gallant gymryd pob cam rhesymol i gydymffurfio â'r ddyletswydd yng nghyfraith Cymru i gadw pellter cymdeithasol, a hynny er mwyn arafu lledaeniad yr haint a diogelu gweithwyr a chwsmeriaid mewn siopau.

Mae'r newidiadau yn rhan o gyfres gynhwysfawr o gamau a fydd yn cael eu cyflwyno gam wrth gam bob dydd Llun. Bydd disgyblion yn dychwelyd i’r ysgol ar 29 Mehefin a bydd y rheol ynghylch aros yn lleol yn cael ei dileu ar 6 Gorffennaf, os bydd yr amgylchiadau’n caniatáu hynny.

Yn ogystal, bydd y Prif Weinidog yn rhoi gwybod i’r diwydiant ymwelwyr a thwristiaeth y gall ddechrau paratoi i ailagor, os bydd lledaeniad y feirws yn parhau i arafu.

Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford:

"Nid yw bygythiad y coronafeirws wedi diflannu, ond diolch i’n hymdrechion ni oll dros y misoedd diwethaf, mae nifer y bobl sy'n dal y coronafeirws bob dydd yng Nghymru yn gostwng; felly hefyd y risg o gwrdd â rhywun â’r feirws.

"O ystyried yr hyn sydd wedi’i gyflawni, rydyn ni’n gallu cymryd rhagor o gamau pwyllog i lacio’r cyfyngiadau ar ein cymdeithas a'n heconomi. Mae hyn yn cynnwys galluogi rhagor o fusnesau manwerthu i ailagor, cyn belled â'u bod yn cymryd camau i leihau'r risg i'w staff a’u cwsmeriaid.

"Y peryglon iechyd yw canolbwynt ein sylw o hyd, ond gallwn nawr fynd ati’n ofalus i roi mwy o sylw i effaith economaidd a chymdeithasol ehangach y feirws.

"Rydyn ni wedi rhoi llawer iawn o gymorth i fusnesau a swyddi wrth iddyn nhw roi’r gorau i’w gweithgarwch ystod y pandemig – a nawr rydyn ni'n dechrau cymryd y camau gofalus hyn i ailgychwyn ein heconomi."

Ddydd Llun, bydd nifer o newidiadau'n cael eu gwneud i reoliadau’r coronafeirws. Y prif newid fydd galluogi busnesau sy’n gwerthu nwyddau nad ydynt yn hanfodol i ailagor.

Daw hyn yn sgil pedwerydd adolygiad statudol Gweinidogion Cymru o reoliadau’r coronafeirws, gan ddefnyddio'r dystiolaeth wyddonol a meddygol ddiweddaraf gan Grŵp Cynghori Gwyddonol y DU ar gyfer Argyfyngau, Cell Cyngor Technegol Llywodraeth Cymru a chyngor gan Brif Swyddog Meddygol Cymru.

Mae’r newidiadau ddydd Llun yn cynnwys:

  • Galluogi pobl i weddïo’n breifat mewn mannau addoli. Bydd angen cadw pellter cymdeithasol ac ni fydd hawl i ymgynnull
  • Ailgychwyn y farchnad dai drwy alluogi pobl i fynd i weld tai os ydynt yn wag, ac i symud tŷ os cytunwyd ar y gwerthiant ond nad yw’r trefniadau wedi’u cwblhau eto
  • Llacio’r cyfyngiadau ar gyrtiau chwaraeon awyr agored, ond gan gynnal pellter cymdeithasol. Ni chaniateir unrhyw chwaraeon cyswllt na chwaraeon tîm
  • Galluogi athletwyr elît nad ydynt yn broffesiynol, gan gynnwys y rhai sy’n gobeithio cymryd rhan yn y gemau Olympaidd a Pharalympaidd, i ailddechrau hyfforddi.

Ar 29 Mehefin, bydd disgyblion yn dychwelyd i’r ysgol i ailgydio ynddi, i ddal i fyny ac i baratoi ar gyfer yr haf a mis Medi, yn unol â’r cynlluniau a gyhoeddwyd gan y Gweinidog Addysg Kirsty Williams.

Mae'r gofyniad i aros yn lleol ac i beidio â theithio mwy na phum milltir o’r cartref, fel arfer, yn parhau. Fodd bynnag, bydd canllawiau newydd yn ei gwneud yn glir bod modd i bobl deithio y tu hwnt i'w hardal leol i ymweld â pherthnasau a ffrindiau agos ar sail trugaredd. Mae hyn yn cynnwys mynd i weld pobl mewn cartref gofal neu sefydliad troseddwyr ifanc – os caniateir yr ymweliadau hynny. Bydd caniatâd hefyd i bobl deithio os oes ganddynt hawl i bleidleisio mewn etholiadau tramor, a bod yn rhaid bod yn bresennol i bleidleisio.

Mae’r Gweinidogion wedi penderfynu cael gwared â’r rheol ynghylch aros yn lleol ar 6 Gorffennaf, os bydd yr amgylchiadau’n caniatáu hynny. O ganlyniad, bydd modd i bobl deithio i atyniadau ymwelwyr ledled Cymru.

Heddiw hefyd bydd y Prif Weinidog yn gofyn i rai busnesau a'r diwydiant ymwelwyr a thwristiaeth ddefnyddio'r cyfnod hwn i ddechrau paratoi i ailagor.

Adeg yr adolygiad nesaf, ar 9 Gorffennaf, bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried amryw o opsiynau penodol ar gyfer agor:

  • Llety gwyliau hunangynhwysol
  • Gwasanaethau gofal personol, fel gwasanaethau trin gwallt a harddwch, drwy apwyntiad.

Bydd trafodaethau hefyd yn cael eu cynnal â'r sector lletygarwch ynghylch y posibilrwydd o ailagor tafarndai, caffis a bwytai yn raddol, gan gynnal rheolau llym o ran cadw pellter cymdeithasol.

Ychwanegodd y Prif Weinidog:

“Rwy’n gwybod bod y diwydiant twristiaeth yn gyffredinol yn awyddus i ailagor ac i achub rhywfaint o dymor yr haf. Rwyf felly’n rhoi gwybod i berchnogion llety hunangynhwysol y dylent ddefnyddio’r tair wythnos nesaf i baratoi i ailagor, gan weithio gyda’u cymunedau lleol.

“Ond rwyf am i bobl wybod nad yw’r coronafeirws wedi diflannu. Mae gennym rywfaint o hyblygrwydd i wneud y newidiadau hyn i’r rheoliadau, a byddant yn cael eu cyflwyno'n raddol ac yn bwyllog yng Nghymru.

"Bydd sawl agwedd ar ein bywydau pob dydd yn symud i’r cam oren yn ein system goleuadau traffig. Ond mae angen i bob un ohonom barhau i gymryd camau i ddiogelu ein hunain rhag y feirws. Mae hynny'n golygu gweithio o gartref os oes modd; osgoi teithio diangen; cwrdd ag aelodau un cartref arall yn unig yn yr awyr agored; cadw pellter cymdeithasol a golchi ein dwylo’n aml. Gall hefyd olygu gwisgo gorchudd wyneb mewn rhai sefyllfaoedd.

"Diolch i ymdrechion pawb yng Nghymru, rydyn ni wedi llwyddo i arafu lledaeniad y coronafeirws, ond allwn ni ddim rhoi’r gorau iddi nawr. Mae angen i ni wneud popeth yn ein gallu i amddiffyn ein hunain a'n hanwyliaid rhag y feirws ac i ddiogelu Cymru.”