Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, wrth ymweld ag ysgol Pendalar yng Nghaernarfon, cyhoeddodd y Prif Weinidog Mark Drakeford, fod y rownd nesaf o gyllid ar gyfer y cynllun Coetiroedd Bach bellach ar agor.

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Chwefror 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Nod y grant Coetiroedd Bach yw creu coetiroedd bach iawn, gan annog bioamrywiaeth a natur, gyda'r holl safleoedd yn dod yn rhan o'r Goedwig Genedlaethol. Hyd yn hyn mae 10 o Goetiroedd Bach wedi cael eu cefnogi.

Mae Coetir Bach Ysgol Pendalar yn cynnwys coed sydd wedi'u hen sefydlu, tra bod nodweddion ychwanegol yn cynnwys llwybr tarmac i alluogi mynediad â chadair olwyn ac ardal eistedd fwy o amgylch pwll tân.

Caiff coetir yr ysgol ei defnyddio fel ystafell ddosbarth awyr agored gan bob disgybl ar ddydd Mercher, ac roedd y Prif Weinidog ynghyd â Gweinidog Gogledd Cymru, Lesley Griffiths, yn falch o ymuno â nhw heddiw.

Dywedodd y Prif Weinidog: 

Rwy'n falch o fod yma heddiw yn Ysgol Pendalar i weld  effaith y cynllun ar y diwrnod y bydd y rownd nesaf o geisiadau am gyllid yn agor.

Mae'n wych gweld yr effaith gadarnhaol y mae natur a bod yn yr awyr agored yn ei chael ar y plant. 

Er nad yw'r lleoedd hyn yn fawr, gallant gael effaith enfawr ar fioamrywiaeth a'n llesiant. Mae'r mannau gwyrdd hygyrch hyn sy'n llawn natur yn darparu cyfleoedd i greu bioamrywiaeth gyfoethog, gan allu denu mwy na 500 o rywogaethau anifeiliaid a phlanhigion o fewn y tair blynedd gyntaf.

Dywedodd Gweinidog y Gogledd, Lesley Griffiths: 

Mae'n bleser gweld y disgyblion yn ailgysylltu â natur, ac yn cael cyfle i fod yn yr awyr agored yn dysgu ac yn cael hwyl.  Mae gallu mwynhau'r awyr agored fel hyn yn brofiad cadarnhaol i bawb.

Dywedodd Pennaeth Ysgol Pendalar, Deiniol Harries: 

Pwy fyddai wedi meddwl y bydden ni'n gallu cael ein coedwig fach ein hunain, yn ein gardd gefn!  Mae hyn wedi rhoi cyfle i'n disgyblion adnabod coed sy'n frodorol i'w cynefin ac i weld pa fywyd gwyllt sydd i'w gweld yma, ar eu carreg drws.

Mae hyn wir wedi bod yn gaffaeliad mawr i'n hysgol gyda sesiynau ysgol goetir wythnosol yn cynnig cyfle i ddisgyblion gysylltu â natur ac i ddeall pwysigrwydd bod yn yr awyr agored a theimlo sut mae o fudd i'n llesiant.

Mae sefydliadau, cymunedau ac unigolion sydd am greu coetir newydd wedi'i blannu'n ddwys, oddeutu maint cwrt tenis, a reolir mewn cydweithrediad â'r gymuned leol, yn gallu gwneud cais am grantiau rhwng £10mil a £40mil ar gyfer pob safle coetir (hyd at £250mil ar gyfer safleoedd lluosog) tan 8 Mai.

Caiff y gronfa ei gweinyddu gan y Loteri Genedlaethol a'i hwyluso gan Earthwatch Europe a fydd yn cefnogi sefydliadau a chymunedau gyda chyngor ac arweiniad ar waith paratoi, plannu a chynnal a chadw'r safle.

Mae rhagor o fanylion am sut i wneud cais am y cyllid ar gael are wefan heritagefund.org

Bydd tair gweminar a dau ddiwrnod agored yn cael eu cynnal ar gyfer pobl sydd â diddordeb mewn gwneud cais i gael gwybod mwy, gofyn cwestiynau a gweld Coetiroedd Bach ar waith.

 

Gweminarau 

Dydd Mawrth 5 Mawrth - 10-12pm (ar Microsoft Teams)

Dydd Llun 18 Mawrth – 12-2pm (ar Microsoft Teams) 

Dydd Mercher 10 Ebrill – 4-6pm (ar Microsoft Teams)

 Diwrnodau agored 

12 Mawrth - 10.30-12.30 

Coetiroedd Bach - Parc Tref Caergybi (forms.office.com) 

 21 Mawrth - 10.30-12.30 

Coetiroedd Bach – Parc Pencoedtre, Y Barri (forms.office.com)