Neidio i'r prif gynnwy

Yn ei neges Nadolig mae Mark Drakeford yn dweud:

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Rhagfyr 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae eleni wedi bod yn flwyddyn anodd i ni gyd.

Mae'r pandemig wedi effeithio ar fywydau pob un ohonom.

Mae cynlluniau wedi cael eu troi ar eu pen i lawr ac mae llawer o deuluoedd yn gorfod delio â cholli rhywun annwyl.

Mae fy meddyliau gyda phob un ohonoch.

Mae straen newydd, heintus iawn o'r firws wedi dod i’r wyneb.

Bu’n rhaid i ni wneud penderfyniadau anodd a gofyn i bawb aros gartref unwaith eto i achub bywydau.

Nid dyma'r ffordd roeddem ni'n gobeithio treulio'r Nadolig.

Mae’r feirws yma yn greulon - mae’n ffynnu ar y pethau rydym yn wneud a’n gilydd sy’n naturiol i ni.

Gyda'n gilydd rydym wedi dioddef cymaint eleni.

Ond trwy gydol y flwyddyn, mae ein caredigrwydd a'n hysbryd cymunedol wedi disgleirio.

Nadolig yma, gadewch inni estyn allan at y rhai rydyn ni'n eu hadnabod sydd ar eu pennau eu hunain, neu mewn galar, neu'n poeni am y dyfodol.

Hoffaf ddiolch i'n Gwasanaeth Iechyd anhygoel - ein gofalwyr, gweithwyr siop, a'r nifer fawr, llawer o rai eraill.

Maent i gyd wedi gweithio mor galed eleni ac wedi gwneud cymaint i gadw'r wlad i symud drwy gydol y pandemig.

Unwaith eto'r Nadolig hwn, y nhw sydd yn ysgwyddo'r cyfrifoldeb wrth i'r mwyafrif aros adref.

Ar ran Cymru gyfan, diolchaf i chi.

Rwy'n gwybod bod pethau'n edrych yn llwm ar hyn o bryd, ond mae yna obaith.

Mae mwy o bobl yn cael eu brechu bob dydd a gobeithiwn fod brechlyn arall yn agos.

Fe ddaw'r Nadolig eto - ond y tro yma, cadwch yn ddiogel a gofalwch am eich gilydd.

Nadolig llawen i chi gyd.