Neidio i'r prif gynnwy

Mae Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru wedi bod yn lledaenu cyfarchion y tymor yn ystod ei ymweliad â chanolbarth Cymru i gyhoeddi enillydd y gystadleuaeth cerdyn Nadolig.

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Rhagfyr 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Daeth tua 800 o geisiadau i law ar gyfer y gystadleuaeth eleni, gan ddisgyblion blwyddyn 3 a 4 ledled Cymru ac am y tro cyntaf erioed, cafwyd ceisiadau o Ysgol y Gaiman ym Mhatagonia.

Enw’r arlunydd buddugol yw Ellis Hughes sy’n 8 oed ac yn ddisgybl yn Ysgol Gynradd Llanfair-ym-Muallt. Tynnwyd y llun ar y cerdyn â llaw, ac mae’n dangos Draig goch Cymru mewn cawod o eira, gyda dyn eira yn gwmni iddi a Sion Corn yn gwibio uwch ei phen.

Y cerdyn buddugol fydd y cerdyn Nadolig swyddogol eleni, a bydd yn cael ei anfon at bobl bwysig ledled y byd gan gynnwys Ei Mawrhydi’r Frenhines a Phrif Weinidog y DU.

Dywedodd Prif Weinidog Cymru:

“Roeddwn yn falch iawn ein bod wedi cael cannoedd o geisiadau eleni o bob cwr o’r wlad, ac roedd yn syrpreis neis i gael ceisiadau o wlad mor bell â’r Ariannin. Roedd dewis y cerdyn buddugol yn benderfyniad anodd, yn enwedig oherwydd mai dyma’r tro olaf y byddaf yn gwneud hynny ac oherwydd bod safon y ceisiadau mor uchel. Creodd gynllun Ellis gryn argraff arnaf oherwydd ei fod yn dangos Sion Corn yn gwibio drwy’r awyr uwchben draig enwog Cymru yn ystod cawod o eira.

“Hoffwn ddiolch i bob un sydd wedi cymryd rhan yn y gystadleuaeth eleni a hoffwn ddymuno Nadolig Llawen iawn i bob un ohonynt."

Dywedodd Pennaeth Ysgol Gynradd Llanfair-ym-Muallt, Mr Gareth Cornelius:

“Gwnaeth ein disgyblion fwynhau cymryd rhan yn y gystadleuaeth Cerdyn Nadolig. Roedd hi’n fraint i glywed bod Ellis wedi ennill ac i groesawu Prif Weinidog Cymru  i’n hysgol i gyflwyno’r cerdyn mewn ffrâm.”